Agenda item

Cais DC/2016/01453 – Dymchwel strwythurau presennol ar y safle, adeiladu 25 annedd newydd a gwaith cysylltiedig. Brookside, Ffordd Neddern, Cil-y-coed, NP26 4RJ.

Cofnodion:

Rhoesomystyriaeth i adroddiad y cais, a’r ohebiaeth hwyr, a argymhellwyd i’w gymeradwyo yn amodol ar y pymtheg amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Amlinelloddyr Aelod lleol dros Dewstow, yn mynychu’r cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd, y pwyntiau canlynol:

 

  • Dros y misoedd diwethaf mae’r Aelod lleol wedi bod yn brysur yn mynd i’r afael â rhai problemau sy’n gysylltiedig â’r cais.

 

  • Mae peth beirniadaeth ynghylch nifer y coed sydd angen eu cwympo.

 

  • Mae arolwg ystlumod yn awgrymu bod angen mwy o waith parthed y mater hwn.

 

  • Mae angen ystyried adar yn nythu wrth benderfynu pryd i gychwyn y datblygiad.

 

  • Mae pryderon ynghylch y goleuo a lle cysylltir hyn.

 

  • Mynegwydpryder ynghylch cynllun yr heol am na all yr heol gael ei chyrraedd drwy Neddern Way.

 

  • Mynegwydpryder y bydd rhai o’r tai arfaethedig yn cael eu lleoli’n agos iawn i’r Eglwys. Byddai ailgyfeirio’r tai a chymryd yr heol yn syth i fyny ac o gwmpas yn creu clustog ac yn creu amgylchedd sy’n addas i breswylwyr y tai ac i’r eglwys. Nid effeithid ar dir agored cyhoeddus petai’r heol yn dilyn y llwybr hwn.

 

  • Byddyr ystâd newydd yn cael ei meddiannu’n bennaf gan bobl iau. Dylid ystyried amddiffyn y cyfleusterau ar gyfer pobl ifanc.

 

  • Bydd y llwybr arfaethedig presennol yn beryglus i blant lleol gan y bydd yn rhedeg drwy’r ystâd.

 

  • Nidoes gan breswylwyr lleol wrthwynebiad i nifer y tai ar y datblygiad arfaethedig ond mae angen mynd i’r afael â’rmaterion yn ymwneud ag adar, ystlumod, a diddymu’r llwybr troed.

 

  • Dylaicynllun yr heol fod yn well o lawer a byddai hyn yn bodloni pryderon preswylwyr.

 

Mynychodd y Cynghorydd F. Rowberry, yn cynrychioli Cyngor Tref Cil-y-coed, y cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau canlynol:

 

·         Yngnghyfarfod Cyngor Tref Cil-y-coed ar y 10fed Ionawr 2017  rhoddwyd ystyriaeth i’r cais. Yn y cyfarfod, nodwyd bod Pwyllgor Ardal Glannau Hafren wedi gwneud sylwadau’n mynegi pryderon ynghylch mynediad i’r safle, y llwybr troed a’r effaith ar y tir a’r adeiladau o amgylch. Felly, gwrthodwyd y cais gan y Cyngor Tref yn amodol ar ymgynghori pellach gyda’r preswylwyr.

 

  • Tramae’r Cyngor Tref yn cefnogi datblygiadau sy’n dod âthai fforddiadwy i’r ardal, mynegwyd pryderon sylweddol ynghylch y diffyg ymgynghori a’r diffyg amser ar gyfer ymgynghori yn ystod y broses cyn-ymgeisio.

 

  • Gwnaedsylwadau i aelodau lleol y ward ar ran y cyhoedd  a mynegwyd pryderon ynghylch mynediad i draffig o gwmpas y datblygiad.

 

  • RoeddCyngor Tref Cil-y-coed wedi cyfarfod eto ar y 25ain Ionawr 2017 ac wedi ystyried y cais diwygiedig. Roedd y Cyngor Tref wedi gwrthod y cais hwn am yr un rhesymau ag y crybwyllwyd eisoes.

 

Mynychodd Mr. C. Parker, yn cynrychioli’r gwrthwynebwyr ac Eglwys Bethania, y cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau canlynol:

 

  • Cyfeiriagwrthwynebwyr lleol at yr heol lle mae’r fynedfa i’r ystâd newydd.

 

  • Nidyw dau gerbyd yn gallu pasio ar y fynedfa hon heb i un facio nôl i ganiatáu i’r cerbyd arall fynd heibio. 

 

  • Mae agosrwydd y tai arfaethedig i’r eglwys yn peri pryder am fod y pellter yn llai na chwe metr mewn un ardal.

 

  • Rhagwelir y bydd cynulleidfa’r eglwys yn cynyddu o 100 i 170 o fynychwyr. Mae’n eglwys fywiog gyda dros 400 o ymwelwyr yr wythnos. Mae digwyddiadau’n cael eu cynnal bob dydd yn yr eglwys.

 

  • Byddproblemau ynghylch edrych dros eiddo a phreifatrwydd os cymeradwyir y cais.

 

  • RoeddAdran y Priffyrdd wedi cynnig y dylai’r heol fynd yn syth i fyny i’r ystâd. Byddai’r heol honno wedyn yn gweithredu fel clustog ar gyfer yr eglwys a’r preswylwyr. Byddai angen ailgyfeirio rhai o’r tai arfaethedig i liniaru problem edrych dros eiddo a byddai’n datrys y broblem yn codi o’r tro cul dall,

 

  • I grynhoi, mae’r gwrthwynebiadau’n cyfeirio at faterion diogelwch edrych dros eiddo a s?n.

 

Mynychoddasiant yr ymgeisydd, Sam Courtney, y cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau canlynol:

 

  • Mae adroddiad y cais yn fanwl ac mae’n amlinellu’r holl ystyriaethau cynllunio mewn modd cynhwysfawr a chytbwys.

 

  • Mae’radeilad presennol mewn cyflwr gwael ac nid yw’r adeilad yn gweddu i’r diben o ganlyniad i’r ystafelloedd sy’n rhy fach ac nad ydynt yn darparu’n briodol ar gyfer pobl âphroblemau symudedd.

 

  • Ail-leolwyd preswylwyr Brookside dros y chwe mis diwethaf i adeilad oedd yn gweddu’n well o fewn y gymuned.

 

  • Bydd y datblygiad arfaethedig yn darparu tai sydd eu gwir angen i deuluoedd a fydd yn mynd tuag at ddiwallu’r angen am dai fforddiadwy o fewn Cil-y-coed.

 

  • Ystyriwydyn ofalus y gwrthwynebiadau a godwyd. Nid oes enghreifftiau o breifatrwydd annerbyniol neu faterion yn ymwneud ag amwynder ac nid oes enghreifftiau a allai goleddu rheswm dros wrthod y cais.

 

  • Mae’rymgeisydd wedi ymchwilio nifer o newidiadau dylunio ar gais y gwrthwynebwyr a’r Aelod lleol, h.y. ail-linio mynediad y brif ffordd a byddai ailgyfeirio nifer o’r lleiniau yn arwain at ddylunio isradd na fyddai’n dderbyniol i’r ymgeisydd na’r swyddogion Cynllunio.

 

  • Cwestiynwyddyluniad a dwysedd y datblygiad gan y gwrthwynebwyr yn ystod y broses. Yn hytrach na gor-ddatblygu, mae’r ymgeisydd wedi dewis datblygiad llai dwys.

 

  • Mae’rdatblygiad yn cynnwys cadw’r gyfradd bwysig o goed sydd ar y safle a gaiff eu corffori i mewn i’r dyluniad.

 

  • Ni fydd effaith andwyol ar y rhwydwaith priffyrdd lletach o gymharu â’rtraffig posib y gellid ei gynhyrchu o’r adeilad sydd eisoes yno.

 

  • Mae materion megis parcio ceir, effaith ar fynediad traffig a threfniadau rheoli adeiladu wedi cael eu hystyried yn ofalus ac nid yw swyddogion y Priffyrdd yn codi unrhyw wrthwynebiadau yn amodol ar amodau.

 

  • Mae’rymgeisydd wedi rhagori ar y gofynion statudol parthed maint yr ymgynghori a gyflawnwyd gan roi i bartïon âdiddordeb nifer o gyfleoedd i adolygu manylion y cynllun a gwneud sylwadau. 

 

 

  • Ystyriwyd y cais hwn yn briodol a derbyniodd gefnogaeth y swyddog yn dilyn y broses fanwl o ymgynghori.

 

  • Byddaicymeradwyo’r cais yn cyflenwi datblygiad deniadol gan  ddarparu’r cartrefi fforddiadwy sydd eu gwir angen ar y gymuned. 

 

Wediystyried adroddiad y cais a’r safbwyntiau a fynegwyd, nodwyd: 

 

·         Petai’radeilad gwreiddio wedi’i feddiannau’n llawn, byddai’n cynhyrchu mwy o draffig na’r datblygiad arfaethedig. 

 

·         Byddyr heol yn cael gwneud i fyny i’r safon fabwysiadwy ac mae trefn y ffordd yn briodol ar gyfer y cynllun hwn.

 

·         Dylunnir y datblygiad arfaethedig i safon uchel.

 

·         Arhyn o bryd, nid yw’r adeilad presennol yn gweddu i’r diben.

 

·         Ni fydd problemau edrych dros eiddo arwyddocaol.

 

·         Byddyr anheddau arfaethedig yn gweddu gyda’r anheddau o gwmpas.

 

Cynigiwyd, felly, gan y Cynghorydd Sir R.J. Higginson ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir B. Strong fod cais DC/2016/01453 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar y pymtheg amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Cymerwydpleidlais a chofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

O blaid cymeradwyo                        -           11

Ynerbyn cymeradwyo                   -              0

Atal pleidlais                                   -   0

 

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynasomfod cais DC/2016/01453 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar y pymtheg amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad

 

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: