Agenda item

Digartref Atal - Cynllun Gwarant Rhent

Craffu cyn gwneud penderfyniadau o'r Cynllun, sydd yn elfen o'r (Gwasanaeth Gosod Sir Fynwy) uchod.

 

Cofnodion:

Cyd-destun:

 

Pwrpas yr adroddiad hwn yw cynnig sefydlu cyfrif cyllideb er mwyn galluogi'r Cyngor i gynnig gwarantau rhent a bondiau adneuo 'papur' i gryfhau'r pecyn cymorth er mwyn atal digartrefedd ymhellach drwy wella mynediad i lety rhent preifat.

 

Argymhellion:

 

1. I ystyried sut y bydd y Gronfa Atal Digartrefedd Wrth Gefn yn cefnogi dyletswydd statudol y Cyngor i atal digartrefedd ac yn darparu'r sylfeini ar gyfer cyfle i gynhyrchu incwm yn y dyfodol a gwneud argymhellion fel y bo'n briodol.

 

2: I argymell i'r Cabinet gytuno i sefydlu Cronfa Atal Digartrefedd Wrth Gefn.

 

Materion Allweddol:

 

1. O dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014, mae gan y Cyngor ddyletswydd gyfreithiol i ymateb i ddigartrefedd ac atal digartrefedd, ill dau. Mae'r Ddeddf hefyd yn darparu awdurdodau lleol â’r p?er i gyflawni'r dyletswyddau cysylltiedig drwy'r sector rhentu preifat. Bydd y Pwyllgor yn ymwybodol ei fod wedi bod yn flaenoriaeth i'r Cyngor ehangu a chryfhau gweithgarwch atal digartrefedd.

 

Bydd y Pwyllgor hefyd yn ymwybodol, wrth geisio gwella atal digartrefedd, y rhoddwyd ffocws ar alluogi mynediad i'r sector rhentu preifat fel dewis amgen i orddibyniaeth ar dai cymdeithasol a'r angen i ddefnyddio llety gwely a brecwast.

 

2: Er bod y Cyngor yn gynyddol yn cael mynediad i'r sector rhentu preifat er mwyn atal digartrefedd, mae hyn yn parhau i fod yn her ar gyfer nifer o resymau. Mae hyn yn cynnwys:

 

·         Bod ymgeiswyr digartref yn aml yn gartrefi incwm isel ac yn derbyn budd-daliadau.

·         Mae asiantaethau Gosod a landlordiaid yn aml yn amharod i dderbyn aelwydydd sydd ar fudd-daliadau.

 

·         Ni all llawer o deuluoedd fforddio i gwrdd â thaliadau a chostau sy'n gysylltiedig ymlaen llaw er mwyn sicrhau llety yn y sector preifat. Mae'r rhain fel arfer yn ffioedd asiantaeth, bondiau/adneuon a rhent o flaen llaw.

 

·         Yn aml caiff cartrefi bregus/incwm isel eu hystyried fel risg i landlordiaid o ran niwed posibl a methiant talu rhent.

 

·         Mae rhai teuluoedd ag anghenion cymhleth yn anodd lletya mewn unrhyw sector.

 

·         Mae rhai landlordiaid yn gwrthod gweithio gyda rhai asiantaethau ataliol allanol.

 

3: Yn y cyd-destun hwn, yn aml mae amharodrwydd gyda landlordiaid i gefnogi'r Cyngor gydag ymgeiswyr ailgartrefu. Mae angen, felly, i'r Cyngor ceisio cryfhau'r cymorth a ddarperir i landlordiaid preifat i helpu goresgyn ofnau a risgiau canfyddedig.

 

4: Mae arfer sefydlog eisoes yn bodoli drwy'r Tîm Opsiynau Tai i ddarparu cymorth i denantiaid sydd o fudd i landlordiaid drwy’r gyllideb Atal bresennol. Mae hyn yn cynnwys yn rheolaidd gwneud taliadau ar gyfer gosod ffioedd asiantaeth, bondiau/adneuon a rhent o flaen llaw. Ystyrir fodd bynnag mae lle i hyrwyddo cryfhau’r lefel hon o gefnogaeth a gwella gweithdrefnau i leihau'r risg ariannol a'r gost i'r Cyngor, ill dau.

 

5: Ystyrir felly’n briodol ac yn ddoeth i sefydlu Cyllideb Atal Digartrefedd Wrth Gefn wedi'i neilltuo i weithredu ochr yn ochr â Chronfa Atal y Tîm Opsiynau Tai. Y bwriad yw bod pan fo hynny'n briodol, bydd y Cyngor yn ceisio gwneud ymrwymiadau /addewidion tanysgrifennu ariannol i landlordiaid fel dewis arall yn lle gwneud taliad ariannol. Er enghraifft, efallai y bydd landlord yn gofyn am fond o £500. Byddai hyn yn cael ei drosglwyddo i mewn i'r Gronfa Wrth Gefn yn hytrach na chael ei dalu'n uniongyrchol i'r landlord. Os bydd angen i'r landlord wneud cais ar y bond, gall hyn dal i gael ei dalu allan yn hawdd. Fodd bynnag, yn achos lle nad yw’r landlord angen gwneud cais, byddai’r swm ar gael o hyd i gael ei ddefnyddio at ddiben tebyg er mwyn atal digartrefedd ymgeisydd arall. Mae hefyd yn cael ei gynnig, yn amodol ar argaeledd, bod 5% o'r Cyllideb Atal yn cael ei dalu i mewn i'r Gronfa Wrth Gefn er mwyn helpu adeiladu gwytnwch a hyblygrwydd.

 

6. Byddai gweithgarwch atal digartrefedd yn parhau i weithredu yn unol â’r gweithdrefnau presennol a bydd taliadau perthnasol o'r Gronfa Atal (er enghraifft, i warantu bond) yn cael eu gwneud i'r gronfa wrth gefn. Ni fyddai unrhyw gost net i'r Cyngor.

 

7. Mae'r Gronfa Wrth Gefn yn ddull mwy cynaliadwy o gyllidebu. Mae manteision yn cynnwys:

 

·         Y gallu i gyhoeddi 'Addewidion' i landlordiaid fel dewis arall i wneud taliadau arian parod.

 

·         Y gallu i gario cyllid ymlaen i'r blynyddoedd ariannol dilynol, sy’n cynyddu hyblygrwydd.

 

·         Byddai'r Gronfa Wrth Gefn yn helpu llyfnu anweddolrwydd blynyddol trwy wella gwydnwch.

 

·         Byddai'r Gronfa Wrth Gefn yn hwyluso cynnydd cefnogaeth ymarferol i landlordiaid.

 

·         Mae'r Gronfa Wrth Gefn yn cefnogi polisi Dyfodol Sir Fynwy a datblygiad Gwasanaeth Gosod Sir Fynwy, lle’r nod yw i ddod yn wasanaeth godi ffioedd.

 

·         Mae'r Gronfa Wrth Gefn yn helpu lleddfu defnydd a gwariant llety gwely a brecwast.

 

Craffu gan Aelodau:

 

Eglurwyd bod yna ddymuniad am gyfrif i gael ei sefydlu heb unrhyw gost ychwanegol.

 

Gofynnodd aelod o ble byddai’r arian yn dod, a dywedwyd wrthym y byddai 5% o'r gyllideb bresennol yn cael ei thalu i mewn i'r cyfrif fel arian wrth gefn, yn amodol ar yr arian hwn fod ar gael.

 

Gofynnwyd a oedd Melin Homes ag unrhyw ran yn y cynllun hwn a chawsom yr ateb nad oeddynt.

 

Casgliad y Pwyllgor:

 

Dywedodd y Cadeirydd y byddent yn argymell hyn i drafodaethau’r dyfodol gyda’r Cabinet yn unol â'r cynigion presennol;

 

1. I ystyried sut y bydd y Gronfa Atal Digartrefedd Wrth Gefn yn cefnogi dyletswydd statudol y Cyngor i atal digartrefedd ac yn darparu'r sylfeini ar gyfer cyfle i gynhyrchu incwm yn y dyfodol a gwneud argymhellion fel y bo'n briodol.

 

2: I argymell i'r Cabinet gytuno i sefydlu Cronfa Atal Digartrefedd Wrth Gefn.

 

Pleidleisiodd y Pwyllgor yn unfrydol y byddai hyn yn ffordd ymlaen ddefnyddiol.

 

 

Dogfennau ategol: