Cyd-destun:
Derbyn trosolwg o’r risgiau strategol presennol sy’n
wynebu’r Awdurdod, fel yr amlinellir yn Atodiad 1 o’r
adroddiad.
Materion
Allweddol:
Diweddarwyd y risgiau sy’n bodoli eisoes ar yr Asesiad
Risg Strategol yn seiliedig ar dystiolaeth sydd ar gael yn
2016. Cymeradwywyd newidiadau
i bolisi rheoli risg y Cabinet ym
Mawrth 2015 a pharheir i’w cymhwyso i’r gofrestr o
risgiau strategol Y rhain yw:
·
Cynnwys sgorau o fesurau cyn-liniaru ac
ôl-liniaru risg. Roedd
hwn hefyd yn argymhelliad allweddol o’r archwiliad o asesu
risg yn 2014.
·
Sicrhau mwy o eglurder i’r ymadrodd risg fel
bod pob gosodiad yn cynnwys digwyddiad, achos ac
effaith..
Mae’r asesiad risg yn cwmpasu risgiau lefel uchel a lefel
ganolig yn unig. Ni chofrestrir risgiau gweithredol lefel isel oni
bai y rhagwelir y byddant yn dwysáu o fewn y tair blynedd a
gwmpasir. Mae angen rheoli’r rhain a’u monitro drwy
gynlluniau gwasanaeth timoedd.
Yn
dilyn cyflwyniad i’r pwyllgorau dethol a’r Pwyllgor
Archwilio, cyflwynir yr asesiad risg i’r Cabinet i’w
arwyddo. Mae’r asesiad risg yn ddogfen fyw a bydd yn datblygu
yng nghwrs y flwyddyn fel y daw gwybodaeth newydd i’r
fei.
Craffu
Aelodau:
-
Nodwyd, cyn ei gyflwyno i’r Cabinet yn
Chwefror 2017, caiff dau risg pellach
eu hystyried i’w hychwanegu i’r Gofrestr, sef y risg
posib o gwmpas namau yn y bas data a mynediad i rwydwaith y Cyngor
yn allanol a hefyd o gwmpas ailbrisiadau ardrethi.
-
Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd ynghylch yr angen am
dai yn Sir Fynwy yn dod yn risg strategol, nodwyd bod hwn yn fater
pwysig a’i fod yn cael ei ddatrys drwy gyfrwng y Cynllun
Datblygu Lleol. Fodd bynnag, petai’r tueddiadau hyn yn
parhau, yna gellid nodi’r mater fel risg posib.
-
Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod o’r Pwyllgor
Dethol ynghylch treigl band llydan yn cael ei ddarparu gan
ddatblygwyr tai, nodwyd nad oedd hyn yn fater i ddatblygwyr ei
ddarparu. Roedd angen i’r Awdurdod barhau i roi pwysau ar
Lywodraeth Cymru i ymgymryd â’r mater hwn, ar draws Sir
Fynwy., Fodd bynnag, nodwyd bod cyfle,
mewn perthynas â ffibr yn brif
rwydwaith eiddo newydd, bydd hyn yn
galluogi cynyddu cyflymder band llydan yn sylweddol mewn eiddo
newydd.
-
Nodwyd bod Llywodraeth Cymru wedi agor proses
ymgynghori i roi gwybodaeth am y cylch nesaf o gyllido mewn
perthynas ag isadeiledd band llydan. Bydd angen diweddariad oddi
wrth Lywodraeth Cymru i’r Pwyllgor Dethol ym Mehefin 2017 i
egluro i’r Pwyllgor y sefyllfa ddiweddaraf ynghylch y mater
hwn a phryd mae’r gwaith yn debygol o gael ei gwblhau. Y
mater hwn i’w osod ar raglen waith y Pwyllgor
Dethol.
-
Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd ynghylch risg
ariannol i’r Awdurdod, nodwyd bod y mater hwn a’r
ansicrwydd posib o gwmpas y mater hwn yn cael ei gwmpasu yn y
gofrestr risg.
-
Atodiad 1 cyf. 2, gallai rhai gwasanaethau ddod yn
anghynaliadwy’n ariannol yn y tymor byr i ganolig o ganlyniad
i gyllidebau’n lleihau a’r
galw’n cynyddu – nodwyd yn nhermau’r gweithredu
lliniarol a osodwyd yn ei le, yr amcanestyniadau yw, os bydd y
rhain yn llwyddiannus, yna mae posibilrwydd lleihau’r risg
hwn.
-
Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod o’r Pwyllgor
Dethol, nodwyd, yn nhermau’r ‘golofn lliniaru a
gymerwyd eisoes’ yn y gofrestr, mae hyn yn adlewyrchu’r
cynnydd a wnaed yn erbyn gweithredu blaenorol a gymerwyd ar y
gofrestr risg.
-
Hwylusir trefniadau diogelwch drwy gyfrwng Heddlu
Gwent mewn perthynas â’r Gwasanaeth Adnoddau a
Rennir (GAR). Asesir y GAR yn flynyddol i sicrhau bod y trefniadau
diogelwch gofynnol yn eu lle.
-
Diwygio Llywodraeth Leol – Risg 1 –
disgwyl y papur gwyn oddi wrth y Gweinidog.
-
Nodwyd bod angen adnabod deddfwriaeth bwysig o fewn
y risg presennol i’r dyfodol. Gallai Pwyllgorau Craffu
dderbyn diweddariad blynyddol o gwmpas deddfwriaeth sydd o bosib i
ddod.
Casgliad y
Pwyllgor:
- Mae’r adroddiad yn ddogfen ddefnyddiol ar gyfer adnabod
beth sydd angen i’r Pwyllgor Dethol ei graffu.
-
Derbyn diweddariad ar Isadeiledd TG yr Awdurdod mewn
cyfarfod yn y dyfodol.
-
Mae TGCh mewn ysgolion yn fater pwysig i’r
Awdurdod i ddarparu’r isadeiledd cywir ar gyfer plant. Mae
angen diweddariadau i’r Pwyllgor Dethol yn y
Dyfodol.
|