Agenda item

Monitro'r gyllideb

To review the financial situation for the directorate, identifying trends, risks and issues on the horizon with overspends/underspends).

Cofnodion:

Cyd-destun:

Pwrpasyr adroddiad hwn yw darparu ar gyfer Aelodau wybodaeth ar sefyllfa alldro rhagolwg refeniw’r Awdurdod ar ddiwedd cyfnod 3 sy’n cynrychioli gwybodaeth ariannol mis 9  ar gyfer blwyddyn ariannol 2016/17.

 

Caiffyr adroddiad hwn ei ystyried yn ogystal gan Bwyllgorau Dethol fel rhan o’u cyfrifoldeb i:

 

       asesu a yw monitro’r gyllideb yn effeithiol yn digwydd;

       fonitro’rgraddau y mae cyllidebau’n cael eu gwario yn unol â’r gyllideb a gytunwyd a fframwaith polisi; 

       heriorhesymoldeb troswariant a thanwariant rhagamcanol, a

       monitrocyflawni enillion effeithioldeb a ragfynegwyd neu gynnydd mewn perthynas â chynigion arbed. 

 

Argymhellioni’r Cabinet:

 

1. Bod y Cabinet yn nodi graddau’r rhagolwg o danwariant refeniw gan ddefnyddio data cyfnod 3 o £79,000, gwelliant o £919,000 ar y sefyllfa a adroddwyd yn flaenorol yng nghyfnod 2.

 

2. Bod y Cabinet yn disgwyl i Brif Swyddogion barhau i adolygu’r lefelau o droswariant a thanwariant ac yn ailddyrannu cyllidebau i leihau graddau’r sefyllfaoedd digolledu sydd angen eu hadrodd bob chwarter.

 

3. Bod y Cabinet yn gwerthfawrogi’r graddau o ddefnyddio cronfeydd wrth gefn rhagamcanol ysgolion, ei effaith o lefelau alldro cronfeydd wrth gefn a’r disgwyliadau cysylltiedig y bydd 6 ysgol arall mewn sefyllfa o ddiffyg erbyn diwedd 2016-17.

 

4. Bod y Cabinet yn ystyried y monitro cyfalaf, y tanwariant a’r troswariant arwyddocaol, ac yn bwysicach bod y Cabinet yn cydnabod y risg sy’n gysylltiedig â gorfod dibynnu ar y defnydd o dderbynebau cyfalaf ym mlwyddyn y gwerthiant a’r potensial i hyn gael pwysau refeniw arwyddocaol petai derbynebau’n cael eu hoedi a benthyca dros dro’n angenrheidiol.

 

5. Bod y Cabinet yn cymeradwyo buddsoddiad ychwanegol o £30,000 i mewn i gyllideb cyfalaf y Grant Cyfleusterau i’r Anabl er mwyn ymateb i’r galwadau a osodir ar y rhaglen gyfredol, yn cael ei hariannu gan drosglwyddiad o Gyllidebau Cynnal a Chadw Priffyrdd a Mynediad i Bawb.

 

6. Bod y Cabinet yn cymeradwyo cynnydd o £30,000 i gynllun Woodstock Way a fforddir gan danwariant cyfatebol i gynllun gwelliant ardal arall (Y Fenni).

 

 

CraffuAelodau:

 

Ceisiwydeglurhad parthed y tanwariant yn Y Fenni a fforddiodd gyllid i gynllun cyswllt Woodstock Way a dywedwyd wrth y Pwyllgor bod hyn yn  ymwneud â gwaith a oedd angen ei wneud ar gyfer yr Eisteddfod ond na wnaed o gwbl

 

Parthed y llithriad cyfalaf gofynnwyd paham y gwnâi sefyllfa’r trysorlys yn waeth. Mewn ymateb, dywedwyd wrthym os na chawn y derbynebau cyfalaf rydym yn eu defnyddio mewn rhan-gyllid ar gyfer ein rhaglen gyfalaf a fydd yn ei gwneud yn angenrheidiol i ni fenthyca pan na fyddem fel arfer yn gwneud hynny; mae’r rheiny’n gostau ychwanegol sy’n effeithio’r cyfrif dyraniadau a’r trysorlys. Derbynebau cyfalaf yw’r rhain o werthiannau ac asedau tir.

 

 

Holwyd pa ddadansoddiad sy’n digwydd ar hyd adeilad yr ysgol a pha mor fanwl mae’r gwariant ar yr ysgol yn cael ei archwilio. Dywedwyd wrthym, yn nhermau rheoli prosiect, bod yna gyllideb fanwl a bod cydweithwyr cyllid yn cwrdd bob mis.

 

Holwyd, gan nad oedd unrhyw wybodaeth ar ysgolion arbennig, beth oedd y sefyllfa ar Mountain House School, dywedwyd wrth y pwyllgor bod y swyddfa wedi cytuno gyda’r Pwyllgor Dethol CYP y byddai’n fuddiol i’w hystyriaeth o weddill ysgolion, os, pan gytunir cynllun adfer, y gallant ddeall beth yw’r gofyniad tair blynedd.

 

Nodwyd, ar ôl Mai 2017, y bydd Pwyllgor Dethol CYP  yn derbyn cyflwyniad ar weddillion ysgolion.

 

Codwydcwestiwn ynghylch cyllido pwll yn Nhrefynwy ac mewn ymateb dywedwyd wrthym fod cyllideb wreiddiol Ysgolion yr 21 Ganrif a’r cytundeb gyda Llywodraeth Cymru wedi ysgwyddo fforddio pwll amgen ac mae hwnnw wedi’i gynnwys o fewn rhaglen Ysgolion yr 21 Ganrif eisoes. Ymatebodd yr Aelodau wedyn fod Arweinydd y cyngor wedi dweud yn bendant na fydd y pwll yn dod allan o’r cyllid hwnnw ac y bydd y pwll yn cael ei gyflenwi gyda’r ganolfan hamdden a fydd angen cyllid cyfalaf ychwanegol o chwe miliwn. Cynigiodd y swyddog ddarparu ymateb ysgrifenedig cyn y cyfarfod pwyllgor nesaf. (GWEITHREDU M.H.).

 

 

 

Casgliad y Pwyllgor:

 

Roeddnifer o bwyntiau y teimlai’r aelodau fod angen eglurhad pellach arnynt, gyda’r ymrwymiadau i gyllido ysgolion o’r pwys mwyaf. Teimlid y byddai’r Aelodau yn elwa o fynychu’r cyfarfod CYP i weld y cyflwyniad ar weddillion ariannol ysgolion.

 

Gofynnwyda ellid gosod argymhelliad oddi wrth y Pwyllgor Dethol yn y papurau.

 

 

 

Dogfennau ategol: