Cyd-destun:
-
Craffuar y drafft
gynigion ar
yr arbedion
yn y gyllideb sydd
eu hangen i
gwrdd â’rbwlch rhwng
yr adnoddau
sydd ar
gael
a’r angen i wario
yn 2017/18, at ddibenion ymgynghori.
-
Craffuar gyllideb 2017/18 o
fewn cyd-destun y Cynllun
Ariannol Tymor Canolig (CATC) ac
ystyried y blaenoriaethau i yrru
ymlaen weithgareddau drwy Sir
Fynwy’r Dyfodol.
MaterionAllweddol:
Craffodd y
Pwyllgor Dethol ar gynigion cyllideb y
Gyfarwyddiaeth Plant a Phobl Ifanc,
fel yr
amlinellir yn Atodiad 3B
yn yr
adroddiad, a oedd yn cyfateb i arbediad o
£245,461.
CraffuAelodau:
-
Ystyriwydna chanfuwyd unrhyw
bwysau arwyddocaol o fewn y
Gyfarwyddiaeth Plant a Phobl Ifanc.
-
Nodwyd, flwyddyn yn
ôl, y tybiwyd y byddai
angen cynnydd o 4.95% yn y
Dreth Gyngor. Fodd
bynnag, roedd y swm
wedi’i leihau i 3.95%.
Nodwyd y byddai cynnydd
yn y Dreth
Gyngor i 4.5% yn cael gwared ar y
diffyg yn y
gyllideb o £243,000 ar gyfer y Cyngor llawn.
-
Mewnymateb i gwestiwn gan
Aelod o’r Pwyllgor
Dethol ynghylch her allanol ac
annibynnol, fel yr amlinellir ym
mharagraffau 3.8 a 3.9 o’r adroddiad,
nodwyd y defnyddiwyd cwmni
yr ymgysylltwyd ag
ef drwy
gyfrwng y gwaith a gyflawnwyd
drwy Sir Fynwy’r Dyfodol a
gynorthwyodd i amlinellu cynigion
cyllideb 2017/18. O weithio gyda’n
gilydd, cynhyrchwyd darn o waith a sicrhaodd
nad
oedd yr
Awdurdod yn
colli cyfleoedd yn y
dyfodol. Bu’r broses o gymorth i adnabod y
gwaith sy’n debygol o
ddod i’n rhan
yn y blynyddoedd i ddod.
-
Mewnymateb i gwestiwn gan
Aelod o’r Pwyllgor
Dethol ynghylch cyfeiriad at
ostyngiad mewn gwariant
ar ffioedd
proffesiynol, nodwyd bod hyn
yn cyfeirio
at y costau cyfreithiol yn
gysylltiedig â rhai o’r
prosesau gaiff eu rhedeg yn fewnol. Mae swyddogion
yn edrych
at sicrhau bod gan staff y sgiliau
priodol a gaiff eu darparu’n fewnol.
-
Mewnymateb i gwestiwn gan
Aelod o’r Pwyllgor
Dethol, dywedodd Pennaeth
Cynorthwyol Cyllid y byddai’n
darparu ar
gyfer yr
Aelod gopi
diweddar o Reolaeth y Trysorlys, a
gaiff ei
gyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio bob
chwe mis.
Bydd y benthyciad net ar
ddiwedd y flwyddyn oddeutu
£88,000,000 sy’n
gyfystyr ag
amrywiaeth o fenthyciadau. Mae graddfa cydfenthyciad y
Cyngor yn
4.5%. Fodd
bynnag, bydd nifer o’r benthyciadau
hyn yn
hanesyddol eu natur a byddant yn adlewyrchu’r ffaith bod graddau
llog yn y
gorffennol yn uwch nag y
maent nawr.
Felly, mae’r raddfa gyfunol
ar draws y Cyngor oddeutu 4.5%.
Bob blwyddyn, mae’r Awdurdod
yn talu
nôl
£3.4m mewn egwyddor a £2.9m o log
allanol.
-
Symud
y gyllideb hyfforddiant - fe ystyriwyd y
gellid defnyddio’r ffordd roedd y
gyllideb hyfforddiant yn
cael ei
strwythuro yn y Gyfarwyddiaeth
yn fwy
effeithiol. Felly, mae’r gyllideb o
£8000 wedi cael ei symud. Bydd
cyllidebau timoedd o fewn y
Gyfarwyddiaeth nawr yn cwrdd ag anghenion hyfforddiant
staff.
-
Gellirgwireddu arbedion
pellach mewn Gwasanaethau
Cynnal drwy
ddwyn y gwasanaethau hyn at
ei gilydd i
greu arbedion.
-
ArbedionDarpariaeth y Blynyddoedd Cynnar o
£14,500 – Am gyfnod o
amser roedd
trefniant cyllido dwbl,
h.y. derbynnid cyllid
oddi wrth
Lywodraeth Cymru drwy gyfrwng grant. Hefyd,
roedd cyllid drwy
gyfrwng cyllideb sylfaenol
yr Awdurdod. Gwireddwyd
yr arian hwn
bellach a chyllidir y gwasanaeth
hwn drwy
gyfrwng y Grant o Lywodraeth Cymru.
-
Y gostyngiad o
£50,000 yng Nghyllideb Ysgolion
Annibynnol Arbennig – Drwy
gomisiynu llefydd yn fwy effeithiol
yn y sector annibynnol ar
gyfer plant Sir Fynwy ag Anghenion Dysgu
Arbennig, bydd yr Awdurdod yn
edrych ar
leihau’r gyllideb hon.
-
Bu gostyngiad
mewn niferoedd disgyblion
gan arwain
at arbediad o £81,000.
Bydd yr
Awdurdod bob amser yn gweithio i sicrhau bod
gan bob ysgol y lefel
briodol o gyllid a’r
lefelau staffio priodol
ar gyfer y
nifer o blant sydd ganddi.
-
Gostyngiad
o £13,500 yn y
cyfraniad sydd ei angen gan y
Gwasanaeth Cyflawni Addysg (GCA).
Daeth hyn i
fod drwy
drafodaethau gyda’r Bwrdd GCA.
Cydnabu’r GCA y gallai leihau’i
gostau rhedeg y gwasanaeth
yn ganolog.
Ni chaiff hyn effaith
andwyol ar
ysgolion, oherwydd os
symuda ysgol i mewn i
ddiffyg, bydd tîm
ariannol yr
Awdurdod yn
darparu cymorth drwy weithredu’r cynlluniau adfer.
-
Mewnymateb i gwestiwn gan
Aelod o’r Pwyllgor
Dethol ynghylch ysgolion
sy’n cynyddu’u niferoedd o ddisgyblion
ar y gofrestr, nodwyd bod y
swm o £81 000 yn ostyngiad
yn y quantum sy’n mynd i
mewn i’r fformiwla.
-
Mae rhychwant y
Rhaglen Ysgolionyr 21ain Ganrif yn dangos buddsoddiad
sylweddol ac mae’r Awdurdod
yn ymwybodol bod angen
i’r rhaglen hon gael ei
chyflawni ar amser ac o
fewn y gyllideb. Gwelir y
budd i’r plant parthed
y buddsoddiad hwn maes o law.
-
Cyllidwydyr Awdurdod
yn well na’r disgwyl y
flwyddyn hon a hyd yn oed o fewn y
setliad gwell hwn, ni allodd yr Awdurdod ond
gwastatáu
cyllid yn
unig i ysgolion. Golyga
hynny, pe
bai gwaeth
setliad y flwyddyn nesaf,
mae’n ddyletswydd ar
yr Awdurdod
i gymryd yr
arweinyddiaeth gydag ysgolion Sir
Fynwy i sicrhau eu bod
yn deall
lle mae’u costau ac
fel y gallent gael
eu lleihau
ar draws yr
holl systemau ysgol i
sicrhau eu
bod yn gallu cyflawni’r
lefel o addysgu a dysgu y mae’r
Awdurdod yn
ei disgwyl.
-
Rhagwelir
y bydd yn rhaid i’r Awdurdod
ddod o hyd
i wahanol ffyrdd o weithio
mewn perthynas ag
ysgolion a bod yn barod i weithio’n fwy
cydweithredol yn y dyfodol.
-
Cyfeiriaailstrwythuro Mounton House at y staff arlwyo sy’n
cael eu
cyflogi gan
yr uned
arlwyo ac nid yr ysgol. Cyfeiria’r
mater hwn at y modd mae prydau’n cael
eu darparu.
-
Mewnymateb i gwestiwn gan
Aelod o’r Pwyllgor
Dethol, nodwyd, dan y
cynllun sicrhau rhagoriaeth,
bod Adran y Gwasanaethau Plant yn
edrych ar
gyflawni strwythur staffio
priodol, lleihau’r defnydd
o staff asiantaeth, gwella cynigion
gwasanaeth a lleihau’r ddibyniaeth ar
lefydd allanol. Felly, dwyn
Gwasanaethau Plant i weithredu o fewn
ei gyfyngiadau.
-
Mae’rholl gynigion
arbed arian ar
gyfer Gofal
Cymdeithasol ac Iechyd yn cael eu canoli ar Wasanaethau Oedolion.
Parthed Gwasanaethau Plant, bydd 2017/18 yn
amser i atgyfnerthu a phwyso a
mesur. Mae cyllidebau’n cael
eu hailalinio yn
unol â’rcynllun tair
blynedd i sicrhau rhagoriaeth.
-
Cydnabuwyd
bod pwysau’n
dwyn ansicrwydd ac mae’n wir
dweud, ar
draws yr Awdurdod, bod afiechyd
ynghlwm wrth bwysau
ar gynnydd. Mae’r sefyllfa
bresennol yn heriol ar gyfer pob sefyllfa. Felly,
mae’r Awdurdod yn
gweithio gydag ysgolion
mewn ffordd
gadarnhaol a rhagweithiol i’w
helpu i leihau’r effaith
ar eu staff
addysgu.
Casgliad
y Pwyllgor:
Crynhodd y
Cadeirydd fel a ganlyn:
- Diolchodd i
swyddogion am gyflwyno’r adroddiad.
-
Dylidgwahodd yr holl Aelodau Cabinet i gyfarfod y Cydbwyllgor
Dethol ar 31ain
Ionawr 2017.
-
Atodiadauar faterion
cysylltiedig i’w hatodi
i’r adroddiad mewn
perthynas â’rgyfarwyddiaeth benodol.
|