Agenda item

Drafft Gynigion Cyllideb Gyfalaf 2017/18 i 2020/21.

Cofnodion:

Cyd-destun:

 

Craffu’rgyllideb gyfalaf arfaethedig ar gyfer 2017/18 a’r cyllidebau cyfalaf dangosol ar gyfer y tair blynedd 2018/19 i 2020/21.

 

MaterionAllweddol:

Materionyn ymwneud â’r Cynllun Cyfalaf Ariannol Tymor Canolig (CATC):

  • Adolygir y rhaglen gyfalaf bedair blynedd yn flynyddol a chaiff ei diweddaru i gymryd i ystyriaeth unrhyw wybodaeth newydd sy’n berthnasol.

 

  • Prifgydran y CATC cyfalaf ar gyfer yr ychydig flynyddoedd i ddod yw Rhaglen Ysgolion y Dyfodol. Mae’r Cyngor yn ddiweddar wedi cymeradwyo cyllid pellach ar gyfer y rhaglen hon yn ei gyfarfod ar yr 20fed Hydref 2016.

 

  • Mae nifer o feysydd eraill lle mae ymrwymiad i fuddsoddi. Fodd bynnag, mae’r cynlluniau ar hyn o bryd yn gorwedd y tu allan i’r rhaglen waith fel mae’r gwaith yn mynd rhagddo i glustnodi’r gofynion cyllido.  Y rhain yw:

 

-       PwllTrefynwy - ymrwymiad i ail-ddarparu’r pwll yn Nhrefynwy o ganlyniad i Raglen Ysgolion y Dyfodol.

 

-       Hyb Y Fenni - ymrwymiad i ail-ddarparu’r llyfrgell gyda’r Siop Un Stop yn Y Fenni i gwblhau creu hyb ym mhob un o’r trefi.

 

-       GrantiauCyfleusterau i’r Anablmae’r galw am grantiau ar hyn o bryd yn llawer mwy na’r gyllideb. Mae gwaith yn cael ei gyflawni i asesu lefel y buddsoddiad sydd ei angen i fwyafu’r effaith a’r budd i’r rheiny sy’n derbyn y grantiau.

 

-       Y Fargen Ddinesig - Mae 10 Awdurdod ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd â’u golygon ar Fargen Ddinesig bosib o £1.2 biliwn. Ceisir cytundeb ar draws y rhanbarth i ymrwymo i’r rhaglen hon yn Ionawr 2017 ac felly byddai’n effeithio ar y CATC. Modelir yr effaith bosib ar gyllidebau awdurdodau unigol ar y blaen i benderfyniadau ar brosiectau a phroffiliau penodol er mwyn i awdurdodau ddechrau meddwl am yr ymrwymiad yn eu CATCiau..

 

-       Bloc J ac E – Mae rhaglen resymoli’r swyddfa’n cael ei hystyried i weld a oes ateb a fyddai’n galluogi safleoedd Magwyr a Brynbuga i gael eu hatgyfnerthu, gan ryddhau cyllid i dalu am y buddsoddiad angenrheidiol i ddod â’r blociau nôl i’w defnyddio.

 

  • Datblygirstrategaeth sy’n galluogi’r rhaglen graidd, Ysgolion y Dyfodol a’r cynlluniau uchod i gael eu cytuno. Er gwaethaf hyn, deil  cryn dipyn o bwysau sy’n gorwedd y tu allan i unrhyw bosibilrwydd i’w cyllido o fewn Cyfalaf CATC ac mae risg sylweddol ynghlwmwrth hyn. Mae’r Cabinet wedi derbyn y risg hon yn flaenorol.

 

  • Y polisi presennol yw y gellir ychwanegu cynlluniau newydd pellach at y rhaglen hon yn unig os yw’r achos busnes yn dangos eu bod yn hunan-gyllidol neu’r ymddengys bod y cynllun yn flaenoriaeth uwch na chynlluniau cyfredol yn y rhaglen ac felly’n eu disodli.

 

  • Yngryno, nodwyd y materion a’r pwysau canlynol eraill:

 

-       Rhestrhir o bwysau wrth gefnisadeiledd, eiddo, gwaith Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd, Hawliau Tramwy Cyhoeddus, fel yr amlinellir yn Atodiad 1 o’r adroddiad. Ni chynhwysir un rhyw rai o’r pwysau hyn yng Nghynlluniau Ariannol Tymor Canolig y cyfalaf cyfredol, ond mae hyn yn dwyn risg sylweddol gydag ef.

 

-       Angenbuddsoddiad cyfalaf i gyflawni arbedion refeniwmae hyn yn bennaf ym maes swyddfeydd ac edrych ar ffyrdd eraill o ddiwallu’r angen ar gyfer hamdden a diwylliant, gofal cymdeithasol, buddsoddi eiddo ac o bosib Anghenion Addysgol Ychwanegol. Ar hyn o bryd asesir y lefel o fuddsoddiad. Fodd bynnag, yn unol â’r egwyddor a sefydlwyd eisoes, os nad yw’r cynlluniau’n mynd i ddisodli unrhyw beth sydd eisoes yn y rhaglen yna bydd angen i gost unrhyw fenthyciad ychwanegol gael ei   thynnu o’r arbedion i’w gwneud.

 

-       Mae cronfa wrth gefn TG wedi prinhau felly mae’r cyllid ar gyfer unrhyw fuddsoddiad mewn TG yn gyfyngedig. Bydd angen i unrhyw gynlluniau TG ychwanegol naill ai fedru talu drostynt eu hunain neu ddisodli cynlluniau eraill yn y rhaglen.

 

-       CylchfforddCymrumae’r Awdurdod wedi ymgymryd â gwaith diwydrwydd dyladwy ar fersiwn o’r cynnig a ddaeth i’r casgliad i beidio â mynd rhagddo, mae’r cynnig presennol yn cael ei ystyried gan Lywodraeth Cymru heb fynd ar ofyn cyllid gan yr Awdurdod Lleol. 

 

CraffuAelodau:

 

  • Mae’rrhaglen ar gyfer Ysgolion yr 21ain Ganrif yn cyfeirio at y cyllidebau ar gyfer rhaglen Ysgolion y Dyfodol a gymeradwywyd, gan gynnwys yr ysgolion newydd yn Nhrefynwy a Chas-gwent ac nid yw’n cynnwys cyllidebau ar gyfer Ysgol Cas-gwent nac Ysgol y Brenin Harri’r VIII. Mewn ymateb, nodwyd, nes bod Llywodraeth Cymru’n datgelu’i gynigion mewn perthynas â Band B, nid yw’r Awdurdod yn gallu darparu unrhyw wybodaeth ynghylch datblygiad yr ysgolion hyn. Fodd bynnag, mae Cyngor Sir Fynwy wedi ymrwymo i’w strategaeth pedair ysgol mewn perthynas â’r Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.

 

  • Mewnymateb i gwestiwn gan Aelod o’r Pwyllgor Dethol ynghylch y gost o ddarparu Ysgolion yr 21ain Ganrif, nodwyd bod adroddiad wedi’i gyflwyno i’r Cyngor a oedd wedi estyn swm y gwariant oedd yn ofynnol ar gyfer Ysgolion Trefynwy a Chas-gwent. Cynhwyswyd y cyllid hwn yn y Rhaglen Gyfalaf a gaiff ei chyllido, hanner gan yr Awdurdod a hanner gan Lywodraeth Cymru, Felly mae’r gyllideb ar gyfer y ddwy ysgol wedi’i gosod a’i hariannu. Mae cyfanswm y gost yn dod i £49,000,000 ar gyfer Ysgol Trefynwy a £41,000,000 ar gyfer Ysgol Cil-y-coed. Parthed pwll nofio Trefynwy, roedd yn dal angen gwaith pellach a hyd yn hyn nid oedd ffigur diffiniol ar gyfer y cynnig hwn ar gael.

 

  • Gwireddir y cyllid cyffredinol drwy gyfrwng benthyca rhannol, adnoddau rhannol Llywodraeth Cymru a derbynebau cyfalaf rhannol.

 

  • Gallai’rGyllideb ar gyfer Rheoli Ardal, swm o £20,000, gael ei lleihau ymhellach neu’i thorri yn wyneb pwysau eraill. Nodwyd bod adolygiad o Reoli Ardal yn digwydd. Felly, fe fu penderfyniad i adael y gyllideb o £20,000 yn ei lle am nawr tan i’r adolygiad gael ei gwblhau. Gwneir y penderfyniad hwn gan y Cyngor Llawn. 

 

Casgliad y Pwyllgor:

 

Crynhodd y Cadeirydd fel a ganlyn:

 

  • Diolchoddi’r swyddogion am gyflwyno’r adroddiad.

 

  • Caiff y rhaglen gyfalaf bedair blynedd ei hadolygu a’i diweddaru’n flynyddol a bydd yn cael ei chraffu’n unigol gan bob un o’r pedwar pwyllgor dethol..

 

  • Cyflwynircynigion cyllideb cyfalaf terfynol i’r Cabinet a’r Cyngor yn Chwefror a Mawrth 2017.

 

 

Dogfennau ategol: