Agenda item

Cyllid Cyfalaf: Grant Cyfleusterau Anabl a Diogelwch yn y Cartref

Cofnodion:

7.   Cyllid Cyfalaf: Cyfleusterau Anabl a Grant Diogelwch yn y Cartref

 

Cyd-destun:

 

Darparu diweddariad ar y gyllideb gyfalaf a ddarparwyd i gefnogi grantiau cyfleusterau anabl a grantiau Diogelwch yn y Cartref a'r effaith ar berfformiad cyffredinol y gwasanaeth ac ar wasanaethau a ddarperir gan Ofal Cymdeithasol ac Iechyd.

 

 

Materion Allweddol:

 

1.         Mae dyletswydd statudol ar y Cyngor i ddarparu grantiau cyfleusterau anabl o fewn chwe mis o dderbyn cais dilys.  Gall methiant i wneud hynny arwain at her gyfreithiol.  Mae ganddo ddisgresiwn hefyd i ddarparu grantiau Diogelwch yn y Cartref.  Ers 2006, mae cyllideb gyfalaf o £600,000 wedi cael ei darparu'n flynyddol i gyflwyno'r ddau fath o grantiau. Yn gyffredinol, fe rannir y grant yn £500,000 i gefnogi grantiau cyfleusterau anabl a £100,000 i gefnogi grantiau Diogelwch yn y Cartref. 

 

2.         Ar gyfer pob grant cyfleusterau anabl mae uchafswm o £36,000 a thra bod y mwyafrif tua £4,500, bob blwyddyn fe ddarperir nifer o grantiau mawr, cymhleth i fodloni anghenion plant gydag anableddau cymhleth ac yn fwyfwy ar gyfer oedolion sy'n anabl yn sgil trawma neu afiechydon dirywiol.  Trwy adborth gan gleientiaid, mae'n hysbys bod addasiadau wedi cael effaith arwyddocaol ar ansawdd bywyd ymgeiswyr a gofalwyr. Hefyd, mae sgôr o 95% yn cael ei gyflawni'n rheolaidd o ran boddhad cwsmeriaid.

 

3.         Mae grantiau Diogelwch yn y Cartref wedi'u bwriadu ar gyfer gwaith llai megis canllawiau, grisiau isel a mân addasiadau, yn aml yn costio llai na £250 ond sy'n gwneud cartref yn fwy diogel ar gyfer preswylydd anabl.  Yn aml maen nhw'n cael eu comisiynu i hwyluso dod allan o'r ysbyty, neu i leihau'r risg o gwympo ac anafiadau a allai olygu bod rhaid i'r person fynd i'r ysbyty.  Mae'r ddau grant yn chwarae rôl allweddol wrth hwyluso dod allan o'r ysbyty ac atal derbyniadau.

 

4.         Ar ben yr effaith ar gleientiaid sy'n gorfod aros yn hirach er mwyn i'r addasiadau gael eu cwblhau, mae gan y diffyg blynyddol o gyllid a'r ymrwymiad llawn cynharach fyth (fel arfer yn yr hydref) effeithiau andwyol ar berfformiad mewn perthynas â grantiau cyfleusterau anabl sy'n Ddangosydd Perfformiad Allweddol sy'n cael ei fonitro'n agos gan Lywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill. 

 

5.         Mae dewisiadau amgen i grantiau cyfleusterau anabl a grantiau Diogelwch yn y Cartref yn bodoli ond does yr un mor ddeniadol â chymorth grant.Er hyn, mae rhai darpar ymgeiswyr yn dewis parhau gyda'r gwaith angenrheidiol ar eu traul eu hun.  Gweler Atodiad 1 ar gyfer yr opsiynau eraill sydd ar gael. 

 

Craffu gan Aelodau:

Fe nodwyd na fod y dyraniad cyfredol o £600,000 yn ddigonol i fodloni'r galw blynyddol a bod y gyllideb fel arfer wedi cael ei ymrwymo cyn Nadolig.  Fe ddarparwyd amcangyfrif a oedd yn nodi bod y gyllideb £500,000 yn rhy isel i fynd i'r afael â'r llwyth gwaith wrth gefn.  Ar ddechrau mis Ionawr roedd 19 cais yn aros am grant cyfleusterau anabl ac mae hyn bellach wedi codi i 44 heddiw, gyda deufis o'r flwyddyn ariannol i ddod.  Gellid derbyn hyd at 70 atgyfeiriad erbyn diwedd y flwyddyn ariannol ond  nid yw'r galw eto yn hysbys.  Mae mwyafrif yr addasiadau oherwydd bod y boblogaeth yn heneiddio gyda cheisiadau am ystafelloedd gwlyb/cawod, lifftiau grisiau a rampiau ond hefyd addasiadau mwy cymhleth er mwyn caniatáu i'r bobl ddod allan o'r ysbyty.

 

Fe ddarparwyd cyd-destun ariannol bod y rhaglen gyfalaf wedi cael ei hadolygu gydag ystyriaeth yn cael ei roi i'r newid ym mlaenoriaethau, yn amodol ar ddwy egwyddor bwysig; rhaid iddo ariannu eu hun neu, fel arall, rhaid iddo fod yn fwy o flaenoriaeth na rhywbeth arall oherwydd bod adnoddau'n brin.  Adroddwyd bod £30,000 wedi cael ei ryddhau o gyllidebau Priffyrdd a Mynediad i Bawb er mwyn darparu swm bach o gyllid i fynd i'r afael â gofynion yn ymwneud ag ansawdd bywyd.  Fel arall, bydd rhaid penderfynu ar flaenoriaethu grantiau cyfleusterau anabl ond fe esboniwyd bod braidd dim lle yn y rhaglen gyfalaf. Fe roddwyd gwybodaeth i aelodau am fenthyca.

 

Yn dilyn cyflwyniad yr adroddiad, fe wahoddwyd Aelodau i wneud sylwadau:

 

Fe nodwyd hefyd bod gan yr awdurdod ethos o annog annibyniaeth, ond bod cefnogaeth annigonol ac fe awgrymwyd y dylid blaenoriaethu'r mater. Fe holwyd os gellid ail-gyfeirio cyllideb y Bwrdd Iechyd i grantiau cyfleusterau anabl er mwyn cynorthwyo i ryddhau gwlâu a gwneud arbediad, ond fe gadarnhawyd bod yr ymagwedd hon wedi cael ei chodi gyda'r Bwrdd Iechyd ond wedi cael ei wrthod oherwydd y gwahaniaeth rhwng gofal cymdeithasol ac iechyd.

 

Gofynnodd aelod os oedd y cyllid ar gael, a fyddai modd lleihau'r galw cyfredol.  Fe ymatebwyd bod y galw yn bennaf yn anhysbys oherwydd ei fod yn ymwneud â'r boblogaeth h?n a'r angen anrhagweladwy ar gyfer lefelau amrywiol o addasiadau neu symud i lety mwy addas.

 

Holodd Aelod am nifer y bobl yn yr ysbyty a oedd yn aros am addasiadau grant cyfleusterau anabl er mwyn galluogi iddynt ddychwelyd adref.  Cadarnhawyd na fod y ffigurau ar gael ar unwaith ond bod atgyfeiriadau'n cael eu gwneud trwy therapyddion galwedigaethol yr ysbyty. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn, fe esboniwyd bod yna gydweithio ym mhrosiect Gwent gyfan "Yn un Lle", gyda Gofal Cymdeithasol, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ac awdurdodau lleol yn gwneud cynigion ar y cyd i ddatblygu datrysiadau tai sy'n buddio Iechyd ar lefel strategol uwch.  Mae un datblygiad o'r fath wedi cael ei gyflwyno gyda Tai Sir Fynwy (T? Ynysgynwraidd, y Fenni) ac mae cwmpas am gynlluniau tebyg yn y dyfodol.

 

Unwaith eto fe drafododd aelodau y mater o symud pobl allan o'r ysbyty i dai cymdeithasol, ac fe'u hysbyswyd na fyddai Gwasanaethau Iechyd yn rhyddhau claf tan fod y gwaith angenrheidiol wedi cael ei wneud.   

 

Fe drafodwyd y cyflymder o gwblhau gwaith ac fe gadarnhawyd bod oedi yn ymwneud â chymhlethdod y gwaith a'r diffyg cyllid.  

 

Argymhellion

 

1.    Fe ystyriodd y Pwyllgor sut mae'r rhaglen addasiadau ar gyfer pobl anabl yn cefnogi trigolion i barhau i fyw'n ddiogel ac yn annibynnol yn y cartref ac fe argymhellwyd bod y tanwariant a nodwyd yn cael ei defnyddio i leihau'r llwyth gwaith wrth gefn o addasiadau gofynnol.

 

2.    Mae'r Pwyllgor yn argymell i'r Cabinet gynnydd mewn cyllid cyfalaf ar gyfer grantiau addasiadau anabl yn 2017//18 ac yn y blynyddoedd dilynol.

 

Text Box: Sylwadau'r Cadeirydd Fe ddiolchodd y Cadeirydd am yr adroddiad clir a defnyddiol yn ymwneud â materion sydd heb gael eu datrys dros nifer o flynyddoedd. Fe nododd bod yr argymhelliad i ddefnyddio tanwariant a nodwyd yn cynrychioli'r ffordd ymlaen yn y tymor byr er mwyn lleihau'r llwyth gwaith wrth gefn o'r addasiadau sy'n ofynnol. Fe anodwyd y Cabinet i ystyried o ddifri cynnydd yn y cyllid cyfalaf ar gyfer grantiau addasiadau anabl yn 2017/18 ac yn y blynyddoedd dilynol.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: