Cofnodion:
Rhoesomystyriaeth i adroddiad y cais, a’r ohebiaeth hwyr, a argymhellwyd i’w gymeradwyo yn amodol ar y ddau amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.
Mynychoddyr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu ac Iechyd, y cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau canlynol parthed ceisiadau DC/2016/01449 a DC/2016/01452 sy’n cyfeirio at y ddarpariaeth o hysbysfyrddau digidol yn Y Fenni.
Yregwyddorion y tu ôli’r ddarpariaeth o hysbysfyrddau digidol:
Mynegoddyr Aelod lleol dros Grofield, hefyd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, ei gefnogaeth i’r cais ac nid oed ganddo wrthwynebiad i’w leoliad. Roedd yr adborth oddi wrth y cyhoedd ynghylch y bwrdd presennol wedi bod yn ardderchog.
Gofynnoddyr Aelod Cabinet i’r Pwyllgor ystyried cadw’r lliw presennol, fel gyda’r holl hysbysfyrddau digidol eraill, i gynnal yr edrychiad.
Wediystyried adroddiad y cais a’r safbwyntiau a fynegwyd, mynegodd yr Aelodau eu cefnogaeth i’r cais gan ddiolch i’r Aelod Cabinet am y gwaith a gyflawnwyd ganddo i yrru’r mater hwn rhagddo.
Cynigiwyd, felly, gan y Cynghorydd Sir D. Edwards ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir M. Powell fod cais DC/2016/01449 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar y ddau amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad a bod amod ychwanegol yn cael ei ychwanegu i sicrhau bod ffrâm y sgrin yn las, nid du, i weddu i’r hysbysfwrdd y mae i gael ei osod arno.
.
Cymerwydpleidlais a chofnodwyd y pleidleisiau canlynol:
O blaid cymeradwyo - 13
Ynerbyn cymeradwyo - 0
Atal pleidlais - 0
Cariwyd y cynnig.
Penderfynasomfod cais DC/2016/01449 yn cael ei gymeradwyo ynamodol ary ddau amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad a bod amod ychwanegol yn cael ei ychwanegu i sicrhau bod ffrâm y sgrin yn las, nid du, i weddu i’r hysbysfwrdd y mae i gael ei osod arno.
Dogfennau ategol: