Agenda item

Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol ar Dwristiaeth

To scrutinise a working draft of an SPG on tourism.

Cofnodion:

Cyd-destun

 

CynghoriAelodau ar baratoad y Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft (CCA) ar Lety Twristiaeth Gynaliadwy i roi eglurhad ar ddehongli polisïau’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl).

 

Argymhellion:

 

1. Bod y Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu yn nodi cynnwys yr adroddiad hwn a Chanllawiau Cynllunio Atodol (CCA) Llety Twristiaeth Gynaliadwy Drafft ac yn gwneud sylwadau yn unol â hynny.

 

2. Ceisio cymeradwyaeth y Pwyllgor Dethol o’r CCA, gydag argymhelliad i’r Gweinidog Cabinet y dylid cyhoeddi’r CCA ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

 

3. Bod y Pwyllgor Dethol yn ystyried ymatebion yr ymgynghoriad cyhoeddus ac unrhyw ddiwygiadau cysylltiedig i’r CCA mewn cyfarfod yn y dyfodol , cyn argymell y CCA i’w mabwysiadu’n ffurfiol.

 

MaterionAllweddol:

 

1 Mabwysiadwyd Cynllun Datblygu Lleol Sir Fynwy (2011-2021) yn Chwefror 2014 i ddod yn gynllun datblygu mabwysiedig i’r Sir (ac eithrio’r rhan honno o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog). Mae’r cynllun datblygu statudol hwn yn cynnwys nifer o bolisïau sy’n berthnasol i dwristiaeth a gaiff eu hamlinellu yn Atodiad A o’r CCA Drafft (gaiff ei atodi fel Atodiad 1). Mae deddfwriaeth yn nodi bod ceisiadau cynllunio’n cael eu penderfynu yn unol â’r CDLl, oni bai bod ystyriaethau cynllunio perthnasol yn nodi fel arall. O ganlyniad, mae effeithiolrwydd a phriodoldeb polisïau’r CDLl yn hanfodol i sicrhau canlyniadau twristiaeth dymunol. Fodd bynnag, mae;n werth nodi nad oes yn rhaid i’r CDLl gwmpasu pob posibilrwydd. Yn wir, mae cyfarwyddyd Llywodraeth Cymru ar gynhyrchu CDLliau yn mynnu nad yw CDLliau yn dyblygu polisi cynllunio cenedlaethol. Gellir ystyried pynciau neu fathau o dwristiaeth na chwmpasir gan bolisïau CDLl penodol dan bolisi cynllunio cenedlaethol ac/neu ystyriaethau cynllunio perthnasol.

 

2. Derbyniodd y Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu, yn ei gyfarfod ar 13

Hydref 2016, adroddiad  a ddarparodd ddiweddariad ar effeithiolrwydd fframwaith polisi’r CDLl  yn galluogi/cyflawni datblygiadau sy’n berthnasol i dwristiaeth ers mabwysiadu’r Cynllun ac wedi adolygu’r graddau y mae’;r CDLl yn cefnogi ffurfiau cynaliadwy o lety twristiaeth. Rhoddwyd ystyriaeth arbennig i gefnogaeth y polisi i gynigion am ‘glampiollety - maes twf allweddol y mae’r Cyngor yn dymuno’i gefnogi mewn egwyddor. Argymhellodd yr adroddiad yn ddiweddarach fod CCA drafft yn cael eu paratoi i ddarparu eglurder ar y modd y caiff cynigion at gyfer llety twristiaeth gynaliadwy eu hystyried a bod y CCA yn cael eu cyflwyno nôl i’r Pwyllgor Dethol cyn i’r CCA gael eu cylchynu ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

 

3. Mae defnydd dewisol o’r CCA yn gyfrwng amlinellu canllawiau thematig neu ganllawiau penodol i safleoedd a rheiny’n fwy manwl  ar y ffordd y caiff polisïau’r CDLl eu cymhwyso mewn amgylchiadau neu feysydd penodol.

Mae Polisi Cynllunio Cymru (Argraffiad 9, 2016) ym mharagraff 2.3.3 yn nodi fel a ganlyn:

Nid yw CCA yn ffurfio rhan o’r cynllun datblygu ond mae’n rhaid iddynt fod yn gyson â’r cynllun a gyda’r polisi cenedlaethol. Mae’n rhaid iddynt ddeillio o a’u croesgyfeirio’n glir i bolisi generig y CDLl, polisïau penodol ar gyfer lleoedd, a /neumewn perthynas â phrif gynllun neu frîff saflecynllun dyrannu. Ni ellir cysylltu CCA i bolisi cenedlaethol ar eu pennau eu hunain; mae’n rhaid bod polisi CDLl neu feini prawf polisi sy’n darparubachyni’r cynllun datblygu, tra mae’r cyfiawnhad rhesymedig yn darparu eglurhad o’r polisi cenedlaethol cysylltiedig’.

 

4. Mae Paragraff 2.3.4 o Bolisi Cynllunio Cymru yn pwysleisio ymhellach y gall CCA fod yn ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu ceisiadau cynllunio, ar yr amod eu bod yn gyson â’r cynllun datblygu a bod ymgynghori priodol wedi digwydd:

‘Dim ond y polisïau yn y cynllun datblygu sydd â statws arbennig dan adran

38(6) o Ddeddf 2004 i benderfynu ceisiadau cynllunio, ond gellid ystyried CCA fel ystyriaeth berthnasol. Wrth wneud penderfyniadau ar faterion a ddaw o’u blaen, bydd Llywodraeth Cymru a’r Arolygaeth Gynllunio’n rhoi pwysau sylweddol ar Ganllawiau Cynllunio Atodol cydnabyddedig sy’n deillio o, ac sy’n gyson â’r cynllun datblygu, ac sydd wedi bod yn destun ymgynghori’. 

 

LletyTwristiaeth Gynaliadwy Drafft

 

5. Atodir CCA Llety Twristiaeth Gynaliadwy Drafft i’r adroddiad hwn fel

Atodiad 1Bwriedir y CCA i ddarparu sicrwydd ac eglurder ar gyfer ymgeiswyr, swyddogion ac Aelodau wrth ddehongli a gweithredu fframwaith polisi’r CDLl presennol mewn perthynas â chynigion am ffurfiau cynaliadwy  o lety ymwelwyr. At ddibenion y CCA hyn, cymhwysir llety ymwelwyr cynaliadwy  i ffurfiau eraill o lety ymwelwyr cynaliadwy. Mae’r canllawiau’n cyfeirio at gynigion y tu allan i ffiniau anheddiad (fel y nodir ym mapiau cynigion y CDLl). Mae’r CCA yn darparu trosolwg o gyd-destun polisïau cynllunio cenedlaethol a lleol mewn perthynas â thwristiaeth gynaliadwy, mae’n egluro’r hyn a olygir gan lety twristiaeth gynaliadwy mewn perthynas â Pholisi Strategol S11 ac mae’n amlinellu’r amrywiol fathau o lety twristiaeth gynaliadwy y mae’r CCA hyn yn cyfeirio atynt. Mae prif ran y CCA (Adran 4)  yn darparu canllawiau ar ddehongli a gweithredu fframwaith polisi’r CDLl mewn perthynas â chynigion am ffurfiau cynaliadwy o lety ymwelwyr, yn ymwneud yn bennaf â chyfleusterau glampio. Darperir gwybodaeth hefyd ynghylch cyflwyno cais cynllunio am lety twristiaeth gynaliadwy, gan gynnwys manylion am wasanaeth cyn-cynllunio’r Cyngor,

 

6. Darperir manylion/gwybodaeth bellach yn yr atodiadau i’r CCA

. Mae Atodiad B yn amlinellu’r ystyriaethau polisi allweddol ar gyfer asesu mathau penodol o lety glampio, sef iwrt, tîpi, pabell gloch, pod pren/ pabell bren, pabell fugail a th? pen coeden. Cynhwysir yn benodol y mathau hyn o gyfleusterau glampio gan iddynt ddod yn gynyddol boblogaidd dros y blynyddoedd diweddar a’u bod yn debygol o barhau i fod felly. Darperir rhestr o amodau cynllunio enghreifftiol a allai fod yn gymwys ar gyfer caniatâd cynllunio ar gyfer cynigion glampio yn Atodiad C.

 

Y Camau Nesaf

 

7. Bwriedir cyflwyno’r  CCA Llety Twristiaeth Gynaliadwy ar ffurf Drafft

i’rPwyllgor Cynllunio, gyda’r diben o geisio cymeradwyaeth yr aelodau i gyflwyno’r ddogfen at ddibenion ymgynghori.

 

8. Fel y cyfeirir ym mharagraff 4 uchod, er mwyn i’r CCA gael pwysigrwydd wrth ystyried ceisiadau cynllunio, mae angen cynnal ymgynghoriad a dylai unrhyw sylwadau a dderbynnir gael eu hystyried ym mhroses gwneud penderfyniadau’r Cyngor. Yn dilyn penderfyniad i ymgynghori, anfonir hysbysiadau wedi’u targedu at y rheiny y tybir y bydd ganddynt ddiddordeb ym mhwnc CCA, er yr ymgynghorir â phob cyngor tref a chymuned a gosodir hysbysiad yn y wasg. Dadansoddir yr holl ymatebion i’r ymgynghori a chyflwynir ymatebion/diwygiadau i’r Aelodau eu hystyried wrth geisio penderfyniad ar gyfer mabwysiadu unrhyw ddogfen CCA.

 

 

CraffuAelodau:

 

Siaradodd y Cadeirydd am beidio ag achub y blaen ar yr hyn a ddaw o ymgynghori cyhoeddus a soniodd am bwysigrwydd y pwyllgor yn cael cipolwg manwl ar yr adborth oddi wrth bartïon â diddordeb wedi i’r ymgynghori orffen.

 

Holwydpryd y bydd yr ymgynghori’n dechrau a dywedwyd wrthym y byddai’n dechrau wedi iddo gael ei gyflwyno yng nghyfarfod y pwyllgor cynllunio ym Mawrth gan ei fod yn annhebygol y byddai’r canlyniadau nôl gyda’r Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu cyn yr etholiad.

 

Mynegoddaelod ei siom ein bod yn trin twristiaeth a llety twristiaeth fel un eitem ac nad ydym yn gwahaniaethu rhwng y gwahanol fathau o dwristiaid sy’n dod i’r sir. Mae rhai sy’n dod i’r sir ar gyfer y golygfeydd a’r rheiny sy’n dod am resymau busnes, pob un ohonynt angen mathau tra gwahanol o lety  gofynnwyd am ychwanegu paragraff i’r adroddiad yn adlewyrchu hyn.

 

 

 

Casgliad y Pwyllgor:

 

Croesawydyr ymgysylltu â phartïon â diddordeb a natur ragweithiol yr ymgysylltu, yn arbennig gyda chynghorau tref a chymuned.

 

Mae’rpwyllgor yn falch i gymeradwyo’r adroddiad ac yn edrych ymlaen at weld canlyniadau’r ymgynghori cyhoeddus.

 

 

 

 

Dogfennau ategol: