Cofnodion:
Cyd-destun
Derbyn y data cyrhaeddiad addysgol diweddaraf gan ganiatáu i’r gwasanaeth gael ei ddwyn i gyfrif. Mae hyn yn cynnwys:
• Perfformiad disgyblion ar ddiwedd Cyfnodau Allweddol 4 a 5.
• Dadansoddiad, lle mae’n bosibl, o berfformiad ar draws yr holl gyfnodau allweddol ar gyfer y grwpiau canlynol:
- Merched a Bechgyn.
- Disgyblion sy’n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim (PYDd).
MaterionAllweddol:
CyfnodAllweddol 4
· Gwelodd Sir Fynwy gynnydd o 0.1 pwynt canran yn y dangosydd pennawd Cyfnod Allweddol 4 i 67.0% – roedd Trothwy Lefel 2 gan gynnwys Saesneg / Cymraeg a Mathemateg, o gymharu â 66.9% yn 2015 a 56.3% yn 2012.
· Symudodd Sir Fynwy lawr i’r 3ydd safle o’r safle 1af yn rancio awdurdodau lleol Cymru ar gyfer Trothwy Lefel 2 gan gynnwys Saesneg / Cymraeg a Mathemateg.
CyfnodAllweddol 5
· Gwelloddperfformiad yng nghanran y disgyblion yn cyflawni Trothwy Lefel 3, gyda 99.1% yn cyflawni’r meincnod, cynnydd o’r 97.9% yn 2015.
CraffuAelodau:
· BwlchPrydau Ysgol am Ddim (PYDd) – Yr hyn sy’n allweddol yw’r modd mae’r Awdurdod yn adnabod yr angen cynnar am y gefnogaeth sy’n ofynnol i ddisgyblion PYDd. Gan weithio gyda’r GCA mae bellach gynlluniau ymyrryd addas yn eu lle ar gyfer Saesneg a Mathemateg i’r holl ysgolion uwchradd.
· Nodwyd, mewn Saesneg, bod bechgyn yn tanberfformio, ac mae angen gwella hyn. Dylai’r newid yn y cwricwlwm sy’n arwain at fwy o gywirdeb technegol mewn iaith Saesneg, i’r gwrthwyneb i lenyddiaeth Saesneg, fod o gymorth i fechgyn. Y risg o gwmpas iaith Saesneg eleni yw ei fod yn gymhwyster newydd ac nad yw ysgolion wedi’i ddysgu o’r blaen.
· Hunan-arfarniad a gosod targedau - Roedd rhai o ysgolion Sir Fynwy yn nes at eu targedau nag ysgolion eraill. Mae gosod targedau’n broses ac rydym ni fel Awdurdod yn gweithio’n glos gyda’n hysgolion o’r Cyfnod Sylfaen i Gyfnod Allweddol 4. Gwiriwyd targedau ac mae data lefel disgyblion wedi’u dadansoddi i sicrhau bod y targedau’n ddibynadwy.
· Nidydym lle byddem yn dymuno bod parthed y canlyniadau a gyflawnwyd yr haf diwethaf. Mae’r gwaith a wneir eleni’n ein gosod yn y cyfeiriad cywir i fwrw’r 70%. Yr her fydd y cymwysterau newydd a gallai hyn gael effaith ar draws Cymru gyfan.
· Mae’rAwdurdod yn parhau i weithio gyda’i ysgolion. Mae ganddo berthynas glos gyda’i ysgolion cynradd ac uwchradd.
· Grant Amddifadedd Disgyblion (GAD) – mae’r Awdurdod wedi comisiynu’r Gwasanaeth Cyflawni Addysg (GCA) i fwrw rhagddo â’r darn hwn o waith.
· Mae cyrsiau a hyfforddiant yn gynnig drwy gyfrwng y GCA ar gyfer athrawon ynghylch darpariaeth Prydau Ysgol am Ddim (PYDd)..
· Y cynlluniau a gynhyrchir gan ysgolion ar y modd y gwariant eu Grant Amddifadedd Disgyblion – Mae’r ymgynghorydd heriau’n gweithio gyda’r Pennaeth a’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth ynghylch y modd maent yn gwario’u harian ac a yw’r arian wedi gwneud gwahaniaeth.
· Mewnymateb i gwestiwn gan Aelod o’r Pwyllgor Dethol ynghylch cyrsiau BTEC nodwyd bod y cymwysterau BTEC yn cyfrannu at y canlyniadau. Mae’n bwysig i fyfyrwyr gael cwricwlwm sy’n iawn ar eu cyfer hwy.
· Mae’rAwdurdod yn gweithio’n glos gydag ysgolion i wneud yn si?r ei fod yn deall lle maent parthed eu tracio a chynnydd plant yn erbyn eu targedau.
· Mae’nbwysig bod cysondeb ar draws y pedair ysgol gyfun o fewn Sir Fynwy.
· Yn y blynyddoedd i ddod, gallai fod peth ansefydlogrwydd i’w ddisgwyl o ganlyniad i’r newidiadau mewn arholiadau. Ar gyfer yr holl ysgolion ar draws yr ardal, mae’r GCA wedi darparu peth o’r arian grant a’r cyllid er mwyn iddynt ymuno â sefydliad o gwmpas partneriaeth mewn rhagoriaeth.
Casgliad y Pwyllgor
Crynhodd y Cadeirydd fel a ganlyn:
|
Dogfennau ategol: