Agenda item

Strategaeth Iaith Gymraeg 2017-2022

Cofnodion:

Cyflwynwyd Strategaeth Iaith Gymraeg 2017 – 2022 i’r Cyngor, sydd wedi cael ei gynhyrchu yn unol â gofynion Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ac yn benodol â Safon 145 a 146.

 

Yn ystod y drafodaeth, fe nodom y sylwadau canlynol:

 

Fe ofynnodd y Cynghorydd Blakebrough os oedd y cynnydd dros o 20 mlynedd o 2.3% i 9.9% yn cael ei ystyried yn gynnydd sylweddol yn nifer y siaradwyr Cymraeg. Fe ymatebodd y Cynghorydd Hobson gan ddweud y gwelwyd gostyngiad yn y niferoedd yn y cyfrifiad diwethaf, tra bod niferoedd Sir Fynwy wedi cynyddu. Roedd disgwyl gweld cynnydd uwch yng nghyfrifiad 2021 ac roedd hyn yn cael ei adlewyrchu yn yr adroddiad.

 

O ran cyllid, roedd pwynt 5.1 o’r adroddiad yn nodi bod dim cyllid ychwanegol neu oblygiadau Adnoddau Dynol yn deillio o’r strategaeth. Esboniodd Swyddog yr Iaith Gymraeg bod dim disgwyl gweld costau ar wahân i’r rhai a nodir yn y strategaeth. Roedd cyllideb o £13,000 cyn y Safonau, a oedd wedi cynyddu i £58,000, gyda gorwariant posib ar hyn o bryd.

 

Mewn ymateb i’r cwestiynau yn ymwneud â goblygiadau Adnoddau Dynol y strategaeth, gofynnwyd am eglurder o ran gofynion y Gymraeg ar gyfer swyddi allweddol. Fe esboniodd Swyddog yr Iaith Gymraeg bod cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg sy’n gweithio yn y Cyngor yn rhan o gynllunio’r gweithlu. Byddai’r cyfarfod nesaf gyda’r DMTs yn edrych ar strwythurau staffio. O ran disgrifiadau swydd, ble roedd siaradwr Cymraeg yn hanfodol i’r rôl, byddai hyn yn rhan o’r meini prawf hanfodol ar y disgrifiad, fel gydag unrhyw swydd arall. O ran staff yn dysgu Cymraeg, mae ychydig o arian ar gael er mwyn hyfforddi staff ar y rheng flaen ar y dderbynfa, mewn hybiau ac ati.

 

Mynegodd Aelodau rhwystredigaeth yn ymwneud â’r Gymraeg yn cymryd blaenoriaeth dros y Saesneg, yn benodol ar alwadau ffôn ac arwyddion ffordd. Credwyd ei bod yn achos o’r lleiafrif yn gorchymyn y mwyafrif.

 

Fe gyfeiriodd y Cynghorydd Hayward at ragair yr adroddiad, a’r datganiad bod nifer y siaradwyr Cymraeg wedi cynyddu i 8780 mewn 25 mlynedd a bod addysg Gymraeg gorfodol wedi bod mewn ysgolion am nifer o’r 25 mlynedd hynny. Y canfyddiad felly oedd bod y fenter wedi bod yn fethiant ac y byddai gwario rhagor o arian ar y fenter yn wastraff. Mewn ymateb i hyn, fe esboniodd yr Aelod o’r Cabinet wrth drin yr iaith fel ymarfer academaidd heb unrhyw gyfle i’w defnyddio y tu allan i’r awyrgylch honno, y byddai’n cael ei anghofio yn hawdd. Er mwyn cydymffurfio â’r polisi, y nod oedd bod yn ddeinamig a’i defnyddio y tu allan i awyrgylch yr ysgol.

 

Fe gadarnhaodd y Cynghorydd Hobson y byddai pryderon yn ymwneud ag arwyddion ffordd yn cael eu hadrodd yn ôl i’r Comisiynydd a’r Gweinidog maes o law.

 

Fe ddarparodd y Prif Swyddog eglurder o ran y pryderon yn ymwneud â thargedau’r canrannau. 

 

Wrth gael ei roi i’r bleidlais, fe benderfynodd y Cyngor gytuno i’r argymhelliad yn yr adroddiad:

 

·         Bod y Cyngor yn cytuno i’r Strategaeth 5 Mlynedd hon fel sy’n ofynnol gan Safon 145 fel y nodir ym Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

 

Dogfennau ategol: