Agenda item

Cais DC/2016/00880  - Datblygu hyd at 115 annedd breswyl (C30, gofod agored, tirlunio, mynediad i gerbydau o Lôn Sipsi, mynediad i gerddwyr a gwaith seilwaith a pheirianneg cysylltiedig. Tir yn Fferm Grove (ger Lôn Sipsi), Llan-ffwyst, NP7 9FF.

Cofnodion:

Rhoesomystyriaeth i adroddiad y cais, a’r ohebiaeth hwyr, a argymhellwyd i’w gymeradwyo yn amodol ar y 17 amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad a hefyd yn amodol ar Gytundeb Adran 106, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Mynychodd y Cynghorydd L. Palmer, yn cynrychioli Cyngor Cymuned Llan-ffwyst, y cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau canlynol:

 

  • Mae’rCyngor Cymuned yn argymell gwrthod y cais.

 

  • Mae’rsafle’n anaddas o ganlyniad i’w agwedd cefn gwlad agored.

 

  • Mae Pentref Llan-ffwyst wedi’i or-ddatblygu i raddau anghymesur yn y blynyddoedd diweddar.

 

  • Cafoddhyn effaith sylweddol ar amgylchedd y pentref.

 

  • Mae’rsafle arfaethedig yn ffinio â thai sydd eisoes yn bodoli ond mae’r lleoliad hwn o fewn y cefn gwlad agored a bydd mynediad i’r datblygiad o lôn wledig. Mae’r lôn hon eisoes yn derbyn llawer o draffig o Lanellen yn dod i Lan-ffwyst.

 

  • Pan gaeir Pont Llanellen defnyddir y lôn fel ffordd i ddargyfeirio traffig.

 

  • Cyfaddawdirdiogelwch cerddwyr sy’n cerdded ar hyd y lôn hon.

 

  • DatblygwydPentref Llan-ffwyst yn fawr yn ystod y blynyddoedd diweddar gydag ychwanegu nifer o ddatblygiadau tai mawr. Arweiniodd hyn at gynnydd mewn traffig ar heolydd lleol.

 

  • Bu cynnydd hefyd yn y defnydd o’r bont Ganoloesol.

 

  • Ni all isadeiledd Llan-ffwyst gynnal yr holl dai hyn.

 

  • Mae’rysgol leol eisoes yn llawn. Felly, ni fydd unrhyw blant yn byw yn y datblygiad arfaethedig yn gallu mynychu’r ysgol leol.

 

  • Bu’reffaith ar amgylchedd y pentref yn enfawr a bydd yn parhau i fod yn enfawr a’r pentref yn cael ei droi i mewn i dref..

 

  • Mae nifer o safleoedd o fewn y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) y gellid eu datblygu.

 

  • Mae Llan-ffwyst wedi dyblu’i faint gan greu blerdwf trefol nad yw'n ddeniadol.

 

  • Nidoes gan Bentref Llan-ffwyst yr isadeiledd i ymdopi â thai ychwanegol.

 

  • Mae mwy o leoliadau addas ar gyfer datblygu wedi’u nodi yn y CDLl.

 

Mynychoddasiant yr ymgeisydd, Ms. D. Powell, y cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau canlynol:

 

  • Mae’rcynnig wedi bod yn rhwym wrth asesiad gofalus ac nid oes unrhyw wrthwynebiadau technegol eithriadol oddi wrth ymgynghoreion mewnol nac allanol.

 

  • Trabo’r safle eisoes wedi’i neilltuo yn y CDLl fel safle y tu allan i’r ffin ddatblygu, mae prinder cyflenwad tir ar gyfer tai yn Sir Fynwy. 

 

  • Mae Canllawiau Polisi Cynllunio Cenedlaethol yn nodi bod angen cynyddu’r cyflenwad o dir adeiladu tai a dylid rhoi pwys sylweddol ar hyn.

 

  • Oscymeradwyir y cais, gwnaiff gyfraniad ystyrlon tuag at gwrdd â’rdiffyg hwn a byddai’n darparu 35% o dai fforddiadwy sy’n cyfateb i 40 o unedau.

 

  • Cyfarfyddirâ gofynion Grant Cynllunio Atodol Tai Fforddiadwy’r Cyngor (CCA).

 

  • Mae’rymgeisydd mewn trafodaethau manwl gyda datblygwr ac mae’n barod i dderbyn amodau cynllunio a fydd yn sicrhau y bydd y safle hwn yn cael ei ddwyn ymlaen yn fuan.

 

  • Mae’rsafle yn safle maes glas. Fodd bynnag, yn wahanol i safleoedd maes glas eraill mae’n gysylltiedig â’ranheddiad presennol ac mae’n hygyrch i’r cyfleusterau gerllaw. 

 

  • Parthed y pryderon a godwyd mewn perthynas â’reffeithiau arfaethedig ar drafnidiaeth, nodwyd mai cyffordd T syml yw’r mynediad arfaethedig oddi ar Lôn Sipsi. Aseswyd yr effeithiau trafnidiaeth ac mae swyddogion yn fodlon na fydd  unrhyw effaith sylweddol ar y rhwydwaith priffyrdd lleol a fydd yn andwyo diogelwch ar y briffordd a darperir ar gyfer y gofod gweledol angenrheidiol. 

 

  • Gwnaedadolygiadau arwyddocaol i’r cynllun yn dilyn adborth oddi  wrth swyddogion.

 

  • Cynigirnawr ardaloedd ychwanegol o ofod agored ac isadeiledd gwyrdd.

 

  • Ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau gan Gyfoeth Naturiol Cymru parthed cyfeiriadau gwrthwynebwyr i orlifo posib yn yr ardal ac roedd asesiad o ganlyniadau gorlifo cryf gyda’r cais nad oedd wedi nodi hyn fel problem.

 

  • Cyncyflwyno’r cais, cyflwynwyd cynnig drafft i’r cyngor cymuned. Roedd yr ymgeisydd wedi cynnig ymgysylltu â’rgymuned ar ddau achlysur ond ni fanteisiwyd ar y cynigion hyn.

 

 

 

 

Wediystyried adroddiad y cais a’r safbwyntiau a fynegwyd, mynegodd mwyafrif y Pwyllgor eu cefnogaeth i’r cais ac amlinellu’r pwyntiau canlynol:

 

  • Roedd y lleoliad yn addas ar gyfer darpariaeth dai.

 

  • Roeddangen tai fforddiadwy o fewn Llan-ffwyst a byddai cymeradwyo’r cais yn darparu 40 o unedau fforddiadwy.

 

  • Roeddprif gynllun y datblygiad arfaethedig yn dda iawn.

 

  • Nodwydnad oedd safleoedd o fewn y CDLl yn dod drwyddo mor gyflym ag y byddai’r Awdurdod yn ei ddymuno.

 

Foddbynnag, mynegodd un Aelod bryder y byddai’r safle datblygu arfaethedig yn gorwedd y tu allan i’r CDLl ac y byddai cymeradwyo’r cais yn arwain at ddatblygiad blêr o fewn Llan-ffwyst. Mynegwyd pryder hefyd y gallai mwy o geisiadau am ddatblygiadau ar draws y Sir, y tu allan i’r CDLl, ddod ymlaen ac ystyriai y dylai canllawiau llym gael eu sefydlu i rwystro hyn rhag digwydd. 

 

 

Mewnymateb, dywedodd Pennaeth cynllunio, Tai a Llunio Lleoedd ei bod yn glir, o fewn polisi cynllunio cenedlaethol, bod yn ofynnol i’r Awdurdod gael cyflenwad pum mlynedd o dir ar gyfer tai a bod ffordd glir o gyfrifo hyn. Bob blwyddyn mae hyn yn mynd at arolygwr allanol i’w lofnodi. Cyflenwad tir presennol yr Awdurdod hyd at Ebrill 2016 oedd 4.1 blynedd. Mae gwaith yn cael ei gyflawni i sefydlu beth fydd y ffigur newydd ar gyfer Ebrill 2017. Felly, mae diffyg cyflenwad pum mlynedd yn pwyso’n drwm dros gefnogi’r cais hwn.

 

Byddllwybr troed yn gyfochrog â Lôn Sipsi gyda chyswllt drwyddo i safle’r ysgol yn ystod oriau ysgol.

 

Nodwydnad oedd rhwystr ar waelod yr hawl tramwy cyhoeddus presennol lle mae’r grisiau sydd yno eisoes yn cwrdd âLôn Sipsi a’r droedffordd. Codid y mater hwn gydag Adran y Priffyrdd gyda’r bwriad o benderfynu’r mater hwn fel rhan o’r datblygiad. 

 

Cynigiwyd, felly, gan y Cynghorydd Sir M. Powell ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir R. Chapman fod cais DC/2016/00880 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar y 17 amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad a hefyd yn amodol ar Gytundeb Adran 106, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Cymerwydpleidlais a chofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

O blaid cymeradwyo                        -           13

Ynerbyn cymeradwyo                   -              1

Atal pleidlais                                   -  0

 

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynasomfod cais DC/2016/00880 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar y 17 amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad a hefyd yn amodol ar Gytundeb Adran 106, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: