Rhoesomystyriaeth i adroddiad y cais
a’r ohebiaeth hwyr,
a argymhellwyd i’w
gymeradwyo yn amodol ar y tri amod,
fel yr
amlinellwyd yn yr adroddiad.
Mynychoddyr Aelod
dros Ward Dewstow y cyfarfod
ar wahoddiad y Cadeirydd a
chynrychiolodd yr Aelod lleol dros Ben
Gorllewinol y Ward. Wrth wneud hynny, nodwyd y
pwyntiau canlynol:
- Dros y
tair blynedd ddiwethaf,
nid oedd
yr Aelodau
lleol na’r Cyngor
Tref wedi
cefnogi’r datblygiad o dri
th?, nac
wedi cefnogi’r datblygiad pan gafodd
ei gwtogi i
ddatblygiad o ddau d?. Fodd
bynnag, cymeradwywyd y datblygiad gan y
Pwyllgor Cynllunio.
- O
fewn argymhellion y cais
hwnnw nid
oedd yr
Aelod yn
credu bod y datblygwr wedi
dilyn ysbryd yr argymhellion yn
briodol.
- Nidyw’r ymgeisydd wedi
ceisio hawliau mynediad ac
roedd wedi
ysgrifennu at y preswylwyr yn
nodi y byddai’n cymryd
camau cyfreithiol pe
na
chaniateid mynediad. Ystyriai’r Aelod
y cam hwn yn amhriodol.
- Parthedamodau’r mynediad ynghylch
yr heol,
nodwyd bod yr heol yn dal heb ei mabwysiadu
a’i bod wedi’i harwyddo
drosodd gan
Mr. David Larner yn 1986. Nid oedd y datblygwr wedi
dilyn ysbryd y caniatâd
cynllunio.
- Mae
cyfreithiwr yr ymgeisydd
yn ystyried
bod ganddo hawl mynediad.
Fodd bynnag, mae
tystiolaeth yn nodi nad ar gyfer Ferneycross
mae’r mynediad ond
ar gyfer
tir i’r de o Ferneycross mae’r
mynediad, a gafodd ei ddileu o ganlyniad i
symud pellach ar y mynediad
hwnnw.
- Nidyw’r ymgeisydd wedi
cysylltu ? Mr David Larner ynghylch
mynediad i groesi’r heol.
Mae’r Aelod yn ystyried y dylai’r datblygiad ar y
safle hwn
beidio nes
bod y preswylwyr, yr ymgeisydd a Mr.
Larner yn
fodlon gyda
chanlyniad yr hawl mynediad ar draws
yr heol.
Mynychodd Mr.
Cochrane, yn cynrychioli’r gwrthwynebwyr, y cyfarfod ar
wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau
canlynol:
- Roedd y
Pwyllgor Cynllunio wedi
ymweld ?’r safle
ar adeg
dawel o’r dydd ac
nid oedd
yr Aelodau
wedi gweld
y problemau traffig sy’n
digwydd yn
y lleoliad hwn.
- Defnyddir y
garejis yn
Ferneycross a Kipling Close
ar gyfer
storio o ganlyniad i ofod
cyfyngedig yn y gerddi
cefn. Mae hyn yn lleihau’r ddarpariaeth parcio
ar y stryd
ac mae’n cynyddu parcio
ar y stryd
a thagfeydd.
- Mae’ndebygol y defnyddir y garejis
arfaethedig ar gyfer storio gan ychwanegu at y tagfeydd
parcio.
- Parthed y
mater ynghylch mynediad, ni fyddai
gan y preswylwyr wrthwynebiad
petai adeiladu wedi bod
ar y tir
a’r mynediad drwy
Heol Casnewydd.
- Nidoes gan
yr ymgeisydd yr
hawl i fynediad ar draws
heol breifat.
- Mae
Ferneycross yn heol breifat.
Hysbysodd y
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol y Pwyllgor,
os yw
preswylwyr Ferneycross yn
credu nad oes
gan yr
ymgeisydd hawl mynediad
ar draws yr
heol, yna
mae yn
nwylo’r preswylwyr i geisio
atal mynediad. Fodd
bynnag, mae hwn yn fater preifat
rhwng y datblygwr a’r
preswylwyr ar safle’r
datblygiad. Nid yw’n
ystyriaeth y gall y Pwyllgor Cynllunio
ei hystyried. Mae i fyny
i’r datblygwr sicrhau bod
ganddo fynediad er
mwyn i’r datblygwr
barhau i adeiladu. Os
oes dadl,
yna byddai
angen i’r preswylwyr
dderbyn eu
cyngor cyfreithiol eu
hunain parthed y modd y
dylent weithredu.
Mynychoddasiant yr ymgeisydd, Mr. David
Young, y cyfarfod ar wahoddiad y
Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau
canlynol:
- Mae
gan y Datblygwr gydymdeimlad
?’r preswylwyr ac mae wedi
ceisio gweithio gyda
hwy i drafod eu pryderon.
- Cymeradwywyd y
cais hwn
yn wreiddiol i ddatblygu
dau d? a gymeradwywyd
gyda darpariaeth parcio.
- Mae’rcais hwn
i ddarparu garej ar gyfer pob eiddo a fydd
yn defnyddio’r gofodau parcio a
ddyrannwyd eisoes.
- Nidoes ennill na cholli
yn y ddarpariaeth parcio
ar gyfer
pob eiddo
dan y canllawiau parcio.
- Mae
hefyd rai mân newidiadau’n cael
eu cynnig
i’r adeiladau o ganlyniad i
waith adeiladu sy’n
dynesu at ei gwblhau.
- Y
prif fwgan
yw ychwanegu’r ddwy
garej, a ychwanegir yn
gydymdeimladwy at y tai presennol
mewn deunyddiau, si?p a
maint.
- Mae’rasiant yn gofyn i’r Pwyllgor
Cynllunio ystyried y cais
yn unol
?’r argymhelliad, fel
yr amlinellwyd yn
yr adroddiad.
Hysbysodd y
Pennaeth Cynllunio, Tai a Llunio-Lle mai
gofodau parcio yw’r
garejis yn
unol ?’r Canllawiau
Cynllunio Atodol (CCA) ac yn
unol ? safonau’r Awdurdod. Maent
hefyd yn
cydymffurfio ?’r Polisi
Cynllunio Cenedlaethol. Mae digon
o ddarpariaeth parcio oddi
ar y stryd.
Wrthnodi manylion y cais
a’r safbwyntiau a fynegwyd,
roedd yr
Aelodau’n cydymdeimlo ? safbwyntiau’r preswylwyr. Fodd
bynnag, o fewn y cyd-destun
cynllunio, nid oedd unrhyw resymau
dros wrthod
y cais.
Caniataodd y
Cadeirydd i’r Aelod
dros Dewstow grynhoi.
Wrth wneud
hynny, gofynnwyd i’r
Aelodau ohirio ystyried y
cais tan i’r mater ynghylch y mynediad
i’r datblygiad gael ei
ddatrys.
Cynigiwyd,
felly, gan y Cynghorydd Sir P. Murphy ac eiliwyd gan y
Cynghorydd Sir M. Powell bod
cais DC/2016/01487 yn cael ei gymeradwyo
yn amodol
ar y tri amod, fel yr amlinellwyd
yn yr
adroddiad.
Wedi’rbleidlais cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:
O
blaid cymeradwyo’r cais
-
11
Ynerbyn cymeradwyo’r cais
-
0
Atal
pleidlais
-
1
Cariwyd y
cynnig.
Penderfynasomfod cais
DC/2016/01487 yn cael ei gymeradwyo yn
amodol ar y
tri amod, fel yr amlinellwyd yn
yr adroddiad.