Agenda item

Monitro Refeniw a Chyfalaf 2016/17 Datganiad Rhagolwg Alldro Cyfnod 3.

Cofnodion:

Cyd-destun

 

Darparu gwybodaeth i Aelodau’r Pwyllgorau Dethol ar ddatganiad rhagolwg alldro'r Awdurdod ar ddiwedd cyfnod 3 sy’n cynrychioli gwybodaeth ariannol 9 mis ar gyfer blwyddyn ariannol 2016/17.

 

Argymhellion a gynigiwyd i’r Cabinet:

 

  • Bod y Cabinet yn nodi maint rhagolwg y tanwariant refeniw gan ddefnyddio data cyfnod 3 o £79,000, gwelliant o £919,000 ar y sefyllfa flaenorol a gofnodwyd yng nghyfnod 2.

 

  • Bod y Cabinet yn disgwyl i Brif Swyddogion barhau i adolygu’r lefelau o droswariant a thanwariant ac ailddyrannu cyllidebau i leihau maint y sefyllfaoedd digolledu sydd angen eu cofnodi ar gylchoedd chwarterol.

 

  • Bod y Cabinet yn gwerthfawrogi maint y defnydd a ragfynegwyd o gronfeydd wrth gefn ysgolion, ei effaith ar lefelau rhagolwg alldro cronfeydd wth gefn a’r disgwyliad cysylltiedig y bydd chwech o ysgolion pellach mewn sefyllfa o ddiffyg erbyn diwedd 2016-17.

 

  • Bod y Cabinet yn ystyried y monitro cyfalaf, y troswariannau a’r tanwariannau penodol, a chyn bwysiced, fod y Cabinet yn cydnabod  y risg ynghlwm wrth orfod dibynnu ar ddefnydd o dderbyniadau cyfalaf ym mlwyddyn y gwerthiant a’r posibilrwydd i hyn gael pwysau refeniw sylweddol petai derbyniadau’n cael eu hoedi a’r angen i fenthyca dros dro.

 

  • Bod y Cabinet yn cymeradwyo buddsoddiad ychwanegol o £30,000 i mewn i gyllideb gyfalaf Grant Cyfleusterau i’r Anabl er mwyn ymateb i’r galwadau a osodir ar y rhaglen gyfredol, yn cael ei gyllido gan drosglwyddiad o Gynnal a Chadw Priffyrdd a Mynediad ar gyfer yr holl Gyllidebau.

 

  • Bod y Cabinet yn cymeradwyo cynnydd o £30,000 i gynllun cyswllt Ffordd Woodstock Way wnaed yn bosib drwy danwariant cyfatebol i gynllun gwella ardal arall (Y Fenni).

 

CraffuAelodau:

 

  • Dangosodd chwe ysgol sefyllfa o ddiffyg ar ddechrau 2016/17.  Rhagwelir y bydd hyn yn cynyddu i 12 ysgol erbyn diwedd 2016/17. Mae Swyddogion yn ymweld â’r ysgolion hyn gyda’r bwriad o  gynhyrchu cynlluniau adferol. Fodd bynnag, nodwyd bod gan nifer o’r ysgolion hyn gyllidebau diffyg isel iawn a’u bod, felly, yn debygol o adfer y sefyllfa’n gyflym.

 

  • Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd ynghylch cyllid Ôl-16, nodwyd yr anfonir yr arian drwodd i’r ysgolion drwy gyfrwng yr Awdurdod Lleol. Mae amryw o wahanol ddulliau y gellid eu cymhwyso i’r dosbarthiad hwnnw.  Mae’r Gyfarwyddiaeth Plant a Phobl Ifanc wedi bod yn gweithio gyda’r ysgolion i ddod o hyd i fethodoleg briodol sy’n seiliedig ar ddata disgyblion byw. Tanseiliwyd gwaith yn ystod y flwyddyn flaenorol i raddau gan y ffaith bod y swm gwirioneddol a dderbyniwyd oddi wrth Lywodraeth Cymru yn sylweddol is na’r hyn a ddisgwylid. Derbyniwyd gostyngiad o 8% o gymharu â’r flwyddyn gynt. Mae gan yr Awdurdod gynnig gyda’i ysgolion y cymerir y dosbarthiad ar gyfraddau cyfartal y gostyngiad. Fodd bynnag, mae hyn yn cael ei adolygu. Os cymerir hyn ymlaen eleni, bydd yr Awdurdod yn sicrhau, yn y flwyddyn gyfamserol y bydd yn rhaid i’r holl ysgolion gytuno i fethodoleg gytûn, y glynir ati am y tair blynedd nesaf. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynyddu’r cyllid o 1.25% i ysgolion ar gyfer pob uned o ddysgu. Fodd bynnag, nid yw hyn yn wir yn achos Sir Fynwy gan fod yr unedau dysgu ar gyfer pedair ysgol gyfun Sir Fynwy wedi lleihau o 0.1%.

 

  • Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod o’r Pwyllgor Dethol ynghylch Maethu a chostau lleoliadau allanol (paragraff 3.1.9 o’r adroddiad), nodwyd bod cyllideb y Gwasanaethau Plant wedi bod yn anwadal iawn yn y blynyddoedd blaenorol, yn enwedig mewn perthynas â Maethu a llefydd allanol. Mae’r gyllideb ar hyn o bryd yn sefydlogi. Fodd bynnag, o ganlyniad i natur anwadal y gwasanaeth hwn mae angen i Aelodau’r Pwyllgor Dethol fod yn ymwybodol y gallai’r gyllideb hon newid yn gyflym os â un neu ddau o blant i leoliadau allanol.  Fodd bynnag, mae Strategaeth Gomisiynu’r Gwasanaethau Plant, a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Dethol y flwyddyn ddiwethaf, yn bwrw gwreiddiau a’r canlyniad yw cadw plant allan o leoliadau allanol a chadw mwy ohonynt mewn lleoliadau maethu mewnol.

 

  • Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod o’r Pwyllgor Dethol ynghylch derbyn grantiau ad hoc gan y Gwasanaeth Cyflawni Addysg (GCA) (paragraff 3.2.4 o’r adroddiad) a’r angen i’r arian hwn fod ar gael yn union gan Lywodraeth Cymru, nodwyd parthed y GCA, bod y pum awdurdod lleol gyda’i gilydd yn cyfrannu oddeutu £3.6M i’r GCA bob blwyddyn. Yn y flwyddyn ariannol gyfredol, bydd y GCA yn dosbarthu gwerth £56M mewn grantiau gan Lywodraeth Cymru. Felly, mae cyfanswm yr arian ddaw drwy gyfrwng grantiau’n arwyddocaol iawn i ysgolion Sir Fynwy. Mae’r Grant Gwelliant Addysg (GGA), y Grant Amddifadedd Disgyblion (GAD) a’r hyn oedd yn Her Cymru i ysgolion yn dod drwodd ac yn cael eu dynodi’n gynnar yn y flwyddyn ariannol. Fodd bynnag, y symiau ychwanegol o arian y mae gan Lywodraeth Cymru hyblygrwydd gostyngol drostynt ers y cwymp ariannol, dyma’r cyllid sy’n cael ei ddosbarthu ar ddiwedd y flwyddyn.

 

  • Cronfeydd wrth gefn Ysgolion (Paragraff 3.2.3) – Bu gostyngiad sylweddol yn y cronfeydd wrth gefn ym meddiant ysgolion. Nodwyd bod her i gyrff llywodraethu ysgolion bod angen i ysgolion gael cyllideb gytbwys. Os â ysgolion i mewn i gyllideb ddiffyg yna sefydlir cynllun tair blynedd ariannol cadarn i sicrhau bod yr ysgolion hyn allan o gyllideb ddiffyg erbyn diwedd y cyfnod hwn.  Nodwyd bod anwadalrwydd yn lefelau’r cronfeydd wrth gefn ym meddiant ysgolion gan y gofynnir i ysgolion ddal lefel lai o arian wrth gefn. Ni chaniateir i unrhyw ysgol gynllunio ar gyfer cyllideb ddiffyg.

 

  • Parthed gwasanaethau a brynir i mewn, nodwyd mai penderfyniad y corff llywodraethu yw lle ac oddi wrth bwy y prynir gwasanaethau. Fodd bynnag, arweiniodd y berthynas glos a ffurfiwyd rhwng staff yr awdurdod lleol ac ysgolion dros y blynyddoedd at berthynas glos a chadarnhaol. Mae mechnïwr yr awdurdod lleol yn sicrhau y glynir yn briodol at brosesau. Mae modelau hybrid yn opsiwn yr edrychir arnynt yn ogystal. Mae’n rhaid i’r awdurdod edrych i weld a yw’n darparu gwasanaeth rhagorol. Ystyriwyd, ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol, a allai adroddiad gael ei gyflwyno ynghylch perthynas yr Awdurdod a’i ysgolion gyda chyrff llywodraethu.

 

  • Gwasanaethau Plant – Nodwyd parthed y rhagolwg alldro bod agwedd fawr o’r gorwariant yn ymwneud â’r defnydd parhaus o staff asiantaeth. Mae cynllun gweithlu’n cael ei gynhyrchu i ddynodi’r ffordd y mae’r Awdurdod yn bwriadu recriwtio gweithwyr cymdeithasol. Daeth tipyn o lwyddiant drwy gyfrwng cyfryngau cymdeithasol mewn perthynas â recriwtio staff. Bydd hyn yn arwain at gael gwared yn raddol â staff asiantaeth. Digwydd hyn dros y 12 i 18 mis nesaf Fodd bynnag, mae posibiliad i’r rhagolwg ar gyfer 2017/18 symud i ffwrdd o ddefnyddio rhai staff asiantaeth o Ebrill 2017. Nodwyd y bydd angen sylfaen gadarn cyn y gellir gwneud y newidiadau hyn.

 

 

 

Casgliad y Pwyllgor

 

Crynhodd y Cadeirydd fel a ganlyn:

 

  • Diolchoddi’r Swyddogion am gyflwyno’r adroddiad.  .

 

  • Mae monitro’r gyllideb yn effeithiol wedi digwydd.

 

  • Nodwyd y pryderon a godwyd a byddent yn cael eu monitro’n barhaus gan y Pwyllgor Dethol.

 

Gwnaethom argymell, ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol, fod y Pwyllgor Dethol yn derbyn adroddiad ynghylch y berthynas rhwng y Cyngor a’r ysgolion a hefyd rhwng yr ysgolion a’r cyrff llywodraethu.

 

 

 

Dogfennau ategol: