Cyd-destun:
Amlinellu’r gyllideb gyfalaf arfaethedig ar gyfer 2017/18
a’r cyllidebau cyfalaf dangosol ar gyfer y tair blynedd
2018/19 i 2020/21.
Materion
Allweddol:
Materion yn
ymwneud â’r Cynllun Ariannol Cyfalaf Tymor
Canolig (CATC):
-
Adolygir y rhaglen
gyfalaf bedair blynedd yn flynyddol a chaiff ei diweddaru er mwyn
ystyried unrhyw wybodaeth newydd sy’n berthnasol.
-
Y brif gydran ar gyfer
y CATC cyfalaf ar gyfer yr ychydig flynyddoedd nesaf yw’r
rhaglen ysgolion y Dyfodol. Mae’r Cyngor yn ddiweddar wedi
cymeradwyo cyllid pellach ar gyfer y rhaglen hon yn ei gyfarfod a
gynhaliwyd ar 20fed Hydref 2016.
-
Mae nifer o feysydd
eraill lle mae ymrwymiad i fuddsoddi. Fodd bynnag, mae’r
cynlluniau ar hyn o bryd yn gorwedd y tu allan i’r rhaglen
fel mae gwaith yn mynd rhagddo i adnabod y gofynion
cyllido. Y rhain yw:
-Pwll Trefynwy - ymrwymiad i ail-ddarparu’r pwll yn
Nhrefynwy o ganlyniad i Raglen Ysgolion y Dyfodol.
-
Hyb Y Fenni -
ymrwymiad i ail-ddarparu’r llyfrgell gyda’r Siop Un
Stop yn Y Fenni i gwblhau’r bwriad i greu Hyb ym mhob un
o’r trefi.
-
Grantiau Cyfleusterau
i’r Anabl – mae’r galw am grantiau ar hyn o bryd
ymhell y tu hwnt i’r gyllideb, mae gwaith yn cael ei gyflawni
i asesu lefel y buddsoddiad sydd ei angen i fwyafu’r effaith
a’r budd i’r rheiny sy’n derbyn y
grantiau.
-
Y Fargen Ddinesig
- Mae
10 Awdurdod ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd
â’u golygon ar Fargen Ddinesig bosib o £1.2
biliwn. Ceisir cytundeb ar draws y rhanbarth i ymrwymo i’r
rhaglen hon yn Ionawr 2017 ac felly byddai’n effeithio ar y
CATC. Modelir yr effaith bosib ar gyllidebau awdurdodau unigol ar y
blaen i benderfyniadau ar brosiectau a phroffiliau penodol er mwyn
i awdurdodau ddechrau meddwl am yr ymrwymiad yn eu
CATCiau..
-
Bloc J ac E –
Mae rhaglen resymoli’r swyddfa’n cael ei hystyried i
weld a oes ateb a fyddai’n galluogi safleoedd Magwyr a
Brynbuga i gael eu hatgyfnerthu, gan ryddhau cyllid i dalu am y
buddsoddiad angenrheidiol i ddod â’r blociau nôl
i’w defnyddio.
·
Datblygir strategaeth sy’n galluogi’r
rhaglen graidd, Ysgolion y Dyfodol a’r cynlluniau uchod i
gael eu cytuno. Er gwaethaf hyn, deil
cryn dipyn o bwysau sy’n gorwedd y tu allan i unrhyw
bosibilrwydd i’w cyllido o fewn Cyfalaf CATC ac mae risg
sylweddol ynghlwm wrth hyn. Mae’r
Cabinet wedi derbyn y risg hon yn flaenorol.
.
·
Y polisi presennol yw y gellir ychwanegu cynlluniau
newydd pellach at y rhaglen hon yn unig os yw’r achos busnes
yn dangos eu bod yn hunan-gyllidol neu’r ymddengys bod y
cynllun yn flaenoriaeth uwch na chynlluniau cyfredol yn y rhaglen
ac felly’n eu disodli.
·
Yn gryno, nodwyd y
materion a’r pwysau canlynol eraill:
-
Rhestr hir o bwysau wrth gefn – isadeiledd,
eiddo, gwaith Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd, Hawliau Tramwy
Cyhoeddus, fel yr amlinellir yn Atodiad 1 o’r adroddiad. Ni
chynhwysir un rhyw rai o’r pwysau hyn yng Nghynlluniau
Ariannol Tymor Canolig y cyfalaf cyfredol, ond mae hyn yn dwyn risg
sylweddol gydag ef.
-
Angen buddsoddiad cyfalaf i gyflawni arbedion
refeniw – mae hyn yn bennaf ym maes swyddfeydd ac edrych ar
ffyrdd eraill o ddiwallu’r angen ar gyfer hamdden a
diwylliant, gofal cymdeithasol, buddsoddi eiddo ac o bosib
Anghenion Addysgol Ychwanegol. Ar hyn o bryd asesir y lefel o
fuddsoddiad. Fodd bynnag, yn unol â’r egwyddor a
sefydlwyd eisoes, os nad yw’r cynlluniau’n mynd i
ddisodli unrhyw beth sydd eisoes yn y rhaglen yna bydd angen i gost
unrhyw fenthyciad ychwanegol gael ei thynnu o’r arbedion i’w
gwneud.
-
Mae cronfa wrth gefn TG wedi prinhau felly
mae’r cyllid ar gyfer unrhyw fuddsoddiad mewn TG yn
gyfyngedig. Bydd angen i unrhyw gynlluniau TG ychwanegol naill ai
fedru talu drostynt eu hunain neu ddisodli cynlluniau eraill yn y
rhaglen.
-
Cylchffordd Cymru – mae’r Awdurdod wedi
ymgymryd â gwaith diwydrwydd dyladwy ar fersiwn o’r
cynnig a ddaeth i’r casgliad i beidio â mynd rhagddo,
mae’r cynnig presennol yn cael ei ystyried gan Lywodraeth
Cymru heb fynd ar ofyn cyllid gan yr Awdurdod Lleol.
.
Craffu
Aelodau:
-
Cwblheir y rhaglen gyfalaf ar yr un pryd
â’r cynigion cyllideb refeniw a fydd ar
31ain Ionawr 2017.
-
Gellid lleihau’r gyllideb ar gyfer Rheoli
Ardal o £20,000 neu ei thorri yn wyneb pwysau eraill. Fodd
bynnag, nodwyd bod y gyllideb hon wedi’i chlymu i mewn
gyda’r adolygiad cyffredinol o Reoli Ardal a gaiff ei
hystyried gan y Cyngor Llawn maes o law. Ystyrid bod angen
penderfyniad ynghylch y mater hwn cyn gynted â phosib cyn
ethol y Cyngor newydd ym Mai 2016.
-
Archwilir y Cynllun Rheoli Asedau ar gyfer Ffermydd
y Sir gan y Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu.
-
Paragraff 3.4 o’r adroddiad - meysydd lle mae
ymrwymiad i fuddsoddi ond mae’r cynlluniau ar hyn o bryd yn
gorwedd y tu allan i’r rhaglen. Nodwyd y gallai’r
Cabinet ychwanegu’r eitemau hyn i’r rhaglen Gyfalaf ar
gyfer 2017/18.
-
Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl –
Nodwyd, pan lansiwyd yr ymgynghoriad ar y gyllideb y gosodwyd y
mater hwn allan i’w adolygu i weld pa grantiau ychwanegol y
gellid eu darparu yng nghyllideb y flwyddyn nesaf. Hefyd, roedd y
Cabinet yn edrych am arian ychwanegol y gellid ei roi yng
nghyllideb y flwyddyn hon fel y gellid clirio peth o’r
ceisiadau wrth gefn. Roedd swyddogion ar hyn o bryd yn gweithio i
ddarparu atodlen waith ar gyfer y Cabinet y gellid ei hychwanegu at
gyllideb y flwyddyn hon.
-
Blociau J ac E - Roedd gwaith yn mynd ymlaen parthed
J ac E blocks a Th? Menter, Magwyr.
Roedd yr holl ddewisiadau mewn perthynas â’r safleoedd
hyn yn cael eu hymchwilio. Cost a fforddiadwyedd oedd y materion
allweddol parthed y safleoedd hyn. Felly, roedd dewisiadau’n
cael eu hystyried a fyddai’n hunan-gyllidol gyda’r
bwriad o ddod â Blociau J ac E i fyny i safon gyfanheddol.
Roedd Achos busnes cyfannol yn cael ei sefydlu gan y Tîm
Ystadau.
-
Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod o’r Pwyllgor
Dethol, nodwyd bod Cynllun Rheoli Asedau Strategol yn ei le y
gellid ei ddwyn gerbron y Pwyllgor Dethol mewn cyfarfod yn y
dyfodol. Hefyd, edrychid ar strategaeth buddsoddi asedau
gyda’r bwriad o’i dwyn gerbron yn fuan a fyddai’n
edrych ar fuddsoddi mewn cyfleoedd a sicrhau enillion masnachol.
Gellid ychwanegu’r ddau gynllun hwn i raglen waith y Pwyllgor
Dethol.
-
Cronfa TG wrth gefn – Mewn ymateb i gwestiwn
gan aelod o’r Pwyllgor Dethol ynghylch cyfraniadau a wnaed
unwaith gan Aelodau am eu cyfarpar TG ond a oedd wedi peidio,
nodwyd bod y mater hwn wedi’i symud gan y Panel
Cydnabyddiaeth Ariannol yn y Mesur Llywodraeth Leol.
-
Cyfeiriodd Aelod o’r Pwyllgor Dethol at yr
angen i adeiladu ysgolion cyfun newydd yn Ysgol y Brenin
Harri’r VIII a Chas-gwent, er mwyn osgoi gweld yr ysgolion
hyn dan anfantais. Hefyd, dylid
ystyried edrych ar y posibilrwydd o adeiladu coleg arlwyo ar safle
Ysgol y Brenin Harri’r VIII newydd. Mae pob un o’r 22 o
awdurdodau lleol wedi cyflwyno gwybodaeth amlinellol o lefel uchel
mewn perthynas â’u bwriad. Parthed cynigion Cynllun B,
mae Llywodraeth Cymru’n disgwyl i awdurdodau lleol ddod
ymlaen ag achosion amlinellol strategol yn y misoedd i ddod. Roedd
swyddogion o fewn yr Awdurdod yn sefydlu’r ddogfen Adolygiad
Addysg Strategol Diwygiedig a fydd yn trwytho, dylanwadu a llywio
lle mae’r Awdurdod yn symud ymlaen mewn perthynas
â’n hystâd ysgolion. Nodwyd bod y mater hwn ar
Raglen Waith y Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc i’w
adolygu, maes o law.
-
Ystyriodd Aelod o’r Pwyllgor Dethol y gallai
Ysgol Gyfun newydd yng Nghas-gwent ganolbwyntio ar wyddoniaeth a
busnes. Mewn ymateb, nodwyd, o edrych ymlaen i’r dyfodol, bod
angen bod yn fwy creadigol ynghylch Cynllun B.
-
Nodwyd bod y Prosiect Amaeth-Dinesig ar hyn o bryd
yng nghyfnod 1 gyda’r bwriad i sefydlu cynlluniau ar
2018. Caiff colegau arlwyo a hybiau
bwyd eu hystyried drwy gyfrwng y prosiect hwn.
Casgliad y
Pwyllgor:
·
Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion am
gyflwyno’r adroddiad. .
·
Mae’r cyfnod Ymgynghori’n rhedeg tan
31ain Ionawr 2017.
·
Roedd angen penderfynu ar benderfyniad ynghylch yr
adolygiad o Reoli Ardal cyn ethol y Cyngor Newydd ym Mai
2017.
·
Y Cynllun Strategol Rheoli Asedau a’r
Strategaeth Buddsoddi Asedau i’w hychwanegu i raglen waith y
Pwyllgor Dethol.
|