Agenda item

Trafodaeth ar Daliadau Dai yn ôl Disgresiwn

Cofnodion:

 

6.   Trafodaeth ar Argymhellion ar Daliadau Tai yn ôl Disgresiwn

 

 

Cyd-destun:

Fe fynychodd y Cynghorydd Sir P. Hobson, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb dros Dai, y cyfarfod mewn ymateb i lythyr a anfonwyd gan y Cadeirydd yn cynnwys argymhellion i'r Cabinet yn dilyn craffu cyn-penderfynu ar y Polisi Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn fel rhan o'i graffu ehangach o ddiwygio lles. 

 

Argymhellion:

1.    Fe argymhellir bod y Cabinet yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i gytuno i gynyddu'r arian y mae'n ei buddsoddi yn y gronfa Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn , gan gydnabod yr effaith amlwg mae'r ariannu wedi cael ar bobl agored i niwed a'r risgiau a goblygiadau o beidio â chefnogi pobl trwy ostwng budd-daliadau ymhellach, yn enwedig o ran atal digartrefedd a phlant yn cael eu cymryd i mewn i ofal y Cyngor.

2.    Gan gymryd fod llawer o'r gwaith hwn yn cael ei gyflwyno mewn awyrgylch cartref, argymhellir bod y Cabinet yn cydnabod yr angen am system rybuddio gorfforaethol hygyrch i adnabod cleientiaid a chartrefi y gallai fod yn risg i weithwyr unigol. Dealla'r Pwyllgor bod Torfaen yn gweithredu model tebyg i ddiogelu ei gweithlu.

3.    Argymhella'r Pwyllgor bod pob asiantaeth sy'n gweithio ym maes budd-daliadau, megis y Ganolfan Cyngor ar Bopeth, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a'r Cyngor yn ystyried y potensial i rannu arfer gorau ac archwilio cyfleoedd i greu effeithiolrwydd ac economïau wrth ddarparu gwasanaethau cynghori ar lesiant.

4.    Ar ben hynny, argymhella'r Cyngor cyfarfod ar y cyd gyda'r Pwyllgor Cynllunio i ystyried y berthynas rhwng digartrefedd, budd-daliadau tai a'r ddarpariaeth o dai fforddiadwy yn Sir Fynwy.

 

Ymatebion i argymhellion gan Weinidog y Cabinet

1.    Fe ystyriodd y Cabinet yr argymhelliad ac nid yw'n bwriadu cynyddu'r gyllideb ar gyfer y Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn ar hyn o bryd.  Rhagwelir na fydd y gofynion ar y gyllideb hon yn cael eu huchafu a bod anghenion a gofynion yn cael eu bodloni yn sgil hyn.  O ran yr effaith a'r risg o beidio â chefnogi pobl, fe nodwyd bod y Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn wedi cynorthwyo sefydlogrwydd mewn cartrefi a fyddai dan fygythiad fel arall.  Fe ychwanegwyd mai cyfrifoldeb Llywodraeth Ganolog yw polisi llesiant a newid ym mudd-daliadau; mae awdurdodau lleol yn mynd i'r afael ag effeithiau'r newidiadau gyda'r Cabinet yn monitro'r galw ar y gyllideb wrth i newidiadau ddigwydd. 

 

Fe esboniodd y Swyddog Tai a Chymunedau bod y gefnogaeth a ddarperir gan Daliadau Tai yn ôl Disgresiwn yn arwyddocaol yn Sir Fynwy am resymau fforddiadwyedd yn ôl adborth gan asiantaethau. Fe gytunwyd i dderbyn adroddiadau monitro mwy manwl ac aml er mwyn darparu gwybodaeth gliriach ar gyfer y Pwyllgor.  Fe ychwanegwyd y gellir rhagweld mwy o bwysau ar y gyllideb y flwyddyn nesaf wrth i'r newidiadau i reoleiddiad symud yn eu blaenau (Cap Budd-daliadau - trothwy is a newidiadau i reoliadau Budd-daliadau Tai ar gyfer pobl sengl, dan 35, mewn tai cymdeithasol).

 

2.    O ran y cwestiwn o aelodau o staff yn gweithio mewn awyrgylch a allai fod yn beryglus (cartrefi), fe gynghorwyd mai'r gobaith oedd cyflwyno cronfa ddata rhybuddio i weithwyr ar gyfer staff ar draws y gyfarwyddiaeth ac aelodau etholedig yn ddiweddarach eleni.  Mae'r system rhybuddio gynnar yn cael ei defnyddio yn Nhorfaen ac mae llawer o ddiddordeb wedi cael ei fynegi, ond ar hyn o bryd mae diffyg adnoddau i weinyddu'r gronfa ddata.  Bydd y Gr?p Iechyd a Diogelwch Corfforaethol yn parhau i drafod opsiynau a bydd is-gr?p Trais tuag at Staff yn cael ei greu i symud y mater ymlaen.  Mae'r Rheolwr Iechyd a Diogelwch hefyd yn trafod gyda Careline i weld a ellir defnyddio'r system honno a'r staff.   Fe groesawyd y cynnydd a wnaed.

 

3.    Mewn perthynas â dyblygiad canfyddedig, fe nodwyd y bydd y Bartneriaeth Cynhwysiant Ariannol, Economaidd a Digidol (FEDIP) yn mynd i'r afael â'r mater hwn a byddant yn adolygu'r trefniadau cyfredol er mwyn sicrhau'r defnydd gorau o adnoddau, osgoi dyblygiad a lleihau bylchau.  Esboniwyd bod yr Adran Gwaith a Phensiynau ac Addysg i Oedolion yn bartneriaid allweddol.  Melin sy'n cyflwyno'r cytundeb cyflwyno'r Credyd Cynhwysol gyda Budd-daliadau Tai ar gyfer cyllido a chefnogaeth ddigidol ar gyfer preswylwyr.  Mae Sir Fynwy yn cefnogi landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a Chymdeithasau Tai o ran ceisio osgoi achosion o droi allan. Os oes dau daliad olynol yn cael eu colli, bydd cymdeithas tai neu landlord cymdeithasol cofrestredig yn cyfeirio ar swyddog cynhwysiant ariannol Sir Fynwy.  Fe ddarparwyd tystiolaeth o gydweithio rhwng asiantaethau: Mae staff Melin yn gweithio o Ganolfannau Cyngor ar Bopeth ddwywaith yr wythnos.  Mae Cymdeithas Tai Charter ar fin cychwyn datblygiad tai a rennir.  Mae gan Gymdeithas Tai Sir Fynwy gynllun peilot ar y gweill.

 

4.    Fe gadarnhawyd bod cyfarfod ar y cyd â'r adran gynllunio wedi cael ei drefnu ar 14 Chwefror i ystyried y berthynas rhwng digartrefedd, budd-daliadau tai a'r ddarpariaeth o dai fforddiadwy. Roedd ychydig o ddryswch o ran cylch gorchwyl y Pwyllgorau Dethol mewn perthynas â thai.  Mae cydnabyddiaeth y bydd fforddiadwyedd yn bwysau i fynd i'r afael ag ef oherwydd bod poblogaeth y sir yn heneiddio a bod angen cadw pobl ifanc yn yr ardal er mwyn cynnal poblogaeth gytbwys.  Fe drafodwyd anawsterau'r sector "canol" mwyaf sy'n ennill gormod i gael llety cymdeithasol, ond ddim digon i gael morgais, a hefyd y gost uchel o rentu'n breifat.

 

Fe esboniwyd bod gan Gyngor Sir Fynwy drefniadau prydlesu preifat gyda landlordiaid sy'n cyfrannu at fynd i'r afael â digartrefedd.

 

           

Craffu gan Aelodau

 

Gofynnodd Aelod gwestiwn yn ymwneud â ffigurau digartrefedd ac fe gadarnhawyd bod y tueddiad yn sefydlog.  Mae llif cyson o anghenion ail-letya ac mae lleoliadau gwely a brecwast wedi cynyddu ychydig.

 

Fe nododd Aelod bod gan y Cynllun Datblygu Lleol dyraniad o 35% o dai fforddiadwy ond bod datblygwyr yn gostwng hyn i 30% neu'n is ac er mwyn cael darpariaeth ddigonol o dai cymdeithasol, mae angen i'r Adran Gynllunio fod yn fwy cadarn. 

 

Fe holwyd a oedd y ffigurau ar gyfer diffyg tai fforddiadwy yn Sir Fynwy ar gael ac fe ymatebwyd gan ddweud bod targed yn y Cynllun Datblygu Lleol o 96 t? y flwyddyn, ac os cyflawnir hyn, byddai'n bodloni'r gofynion.  Fe esboniwyd y lefel gyfredol o angen a galw.

 

Fe esboniodd yr Aelod o'r Cabinet, o ran llety fforddiadwy, bod yna rhaniad dymunol o 35% / 25% (gall fod hyd at 60%) ac y dylid cyfathrebu'r ffigurau hyn i'r datblygwyr o'r cychwyn fel man cychwyn a fydd yn cael ei drafod gan ddibynnu ar ffactorau megis y safle a'r lleoliad.  Fe ddadleuwyd bod y datblygwyr yn gwybod eu costau cyfalaf a chost uned ac y byddant yn cyllido ar y gost o brynu'r tir ac yn ychwanegu amrywioldeb yn unol â hyn.

 

Darparwyd eglurhad na fod Cyngor Sir Fynwy yn adeiladu tai cyngor, gan ychwanegu bod yna ddyraniadau yn y Cynllun Datblygu Lleol a fydd yn bodloni'r angen hwnnw, yn bennaf trwy ddatblygwyr ac weithiau trwy Gymdeithasau Tai sy'n adeiladu tai cymdeithasol.  Os nad yw'r datblygwyr yn parhau gyda safle, neu os oes oedi yn y broses, efallai bydd oedi wrth gyrraedd y targed.  Yn ddiweddar, mae safleoedd sylweddol yn y sir wedi parhau a bydd argaeledd unedau fforddiadwy yn cynyddu yn unol â hyn.  Fe nodwyd hefyd, os nad yw datblygwr yn bodloni'r cwota fforddiadwyedd, bod y Cyngor yn herio hyn yn gadarn.

 

Fe fynegodd Aelod o'r Pwyllgor bryder yn ymwneud â'r anawsterau a gafwyd wrth symud pobl o'r ysbyty a gofynnwyd a oedd digon o dai cymdeithasol ar gael.  Fe atebwyd bod tai cymdeithasol yn gallu bod yn opsiwn ar gyfer pobl sy'n gadael yr ysbyty ac yn aml, roedd dyhead am lety llawer daear neu addasadwy a bod dim digon o'r rheini ar gael.  Fe ychwanegwyd bod proses parhaus bob blwyddyn i adnabod angen ac amgylchiadau, gan weithio fwyfwy gyda chydweithwyr Gwasanaethau Cymdeithasol a bod y wybodaeth yn cael ei gynnwys yn y rhaglen datblygu tai fforddiadwy. Datblygiad cyfyngedig sydd o lety anabl. Mae Cymdeithasau Tai yn barhaus yn ceisio cynyddu, ail-ddylunio ac adnewyddu'u stoc er mwyn cynyddu nifer yr opsiynau.

 

Mewn ymateb i ymholiad, amcangyfrifir bod angen 4000 uned o dai cymdeithasol i'w rhentu a tua 8000 cartref fforddiadwy i'w prynu ond, wrth i opsiynau fforddiadwy gynyddu, fe ragwelir y bydd y galw'n cynyddu.  Fe soniwyd am ddatblygiad Loftus yng Nghasnewydd fel esiampl o fodel addas.

Text Box: Sylwadau'r Cadeirydd: Fe ddiolchodd y Cadeirydd i'r Aelod Cabinet dros Ddatblygiad Cymunedol (Tai) am yr atebion defnyddiol a ddarparwyd mewn ymateb i gwestiynau a phryderon, ac i annog deialog. Fe ddiolchwyd hefyd i'r Swyddog am ddarparu cefnogaeth a dealltwriaeth. Fe groesawyd y ffaith bod cyfarfod wedi cael ei drefnu ar 14 Chwefror dan arweiniad Pwyllgor yr Economi a Datblygiad. Gwahoddwyd aelodau o bob panel i fynychu. Daethpwyd i'r casgliad bod y Pwyllgor yn fodlon gyda'r atebion a roddwyd. Fe ystyriwyd y materion a oedd yn weddill yn ymwneud â chyswllt rhwng y Pwyllgorau Dethol, fe ystyriwyd eu hargymhellion a'u bwydo yn ôl i'r Cabinet. Fe awgrymwyd y dylai'r Bwrdd Cydlynu fynd i'r afael â'r materion hyn.

 

 

 

           

 

Dogfennau ategol: