Cyd-destun
DerbyniasomGynllun Busnes y GCA De-ddwyrain Cymru
2017-2020. Mae’r cynllun yn gosod y blaenoriaethau,
y rhaglenni a’r deilliannau
i’w cyflawni gan y
Gwasanaeth Cyflawniad Addysg
ar ran Consortiwm De-ddwyrain
Cymru. Mae’r ystyriaeth
hon gan bartneriaid allweddol
yn rhan o
wead y cynllun.
MaterionAllweddol:
Mae’nofynnol i Gonsortiwm De-ddwyrain
Cymru gyflwyno i Lywodraeth
Cymru gynllun busnes
tair blynedd a gaiff
ei ddiweddaru’n flynyddol. Dyma’r
pedwerydd iteriad o’r
cynllun a gyflwynwyd yn
gyntaf yn
2013. Mae’r cynllun hwn
yn cwmpasu
cyfnod 2017-2020.
Mae Cynllun
Busnes y GCA De-ddwyrain Cymru
yn amlinellu pedair
blaenoriaeth. Gwella cyrhaeddiad
yn gyffredinol ond
culhau’r bwlch rhwng y
disgyblion sy’n gymwys i
gael
Prydau Ysgol am Ddim
(PYDd) a’r rheiny
nad ydynt
yn gymwys;
codi cyrhaeddiad mewn
Saesneg, Cymraeg a Mathemateg.
Mae’r rhain yn flaenoriaethau craidd
ar gyfer y
gwasanaeth ac mae’r holl
weithgareddau a’r rhaglenni
eraill nawr
yn cefnogi
cyrhaeddiad y deilliannau hyn.
Mae’rGwasanaeth
Cyflawniad Addysg (GCA) ar
gyfer De-ddwyrain Cymru
wedi paratoi’r Cynllun
Busnes hwn
ar gyfer
2017-2020 i amlinellu’r
rhaglen waith sy’n
ofynnol i gyflawni deilliannau
gwell i blant a phobl
ifanc. Mae’r fersiwn hon
yn adeiladu
ar y Cynllun Busnes
cyfredol ar
gyfer y gwasanaeth (2016-2019) ond mae’n
ystyried fframwaith polisi
newydd Llywodraeth Cymru
(LlC), yn
arbennig:
- Y system Genedlaethol ar
gyfer Categoreiddio Ysgolion
- ‘Cymwys am
Oes 2’ - y Strategaeth Genedlaethol er
mwyn Gwella
Addysg.
- ‘Dyfodol
Llwyddiannus’ –
adolygu cwricwlwm ac asesiad.
- ‘Addysgu
Athrawon Yfory’ - yr
adolygiad o Hyfforddiant Cychwynnol
Athrawon.
Mae’rrhaglenni gwaith wedi’u
targedu’n glos at gyflawni
gwelliant lle mae’;r
anghenion fwyaf. Nod y GwasanaethCyflawniad
Addysg (GCA) mewn
partneriaeth gyda’r Awdurdodau
Lleol yw:
- Gwella arweinyddiaeth, addysgu a dysgu i
sicrhau gwelliant cynaliadwy
mewn deilliannau i ddysgwyr
(mewn llythrennedd / Cymraeg / Saesneg a rhifedd /
mathemateg) o leiaf yn unol neu’n
uwch na’r raddfa
gynnydd yng
Nghymru.
- Gwella graddfa’r gwelliant ar
gyfer grwpiau o ddysgwyr
ar draws y rhanbarth, yn
enwedig y disgyblion sy’n
cael Prydau
Ysgol am Ddim a’r
dysgwyr mwy
galluog yng
Nghyfnod 4.
-
Gwellacapasiti rhanbarthol i
weithredu system sy’n gwella’i hun.
Mae ymgynghoriad cynhwysfawr gyda’r holl
randdeiliaid a fydd yn arwain at gyhoeddi
fersiwn derfynol y Cynllun
Busnes o fewn y graddfeydd
amser a gytunwyd yng
Nghylch Cynllunio Busnes y GCA.
Rhannwyd y fersiwn ddrafft
derfynol gyda Chyfarwyddwr
Addysg pob
awdurdod lleol ac mae’n
ystyried y camau gweithredu
a’r cyflawniadau y gwnaed
cais amdanynt.
Mae crynodeb
cynhwysfawr o’r prif
gamau gweithredu o fewn y
Cynllun Busnes ac adran
ar Fesurau
Atebolrwydd. Yn ychwanegol,
mae
cynlluniau cyflenwi manwl ac
adolygiadau manwl o gynnydd
ar gyfer y
Cynllun Busnes blaenorol.
Mae’rCynllun Busnes yn amlinellu’r blaenoriaethau cyffredinol ar
gyfer rhanbarth y De-ddwyrain
ac yn ychwanegol atodiad
sy’n canolbwyntio’n benodol ar y
blaenoriaethau a’r rhaglenni
ar gyfer
pob awdurdod lleol
yn y Consortiwm, mae’r
rhain wedi
cael eu
trafod gyda
Chyfarwyddwyr ac Aelodau Cabinet cyn
eu cyflwyno. Bydd y
dogfennau hyn hefyd yn ffurfio rhan o’r broses
ymgynghori.
CraffuAelodau:
-
Cysylltir
y Strategaeth
Ranbarthol Mwy Abl â’r Strategaeth 14-19 a’r nod yw
cael ysgolion cynradd i
gymryd rhan. Caiff
ysgolion cynradd eu herio wrth baratoi.
-
Mae’r
GCA wedi
ail-alinio strwythur ei
dimoedd yn
fewnol i adlewyrchu model y cwricwlwm newydd.
Gyda phob
adolygiad o’r Cynllun
Busnes bydd
y GCA yn edrych ar ei ail-alinio’n
fwy clos gyda’r cwricwlwm
newydd unwaith y daw ar
lein.
-
Mae pob clwstwr o ysgolion
yn y broses o lunio cynllun i
weithio gyda £20,000 o fewn eu clwstwr i wario’r
arian
hwnnw ar
feysydd y maent wedi’u
dynodi o’u data. Bydd y
GCA yn adolygu hyn
a’i ddwyn rhagddo
gyda’r bwriad o’i
ddatblygu ymhellach.
-
Argyfer rhai o ardaloedd
clwstwr Sir Fynwy, mae’r
Awdurdod yn
edrych ar
ddatblygu datrysiad o gwmpas
rheolwyr busnes sy’n
gweithio ar
draws clystyrau gan ddwyn i
mewn lefelau ychwanegol o
gefnogaeth ac arbenigedd ond
hefyd yn
edrych ar
ddatblygu darpariaeth Anghenion
Dysgu Ychwanegol yn
seiliedig ar glystyrau.
Hefyd, edrychir ar
ddarparu trefniant clwstwr
gogledd / de.
-
Mae llesiant y plant
yn allweddol a chaiff
ei ddiogelu. Mae rhan
o’r Cynllun Busnes
yn cyfeirio
at lesiant mewn addysg.
Fodd bynnag, mae’n
anodd mesur
llesiant plenty. Gwireddir hyn
orau drwy
wrando a siarad â disgyblion unigol a
gwirio eu
bod yn teimlo’n ddiogel
a bod gofal drostynt.
-
Mae cael y teulu i gyfranogi
yn addysg a
magwraeth y plentyn yn allweddol. Mae nifer o
ysgolion Sir Fynwy eisoes
yn gwneud
hyn.
-
Cedwiryr holl ddata sy’n
cyfeirio at ddisgyblion unigol.
Fodd bynnag, mae’n
fwy anodd
cadw cyfrif
ar lesiant
holistaidd disgyblion. Mae’r
gwasanaeth ieuenctid yn
ymgymryd ag
arolygon i ddeall pa mor
ddiogel mae
plant yn teimlo. Gosodwyd
ymyriadau yn eu lle o fewn ysgolion i wneud
disgyblion yn ymwybodol o
beryglon E-fwlian drwy
gyfrwng y cyfryngau cymdeithasol.
Mae’r Awdurdod yn
gweithio gyda’r GIG i ddeall y lefelau o
angen parthed iechyd
meddwl plant. Felly, mae’r Gyfarwyddiaeth Plant a Phobl Ifanc ac
ysgolion yn
darparu mwy
na
charfan o ganlyniadau arholiad
yn unig.
-
Mae’rPrif Ymgynghorydd
Heriau yn
cydnabod y gwahanol anghenion y
mae’u hangen ar ysgolion Sir Fynwy. Mae gan y GCA berthynas
waith glos
gyda’r Cyngor Sir a’i Swyddogion.
-
Mewnymateb i gwestiwn gan
Aelod o’r Pwyllgor
Dethol ynghylch y bygythiadau
posib i’r Cynllun
Busnes, nodwyd bod dau
fater, sef,
natur y cwricwlwm a’r
newidiadau i ddod ac ansefydlogrwydd
a natur anwadal y cyllid
grant.
Crynhodd y
Cadeirydd fel a ganlyn:
- Diolchodd y
Cadeirydd i’r Prif
Ymgynghorydd Heriau am gyflwyno
Cynllun Busnes y GCA..
-
Mae’ngynllun busnes
clir a chynhwysfawr a gaiff
ei fonitro’n flynyddol gan y
Pwyllgor Dethol.
|