Agenda item

Cyflwyniad gan y Gwasanaeth Cyrhaeddiad Addysg ynghylch Cymwysterau Newydd.

Cofnodion:

Cyd-destun

 

Derbyniwydcyflwyniad gan Mr. E. Price, Prif Gynghorydd Her y Gwasanaeth Cyflawni Addysg (EAS), parthed y cymwysterau newydd ar Gyfnod Allweddol 4 o haf 2017.

 

MaterionAllweddol:

 

O 2017 ymlaen, ni fydd un prif fesur i ganolbwyntio arno ar lefel ysgol. Yn lle hynny ystyrir cyfres o fesurau yn cynnwys:

 

·         Lefel 2 cynhwysol (mesurau Bagloriaeth Sylfaenol a Chenedlaethol Cymru o 2018)

·         TrothwyLefel 2 (2017 yn unig)

·         TrothwyLefel 1 (2017 yn unig)

·         Sgôrpwyntiau wedi'i gapio (mesur diwygiedig 'Cap 9' o 2017)

 

Mae'r newidiadau i fesurau perfformiad yn cyd-fynd gydag argymhellion Dyfodol Llwyddiannus a bydd yn cael yr effaith gadarnhaol o ledaenu dewis cwricwlwm.

 

Caiffpob diweddariad eu dodi ar wefan Llywodraeth Cymru.

 

2016

 

·         Newid i garfan Blwyddyn 11 o'r cohort presennol seiliedig ar 15 oed.

·         Gwerthcyfwerth ag uchafswm o ddwy TGAU i unrhyw gymhwyster unigol heblaw TGAU wrth gyfrif pob mesur perfformiad.

 

2017

 

·         Nidoes angen Dangosydd Pwnc Craidd erbyn hyn.

·         Newidiadaui'r Sgôr Pwyntiau wedi'i Gapio.

·         Dim ond y cymwysterau diwygiedig newydd ar gyfer Saesneg/Cymraeg, mathemateg sy'n cyfrif tuag at ofynion y pynciau penodol hyn o fesurau (nid yw cymwysterau llenyddiaeth yn cyfrif mwyach).

·         Gwerthcyfwerth ag uchafswm o ddwy TGAU ar gyfer cyfanswm gwerth cyfraniad cymwysterau heblaw TGAU yn y mesurau trothwy.

·         Nidoes gan Sgiliau Hanfodol Cymru a Sgiliau Allweddol Ehangach mwyach werth cyfraniad mewn mesurau Cyfnod Allweddol 4 a dim ond ar gyfer cyflenwi ôl-16 y cânt eu cymeradwyo.

·         Cymwysterau o 60 hyd at 119 (cynhwysol) oriau dysgu wedi'i llywio yn gyfwerth â 0.5 TGAU

·         Dyfarnucymhwyster diwygiedig Bagloriaeth Cymru am y tro cyntaf.

 

2018

 

·         MesurauBagloriaeth Cymru yn disodli mesurau trothwy.

·         Ar gyfer gwyddoniaeth, dim ond cymwysterau TGAU sy'n cyfrif tuag at ofynion pwnc penodol y Sgôr Pwyntiau wedi'i Gapio; nid yw cymwysterau gwyddoniaeth heblaw TGAU bellach yn cyfrif tuag at elfennau gwyddoniaeth ond gallant gyfrif tuag at 'bedwar cymhwyster gorau arall' y dysgwr.

 

Ni chaiff unrhyw un mesur ei danlinellu ar lefel ysgol. Bydd gan y Sgôr Pwyntiau wedi'i Gapio statws tebyg i fesurau Lefel 2 cynhwysol a Bagloriaeth Cymru. Dylid defnyddio cyfres o fesurau i ystyried perfformiad ysgolion o wahanol onglau. Bydd pa fesurau i'w defnyddio yn dibynnu ar y cwestiynau neilltuol a gaiff eu gofyn.

 

Crynodebnewidiadau  2017

 

·         Bydd unrhyw gymhwyster Lefel 1 neu Lefel 2 heblaw TGAU yn werth uchafswm o ddwy TGAU. Gellir dal i gymryd cymwysterau presennol ond bydd cap o gyfwerth â dwy TGAU ar werth perfformiad.

 

·         Ni chaiff y Dangosydd Pwnc Craidd bellach ei gyhoeddi fel mesur perfformiad.

 

 

·         Defnyddir y TGAU dilynol newydd fel elfennau llythrennedd a rhifedd mesur Cynhwysol Lefel 2:

 

- Iaith Saesneg/Iaith Gymraeg.

- Mathemateg neu Rifedd Mathemateg (p'un bynnag y mae'r dysgwr orau ynddo).

 

·         Ni fydd cymwysterau llenyddiaeth yn cyfrif tuag at ofynion llythrennedd mesurau ond gallant ddal i gyfrif tuag at fesurau penodol dim-pwnc.

 

Y Sgôr Pwyntiau wedi'i Gapio 'newydd'

 

·         Bydd y sgôr yn seiliedig ar naw cymhwyster yn hytrach nag wyth. Pump o'r naw cymhwyster a ddefnyddir i gyfrif y sgôr fydd:

 

-       TGAU Iaith Saesneg neu TGAU Iaith Gymraeg (p'un bynnag y mae'r dysgwr orau ynddo, ni fydd llenyddiaeth yn cyfrif).

 

-       TGAU Mathemateg - Rhifedd a TGAU Mathemateg.

 

-       Daugymhwyster gwyddoniaeth gorau'r dysgwr (o 2018, eu dau TGAU gwyddoniaeth gorau.

 

·         Y pedwar cymhwyster arall fydd cymwysterau eraill gorau (gradd uchaf) y dysgwr. Gallai'r rhain fod yn TGAU, cymwysterau galwedigaethol neu Dystysgrif Her Sgiliau (craidd Bagloriaeth Cymru newydd).

 

Crynodebnewidiadau o 2818 (dysgwyr cyfredol Blwyddyn 10)

 

·         Ar gyfer gwyddoniaeth yn unig, bydd cymwysterau TGAU yn cyfrif tuag at ofynion pwnc penodol y sgôr pwyntiau wedi'i gapio.

 

·         Ni fydd cymwysterau gwyddoniaeth heblaw TGAU bellach yn cyfri tuag at elfennau gwyddoniaeth ond gallant ddal i gyfrif tuag at 4 gymhwyster arall gorau y dysgwr.

 

·         Cyflwynir mesurau newydd yn ymwneud â chyflawni Bagloriaeth Cymru newydd ar lefel Sylfaen a Chenedlaethol (Lefelau 1 a 2).

 

·         Bydd y mesurau newydd hyn yn disodli mesurau trothwy cyfredol Lefel 1, Lefel 2 a Lefel 2 cynhwysol.

 

CraffuAelodau:

 

·         Mynegodd Aelodau'r Pwyllgor Dethol bryder na fydd cymwysterau llenyddiaeth yn cyfrif tuag at ofynion penodol tri phwnc mesurau o haf 2017 ymlaen. Cydnabu cynrychiolydd EAS deimladau'r Pwyllgor yng nghyswllt cymwysterau llenyddiaeth Saesneg. Fodd bynnag, nodwyd fod rhai ysgolion wedi canolbwyntio ar lenyddiaeth ar gyfer disgyblion oedd wedi cael trafferthion gyda'r cymhwyster llenyddiaeth ar C ac uwch ar draul eu llwyddiant yn Iaith Saesneg.

 

·         Gofynnodd y Pwyllgor Dethol i gynrychiolydd gyfleu teimladau'r Pwyllgor yng nghyswllt ei farn ar bwysigrwydd cymhwyster Llenyddiaeth Saesneg.

 

·         Cymwysterau galwedigaethol - bydd EAS yn annog penaethiaid ysgol i wneud yr hyn sydd orau ar gyfer eu dysgwyr unigol, er gydag Estyn, bydd y penaethiaid ysgol yn gwybod am y mesurau pennawd hefyd.

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod o'r Pwyllgor Dethol parthed os byddai'r newidiadau a amlinellwyd yn y cyflwyniad yn ddefnyddiol yn gyffredinol, dywedodd cynrychiolydd EAS y byddai angen gweld sut mae'r mesurau yn datblygu dros gyfnod cyn y gellid ateb y cwestiwn.

 

·         Nodwyd yr ymgynghorwyd gyda phrifysgolion a chyflogwyr yng nghyswllt y newidiadau arfaethedig fyddai'n cael eu cydnabod gan y grwpiau hyn.

 

·         Yng nghyswllt Bagloriaeth Cymru, nodwyd nad oedd pob prifysgol yn Lloegr yn cydnabod y cymhwyster yma. Mynegwyd pryder y gallai hyn lesteirio myfyrwyr o Gymru rhag medru astudio mewn rhai prifysgolion yn Lloegr.

 

·         Mynegwyd pryder y caiff nifer o gymwysterau, yn cynnwys cymwysterau galwedigaethol, eu tynnu o'r rhestr gymeradwy fydd yn cael effaith sylweddol ar y disgyblion sy'n astudio'r cyrsiau hyn. Credai'r Pwyllgor Dethol, ar ôl cael manylion o'r diffiniad a'r hyn y mae'n ei olygu ar gyfer myfyrwyr yn astudio'r cyrsiau hyn, y byddai’n fanteisiol.

·         Ystyriwyd fod y newidiadau a gynigir ar gyfer 2017 yn gostwng opsiynau cwricwlwm ar gyfer disgyblion yn hytrach na rhoi dewis ehangach.

 

·         Mae'n bwysig i'r Awdurdod ystyried sefyllfa gymharol haf 2017 gyda'r hyn a ddigwyddodd yn y gorffennol a nodi'r newidiadau a ddaw yn 2017 a 2018.

 

·         Nodwyd y bydd newidiadau sylweddol yn Lloegr yn haf 2017. Ni fydd yn rhaid i ysgolion mwyach adrodd eu cymwysterau TGAU yn ôl graddau. Yn lle hynny, cyflwynir system rhifau yn amrywio o 9 i 1, yn hytrach na A* i G, neu U. Bydd hyn yn golygu y daw'n gynyddol anodd i gymunedau ar y gororau yn Sir Fynwy i gymharu ysgolion.

 

·         Nodwyd fod ysgolion ar ddwy ochr y ffin yn cystadlu ar berfformiad ond y bydd yn anos cyflawni hyn os yw'r systemau a weithredir gan ysgolion yng Nghymru ac ysgolion yn Lloegr yn wahanol. Ystyriwyd y dylai EAS roi peth cefnogaeth ychwanegol i ysgolion sir Fynwy i esbonio'r gwahaniaethau. Dywedodd cynrychiolydd EAS y byddai'n cydlynu gyda Nicola Allan, cynghorydd her Sir Fynwy, i weithio gyda'r Awdurdod a herio cynghorwyr yn ysgolion uwchradd Sir Fynwy i ddynodi'r anghenion a'r gofynion a gweithio gyda phenaethiaid ysgol yn unol â hynny.

 

·         Nodwyd y cynhelir etholiadau lleol ym Mai 2017 a'i bod yn debygol y caiff Aelodau newydd eu hethol i wasanaethu ar y Cyngor newydd. Felly, ni fydd unrhyw gymhariaeth pan gyhoeddir canlyniadau arholiadau yn ddiweddarach yn 2017. Bydd angen esboniad am y mater hwn gan gofio am y newidiadau a gyflwynir parthed y mesurau adrodd newydd a'r Aelodau sydd newydd eu hethol.

 

Casgliad y Pwyllgor:

 

Rhoddodd y Cadeirydd grynodeb fel sy'n dilyn:

 

·         Ar ran y Pwyllgor Dethol, diolchodd y Cadeirydd i gynrychiolydd EAS am roi diweddariad i'r Pwyllgor ar y mesurau adrodd newydd ar gyfer Cyfnod Allweddol 4.

 

·         Gofynnwyd i gynrychiolydd EAS gyfleu teimladau'r Pwyllgor yng nghyswllt ei sylwadau ar bwysigrwydd cymhwyster Llenyddiaeth Saesneg.

 

·         Gwahoddid EAS i gyfarfod o'r Pwyllgor Dethol yn y dyfodol i roi diweddariadau pellach yng nghyswllt y mesurau adrodd newydd.