Agenda item

Drafft Gynigion Cyllideb Cyfalaf 2017/18 i 2020/21

Cofnodion:

Cyd-destun:

 

Craffu ar y gyllideb cyfalaf a gynigir ar gyfer 2017/18 a'r cyllidebau cyfalaf dangosol ar gyfer y tair blynedd 2018/19 i 2020/21.

 

Materion Allweddol:

Materion yn ymwneud â'r Cynllun Arian Cyfalaf Tymor Canolig

·         Mae'r rhaglen gyfalaf pedair blynedd yn cael ei hadolygu bob blwyddyn a'i diweddaru i gymryd unrhyw wybodaeth newydd sy'n berthnasol i ystyriaeth.

 

·         Prif gydran y Cynllun Arian Cyfalaf Tymor Canolig ar gyfer y blynyddoedd nesaf yw Rhaglen Ysgolion y Dyfodol. Mae'r Cyngor yn ddiweddar wedi cymeradwyo cyllido pellach ar gyfer y rhaglen yn ei gyfarfod ar 20 Hydref 2016.

 

·         Mae nifer o feysydd eraill ble mae ymrwymiad i fuddsoddi. Fodd bynnag, ar hyn o bryd mae'r cynlluniau'n eistedd y tu allan i'r rhaglen wrth i waith symud yn ei flaen i adnabod y gofynion cyllido.  Sef:

 

-       Pwll Trefynwy - ymrwymiad i ail-ddarparu'r pwll yn Nhrefynwy o ganlyniad i raglen Ysgolion y Dyfodol.

 

-       Hyb y Fenni - ymrwymiad i ail-ddarparu'r llyfrgell gyda'r Siop Un Stop yn y Fenni er mwyn cwblhau'r gwaith o greu Hyb ym mhob un o'r trefi.

 

-       Grantiau Cyfleusterau Anabl - mae'r galw am grantiau lawer uwch na'r gyllideb ar hyn o bryd. Mae gwaith ar y gweill i asesu lefel y buddsoddiad sydd ei angen i facsimeiddio'r effaith a'r budd i'r sawl sy'n derbyn y grant.

 

-       Dêl y Ddinas - mae 10 Awdurdod yn rhanbarth Dinas Caerdydd yn edrych ar botensial Dêl y Ddinas gwerth £1.2 biliwn. Mae cytundeb i ymrwymo i'r rhaglen hon yn cael ei geisio ar draws y rhanbarth ym mis Ionawr 2017 a byddai'n cael effaith ar y Cynllun Arian Cyfalaf Tymor Canolig. Mae'r effaith posib ar gyllidebau awdurdodau unigol yn cael eu modelu ar hyn o bryd cyn gwneud penderfyniadau ar brosiectau a phroffiliau penodol er mwyn i awdurdodau ddechrau adlewyrchu'r ymrwymiad yn eu Cynlluniau Arian Tymor Canolig.

 

-       Bloc J ac E - Mae'r rhaglen o ail-drefnu'r swyddfeydd yn cael ei hystyried i weld a oes yna ddatrysiad a fyddai'n galluogi uno safleoedd Magwyr a Brynbuga, gan ryddhau cyllid i dalu am y buddsoddiad angenrheidiol er mwyn caniatáu defnyddio'r blociau.

 

·         Mae strategaeth sy'n galluogi cynnwys y rhaglen graidd, Ysgolion y Dyfodol a'r cynlluniau uchod yn cael ei datblygu. Er gwaethaf hyn, bydd nifer sylweddol o risgiau sydd heb unrhyw botensial i'w hariannu o fewn y Cynllun Arian Cyfalaf Tymor Canolig ac mae risg sylweddol yn gysylltiedig â hyn.  Mae'r Cabinet eisoes wedi asesu'r risg hon.

·         Y polisi cyfredol yw bod cynlluniau newydd yn gallu cael eu hychwanegu at y rhaglen, dim ond os yw'r achos busnes yn dangos eu bod yn hunan-ariannu neu os bennir bod y cynllun yn flaenoriaeth uwch na chynlluniau cyfredol yn y rhaglen ac felly yn eu disodli.

 

·         Yn y grynodeb, mae'r materion a'r risgiau canlynol wedi cael eu hadnabod:

 

-       Rhestr hir o risgiau wrth gefn - isadeiledd, eiddo, gwaith DDA, hawliau tramwy cyhoeddus, fel yr amlinellwyd yn Atodiad 1 o'r adroddiad.  Does dim o'r risgiau hyn yn gynwysedig yn y Cynllun Arian Cyfalaf Tymor Canolig cyfredol, ac mae hyn yn cynrychioli risg arwyddocaol.

 

-       Buddsoddiad cyfalaf sy'n ofynnol i gyflawni arbedion refeniw - mae hyn yn ymwneud yn bennaf â'r maes o adeiladau swyddfa ac edrych ar fodelau cyflwyno amgen ar gyfer hamdden a diwylliant, gofal cymdeithasol, buddsoddiad mewn adeiladau ac anghenion dysgu ychwanegol o bosib. Mae'r lefel o asesiad yn cael ei asesu ar hyn o bryd. Fodd bynnag, yn unol â'r egwyddor a sefydlwyd eisoes, os nad yw'r cynlluniau yn mynd i ddisodli unrhyw beth sydd eisoes yn y rhaglen, yna bydd angen i'r gost o unrhyw fenthyca ychwanegol ddwyn elw er mwyn gwneud arbediad.

 

-       Mae'r cronfeydd wrth gefn ar gyfer TG yn wag felly mae cyllid ar gyfer unrhyw fuddsoddiad mawr newydd ym maes TG yn gyfyngedig.  Bydd angen i unrhyw gynlluniau TG ychwanegol naill ai allu talu am eu hunain neu ddisodli cynlluniau eraill yn y rhaglen.

 

-       Cylchffordd Cymru - mae'r Awdurdod wedi cwblhau gwaith diwydrwydd dyladwy ar fersiwn o'r cynnig a ddaeth i'r casgliad i beidio â pharhau, mae'r cynnig cyfredol yn cael ei ystyried gan Lywodraeth Cymru heb gymorth cyllid Awdurdod Lleol.

 

Fe dynnwyd sylw Aelodau at y wybodaeth mai'r Pwyllgor Dethol Oedolion oedd wedi derbyn y lleiaf o gyllid o'r holl Bwyllgorau Dethol ar gyfer cyfalaf yn y blynyddoedd diwethaf a oedd wedi canolbwyntio ar gynlluniau cynnal a chadw llety yn ymwneud â sefydliadau gofal cymdeithasol ac adnewyddu Parc Maerdy, gan nodi bod mwyafrif y gwaith heb dderbyn cyllid craidd, ond cyllid ICF o fentrau Llywodraeth Cymru.  

 

O ran cyllidebu Cyfalaf, mae'r Cyngor yn wynebu sail lai o adnoddau sy'n effeithio ar y gallu i gefnogi benthyciadau.

 

Fe nodwyd bod y grantiau DFG wedi cael eu cynnal ar y lefel flaenorol a bod y ffocws yn bennaf ar raglen Ysgolion y Dyfodol ac ailadeiladu dwy ysgol.  Fe nodwyd yn flaenorol, ei bod yn bosib defnyddio tanwariant yn y gyllideb Ffermydd y Sir, ond bod yna lwyth gwaith wrth gefn o waith cynnal a chadw ffermydd sydd nawr yn cyfyngu hyblygrwydd.

 

Fe gadarnhawyd bod y rhaglen yn cynnwys £1m o fenthyca darbodus y flwyddyn ac fe gynigwyd bod hyn yn cael ei gynnal.

 

Fe dynnwyd sylw aelodau at bara 3.4, yng nghyd-destun y risgiau a nodwyd yn Atodiad 1 a 3.7, sy'n sôn am ddisodliad posib Severnview a chynnydd yng nghyllid DFG.

 

Fel y nodwyd yn yr adroddiad, bydd ychydig o'r gwaith, fel y rhestrir, angen parhad mewn cyllid, ond bod £500,000 ychwanegol wedi cael ei gynnwys i symud ymlaen gyda'r gwaith trwy gymysgedd o'r strategaeth fenthyca tymor byr a chyfrifon MRP.

 

Fe esboniwyd y bydd y Gyllideb Cyfalaf yn cael ei osod gan y Cyngor ar ddiwedd Chwefror a bydd yna gyfleoedd i gyflwyno sylwadau ar flaenoriaethau.

 

Craffu gan Aelodau

 

Fe holodd Aelod, ac fe gadarnhawyd, y byddai derbynneb cyfalaf ar gyfer cael gwared â safle Magwyr, ond y gallai hwn fod yn werth llai na chost y gwaith o adnewyddu bloc J ac E oherwydd amodau cyfredol y farchnad adeiladau. Fe ychwanegwyd bod mandadau'r gorffennol wedi tybio arbediad o safle Magwyr i ail-drefnu ein hadeiladau. Fe esboniodd yr Aelod Cabinet, Adnoddau, gan ystyried hinsawdd bresennol y farchnad adeiladau, bod ystyriaeth yn cael ei roi i brydlesu'r adeilad yn gyfan gwbl neu'n rhannol, gan nodi y byddai'r costau o redeg adeilad Magwyr yn arwyddocaol yn y cyfrifon i adnewyddu Bloc J ac E.

 

Fe gadarnhawyd bod y £300,000 a restrir o dan y cynlluniau Ffermydd y Sir yn gost gwariant cyfalaf (nid y gost net ar ôl derbyniadau) i'r awdurdod o ran ei gyfrifoldebau cynnal a chadw fel landlord.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, fe gadarnhawyd mai'r awdurdod oedd yn berchen ar Floc E a'i bod yn cael ei defnyddio i storio offer etholiadau ar hyn o bryd.

 

Gofynnodd Aelod am y gwasanaeth anghenion dysgu ychwanegol a phryd bydd unrhyw wybodaeth ar gael.  Fe gadarnhaodd yr Aelod Cabinet, Adnoddau, bod y gwaith yn symud yn ei flaen.

 

Yn ymwneud â Ffermydd y Sir, fe holwyd pryd adolygwyd rhenti ddiwethaf.  Fe esboniwyd bod rhenti yn cael eu hadolygu ar raglen dreigl 3 neu 4 blynedd ac yn cael eu hasesu ar sail fasnachol, gan ychwanegu na fod y ffermydd o werth rhentadwy uchel.  Os caiff y ffermydd y gwerthu, mae'r gwerthiant ar sail gwerth y farchnad agored, heb ostyngiad.

 

Fe holwyd am yr amserlen ar gyfer y disodliad arfaethedig o Severnview ac fe esboniwyd bod y cynnig hwn ar gyfer ail-ddarpariaeth wedi bod dan ystyriaeth am ychydig flynyddoedd.  Fe awgrymwyd y gallai hyn fod o fewn amserlen o 5 mlynedd.

 

Text Box: Sylwadau'r Cadeirydd Fe ddiolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am eu cyfraniad wrth ystyried yr eitem hon.

 

 

 

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: