Agenda item

Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

Cofnodion:

Fe gyflwynwyd y Prif Weithredwr adroddiad i’r Cyngor ar Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Diben yr adroddiad oedd amlinellu’r camau nesaf ar gyfer Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a:

 

·         Ceisio cymeradwyaeth i sefydlu Cabinet ar y cyd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (‘CCR’) (y ‘Cabinet Rhanbarthol’), fel cyd-bwyllgor, i oruchwylio agenda twf economaidd y Rhanbarth a chyflwyno’r ymrwymiadau a amlinellwyd yn y Fargen Ddinesig CCR.

·         Ceisio cymeradwyaeth ar Gytundeb Cydweithio y Fargen Ddinesig CCR (‘JWA’), y Fframwaith a Chynllun Gweithredu’r Fargen Ddinesig CCR sy’n ofynnol er mwyn sefydlu’r Cabinet Rhanbarthol a Chronfa Buddsoddi’r Fargen Ddinesig.

 

Yn dilyn cyflwyno uchafbwyntiau’r adroddiad, fe nodwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol, ynghyd â’r ymatebion:

 

 

·         Mae sgyrsiau wedi cael eu clywed am sut fydd y Fargen Ddinesig yn datrys y problemau mae’r ardal yn eu  hwynebu, a chredwyd y dylem fod yn fwy gofalus gyda’r iaith a ddefnyddir, a’i gymedroli mewn sefyllfaoedd cyhoeddus.

 

·         Credwyd y byddai strwythur y Cabinet ar y Cyd yn rhy bell o’r cyhoedd, ac roedd pryderon mai strwythur biwrocrataidd arall ydoedd.

YMATEB: Y Cabinet ar y Cyd yw’r cwbl sydd gennym ar hyn o bryd, gellir ailfeddwl y strwythur yn y dyfodol os oes angen.

 

·         Gallai’r diffyg prosiectau penodol fod yn fater o ran craffu. 

YMATEB:  Wrth i’r rhaglen ddatblygu, bydd y bylchau yn cael eu llenwi.

 

·         O ran eitem 2.8 o’r adroddiad ‘yn ildio p?er i’r Prif Weithredwr, Arweinydd neu Ddirprwy Arweinydd i wneud addasiadau’ – sut byddem yn dod i wybod am addasiadau o’r fath?

YMATEB: Roedd yn hynod annhebygol y byddem yn ymarfer dirprwyaeth y byddai’n newid canlyniad sgwrs heddiw. Byddai hyn yn mynd yn groes i bopeth mae’r Fargen Ddinesig yn ceisio gwneud, fel ymagwedd gynhwysol, gydlynol.

 

·         Gan gyfeirio at 3.2 cyflawni targedau allweddol’ – sut byddai’r rhain yn cael eu mesur a sut byddem yn profi bod y Fargen Ddinesig, o’i gymharu â ffactorau eraill, wedi cyflawni eu targedau.

YMATEB: Mewn bargeinion dinesig cynnar, fe gymerwyd y mesuriad o’r cynnydd GVA.  Nid y mesuriad GVA byddai’n cael ei defnyddio ar gyfer y rhaglenni hyn. Nid yw’n glir eto beth fydd yn cael ei defnyddio.

 

·         Byddai’r Pwyllgor ar y Cyd yn cael ei graffu gan y Pwyllgor Sicrwydd Rhanbarthol – a oes modd gweld manylion neu aelodaeth y pwyllgor?

YMATEB: Yr egwyddor yw bod pob un o’r 10 awdurdod yn gallu enwebu unigolyn i gynnig rhywfaint o oruchwyliaeth fel llywodraethu da.

 

·         Gofynnwyd am eglurder o ran gwasanaethu’r arian.

YMATEB: Mae £12.9m yn ffigwr cynhwysfawr ar gyfer Sir Fynwy. Mae’n cynnwys taliadau egwyddorol a llog ar ein rhan o £120m.  Mae hefyd yn cynnwys rhan o’r costau cludo y byddem yn eu bodloni mewn perthynas â benthyca Llywodraeth y DU.

 

·         Credwyd bod y ffigurau yn ymddangos yn isel ar gyfer cyfnod o 25 mlynedd a bod angen llawer mwy er mwyn cyrraedd yr un lefelau ag ardaloedd eraill.

YMATEB: Credwyd bod hyn yn faterol ond nid yn hanfodol, ymyriad a fyddai’n galluogi i bethau ddigwydd na fyddai fel arall yn gallu digwydd. Ond, ar ei ben ei hun, ni fyddai’n trawsnewid economi Cymru.

 

·         Fe gymharwyd hyn â chost yr ardal fach o ffordd Blaenau’r Cymoedd a’r ffigur ar gyfer buddsoddiad y Metro.

 

·         Gofynnwyd pan fod y swm a glustnodwyd ar gyfer y Metro yn gynwysedig yn y papur.

YMATEB: Esboniwyd y fantolen:

Cronfa buddsoddiad cyffredinol - £1.229 biliwn

Llywodraeth y DU - £500 miliwn

Llywodraeth Cymru - £503 miliwn – nid arian newydd, roedd Llywodraeth Cymru wedi blaenoriaethu hwn ar gyfer cychwyn Metro De Cymru. Fe roddodd Llywodraeth y DU ganiatâd i ddefnyddio hwn fel cyllid cyfatebol.

10 Cyngor - £120 miliwn

ERDF - £106 miliwn

Bydd gan y Metro ei fframwaith sicrwydd ei hun. Mae wedi ei becynnu gyda’i gilydd oherwydd ni fyddai unrhyw fargen heb y cyllid cyfatebol.

 

·         Os nad oes modd troi yn ôl ar y fargen am 5 mlynedd, os nad ydym yn cytuno gyda’r prosiectau, sut gallwn eu newid os ydynt wedi eu cloi i mewn am 5 mlynedd.

YMATEB: Mae’n gymhleth ond y gobaith oedd y gallai’r 10 Cyngor gyrraedd penderfyniad o fewn 12 mis cyntaf y rhaglen 25 mlynedd.

 

·         O ran cynllunio strategol, paragraff 3.3, bydd y Cabinet yn gyfrifol am gynllunio strategol, gan gynnwys tai, trafnidiaeth a defnydd o dir. Ymddengys bod iaith y fframwaith sicrwydd yn newid i natur fwy cyfranogol. Gofynnwyd am eglurhad am berchnogaeth. Holwyd hefyd sut byddai hyn yn ffitio gyda’r Cynllun Datblygu Strategol.

YMATEB: Mae’r ffrwd gwaith yma yn esblygu ac ein Pennaeth Cynllunio sy’n cadeirio. Ddim yn siarad am reoli datblygiad lleol neu geisiadau cynllunio lleol. Mae cael cynllun datblygu lleol yn ei le yn hynod bwysig. Rydym o’r farn ein bod yn bwriadu adolygu’r Cynllun Datblygu Lleol. Rydym yn archwilio sut gallwch ymgorffori Cynllun Datblygu Strategol.  Ddim yn ddarn o waith hynod ddatblygedig eto.

 

·         Mae gan drigolion tri phrif gwestiwn:

1.    Faint bydd hyn yn costio i ni?

2.    Beth allai fynd o’i le, beth yw’r pryderon/risgiau?

3.    Dros 25 mlynedd, beth fyddwn yn ei gael am ein harian?

YMATEB: O ran y costau, mae £12.9 yn adeiladu i fyny i £800,000 ym mlwyddyn 11.  Bydd y cyllid yn cael ei bennu gan y Cyngor nesaf. Rydym yn cydnabod yr angen i ariannu swyddfa raglen, pro-rata ar gyfradd o 6.1% o’r cyfanswm. Y risg mwyaf byddai peidio â chymryd rhan, peidio â defnyddio’r cyfle i helpu llunio dyfodol cenedlaethau’r dyfodol. Mae’n ymwneud â chydweithio a dylanwadu ar yr economi. Ni allwch roi llun gwirioneddol o sut allai edrych ar gyfer unrhyw Sir yn benodol, oherwydd nid ydym yn gwybod eto.

 

·         Yn dilyn yr etholiad at 5 Mai 2017, y disgwyliad yw mai Arweinydd y Cyngor newydd fydd yr Aelod dynodedig, ac y byddai’n gallu penodi Dirprwy.

 

·         O ran craffu, roedd y Cyngor yn cydnabod yr angen am ddiweddariadau rheolaidd.

 

Fe dalodd yr Arweinydd deyrnged i swyddogion y Cyngor gan ddiolch i’r Aelodau am drafodaeth dda ac am rannu perchnogaeth.

 

Wrth gael ei roi i’r bleidlais, fe benderfynodd y Cyngor yn unfrydol i gytuno i’r argymhellion yn yr adroddiad:

 

·         Cymeradwyo’r Cytundeb Cydweithio (y ‘JWA’) fel y ddogfen gyfreithiol sy’n sefydlu Cyd-bwyllgor (y ‘Cabinet Rhanbarthol’) Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (‘CCR’) yn ffurfiol fel Cyd-bwyllgor gyda swyddogaethau dirprwyedig, gyda dyddiad cychwyn o 1 Mawrth 2017. Yr aelod etholedig cynrychiadol i’r Cabinet Rhanbarthol fydd Arweinydd y Cyngor neu Ddirprwy a enwebir ganddo/ganddi;

·         Cymeradwyo’r cyfraniadau ariannol o bob cyngor sy’n aelod tuag at y cyfanswm cyfunol o £120m, (ynghyd â chostau cysylltiedig e.e. costau cludo), fel y manylir yng nghorff yr adroddiad hwn;

·         Cymeradwyo bod unrhyw arian refeniw sy’n weddill o 2016/2017 yn cael ei gario drosodd, gyda phob cyngor sy’n aelod yn cyfrannu, i 2017/2018 er mwyn i’r strwythur cefnogaeth ar gyfer y Cabinet Rhanbarthol barhau;

·         Cymeradwyo’r cyfraniadau refeniw cyfunol o hyd at £1m (gan gynnwys argymhelliad 2.3 uchod, ar sail gyfrannol fel y nodir yn y JWA) i gyllideb 2017/2018, er mwyn i’r strwythur cefnogaeth ar gyfer y Cabinet Rhanbarthol barhau;

·         Cymeradwyo bod Cyngor Dinas Caerdydd yn gweithredu fel y Corff Atebol gyda’r cyfrifoldebau a nodir yn y JWA

 

Dogfennau ategol: