Cofnodion:
Rhoesomystyriaeth i adroddiad y cais, a’r ohebiaeth hwyr a gyflwynwyd, a argymhellwyd i’w gymeradwyo yn amodol ar yr wyth amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad a hefyd yn amodol ar yr amodau, felyr amlinellwyd yn yr ohebiaeth hwyr, yn ymwneud ag isadeiledd Gwyrdd ac Ecoleg. Hefyd, yn amodol ar Gytundeb Adran 106 yn ei gwneud yn ofynnol bod naw o’r unedau preswyl yn cael eu darparu fel tai fforddiadwy naill ai ar gyfer perchnogaeth cartref ar gost isel neu rent cymdeithasol; bod cyfraniad ariannol o £56,438 yn cael ei wneud yn lle tai fforddiadwy parthed lleiniau arfaethedig 1 a 2, a chyfraniad ariannol i’w wneud ar gyfer mabwysiadu Clôs Pentwyn.
Amlinelloddyr Aelod lleol dros Shirenewton, yn bresennol yn y cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd, y pwyntiau canlynol:
Lleolir y safle o fewn y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) a chytunwyd yr egwyddor o ddatblygu ar y safle hwn. Fodd bynnag, gwnaed y pwyntiau canlynol:
Hysbysodd y Rheolwr Traffig a Datblygu y Pwyllgor fod yr ymgeisydd wedi dangos y gallant ddarparu cerbytffordd 4.8 metr o led sy’n lled safonol ar gyfer datblygiad preswyl, sy’n fwy na digonol i ganiatáu cerbyd cyflenwi safonol a char i basio. Darperir llwybr troed hefyd sy’n cysylltu i mewn i’r ddarpariaeth llwybr troed bresennol i mewn i Glôs Pentwyn ac ar yr A48.
Parthedtirlunio, bydd yr ymgeisydd, fel rhan o’r Cytundeb Adran 278, yn talu swm gohiriedig ar gyfer rhwymedigaethau cynnal a chadw’r ardal a dirluniwyd yn y dyfodol. Gellir negodi manylion technegol y tirlunio yn hwyrach. Felly, mae’r egwyddorion yno i ddarparu cyfrwng addas o fynediad.
Nidoedd y dyraniad gwreiddiol yn y CDLl yn nodi’r angen i ddarparu croesfan i gerddwyr ar yr A48 yn y lleoliad hwn a byddai’n anodd cyfiawnhau’r ddarpariaeth honno ar yr adeg hon ar gyfer datblygiad o’r math hwn. Byddai cyllid Adran 278 yn rhy brin i gyllido croesfan o’r fath.
Wediystyried adroddiad y cais a’r safbwyntiau a fynegwyd, nododd Aelodau’r pwyntiau canlynol:
· Mae’rmaterion sy’n ymwneud â’rmynediad yn ddigonol ar gyfer y datblygiad.
· Byddangen mynd i’r afael â’rcynllun carthion yng nghyfnod y materion a gedwir yn ôl.
· Mae angen i ddyluniad y datblygiad weddu i’r ardal o gwmpas, mater y dylid mynd i’r afael ag ef gyda’r ymgeisydd yn y cyfnod cyn-ymgeisio.
· Mewnymateb i gwestiwn Aelod ynghylch plant ysgol yn cael mynediad i ysgolion cynradd lleol, hysbysodd yr Aelod lleol y Pwyllgor mai dalgylch yr ysgol gynradd yw The Dell a’r ysgol uwchradd yw Ysgol Gyfun Cas-gwent. Mae bysys sy’n casglu ac yn dychwelyd y plant i ac o’r ysgol. Mae safleoedd bws yn y pentref ond mae’r heol yn brysur.
Atgoffodd y Pennaeth Cynllunio, Tai a Llunio Lleoedd yr Aelodau mai safle 60-40 yw hwn a’r prif ddiben yw cyflenwi’r tai fforddiadwy sydd eu hangen. Felly, ni ofynnwyd am Gyllid Adran 106. Eglurwyd hefyd y sicrheid y gymysgedd o dai fforddiadwy yng nghyfnod y Materion a Gedwir yn ôl ond nad oedd y gymysgedd a nodwyd ar y cynllun wedi’i chymeradwyo gan nad oedd yn gweddu i ofynion y Swyddog Tai.
Cynigiwyd, felly, gan y Cynghorydd Sir P. Murphy ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir R.G. Harris fod cais DC/2016/00953 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar yr wyth amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad a hefyd yn amodol ar yr amodau, fel yr amlinellwyd mewn gohebiaeth hwyr, yn cyfeirio at Isadeiledd Gwyrdd ac Ecoleg. Hefyd, yn amodol ar Gytundeb Adran 106 yn ei gwneud yn ofynnol bod naw o’r unedau preswyl yn cael eu darparu fel tai fforddiadwy naill ai ar gyfer perchnogaeth cartref ar gost isel neu rent cymdeithasol; bod cyfraniad ariannol o £56,438 yn cael ei wneud yn lle tai fforddiadwy parthed lleiniau arfaethedig 1 a 2, a chyfraniad ariannol i’w wneud ar gyfer mabwysiadu Clôs Pentwyn.
.
Cymerwydpleidlais a chofnodwyd y pleidleisiau canlynol:
O blaid cymeradwyo - 13
Ynerbyn cymeradwyo - 0
Atal pleidlais - 0
Cariwyd y cynnig.
Penderfynasomfod cais DC/2016/00953 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar yr wyth amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad a hefyd yn amodol ar yr amodau, fel yr amlinellwyd mewn gohebiaeth hwyr, yn cyfeirio at Isadeiledd Gwyrdd ac Ecoleg. Hefyd, yn amodol ar Gytundeb Adran 106 yn ei gwneud yn ofynnol bod naw o’r unedau preswyl yn cael eu darparu fel tai fforddiadwy naill ai ar gyfer perchnogaeth cartref ar gost isel neu rent cymdeithasol; bod cyfraniad ariannol o £56,438 yn cael ei wneud yn lle tai fforddiadwy parthed lleiniau arfaethedig 1 a 2, a chyfraniad ariannol i’w wneud ar gyfer mabwysiadu Clôs Pentwyn.
Dogfennau ategol: