Cofnodion:
Cyd-destun:
Derbyniodd y Pwyllgor gyflwyniad gan y Prif Swyddog dros Fenter a’r Pennaeth Economi a Menter ar Sir Fynwy’r Dyfodol.
MaterionAllweddol
Darparodd y cyflwyniad ‘fel mae’ ar gyfer cymunedau cynaliadwy a chadarn gan amlinellu:
A’rrheswm dros wneud hynny;
Amsercyni, galw a disgwyliadau cynyddol - bydd y ffordd rydym yn ymateb yn effeithio dros 900,000 o bobl.
v Arweiniadgan y bobl neu gan y gwasanaeth? Cyfeirio neu gymryd cyfrifoldeb?
v Ffocwscul neu ganlyniadau methiant cymdeithasol?
v Cynnigsafonedig neu gynnig wedi’i deilwra?
v Cydberthnasaugyda chymunedau a phartneriaid?
v Risgariannol a datblygu economaidd?
CraffuAelodau
AwgrymoddAelod mai’r ffordd i gadw pobl ifanc yn y sir oedd drwy roi’r gorau i adeiladu tai crand a oedd yn gweddu’n well i bobl wedi ymddeol ac adeiladu mwy o dai dwy ystafell wely a fyddai’n fwy hyfyw’n ariannol.
Awgrymwydhefyd y byddai Sir Fynwy’n elwa o fwy o ddatblygiadau busnes uwch-dechnoleg a fyddai’n creu’r math priodol o swyddi gan roi i bobl ifanc yr ysgogiad i aros yn lleol. Ar hyn o bryd mae llawer o swyddi’n cynnig isafswm cyflog a swyddi manwerthu sy’n talu’n wael. Mae cyflogau isel yn ei gwneud yn amhosibl i bobl ifanc fforddio eiddo yn Sir Fynwy.
EstynnoddAelod longyfarchiadau i’r Prif Swyddog a’i thîm ar y cyflwyniad gan wneud y sylw mai’r brif flaenoriaeth oedd newid ffordd o feddwl ac agwedd pobl. Gofynnodd a ellid rhoi’r cyflwyniad i holl aelodau’r staff gan ei fod yn gosod holl sefyllfaoedd pwnc cymhleth iawn mewn fformat sy’n hawdd ei ddeall.
Parthedmentergarwch, gyda Sir Fynwy’n sir dwristaidd yn bennaf, gofynnwyd fel gallem wella’r ddelwedd honno. Ar hyn o bryd nid oes gennym unrhyw ddarpariaeth ar gyfer hyfforddiant na chefnogi pobl ifanc mewn gyrfaoedd sy’n gysylltiedig â thwristiaeth.
Cymeradwywyd Sir Fynwy’r Dyfodol gan aelod a bwysleisiodd pa mor bwysig oedd hi fod pobl yn deall y neges a holodd fel caiff hyn ei weithredu’n effeithiol ac a oes gennym yr adnoddau i’w wneud nawr ac yn y tymor hir
Gwnaethaelod sylw y dylem, fel Cyngor, fod yn canolbwyntio ar ein gwasanaethau yn hytrach nag ar yr agwedd entrepreneuraidd gan fod angen i ni fynd i’r afael â phroblemau cymdeithasol y Cyngor gyda phwyslais arbennig ar y gwasanaethau gwastraff, y gwasanaethau hamdden ac ar anghenion yr oedrannus. .
Siaradoddaelod o’r pwyllgor o blaid bod yn rhagweithiol yn nhermau rhagweld yr effaith gaiff y farchnad dai ar bobl leol a chynghorodd fod gennym gyfrifoldeb i amddiffyn pobl dosbarth gweithiol y sir hon. Mae Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig wedi rhagweld y bydd rhenti’n cynyddu 25% yn y pum mlynedd nesaf ac o fewn ei ward mae tai cyngor sydd wedi’u gwerthu ymlaen a nawr mae asiantau tai’n hyrwyddo datblygwyr eiddo. Mae hyn yn gadael pobl ar drugaredd y farchnad a hyd yn oed yn ardaloedd cyfoethocaf y sir mae 10% o’r bobl yn defnyddio banciau bwyd. Siaradodd yr aelod am yr angen am dai cyngor i geisio adfer y farchnad dai doredig.
Parthedswyddogaeth y Cyngor yn nyfodol y sir, cytunodd aelod fod gan y Cyngor ran fawr i’w chwarae mewn ffurfio gwasanaethau. Gyda datblygu dwy ysgol uwchradd newydd teimlwyd mai dyma’r amser perffaith i edrych ar ddatblygu disgyblion a’u helpu mewn perthynas â deall y gyrfaoedd oedd ar gael iddynt. Gwnaed awgrym i gymryd disgyblion allan o’r ysgolion ac i mewn i amgylcheddau gwaith er mwyn agor eu meddyliau i gyfleoedd, datblygiadau a heriau newydd.
Canmolodd y Cadeirydd y wybodaeth a’r profiad y gall aelodau ychwanegu Cytunwyd y byddai cael yr Aelodau i ymgysylltu’n flaenoriaeth yn y dyfodol. Mae ychwanegu at y broses gyda’u gwybodaeth leol werthfawr a’u cefndiroedd amrywiol yn flaenoriaeth yn y dyfodol.
Gwnaethaelod sylw ar bwysigrwydd cefnogi busnesau lleol yn ystod y broses gaffael ac nad cymryd y pris isaf oedd y dewis gorau bob amser.
Cwestiynwyd y defnydd o ymgyngoreion, gan yr ymddangosai’r gost yn sylweddol. Siaradodd aelod ynghylch rhoi gwybodaeth gyfunol yr holl gynghorwyr at well defnydd ac fel aelodau, meddwl am yr hyn sydd orau i’w sir ac nid am eu pleidiau gwleidyddol.
Cododd y Cadeirydd y cwestiwn o lywodraeth genedlaethol yn deddfu mewn meysydd sy’n effeithio arnom ni a gofynnodd fel y gallem sganio’r gorwel a dylanwadu ar benderfyniadau a wnaed ar lefel llywodraeth.
Codwydpwysigrwydd ymgysylltiad rhanddeiliaid a phwysigrwydd dod â phartneriaid cyflawni gyda ni. Cydnabuwyd na wnaed dim o’r gwaith hwn ar ein pennau ein hunain a bod dewisiadau ar gyfer partneriaethau cymuned a busnes i gymryd rhan gydag aelodau’n chwarae rhan allweddol mewn cydlynu gyda rhanddeiliaid.
Gwnaethaelod sylw y gellir gwneud dyfais mewn dwy ffordd, galluogi neu gystadlu. Rhoddwyd enghraifft o rai penderfyniadau cynllunio diweddar y teimlid eu bod wedi cadw busnesau allan yn hytrach na galluogi busnesau i ddod i mewn i Drefynwy.
Casgliad y Pwyllgor:
Teimlid bod tipyn o ddiddordeb yn yr eitem hon a byddai’n ddefnyddiol cael gweithdy anffurfiol, nid mewn amgylchiad craffu, er mwyn caniatáu gofod i gynhyrchu syniadau ac i aelodau fod yn fwrdd seinio i swyddogion. Teimlid yn ogystal y byddai defnyddio cyfryngau megis arian arolygon yn ddefnyddiol i fesur y lefel o ddiddordeb cyn cynnal y gweithdy.
Teimlid, heb fod yn feirniadol, fod peth o’r neges heb fod yn newydd, ond roedd yn ethos beth bynnag, ac er y gallai fod newid mewn ffordd o feddwl, mae nifer o’r aelodau eisoes yn ymwneud â’r gwaith hwn. Y flaenoriaeth nawr yw rhoi’r ysgogiad newydd hwn a meddwl beth all aelodau ddisgwyl ei weld nesaf.
|