Cyd-destun:
Craffu drafft gynigion manwl ar yr arbedion i’r gyllideb
sy’n ofynnol i gwrdd â’r bwlch rhwng yr adnoddau
sydd ar gael a’r angen i wario yn 2017/18. Hefyd, ystyried
cyllideb 2017/18 o fewn cyd-destun y Cynllun Ariannol Tymor Canolig
(CATC) pedair blynedd a blaenoriaethau’n ymddangos i lywio
gweithgareddau drwy Sir Fynwy’r Dyfodol.
Materion
Allweddol:
Archwiliodd y Pwyllgor Dethol gynigion cyllideb y Fenter, fel yr
amlinellir yn Atodiad 3c o’r adroddiad, yn ymwneud
â’r adrannau
canlynol o fewn y Gyfarwyddiaeth Fenter:
·
Twristiaeth, Hamdden a Diwylliant .
·
Cynllunio.
·
Tai.
·
Datblygu Economaidd.
Craffu
Aelodau:
-
Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod o’r Pwyllgor
Dethol ynghylch y ffaith na ellid cyflawni’r mandad ar gyfer
marchnadoedd, nodwyd bod cyfle wedi codi i ailosod y Gyllideb.
Felly, y flwyddyn hon, cymerwyd y cyfle i fynd i’r afael
â’r gwasgbwyntiau o fewn y Gyllideb a’u
hailgloriannu o fewn y Gyllideb a lleddfu’r effaith ar
wasanaethau. Mae cyllideb y marchnadoedd yn syrthio i’r
categori o allu ailosod y gyllideb. Cydnabyddir o fewn marchnadoedd
bod problem gyda gorwariant rheolaidd o ganlyniad i ddiffyg mewn
incwm. Daethpwyd â mandad uchelgeisiol drwyddo i gynhyrchu
mwy o incwm. Cymerwyd y cyfle eleni i beidio â gor-estyn y
gwasanaeth hwn tra deuir â’r gorwariant i lawr. Mae hyn
yn caniatáu i’r marchnadoedd a’u cyllideb gael
ei dwyn ymlaen mewn modd cynaliadwy.
-
Ardoll Brentisiaethau - Nodwyd, parthed arian yn dod
i mewn, mae’r mater hwn yn cael ei ddatrys. Mae San Steffan
yn edrych ar drosglwyddo arian i Lywodraeth Cymru mewn perthynas
â’r arian a gesglir drwy Ardoll Brentisiaethau. Cawn
weld fel caiff yr arian hwn ei drosglwyddo nôl i mewn
i’r gymuned fusnes ac i’r awdurdodau lleol. Trafodir
hyn yn eiddgar yn nhrafodaethau’r Fargen
Ddinesig.
-
Ailbrisiadau Ardrethi - Nodwyd bod y codiadau
cyffredinol yn sir Fynwy wedi bod yn uwch i fusnesau nag mewn
awdurdodau eraill yng Nghymru. O fewn Sir Fynwy mae cynnydd o
11%. Ar draws Cymru bu lleihad yn
bennaf mewn ailbrisiadau ardrethi. Mae meysydd yn Sir Fynwy sydd
wedi cael eu hergydio’n galed, sef yn y diwydiannau
lletygarwch a manwerthu. Daeth Llywodraeth Cymru ymlaen â
chronfa o £10,000,000 yn gymorth i leddfu peth o’r
pwysau hyn. Fodd bynnag, grant am unwaith yn unig yw hwn, i’w
ledaenu ar draws Cymru ac nid yw’n mynd i’r afael
â phroblem hirdymor ardrethi. Nid
yw manylion y modd y dyrennir y grant ar gael ar hyn o bryd. Bydd y
Pwyllgor Dethol yn derbyn diweddariad parthed dyrannu’r grant
o £10,000,000.
-
Pensiynau 21.1% o gyfradd cyflogwr -
Nodwyd bod awdurdodau eraill yn talu
llai na’r 21.1% a delir gan Sir Fynwy. Nodwyd mai cynllun
cenedlaethol yw Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, felly nid oedd o
fewn gallu Cyngor Sir Fynwy ar ei ben ei hun i newid y cynllun
cenedlaethol. Ystyriwyd y dylid cyfeirio’r mater hwn
i’r Pwyllgor Archwilio i ymchwilio paham fod Cyngor Sir Fynwy
yn gorfod cario cyfradd uwch o bensiwn o gymharu ag awdurdodau
lleol eraill.
-
Mae cynigion cynhyrchu incwm y Gyfarwyddiaeth Fenter
yn dod i £9,000. Mae’r
Gyfarwyddiaeth wedi gwneud ei gorau i gynhyrchu incwm yn y
blynyddoedd blaenorol. Bellach mae angen dulliau amgen o gyflawni a
gwahanol ffyrdd o weithio ac mae’r rhain yn cael eu
hymchwilio.
-
Mandad Targed Incwm y Gwasanaethau Cyfreithiol heb
ei wireddu - Byddai Pennaeth Cyllid yn cysylltu â Phennaeth y
Gwasanaethau Cyfreithiol i nodi’r sefyllfa ddiweddaraf
parthed y mater hwn.
Casgliad y
Pwyllgor:
-
Nid yw’r Gyfarwyddiaeth yn amcanu gor-estyn ei
hunan. Mae’n gyfnod o atgyfnerthu.
-
Sicrhau bod y Gyfarwyddiaeth yn
gynaliadwy.
-
Gallai Aelodau roddi cynigion cyllideb amgen gerbron
erbyn 31ain Ionawr
2017.
-
Cyfradd pensiwn cyflogwr o 21.1% i’w gyfeirio
at y Pwyllgor Archwilio.
-
Y Pwyllgor Dethol i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf
ynghylch ailbrisiadau ardrethi a dyrannu Grant Llywodraeth Cymru
o £10,000,000.
|