Agenda item

Cais DC/2016/01440 – Addasu amod i newid y cynlluniau gwreiddiol gyda chynlluniau fel yr adeiladwyd. Gosodiad Gwyliau The Chicken Shed, Heol Park House, Parkhouse, Tryleg,  NP25 4PU.

Cofnodion:

Rhoesomystyriaeth i adroddiad y cais, a’r ohebiaeth hwyr a gyflwynwyd, i’w gymeradwyo yn amodol ar y pum amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad hwn.

 

Mynychodd y Cynghorydd J. Gooding, yn cynrychioli Cyngor Cymuned Trellech, y cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau canlynol:

 

  • RoeddThe Chicken Shed ar y rhestr fer ar gyfer y fedal aur Bensaernïol yn Eisteddfod 2016.  Fodd bynnag, roedd y Cyngor Cymuned wedi ystyried na ddylai’r adeilad fod wedi’i gymeradwyo i’w addasu ac y dylid bod wedi cymryd camau gorfodi a’r eiddo’n cael ei ddymchwel.

 

  • Y neges sy’n cael ei throsglwyddo i’r gymuned yw bod pobl yn credu y byddant yn gallu dilyn yr esiampl sydd wedi’i gosod.

 

  • Mae’rCyngor Cymuned yn ystyried bod yr ymgeisydd ac/neu’r asiant wedi dangos anfri i’r broses gynllunio.

 

  • Mae’rCyngor Cymuned yn ystyried bod yr adeilad wedi bod yn anffawd cynllunio o’r dechrau i’r diwedd.

 

  • Mae gan y Cyngor Cymuned beth cydymdeimlad â’r Swyddogion Cynllunio presennol nad oeddent yn gyfrifol am y camgymeriadau. Mae mesurau’n cael eu gosod yn eu lle i rwystro amgylchiad tebyg i ddigwydd eto. Fodd bynnag, nid yw’r cyhoedd wedi cael eu hysbysu o’r camgymeriad.

 

  • Sylwydar ganlyniadau’r neges wallus hon gan fod y Cyngor Cymuned yn ddiweddar wedi derbyn cais, yn debyg i’r Chicken Shed, oddi wrth breswylydd lleol.

 

  • Pan dderbyniodd y Cyngor y cais addasu gwreiddiol DC/2011/00823 roedd wedi argymell ei wrthod ac roedd wedi ychwanegu petai’r Adran Gynllunio o blaid cymeradwyo’r cais, bod angen arolwg strwythurol annibynnol pellach yn gyntaf. Ni wnaethpwyd hyn a rhoddwyd caniatâd.

 

  • Pan ddechreuodd y gwaith adeiladu, roedd y muriau wedi’u tynnu a chyplau’r to wedi’u torri nôl fel na allent bellach gyrraedd y muriau. Roedd y Cyngor Cymuned yn ystyried, yn y cyfnod hwn, y gallai’r hen gyplau gefnogi’r to. Dylid bod wedi atal yr adeiladu yn y cyfnod hwn ond caniataodd y Cyngor Sir iddo barhau.

 

  • Amgaewyd y strwythur wedyn mewn pabell fawr. Pan symudwyd y babell, roedd yr adeilad yn strwythurol gyflawn a’r hen gyplau to wedi’u bwrw i’r neilltu. Galwyd y Swyddogion Gorfodaeth a darganfod yr hen gyplau a fwriwyd o’r neilltu’n gorwedd ar ymyl y safle. Cyfarwyddwyd yr ymgeiswyr wedyn i newid rhai o’r hen gyplau i mewn i strwythur yr adeilad.

 

  • Mae’rdarlun mewnol ynghlwm wrth y cais yn dangos dau gwpwl gwyrdd ychwanegol, i bob golwg yn honni’u bod yn gyplau gwreiddiol. Fodd bynnag, mae’r Cyngor Cymuned yn ystyried nad oedd hyn yn bosib.

 

  • Mae’rCyngor Cymuned yn ystyried nad addasiad yw’r adeilad.

 

Amlinelloddyr ymgeisydd, Mrs. S. Peacock, a oedd yn mynychu’r cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd, y pwyntiau canlynol:

 

·         Roeddyr eiddo wedi’i brynu wedi i ganiatâd cynllunio gael ei roddi.

 

·         Wedibuddsoddiad ariannol arwyddocaol sefydlwyd busnes gosod gwyliau sylweddol.

 

·         Roeddpwyllgor Pensaernïaeth yr Eisteddfod Genedlaethol wedi gosod yr adeilad ar restr fer y fedal aur Bensaernïol.

 

·         Roedd y Pennaeth Cynllunio wedi mynegi nad hon yw’r adeg i adolygu nac ailystyried caniatáu cynllunio. Nid dyma’r adeg ychwaith i ystyried y cwynion ynghylch y modd y mae strwythur yr adeilad yn cael ei gadw.

 

·         Y cyplau gwreiddiol yw’r cyplau gwyrdd a osodwyd nôl i mewn i’r adeilad.

 

·         Nidyw’r cais yn gyfrwng cynsail andwyol.

 

·         Dyma’radeg i reoleiddio’r caniatâd cynllunio.

 

·         Nidyw’r cais yn wahanol iawn i’r cais a gymeradwywyd. Nid yw’r newidiadau mewn dimensiwn yn fawr.

 

·         Rhoddwydcaniatâd cynllunio ar sail y ffaith y byddai’r adeilad angen ei ailadeiladu sylweddol.

 

·         Cafoddrheoliadau adeiladu effaith ar y dimensiynau terfynol.

 

·         Nidyw’r newid yn y ffenestri’n newid natur y datblygiad.

 

·         Roeddyr ymgeisydd eisiau i’r cynllun mewnol fod yn addas ar gyfer llety i’w rentu adeg gwyliau.

 

·         At ei gilydd nid yw’r gyfradd o wydr i gedrwydd ar y wedd flaen wedi newid yn sylweddol.

 

·         Nidoedd cyfrinachedd ynghylch yr adeilad. Roedd y newidiadau’n amlwg ar y lluniadau a gyflwynwyd i Adran Rheoli Adeiladu’r Cyngor cyn i’r gwaith gychwyn.

 

·         Byddai’nanodd nodi’r gwahaniaeth yn y dimensiynau a’r ffenestri o’u cymharu â’rlluniadau gwreiddiol.

 

·         Mae ymddangosiad yr adeiladau yn y dirwedd yn parhau’n ddigyfnewid.

 

·         Mae’nadeilad prydferth a llwyddiannus.

 

·         Dylai’rperygl o gael ei ddymchwel gael ei ddileu heddiw.

 

·         Roeddyr ymgeisydd wedi gofyn i’r swyddogion cynllunio ystyried argymhelliad y swyddogion cynllunio.

 

Dywedoddyr Aelod lleol dros Trellech, a oedd hefyd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, fod Cyngor Cymuned Trellech yn iawn i godi’r mater a nodwyd yn yr adroddiad ac annerch y Pwyllgor Cynllunio. Fodd bynnag ystyriai y dylai’r Pwyllgor gymryd agwedd bragamatig wrth benderfynu’r cais gan fod y newidiadau a wnaed i’r adeilad yn rhai mân, ac nid ydynt yn niweidiol i’r ardal o amgylch. Bydd yr amodau a roddwyd yn adroddiad y cais yn sicrhau bod yr adeilad yn cael ei ddefnyddio ar gyfer twristiaeth. Mae’r eiddo’n ychwanegu at yr economi leol drwy ddwyn twristiaeth i’r ardal. Dylid, felly, gymeradwyo’r cais. 

 

Mewnymateb i gais gan Aelod pwyllgor, nodwyd y gallai amod 3 gael ei ddiwygio fel a ganlyn:

 

  • Sicrhau bod yr adeilad yn cael ei feddiannu fel llety gwyliau am byth.

 

Wediystyried adroddiad y cais a’r safbwyntiau a fynegwyd, ystyriai’r Aelodau nad oedd yr adeilad yn wahanol iawn i’r cais gwreiddiol a’i fod yn gaffaeliad i’r economi. 

 

Crynhoddyr Aelod lleol drwy gefnogi’r cais a diolchodd i’r swyddogion am gywiro’r mater a chyflwyno’r cais gydag argymhelliad i ganiatáu yn amodol ar yr amodau, fel yr amlinellir yn yr adroddiad.

 

Cynigiwyd, felly, gan y Cynghorydd Sir D. Blakebrough ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir P. Murphy fod cais DC/2016/01440 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar y pum amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, gyda diwygiad i amod 3 i gynnwys ‘am byth’.

 

Cymerwydpleidlais a chofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

O blaid cymeradwyo                        -           13

Ynerbyn cymeradwyo                   -              0

Atal pleidlais                                   -   1

 

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynasomfod cais DC/2016/01440 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar y pum amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, gyda diwygiad i amod 3 i gynnwys ‘am byth’. 

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: