Cofnodion:
9. CYNIGION CYLLIDEB DRAFFT 2017/18 AR GYFER YMGYNGHORIAD - Pwyllgor Dethol Oedolion
Cyd-destun:
· Darparu cynigion drafft manwl o'r arbedion sy'n ofynnol yn y gyllideb i fodloni'r bwlch rhwng yr adnoddau sydd ar gael a'r angen i wario yn 2017/18, at ddibenion ymgynghori.
· Ystyried cyllideb 2017/18 o fewn cyd-destun y Cynllun Ariannol Tymor Canolig ac ymddangosiad blaenoriaethau i arwain gweithgareddau trwy Sir Fynwy y Dyfodol.
Materion Allweddol:
Fe graffodd y Pwyllgor Dethol ar gynigion cyllideb y Gyfarwyddiaeth Gofal Cymdeithasol a Thai fel yr amlinellwyd yn Atodiad 3F o'r adroddiad, a oedd yn cyfateb i arbediad o £236,024.
Fe ddarparwyd gwybodaeth gefndir gan y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol bod yr adroddiad hwn yn canolbwyntio ar refeniw a chostau gweithredu, sy'n wahanol i'r adroddiad blaenorol yn seiliedig ar gyllidebau cyfalaf. Fe esboniwyd, yn hanesyddol, bod proses o fandad wedi cael ei roi ar waith ble mae swyddogion yn cynnig mandadau ac yn gweithredu arnynt. Mae'r ymagwedd hon wedi cael ei hadolygu i herio rheolwyr gwasanaeth i gynnig awgrymiadau i wneud e.e. arbedion 5% neu 10% i wneud gwasanaethau'n fwy cynaliadwy. Fe aethpwyd i'r afael â hyn ar draws pob cyfarwyddiaeth ac fe grëwyd rhestr gynhwysfawr o gynigion yn unol â hyn, gyda rhai yn ddichonadwy a rhai yn llai realistig.
Fe ddarparwyd cyd-destun ychwanegol bod problem cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf wedi cael ei datrys yn hytrach na darparu Cynllun Ariannol Tymor Canolig pedair blynedd i ganiatáu ychydig o hyblygrwydd ar gyfer y weinyddiaeth newydd yn dilyn yr etholiadau Llywodraeth Leol ym mis Mai 2017.
Fe ychwanegwyd bod modd rhagweld cyllid o Lywodraeth Ganol yn well wrth gydnabod natur wledig y Sir, fodd bynnag y canlyniad gorau oedd cyllideb sefydlog (0%) er gwaethaf y pwysau blynyddol o gynnydd mewn cyflogau, cynnydd yn y gost o fyw a chynnydd mewn chwyddiant cytundebol ac ati. Fe dynnwyd sylw at yr adroddiad, para 3.2 tybiaethau cyllideb ar gyfer y flwyddyn. Fe dynnwyd sylw at y ffaith, pe na fyddai unrhyw newidiadau yn cael eu cyflwyno, byddai'n arwain at bwysau o £2.5 miliwn y flwyddyn nesaf oherwydd chwyddiant. Ar ben hynny, roedd pwysau o fewn y gwasanaethau wedi cael eu hystyried, e.e. ble nad oedd mandadau wedi dod i'r fei fel y'u cynlluniwyd yn wreiddiol, ac fe adolygwyd y sefyllfa. Bydd y pwysau'n codi i £4 miliwn yn unol â hyn. Nid oes arbedion o £4 miliwn wedi cael eu gwneud mewn gwasanaethau oherwydd cynigion MRP i symud ymlaen gydag arbedion papur yn lle. Mae'r ymagwedd hon yn darparu lle o £1.5 miliwn ond mae'n ymhlyg bod arbedion yn dal i gael eu gwneud. Fe dynnwyd sylw at y ffaith bod canran yr arbedion arfaethedig a gyflwynir gan reolwyr yn amrywio. Mae gwaith ar y gyllideb ac arbedion yn parhau.
Gofynnwyd i aelodau ystyried y cynigion ar yfer arbedion o fewn cylch gorchwyl Oedolion (Atodiad 3f).
Fe ddarparodd yr Aelod Cabinet, Adnoddau, eglurhad bod cydnabyddiaeth o natur wledig y sir wedi dyrannu cyllid ychwanegol ond nid yw wedi newid y sefyllfa ariannol gyffredinol. Mae'r Sir yn parhau i dderyn y swm lleiaf o gyllid o bob awdurdod yng Nghymru; fesul pen o'r boblogaeth mae hyn wedi gostwng o £1060 i £995.
Dywedwyd wrth y Pwyllgor mai dyma'r cyfle i gynnig cynigion eraill.
Craffu gan Aelodau
Fe holwyd am yr awgrymiad, Comisiynu Oedolion (5.2), yn cyfeirio at stopio rhentu ystafelloedd yn y Fenni. Fe gadarnhawyd na fydd prosiect Fy Niwrnod Fy Mywyd yn cael ei effeithio mewn modd negyddol trwy uno trefniadau.
O ran Adnoddau Oedolion (5.1), fe holwyd beth a olygwyd gan "Ailstrwythuro'r tîm cynghori ar gyllid a budd-daliadau er mwyn disodli 2 swydd ar raddau is", ac a byddai unrhyw effaith ar ansawdd y gwasanaeth. Fe ymatebwyd gan ddweud y bydd swyddi'n cael eu hail-raddio, manylion pellach i'w cadarnhau; mae'r broses o ymgynghori gydag undebau dal ar y gweill. Fe holwyd a oedd hyn yn gysylltiedig â 10.2 "alinio gwybodaeth budd-daliadau llesiant, cyngor a gwasanaethau cymorth" ac fe gadarnhawyd bod cyswllt rhwng y ddau awgrym yn dilyn adolygiad o hawliau llesiant sy'n adnabod nifer o byrth cynghori ar lesiant ac yn cyflwyno cyfle am effeithiolrwydd ac ymagwedd fwy cydlynol. Fe holwyd hefyd a oedd hyn ar draws y cyngor neu o fewn gwasanaethau cymdeithasol i oedolion yn unig. Fe gadarnhawyd mai dyma oedd y sefyllfa ac y gallai fod dyblygiad gan gynnwys gyda sefydliadau y tu allan i'r awdurdod a'r cyfle i gydweithio.
O ran Adnoddau Oedolion (5.3) "Lleihau cyllideb Datblygu TG", fe holwyd a fyddai effaith andwyol ar gyflwyno gwasanaethau. Fe gadarnhawyd bod y gostyngiad yn heriol ond yn gyraeddadwy trwy arbedion mewn trefniadau trwyddedu.
Fe holodd aelod am Oedolion S406 MCHT (5.2) "archwilio gofalwr yn byw yn y t? yn hytrach na thalu cost fesul awr trwy asiantaeth gofal" ac fe ofynnwyd a oedd yr elfen hon yn cyfeirio at un defnyddiwr gwasanaeth neu nifer ohonynt, ac a fyddai'r cynnig yn mynd yn ei flaen. Fe esboniwyd bod yr elfen hon yn cyfeirio at asiantaethau neu ddarparwyr gofal cartref ac mae cynnig y mandad, yn rhai achosion, yw i newid y gefnogaeth fyw 24 awr i asiantaeth ofal a'i bod ddim yn ymwneud â gofal unigol.
Fe adlewyrchodd aelodau ar y 4 cynnig mandad a restrwyd o dan y Gyfarwyddiaeth Fenter (Atodiad 3c), gyda chyfanswm o £40,923 ac fe ystyriwyd bod modd rhagweld y cynigion, a'u bod yn alinio â materion a drafodwyd yn flaenorol ac yn cael eu cefnogi gan y Pwyllgor Dethol.
Roedd yn galonogol i'r Pwyllgor glywed bod dim cynigion i dorri cyllideb Addysg Oedolion. Yn hytrach, fe esboniwyd mai'r her oedd mynd i'r afael â'r diffyg rhyddfreinio yn sgil y lleihad yn y cyrsiau a ddarperir gan Goleg Gwent.
Fe atgoffwyd y Pwyllgor bod ymagwedd bragmatig wedi bod ar osod y gyllideb eleni, gan ffafrio peidio â gwneud newidiadau arwyddocaol i ardaloedd gwasanaeth cyn gweinyddiaeth cyngor newydd ym mis Mai, a hefyd i gydnabod setliad ariannol gwell y flwyddyn hon. Fe ragwelwyd hefyd y byddai setliadau'r dyfodol yn fwy heriol gan nodi ariannu'r sector cyhoeddus yn Lloegr, ac y byddai angen blaenoriaethu a chydweithio er mwyn cynnal gwasanaethau.
Dogfennau ategol: