Agenda item

I dderbyn cyflwyniad ynghylch y Rhanbarth y Brifddinas Caerdydd Fargen City - HOLL AELODAU'R GWAHODDIR I FYNYCHU.

Cofnodion:

Roedd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd P. Fox, Prif Swyddog, Economi a Menter a Phennaeth Economi a Menter yn bresennol i ddarparu cyflwyniad ar Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

 

Yn ei gyflwyniad, estynnodd y Cadeirydd longyfarchiadau i’r Arweinydd ar dderbyn yr OBE.

 

Cynghorwyd ni fod y cyflwyniad yn fersiwn wedi’i diweddaru i honno a gyhoeddwyd ar yr agenda, a chytunwyd diweddaru’r fersiwn a gyhoeddwyd i adlewyrchu’r cyflwyniad a dderbyniwyd yn y cyfarfod.

 

Roedd rhai o’r meysydd y tynnwyd sylw atynt yn y cyflwyniad yn cynnwys cronfa fuddsoddi a meysydd i fuddsoddi ynddynt; pwysigrwydd llywodraethu  a’r cryfder ymrwymiad, camau i symud ymlaen, a chyfraniadau ariannu a chyllido.

 

Yn dilyn y cyflwyniad, gwahoddwyd Aelodau i wneud sylw.

 

  • Byddai cyfarfod Cyngor i drafod y Fargen Ddinesig ymhellach yn rhoi cyfle i feddwl am y cyfleoedd mae Sir Fynwy eisiau’u hennill o’r Fargen Ddinesig.

 

  • Cynghorodd yr Arweinydd ei fod wedi mynychu Pwyllgor Dethol ym Mhen-y-bont ar Ogwr a oedd wedi darparu adborth cadarnhaol. Dylai’r adroddiad a’r argymhellion i’w cyflwyno i’r Cyngor llawn fod yn rhwydd i’w deall a’u cefnogi.

 

  • Gofynnodd Aelod paham fod y Gwerth Ychwanegol Gros (GEG) yn Swydd Gaerloyw 50% yn fwy nag yn Sir Fynwy. Cyfeiriodd hefyd at yr economi ddigidol, ac ychwanegodd y gallai hyn greu ynysu digidol, a chyfeiriodd at bryderon ynghylch y Metro, gan ychwanegu y gwelid gwelliannau yn Nhwnnel Afon Hafren, ac ymhen amser, yn Y Fenni.  Mewn ymateb, Mae Metro yn aml-foddol ac edrychid ar ddulliau amgen. Roedd yn bwysig bod pobl yn gallu manteisio ar gyfleoedd lle bynnag y’u lleolir, a thynnwyd sylw gennym at bwysigrwydd Gr?p Trafnidiaeth Strategol Sir Fynwy i sicrhau bod ein lleisiau’n cael eu clywed yn y ddadl ehangach o gwmpas trafnidiaeth. Eglurodd y Prif Swyddog, parthed GYG, bod ein GYG yn uwch na’r rhanbarth fel cyfanwaith, ac ers cyhoeddi’r ffigurau, eu bod wedi tyfu   4% arall. Roedd rhesymau paham nad oeddem ar yr un lefel â Sir Gaerloyw, gan fod ein heconomi’n ymwneud â thwristiaeth, hamdden, bwyd ac amaethyddiaeth na chyfrifwyd fel swyddi lefel uchel, ond mae gennym y potensial i ehangu o gwmpas ardaloedd twf. Atebodd y Pennaeth Economi a Menter y cwestiwn ynghylch eithrio digidol. Roedd swyddogion yn edrych yn ddyfal ar gyfleoedd i’r rhanbarth fod yn rhanbarth CAMPUS, gan weithio’n agos gyda chwmni o’r enw Kinetic.  Nid oedd graddfeydd cysylltedd yn foddhaol ond roedd hyn yn cael sylw. Roedd peilot ‘Gofod Gwyn’ ar fin cychwyn sy’n defnyddio signalau hen deledu analog i ddarlledu band llydan. Cyflawnwyd gweithgarwch mapio aeddfedrwydd digidol ein cwmnïau’n ddiweddar, a ddarganfu bod y rheiny’n cael mentora unigol wedi dangos cynnydd sylweddol mewn gweithgarwch ar-lein. 

 

  • Mynegodd Aelod bwysigrwydd cadw pobl ifanc Sir Fynwy a honnodd y dylem gynnig yr addysg gywir i’n pobl ifanc. Dylai addysg gael ei theilwra fwy yn hytrach na chymryd yr agwedd fod yr un addysg yn gweddu i bawb. Cydnabuwyd ein bod dan fantais parthed lleoliad daearyddol, ac mae angen i ni sicrhau ein bod yn dal gafael ar y cyfle i bobl osod eu gwreiddiau, a thyfu’r economi. Cytunodd y Prif Swyddog â’r pwyntiau a wnaed ynghylch addysg ac ychwanegodd bod angen i ni yn ogystal ystyried hybiau menter, hybiau sgiliau a gwahanol hybiau a gwahanol fathau o brentisiaethau, wedi’u cysylltu â gradd, yn hytrach na lefel mynediad yn unig.

 

  • Ceisiwyd sicrwydd y byddai arbenigwyr mewn addysg yn rhan o’r gweithgareddau o’r dechrau i’r diwedd, nid yn cael eu gwahodd nawr ac yn y man. Tynnwyd sylw at bwysigrwydd hyfforddiant galwedigaethol.

 

  • Cynghorwyd Aelodau petai un o’r 10 Awdurdod yn dewis gadael y Fargen, byddai’r Fargen Ddinesig yn parhau gyda’r awdurdodau sy’n weddill.   

 

  • Parthed beth fyddai’r Fargen Ddinesig yn ei golygu’n gychwynnol, tynnodd yr Arweinydd sylw at y canlynol:

 

o   Sedd fel partner llawn ar yr agenda ranbarthol;

o   Statws partneriaeth yn yr economi ranbarthol a’r strategaeth arbennig;

o   Wedi’i gosod yn sylfaenol fel y pwynt agosaf yn  rhanbarth y brifddinas at Fryste; 

o   Cyfle i ddenu gwasanaethau bws newydd;

o   Cyfle i ddenu buddsoddiad ar gyfer band llydan;

o   Ehangu’n presenoldeb yn y farchnad brentisiaeth; 

o   Mynediad i swyddi uchel eu gwerth. 

 

Nododd Aelod  y problemau o gwmpas cysylltiadau trafnidiaeth dros y Sir.

 

  • Mynegodd Aelod y dylai Ysgol y Brenin Harri’r VIII sgael ei hailgynllunio.

 

  • Clywsom y byddai cyflwyno rhaglen gyfnewid o gyllido i ddisodli’r cyllid Ewropeaidd ac roedd swyddogion ar hyn o bryd yn gweithio gyda chydweithwyr i ddefnyddio’r cronfeydd cyllid presennol fel trosoledd ar gyfer y Fargen Ddinesig.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion a’r Arweinydd am y cyflwyniad. Nodwyd y byddai gwybodaeth bellach yn cael ei darparu mewn cyfarfod arbennig o’r Cyngor yn hwyrach yn y mis.

 

 

 

 

Dogfennau ategol: