Agenda item

CAIS DC/2015/00972 – ADEILADU 8 TŶ (3 UNED FFORDDIADWY A 5 TŶ AR Y FARCHNAD). Y TIR NESAF AT WALNUT TREE COTTAGE, HEOL NEWPORT, LLANGYBI.

Cofnodion:

Rhoesomystyriaeth i adroddiad y cais, a’r ohebiaeth hwyr a gyflwynwyd, i’w gymeradwyo yn amodol ar y 10 amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn amodol ar gytundeb cyfreithiol Adran 106 yn gwneud cais bod tair o’r unedau’n unedau fforddiadwy a’u bod yn cael eu trosglwyddo i ddarparwr tai cymdeithasol.

 

Wrthnodi manylion y cais, atgoffwyd Aelodau bod y cais wedi’i gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio yn ei gyfarfod ar 6ed Rhagfyr 2016 gydag argymhelliad i’w wrthod. Roedd y penderfyniad parthed y cais wedi’i ohirio er mwyn ystyried diwygiadau i’r cynllun arfaethedig a dyluniad y datblygiad.

 

Mae cynlluniau diwygiedig nawr wedi’u cyflwyno yn dangos newidiadau i ddyluniad yr unedau preswyl a gyda chynllun diwygiedig yn dangos ffordd fynediad wedi’i pheiriannu llai a threfniant parcio mwy rhesymol. Gwnaed diwygiadau hefyd i’r ddau fflat ar leiniau 5 a 6. Ail-leolwyd y fynedfa i ochr ogleddol yr adeilad ac mae nawr risiau gorchuddiedig. Dim ond dwy ffenestr sydd nawr ar y wedd ogledd-ddwyreiniol (yn wynebu tuag at Llangybi House) ac mae’r ddwy’n gwasanaethu ystafell ymolchi.

 

Mynychodd y Cynghorydd J. Love, yn cynrychioli Cyngor Cymuned Llangybi, y cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau canlynol:

 

 

  • Mae’rCyngor Cymuned yn edifar na chynhaliwyd ymweliad safle. Cyrhaeddodd Cynghorwyr Cymuned ar y dyddiad yn Rhagfyr dim ond i ddeall bod yr ymweliad wedi’i ohirio tan i’r diwygiadau y gwnaed cais amdanynt gael eu cyflwyno.

 

  • Nidaeth Aelodau’r Pwyllgor i’r safle i gael gwell darlun o nodweddion y lleoliadau.

 

  • Ni ellid dangos prif bryderon y Cyngor Cymuned yn eu gwir gyd-destun.

 

  • Mae Swyddog Treftadaeth y Cyngor Sir yn honni bod gan ran isaf, fwyaf dwyreiniol Llangybi gymeriad hollol wahanol, unigryw, am y ffin â’rLôn Ynys gul, hanesyddol wledig, gyda llawer o adeiladau rhestredig, eglwys restredig Gradd II* gyda murlun unigryw, yn agored i effeithiau dirgryniadau’r ddaear, dwy fynwent a ffynnon sanctaidd hynafol rhestredig gan Cadw. Effeithir yn ddifrifol ar y cyfan gan agosrwydd a dwysedd y datblygiad.

 

  • Difethiryr olygfa werdd o Langybi o Wentwood ar draws y gweirgloddiau d?r hynafol ac mae’r Cyngor Cymuned yn rhagfynegi y bydd preswylwyr posib y safle hwn yn y dyfodol naill ai’n cwyno am orlifo neu ganu wyth cloch eglwys. 

 

  • Yrhyn sy’n gwneud y cynlluniau’n amhriodol yn ogystal yw gor-amlygrwydd y pum eiddo gwerth marchnadol mawr gyda rhy ychydig o lawer o eiddo fforddiadwy nad ydynt yn ddeniadol o ran dyluniad, gyda’r tri eiddo arfaethedig yn un bloc bychan yn unig gyda dau fflat un ystafell wely lled ar wahân ac un arall, dim un ohonynt â garej. 

 

  • Mae Cynllun a Arweinir gan y Gymuned 2014 yn ymrwymo’r  Cyngor Cymuned i gefnogi dymuniadau preswylwyr  am fwy o dai fforddiadwy, ond heb fod am fwy o dai gwerth marchnadol mawr, eto mae’r datblygiad arfaethedig hwn yn gwneud ond ychydig tuag at fforddiadwyedd.

 

  •  Prif bryder arall y Cyngor Cymuned yw’r mynediad i brif heol beryglus, brysur iawn. Pan gymeradwywyd y mynediad yn 2012, roedd ar gyfer dau gerbyd i’r bwthyn and bellach gellid gweld llawer mwy yn ei ddefnyddio, o bosib 10 gwaith yn fwy na’r nifer a ddisgwylid.

 

  • Ni all lleiniau gwelededd arfaethedig guddio’r ffaith, o gyfeiriad Brynbuga, bod y tro yn nesaf at ymyl de-orllewinol Walnut Tree Cottage yn cuddio’r mynediad arfaethedig yn gyfan gwbl o fewn ychydig lathenni o’r tro hwnnw. Mae’r heol hon eisoes wedi hawlio un farwolaeth a sawl damwain ddifrifol. Mae sesiynau’r Cynllun Gwarchod Cyflymder a fen camera’r Heddlu wedi dangos y cynnydd ym maint y traffig. Ers Medi 2016, mae’r Cynllun Gwarchod Cyflymder wedi cofnodi dros 50 o gerbydau’n gwneud mwy na’r cyfyngder cyflymdra o 30 milltir yr awr, yn teithio tuag at  Gaerllion yn bennaf.

 

  • Nidyw cynnig yr ymgeisydd o £10,000 tuag at fesurau llonyddu traffig yn ymarferol oherwydd nifer a maint y cerbydau sy’n gyrru drwy’r pentref.

 

  • Effeithirar yr hawl tramwy o’r pentref i’r llwybr troed cyhoeddus ar ben y bryn tuag at Tredunnoc gan y lleiniau gwelededd, gan niweidio dynesiad y cerddwyr o Gaerllion ac yn peryglu’r un o Langybi.

 

  • Mae gan y Priffyrdd bryderon ynghylch hawliau tramwy, gan gynghori na chaniateir y cais tan i’r materion hyn gael eu datrys..

 

  • Mae meini prawf y Cynllun Datblygu Lleol yn diffinio Llangybi fel prif bentref yn addas ar gyfer datblygu pellach. Mae hyn yn anghynaladwy gan fod y siop a’r swyddfa bost wedi bod ar gau am yn agos i flwyddyn.

 

  • Nidyw’r gwasanaeth bws gwael, sydd hefyd mewn perygl, o ddefnydd i’r preswylwyr di-gar sydd angen cymudo i’w gwaith yng Nghaerdydd.

 

  • Mae’rCyngor Cymuned yn ystyried bod digon o ddatblygiadau mawr wedi digwydd yn Llangybi ac felly, mae’n gofyn i’r Pwyllgor Cynllunio ystyried gwrthod y cais.

 

Wediystyried adroddiad y cais a’r safbwyntiau a fynegwyd, nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

  • Mae’rcynlluniau diwygiedig yn welliant enfawr o gymharu â’rcynlluniau gwreiddiol

 

  • Mae angen cyfeirio manylion y cais i’r Panel Dirprwyaeth.

 

  • Gelliddefnyddio cyllid Adran 106, swm o £10,000 ar gyfer gwelliannau rheoli traffig, at ddarparu arwyddion fflachio sefydlog 30 milltir yr awr ar ddechrau a diwedd y pentref.

 

  • Mae angen tai fforddiadwy yn y pentref.

 

Ystyriai’rAelod lleol dros Langybi, hefyd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, ei bod yn ofynnol, gyda’r annedd arfaethedig â’rgrisiau allanol, i linell y to fod yn fwy. Gallai’r Panel Dirprwyaeth edrych yn  ofalus ar y mater hwn gyda’r bwriad o ddod o hyd i ateb priodol.

 

Cynigiwyd, felly, gan y Cynghorydd Sir P. Clarke ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir P. Murphy fod cais DC/2015/00972 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar y 10 amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, a hefyd yn amodol ar gytundeb cyfreithiol Adran 106, yn gwneud cais bod tair o’r unedau’n unedau fforddiadwy a’u bod yn cael eu trosglwyddo i ddarparwr tai cymdeithasol. Hefyd, yn amodol ar y dyluniad diwygiedig o’r fflatiau cerdded-i-mewn yn cael eu cymeradwyo drwy gyfrwng y Panel Dirprwyaeth (Lleiniau 5 and 6).

 

Cymerwydpleidlais a chofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

O blaid cymeradwyo                        -           13

Ynerbyn cymeradwyo                   -              0

Atal pleidlais                                   -   0

 

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynasomfod cais DC/2015/00972 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar y 10 amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, a hefyd yn amodol ar gytundeb cyfreithiol Adran 106, yn gwneud cais bod tair o’r unedau’n unedau fforddiadwy a’u bod yn cael eu trosglwyddo i ddarparwr tai cymdeithasol. Hefyd, yn amodol ar y dyluniad diwygiedig o’r fflatiau cerdded-i-mewn yn cael eu cymeradwyo drwy gyfrwng y Panel Dirprwyaeth (Lleiniau 5 a 6). 

 

 

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: