Cofnodion:
Cyflwynwydadroddiad i'r Cyngor yn ceisio cymeradwyaeth y Cyngor ar y strategaeth arfaethedig i gychwyn ymarferiad caffael ar gyfer contract newydd ar gyfer y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Aelwydydd, Gorsaf Drosglwyddo a gwasanaethau Cludiant Gwastraff Gweddilliol.
Yn ystod ei gyflwyniad, dywedodd y Cynghorydd B. Jones nad oedd y broses yn unrhyw adlewyrchiad ar y gwasanaeth a dderbyniwyd, a chanmolodd Viridor am eu gwaith dros y 20 mlynedd diwethaf a mwy y contract. Fodd bynnag, deellir ei bod yn amser adolygu arferion gorau a chaffaeliad i sicrhau ein bod yn gyfredol, yn addas i'r diben ac yn gydnaws gyda'r adroddiad am y gwasanaeth ailgylchu.
Yn ystod trafodaeth nodwyd y dilynol:
Roeddrhai Aelodau yn awyddus i ganmol y gwasanaeth rhagorol a gafwyd gan Viridor, a hefyd waith swyddogion a chydweithrediad preswylwyr Sir Fynwy.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Batrouni at y broses dendr a holodd os oedd yn arfer cyffredin dyfarnu yn dilyn y tendr dechreuol, a holodd am y 'trafodaethau cyfyngedig'. EsbonioddPennaeth Gwastraff a Gwasanaethau Stryd fod hon yn broses gaffael newydd a gyflwynwyd drwy reolau caffael yr Undeb Ewropeaidd ac mai hwn fyddai'r tro cyntaf i Gyngor Sir Fynwy ei defnyddio. Mae'n rhoi cyfle i gynnig dyfarniad uniongyrchol os yw'r bid yn ddigon cryf. Mae trafodaethau cyfyngedig yn cyfeirio at faterion mireinio manylion ac eglurhad.
Ar hyn o bryd, nid oedd swyddogion wedi cael unrhyw awgrym fod Dragon Waste yn bwriadu cyflwyno bid am y contract.
Mewn ymateb i gais am sicrwydd am drosiant, hysbyswyd Aelodau pe byddai contractwr arall yn llwyddiannus, y byddai staff yn trosglwyddo dan drefniadau TUPE (trosglwyddo ymgymeriadau a diogelu cyflogaeth). Sicrhawyd y Cyngor na fyddai ansawdd y gwasanaeth yn newid.
Pan y'i rhoddwyd i bleidlais penderfynodd y Cyngor gytuno ar yr argymhellion yn yr adroddiad.
Mae'r Cyngor yn cymeradwyo:
• Y strategaeth caffael fel y'i hamlinellir yn yr adroddiad, yn benodol:-
i. Natur gwasanaethau (fel y'i diffinnir yn 4.1)
ii. Hyd y contract:- 7 mlynedd + 5
iii. Ffurf y contract:- contract gwasanaeth
iv. Proses caffael:- Cystadleuol gyda thrafodaeth
v. Maen prawf pris/ansawdd:- 55/45
vi. Perfformiad / canlyniadau ansawdd
• Dirprwyo cymeradwyaeth i'r Pennaeth Gwastraff a Gwasanaethau Stryd mewn ymgynghoriad gyda'r Ysgrifennydd Cabinet, Swyddog A151 a'r Swyddog Monitro i gwblhau dogfennau’r contract, yn cynnwys y matrics gwerthuso, cyn cyhoeddi Hysbysiad OJEU i ddechrau'r broses caffael.
• Dirprwyo'r penderfyniad i ddyfarnu'r Contract i'r Pennaeth Gwastraff a Gwasanaethau Stryd mewn ymgynghoriad gydag Aelodau Cabinet dros Wastraff a Chyllid, Swyddog A151 a'r Swyddog Monitro ar y ddarpariaeth fod y pris yn parhau o fewn amlen fforddiadwyedd cyfredol y gyllideb bresennol rheoli gwastraff (gan nodi y caiff y canlyniad ei adrodd i'r Cyngor ac y caiff ein partner yn y dyfodol ei gyflwyno i'r Pwyllgor Dethol).
• Bod y Cyngor i ystyried y penderfyniad i ddyfarnu'r Contract os yw'n fwy na'r amlen cyllideb presennol.
Dogfennau ategol: