Agenda item

Cais DC/2016/01380 – Symud y llawr cyntaf presennol uwchben yr ystafell flaen. Symud waliau mewnol presennol a gosod rhai newydd. Drws gwydrog newydd  ar flaen yr eiddo. Newid cynllun lliw ffasadau (cais am ganiatâd adeilad rhestredig). The Brittania Inn, 51 Stryd Frogmore, Y Fenni,  NP7 5AR.

Cofnodion:

Rhoesomystyriaeth i adroddiad y cais, a’r ohebiaeth hwyr a gyflwynwyd, i’w wrthod am un rheswm, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad hwn.

 

Mynychodd y Cynghorydd C.D. Woodhouse, yn cynrychioli Cyngor Tref Y Fenni, y cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau canlynol:

 

  • RoeddCyngor y Dref wedi ymateb i’r Cyngor Sir gan yn nodi, yn amodol ar yr holl amodau cadwraeth  cynllunio yn cael eu gwireddu a’r ymweliad safle’n cael ei gynnal, fel y digwyddodd, byddai Cyngor y Dref yn cymeradwyo argymell y cais.

 

  • Mae’radeilad wedi bod yn segur am bum mlynedd gyda’r effaith leiaf ar y brif stryd.

 

  • Byddcolli swyddi ar raddfa fechan oherwydd y methiant i agor y safle manwerthu hwn.

 

  • Gofynnwydi’r Pwyllgor dalu sylw arbennig i’r adroddiad archeolegol. Mae gwahaniaethau rhwng barn y Cyngor Sir a barn awdur yr adroddiad.

 

  • Mae’rCyngor Tref yn ystyried bod angen i’r mater hwn gael ei ddatrys cyn gynted â phosib.

 

Amlinelloddyr Aelod lleol dros Grofield, a oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio yn ogystal, y pwyntiau canlynol:

 

  • YstyriwydTafarn y Britannia yn 2005 yn ddigon pwysig i gael ei rhestru’n Radd II.

 

  • Wediymweld â’rdafarn yn ddiweddar fe’i syfrdanwyd gan gyflwr mewnol yr adeilad.

 

  • Ni ellir defnyddio esgeulustod y dafarn fel yr esgus i gam-drin y tu mewn ymhellach drwy godi’r llawr cyntaf.

 

  • Mae’rymgeisydd wedi honni ei fod wedi methu âgosod yr adeilad i gwmnïau. Fodd bynnag, nid yw gosod adeiladau yn fater cynllunio.

 

  • Mae’rSwyddog Cadwraeth wedi edrych ar ganiatadau cynllunio a gymeradwywyd yn ddiweddar ac wedi bod yn hyblyg yn cynorthwyo’/r ymgeisydd i gynnal a gosod yr adeilad. 

 

  • YmMharagraff 3 o adroddiad y cais, mae’r polisi cynllunio yn cyfeirio at adeiladau treftadaeth yn y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl). Mae’r ddau bwynt bwled yn berthnasol ac yn arwain at Bolisi HE1 – Datblygu mewn Ardaloedd Cadwraeth.

 

  • Mae’rSwyddog Cadwraeth wedi darparu asesiad manwl o’r eiddo a’r rheolau a’r rheoliadau cynllunio.

 

  • Yngngoleuni gwerthusiad y Swyddog Cadwraeth a dehongliad Cadw o’r egwyddorion cynllunio dywedodd y byddai’n cefnogi argymhelliad y Swyddog i wrthod y cais. 

 

Wediystyried adroddiad y cais a’r safbwyntiau a fynegwyd, mynegodd rhai Aelodau’u cydymdeimlad â’r ymgeisydd gan fod y llawr dan sylw eisoes mewn cyflwr gwael. Hefyd, o’r tu allan roedd yr adeilad yn gweddu i gymeriad y stryd a byddai symud y llawr cyntaf heb greu effaith andwyol ar gymeriad y stryd. Byddai cymeradwyo’r cais yn dwyn yr adeilad nôl i ddefnydd o fewn y dref.

 

Foddbynnag, ystyriodd Aelodau eraill fod dewis addas ar gael i godi’r llawr cyntaf o 400mm gan ddarparu digon o uchder nenfwd i’r llawr gwaelod.

 

Cynigiwyd, felly, gan y Cynghorydd Sir D. L. Edwards ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir P. Murphy fod cais DC/2016/01380 yn cael ei wrthod am un rheswm, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Cymerwydpleidlais a chofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

Droswrthod              -           9

Ynerbyn gwrthod    -           5

Atal pleidlais             -           0

 

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynasomfod cais DC/2016/01380 yn cael ei wrthod am un rheswm,  fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

 

 

 

Dogfennau ategol: