Agenda item

Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Ddiogelu o fewn Cynllun Kerbcraft yng Nghyngor Sir Fynwy

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y swyddogion Anne Marie Harkin a Ron Price o Swyddfa Archwilio Cymru, oedd yn bresennol i gyflwyno Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar y trefniadau diogelu o fewn cynllun Kerbcraft yng Nghyngor Sir Fynwy.

 

Mynegodd yr Aelod Cabinet siom gyda'r canfyddiadau yn ymwneud â chynllun Kerbcraft. Dymunai roi sicrwydd fod yr awdurdod yn gwneud ei orau glas i sicrhau amgylchedd mor ddiogel ag sydd modd ym mhopeth a wnaiff. Dywedodd y gwnaed llawer iawn o waith yng nghyswllt diogelu hyd yma a bod yn rhaid i ni gynyddu ein hymdrechion ymhellach. Er ei bod yn iawn i ni graffu ar yr adroddiad, ychwanegwyd na ddylem golli'r cyd-destun yn llwyr.

 

Yn dilyn cyflwyno'r adroddiad, siaradodd  Prif Swyddog , Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a dywedodd ei fod yn brofiad difrifol derbyn adroddiad yn dweud ein bod yn darparu gwasanaeth sy'n rhoi plant mewn risg oherwydd gwendidau parhaus mewn trefniadau diogelu. Ychwanegodd fod angen i ni weithredu gyda phenderfyniad, yn ystyrlon ac yn dryloyw i drin diffygion. Roedd yn bwysig cofio fod Kerbcraft yn wasanaeth pwysig a daeth i'r casgliad ei bod yn hollbwysig ein bod yn dysgu'r gwersi ehangach o'r adroddiad.

 

Nodwyd y pwyntiau dilynol yn ystod trafodaeth:

 

Diolchodd yr Arweinydd i'r swyddogion am fod yn bresennol, gan nodi pwysigrwydd y negeseuon difrifol ac yn cydnabod y diffygion a ddynodwyd. Ychwanegodd, pe byddai'n ddigon ffodus i gael ei ddychwelyd fel Arweinydd ar ôl Mai 2017, fod gwaith pellach y gallwn ei wneud i gryfhau ein gwaith diogelu.

 

Ychwanegodd Aelod y byddai'r Gr?p Llafur yn sicrhau y byddai'r mater hwn ar yr agenda a phwysleisiodd y dylid hysbysu'r Cyngor am faterion mor bwysig.

 

Holodd Cadeirydd y Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc pam na fu'r adroddiad hwn drwy'r broses craffu. Nodwyd fod y Swyddog Craffu ymysg y rhestr o'r rhai yr ymgynghorwyd â nhw, ond nid oedd esboniad pellach. Dywedodd y Prif Swyddog Gweithredol fod natur yr adroddiad yn golygu fod angen ei ystyried gan y Cyngor llawn a bod yr amserlen yn golygu mai hwn fyddai'r unig gyfle ar gyfer craffu.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Howard am eglurhad am y grant ar gyfer Kerbcraft gan Lywodraeth Cymru a pham na chafodd hyn ei fanylu.

 

Dywedodd y Cynghorydd Howard na fyddai diogelwch plant fod yn fater ôl-weithredol, a gan fod y Cyngor yn ystyried rhannu gofod mewn rhai trefi yn Sir Fynwy, gofynnodd i'r Aelod Cabinet pa sicrwydd y gallai ei roi parthed y cynlluniau rhannu gofod. Mewn ymateb diolchodd y Cynghorydd Burrows i'r Aelod am y cwestiwn a chyfeiriodd at y Pennaeth Gweithrediadau. Clywsom fod cynlluniau rhannu gofod yn cyfeirio at sut yr ydym yn trin traffig o fewn ein priffyrdd cyhoeddus, bod asesiadau risg yn gynhenid o fewn y cynlluniau ac y rhoddir ystyriaeth i'r materion hyn.

 

Mynegodd nifer o Aelodau bryder a gofyn am sicrwydd nad oes unrhyw feysydd arall o'n darpariaeth lle adroddir pryderon. Roedd o gonsyrn neilltuol y dywedodd Swyddfa Archwilio Cymru eu bod wedi cael gwybodaeth rannol a chamarweiniol, a gofynnwyd am wybodaeth bellach parthed camau gweithredu a gymerwyd gyda'r staff oedd yn gysylltiedig.

 

Nodwyd fod cynllun Kerbcraft yn wasanaeth pwysig ac y gallem, drwy ddiffyg proses a llywodraethiant, fod wedi rhoi'r bobl sy'n darparu'r gwasanaeth yn ogystal â'n plant mewn risg. Nododd hefyd na fu unrhyw adolygiad neu adroddiad ffurfiol.

 

Gan y caiff Kerbcraft ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac y caiff rhaglenni tebyg eu rhedeg mewn cynghorau eraill, awgrymwyd y dylai'r adroddiad gael ei rannu gan amlygu'r problemau o fewn ein gweithdrefnau i alluogi awdurdodau eraill i ddysgu o'n camgymeriadau.

 

Anerchodd Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol ac Iechyd y Cyngor mewn ymateb i bryderon Aelodau. Dywedodd ei bod yn bwysig, wrth ystyried difrifoldeb yr adroddiad, i nodi nad yw hyn yn sefyllfa o gam-drin plant ond y gallai plant wedi eu rhoi mewn risg 'posibl' oherwydd diogelu annigonol yn ymwneud â recriwtio gwirfoddolwyr. Yng nghyswllt y materion personél, cychwynnwyd ymchwiliad rhagarweiniol mewnol. Byddir yn symud ymlaen gyda gweithredu, gan sicrhau y caiff y camau eu craffu'n iawn.

 

Wrth grynhoi, rhannodd yr Aelod Cabinet bryder clywed am yr adroddiad mor hwyr yn y dydd neu hyd yn oed fodolaeth y gweithgaredd neilltuol hwn, a chytunodd gyda phopeth a ddywedwyd yn y siambr heddiw.

 

Roedd Ms. Harkin o Swyddfa Archwilio Cymru yn ddiolchgar am y sicrwydd y gwneir gwelliannau a chroesawodd yr ymateb i'r argymhellion.

 

Mewn pleidlais, penderfynodd y Cyngor gytuno ar yr argymhellion:

 

           Bod y Cyngor yn derbyn adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar gynllun Kerbcraft.

           Bod y Cyngor yn derbyn yr argymhellion statudol yn yr adroddiad, yn ystyried y sefyllfa bresennol o gymharu â'r argymhellion ac yn cytuno ar y camau gweithredu i fynd i'r afael â nhw.

 

 

Dogfennau ategol: