Agenda item

Cynnig gan y Cynghorydd Sir R.J.W. Greenland

Mae'r Cyngor hwn yn croesawu'r cyhoeddiad gan Lywodraeth Ei Mawrhydi y caiff tollau ar gyfer Pontydd Hafren eu haneru yn 2018. Ymhellach rydym yn cefnogi dileu'r holl dollau ar gyfer y ddwy bont gyda chostau cynnal a chadw y dyfodol yn cael eu talu o gyllideb gyffredinol cynnal a chadw ffyrdd y Deyrnas Unedig.

 

Roedd twristiaeth yn werth £187 miliwn i economi Sir Fynwy, gydag ymweliadau dydd wedi cynhyrchu £53 miliwn Disgwylir y bydd hyn yn cynyddu pan gaiff tollau eu gostwng neu eu dileu o gofio am dystiolaeth anecdotaidd fod tollau'n atal traffig coetsis ymwelwyr ac ymwelwyr dydd a thystiolaeth arolwg y dywedodd 22% o breswylwyr de orllewin Lloegr y byddent yn disgwyl gwneud mwy o ymweliadau i Gymru yn y deuddeg mis nesaf pe byddai tollau Hafren yn cael eu dileu.

 

Gan fod gan ymwelwyr dydd y potensial i gefnogi'r sector manwerthu annibynnol llewyrchus yn ne Sir Fynwy, mae hyn yn rhoi cyfleoedd pellach ar gyfer adfywio ein stryd fawr, llinyn allweddol yn ein gweithgareddau datblygu economaidd. Drwy ein cysylltiadau rheolaidd  gyda sefydliadau masnach a busnes yn y Sir byddwn yn parhau i weitho mewn partneriaeth i ddatblygu twf cynaliadwy yn y Sir.

 

Yn rhanbarthol, byddwn yn parhau i chwarae ein rhan yn natblygiad Prifddinas-ranbarth Caerdydd. Bydd adfywio economaidd ar ganol y llwyfan yn nyfodol Sir Fynwy, gan ddod â chyfleoedd newydd ar gyfer cynyddu ffyniant ledled y rhanbarth yn arbennig yng nghwmnïau technoleg newydd y dyfodol.

 

Ar yr un pryd rydym yn cydnabod y gallau gostwng tollau ddod ag anfanteision i Sir Fynwy. Byddwn yn parhau i fonitro pob problem bosibl a gweithredu'n unol â hynny i sicrhau'r canlyniadau gorau ar gyfer preswylwyr Sir Fynwy.

 

Mae'r Cyngor hwn felly'n ailgadarnhau ein bwriad i barhau i hyrwyddo Sir Fynwy fel y lle i adeiladu busnes o fewn de Cymru a gorllewin Lloegr tra hefyd yn hyrwyddo de Sir Fonwy fel cyrchfan siopa ansawdd uchel. Caiff y gweithgaredd hyrwyddo hwn ei gynyddu yn y misoedd i ddod wrth i'r gostyngiad yng nghost tollau ddod yn agosach. 

 

 

Cofnodion:

Fe groesawodd y Cyngor y cyhoeddiad gan Lywodraeth ei Mawrhydi y byddai’r tollau ar gyfer Pontydd Hafren yn cael eu haneru yn 2018. Ar ben hynny, rydym yn cefnogi cael gwared â’r tollau ar gyfer y ddwy bont gyda chostau cynnal a chadw pellach yn cael eu talu o gyllideb gyffredinol cynnal a chadw ffyrdd y DU.

 

Yn 2015, roedd twristiaeth gwerth £187 miliwn i economi Sir Fynwy, roedd ymweliadau undydd yn cynhyrchu £53 miliwn. Mae disgwyl i hyn gynyddu pan mae’r tollau yn cael eu gostwng neu eu dileu gan ystyried tystiolaeth anecdotaidd bod y tollau’n golygu bod llai o draffig coetsis ac ymwelwyr undydd yn ymweld a thystiolaeth arolwg a oedd yn dweud y byddai 22% o drigolion de orllewin Lloegr yn disgwyl gwneud mwy o dripiau i Gymru yn y deuddeg mis diwethaf pe byddai Tollau Pontydd Hafren yn cael eu dileu.

 

Gan fod gan ymwelwyr undydd y potensial i gefnogi’r sector masnach annibynnol sy’n ffynnu yn ne Sir Fynwy, mae hyn yn cyflwyno rhagor o gyfleoedd i adfywio ein strydoedd mawr, llinyn allweddol o’n gweithgareddau datblygiad economaidd. Trwy ein cysylltiadau rheolaidd gyda sefydliadau masnach a busnes yn y Sir, byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth i ddatblygu twf cynaliadwy yn y Sir.

 

Ar yr ochr ranbarthol, byddwn yn parhau i chwarae ein rhan yn natblygiad Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, bydd adfywiad economaidd yn ganolog i ddyfodol Sir Fynwy, gan ddarparu cyfleoedd newydd i gynyddu ffyniant ledled y rhanbarth yn enwedig yng nghwmnïau technoleg newydd y dyfodol.

 

Ar yr un pryd, rydym yn cydnabod y gallai gostwng y tollau fod yn anfanteisiol i Sir Fynwy. Byddwn yn parhau i fonitro’r holl faterion posib a gweithredu yn unol â’r rhain er mwy sicrhau’r canlyniadau gorau ar gyfer trigolion Sir Fynwy.

 

Mae’r Cyngor hwn felly’n ail-ddatgan ein bwriad i barhau i hyrwyddo Sir Fynwy fel lle i adeiladu busnes o fewn de Cymru a gorllewin Lloegr tra hefyd yn hyrwyddo Sir Fynwy fel cyrchfan siopa o ansawdd. Bydd y gweithgareddau hyrwyddo hyn yn cael eu cynyddu yn y misoedd i ddod wrth i’r gostyngiad yn y tollau agosáu.

 

Eiliwyd y cynnig.

 

Roedd y Cynghorydd Batrouni yn gyffredinol yn cytuno gyda'r cynnig a nododd y byddai’r gostyngiad yn y tollau yn newyddion da i deithwyr, busnesau lleol a thwristiaeth. Gofynnwyd am eglurder ar yr agwedd o’r cynnig a oedd yn nodi bod y Cyngor yn cefnogi cael gwared â’r tollau oherwydd nid oedd yr ymgynghoriad wedi cefnogi cael gwared â’r tollau yn 2018. Fe ymatebodd y Cynghorydd Greenland gan ddweud mai’r modd cywir byddai cael gwared â rhwystr tollau yn gyfan gwbl er mwyn sicrhau masnach rydd rhwng Gorllewin Lloegr a Chymru, ond roedd yn deall barn yr Ysgrifennydd Gwladol.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Batrouni addasiad i’r cynnig, gan ychwanegu brawddeg i’r paragraff olaf, i ddarllen;

 

·         Ar yr un pryd, rydym yn cydnabod y gallai gostwng y tollau ddod ag anfanteision i Sir Fynwy. Byddwn yn parhau i fonitro’r holl faterion posib a gweithredu yn unol â’r rhain er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau i drigolion Sir Fynwy. Yn benodol, byddwn yn gwylio prisiau tai yn Ne Ddwyrain Sir Fynwy yn agos ac yn ystyried pris tai fforddiadwy yn yr ardal, fel na fod pobl leol, yn enwedig pobl ifanc, yn cael eu prisio allan o’r farchnad dai.

 

Eiliwyd yr addasiad a dyna oedd y cynnig newydd. Parhawyd gyda’r drafodaeth.

 

Fe gyfeiriodd y Cynghorydd Howarth at y mater o dai fforddiadwy ac fe ofynnodd am eglurder o ran a fyddai’r Cynllun Datblygu Lleol yn cael ei ystyried eto. Mewn ymateb i hyn, fe gynghorodd y Cynghorydd Greenland bod yna gwestiwn o ddichonoldeb ar gyfer amryw gynlluniau tai ar draws pob awdurdod. Mae cyfran rhy fawr o dai fforddiadwy yn cael eu hawgrymu ar gyfer rhai safleoedd tai a allai olygu bod rhai cynlluniau ddim yn ddichonadwy bellach. Mae cynigion ein bod yn edrych ar y Cynllun Datblygu Lleol a’r materion a wynebir.

 

Fe gynghorodd y Cynghorydd S. Jones, fel Cadeirydd Pwyllgor Dethol yr Economi a Datblygu, bod cyfarfod arbennig wedi cael ei drefnu i graffu tai fforddiadwy ar 14 Chwefror 2017. Bydd y Pwyllgor hefyd yn edrych ar yr adolygiad o’r Cynllun Datblygu Lleol.

 

Fe fynegodd rhai Aelodau bryder y gellir dehongli’r cynnig fel datganiad yn hytrach na chynnig. Esboniodd y Cadeirydd bod y cynnig wedi cael ei derbyn fel eitem ar yr agenda.

 

Fe esboniodd y Cynghorydd Hobson bod tai fforddiadwy yn hanfodol ac mai’r lefel mynediad ar gyfer prynwr cyntaf yng Nghas-gwent ar hyn o bryd yw £160,000.  Gyda chyflwyniad y gostyngiad yn y tollau, byddai’r ffigwr hwn yn cynyddu. Byddai angen ailedrych ar y Cynllun Datblygu Lleol ym mlwydd newydd tymor y Cyngor.

 

Roedd rhai Aelodau Annibynnol yn awyddus i fynegi mai ymateb gwleidyddol oedd y cynnig ac nid oedd yn ystyried y goblygiadau yn llawn. Awgrymwyd y dylid cynnal modelu go iawn ar sut gellir defnyddio’r tollau. Fe gyflwynwyd awgrym o gronfa trafnidiaeth integredig arloesol i’r Cyngor.

 

Fe fynegwyd pryderon bod y cynnig yn cyfeirio at gynnydd yn nifer yr ymwelwyr undydd, ond ar yr un pryd roedd Canolfannau Croeso yn cau.

 

Fe ddiolchodd yr Arweinydd i’r Gr?p Llafur am ei diwygiad, gan gadarnhau ei gefnogaeth amdano. Fe ychwanegodd bod tollau’r pontydd wedi bod yn rhwystr economaidd yn rhy hir ac y byddai’r gostyngiad yn datgloi cyfleoedd a buddion i ddefnyddwyr masnachol a busnesau bach. Fe gytunodd bod angen mynd i’r afael â’r mater o dai.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Farley am sicrwydd ar gyfer pobl Cas-gwent yn benodol, ble fyddai triniaeth y Ganolfan Groeso yn eistedd yn sgil y cynnig, a gofynnodd am ganlyniad gydag adnoddau digonol. Fe ymatebodd y Cynghorydd Greenland gan ddweud ei bod wedi gofyn bod cyfarfod yn cael ei drefnu gyda’r sawl â diddordeb yng Nghas-gwent i drafod y ffordd ymlaen.

 

Fe gynhaliodd y Cyngor bleidlais ar gofnod:

 

O blaid 33

Yn erbyn         2

Ymataliadau    3

 

Felly, fe gariwyd y cynnig newydd.