Agenda item

Dyfodol Sir Fynwy: Model cyflenwi newydd arfaethedig ar gyfer Twristiaeth, Hamdden, Diwylliant a Gwasanaethau Ieuenctid

Cofnodion:

Manteisiodd y Cynghorydd Sir Greenland ar y cyfle i roi diweddariad ar drethi busnes. Dywedodd ei fod wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet a byddai Aelodau yn gwybod fod Prif Weinidog Cymru wedi cyhoeddi y cyflwynir cynllun cymorth £10m ar gyfer Cymru. Cyrhaeddodd manylion y cynllun yr wythnos ddiwethaf ac o gofio y caiff biliau trethi busnes eu dosbarthu yr wythnos nesaf, nid oedd hyn yn rhoi digon o amser i roi ystyriaeth i'r cynllun. Felly bydd busnesau yn Sir Fynwy yn derbyn biliau yn dangos y cynnydd llawn, a gobeithir y caiff ad-daliadau dyledus dan y cynllun eu gwneud ym mis Mehefin. Nodwyd y byddai llawer o fusnesau mewn risg mawr ac mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ysgrifennu eto at Ysgrifennydd y Cabinet yn gofyn i fusnesau fedru talu'r swm presennol a dim mwy tra byddant yn mynd drwy broses apêl. Ychwanegodd hefyd yn ei lythyr nad oedd wedi gweld unrhyw dystiolaeth i gefnogi'r achos fod trethi busnes wedi codi gan 7% yn Sir Fynwy rhwng 2008-2015 tra'u bod wedi gostwng gan 3% yng Nghaerdydd.

 

Ychwanegodd Aelod y Cabinet fod cydweithwyr Ceidwadol wedi cytuno os oes gweinyddiaeth fwyafrif gan y Ceidwadwyr yn dilyn yr etholiad, y byddant yn cyflwyno cynlluniau i helpu busnesau drwy'r gronfa cymorth caledi eithriadol a allai fod ar gael.

 

Gwnaeth y Cynghorwyr Sir J. Higginson a R. Harris ddatganiadau o fuddiant personol nad oedd yn rhagfarnu yn unol â'r Cod Ymddygiad fel aelodau a benodwyd gan y Cyngor o Dribiwnlys Prisiant Dwyrain Cymru.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Sir S. Jones ddatganiad o fuddiant personol nad oedd yn rhagfarnu yn unol â Chod Ymddygiad Aelodau fel aelod o'r Fforwm Trethdalwyr a Chyfarwyddwr Consortiwm Manwerthu Cymru.

 

Dywedwyd yng nghyswllt stôr Morrisons yn y Fenni, y gobeithiant fod ar y safle ym mis Ebrill 2017 gyda dyddiad agor ym mis Tachwedd.

 

Cyflwynwyd adroddiad i'r Cyngor i roi achos busnes amlinellol a phapurau cysylltiedig i Aelodau sy'n ystyried ystod o wahanol fodelau darpariaeth ar gyfer Gwasanaethau Twristiaeth, Hamdden, Diwylliant ac Ieuenctid yn dilyn gwerthusiad annibynnol o opsiynau gan Anthony Collins Cyfreithwyr a cheisio cytundeb ar y cam nesaf.

 

Nodwyd y pwyntiau dilynol yn ystod trafodaeth:

 

Gofynnwyd am sicrwydd am ddyfodol y canolfannau awyr agored dan y model darparu arall. Esboniodd y Pennaeth Twristiaeth, Hamdden a Diwylliant y bartneriaeth gymhleth gyda chynghorau eraill. Er bod rhai cynghorau yn cilio o'r bartneriaeth, mae angen i ni gynnal partneriaeth gyda'r partneriaid sy'n dal i fod. Mae arwydd clir o i ba gyfeiriad y mae gwasanaeth yn mynd, ond bwriedir cynnal trafodaethau gyda phartneriaid dros y misoedd nesaf. O fis Ebrill, Blaenau Gwent fydd yr unig bartner llawn yn nhermau cyfraniadau ariannol ond maent yn edrych ar eu cynnig addysgol awyr agored eu hunain. Mae Torfaen wedi tynnu £60k dros y 2 flynedd ddiwethaf a byddant yn tynnu £60k arall y flwyddyn nesaf. Mae Casnewydd yn dal i fod yn berchen Talybont, Sir Fynwy yn berchen Gilwern a Pharc Hilston.

 

Clywodd aelodau nad oedd unrhyw fygythiad i The Zone yng Nghil-y-coed. Ychwanegodd y Cynghorydd Hacket Pain nad oedd unrhyw reswm dros ystyried y byddai'r cysylltiad rhwng addysg a'r gwasanaeth ieuenctid yn cael ei dorri.

 

Diolchodd y Cynghorydd A. Webb i'r swyddog am yr adroddiad a gofynnodd am sicrwydd na effeithid ar yr Hen Orsaf, Tyndyrn. Clywsom mai'r bwriad yw datblygu'r Hen Orsaf ymhellach a gwella'r cynnig, yn cynnwys y parcio ac agweddau eraill sy'n cyfyngu.

 

Mynegwyd pryder am TUPE staff, gan y byddai hyn yn cynyddu cost gweinyddiaeth. Esboniodd Pennaeth Twristiaeth, Hamdden a Diwylliant y byddai hyn yn rhan o'r cynllun busnes llawn a gyflwynir ym mis Medi 2017.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am ffioedd ymgynghori clywsom y dynodwyd y ffioedd yn y cynllun busnes amlinellol fel buddsoddiad.

 

Rhoddwyd sicrwydd i aelodau bod staff yn cael eu diweddaru a hyd yma, bu nifer dda'n bresennol yn y digwyddiadau ymgynghori.

 

Dywedodd y Cynghorydd J Prosser y bu'r adroddiad drwy graffu, cyd-graffu a digwyddiadau seminar a llongyfarchodd swyddogion am fod yn arloesol a blaengar wrth gynnal gwasanaethau.

 

Ymatebodd yr Aelod Cabinet dros Fenter i bryder parthed Pwll Trefynwy, gan esbonio y byddai'r pwll yn 25 metr o hyd, 5 lôn, a gyda rheoliadau. Byddai'r neuadd chwaraeon yn symud i'r ysgol, ond byddai ar gael i'r ysgol pan nad oedd yr ysgol yn ei defnyddio. Mae cynigion i ailwampio'r ganolfan hamdden yn Nhrefynwy i roi cyfleusterau mwy diweddar, gan gynyddu defnydd ac incwm.

 

Mewn pleidlais, penderfynodd y Cyngor i gytuno ar yr argymhellion:

 

           Bod y Cyngor yn ailosod yr argymhellion fel y'u cytunwyd ym mis Hydref 2016 i ohirio'r achos busnes lawn i alluogi ystyried achos busnes amlinellol ym mis Mawrth 2017.

           Bod y Cyngor yn cytuno datblygu opsiwn 2, trawsnewid yn fewnol ac opsiwn 3, model darpariaeth newydd am y rhesymau a ddynodwyd yn y cynllun busnes amlinellol a pheidio symud ymlaen ag opsiwn 1, aros yr un fath ac opsiwn 4, cyrchu allanol.

           Bod y Cyngor yn cytuno datblygu'r cynllun busnes amlinellol i gynhyrchu'r achos busnes llawn terfynol i'w ystyried cyn gynted ag sy'n bosibl yn wleidyddol.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: