Cofnodion:
Cyd-destun:
Darparucerdyn adroddiad sy'n ystyried perfformiad chwarter 2 mewn gwasanaethau cymdeithasol plant.
MaterionAllweddol:
Daeth y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant i rym o fis Ebrill 2016 ac mae wedi newid y ffordd y caiff gwasanaethau cymdeithasol eu darparu yng Nghymru:
· Mae'rDdeddf yn cefnogi pobl sydd ag anghenion gofal a chefnogaeth i gyflawni llesiant.
· Mae pobl yn greiddiol i'r system newydd drwy roi llais cyfartal iddynt yn y gefnogaeth a gânt.
· Mae partneriaeth a chydweithredu yn hybu darpariaeth gwasanaeth.
· Byddgwasanaethau yn hyrwyddo atal cynnydd mewn angen ac mae'r help cywir ar gael ar yr amser cywir.
Mae'n rhaid i bob awdurdod lleol gael trefniadau ar waith i gasglu a dychwelyd y data ar y mesurau perfformiad statudol a fanylir yn yr adroddiad i Lywodraeth Cymru o fis Mai 2017 ymlaen. Mae'r mesurau perfformiad yn gyfuniad o ddata meintiol (rhifyddol) a data ansoddol sy'n cynnwys gofyn i bobl am eu profiad o wasanaethau cymdeithasol a ph'un ai yw wedi cyfrannu at wella eu llesiant.
Cesglir data ansoddol drwy holiaduron i rieni a phlant Yn chwarter 2 mae'r broses hon yn dal i fynd rhagddi, felly rhan o'r holl gasgliad yw'r ymatebion yn yr adroddiad yma.
Chwarter 2 yw'r casgliad llawn cyntaf o'r mesurau newydd ac mewn llawer o achosion nid oes data llinell sylfaen na chymharol ar gael. Gosodwyd targedau lle'n ymarferol ond bydd gwybodaeth well pan sefydlir data llinell sylfaen a lle mae data awdurdod lleol arall ar gael.
CraffuAelodau:
· Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod o'r Pwyllgor Dethol parthed ymatebion i'r holiaduron gan blant, nodwyd yr ystyriai 68% eu bod wedi derbyn yr wybodaeth neu gyngor cywir pan oeddent ei angen. Fodd bynnag, mae'r mater yma'n dal i gael ei ddadansoddi. Cynhelir mwy o ddadansoddiad pan dderbyniwyd mwy o ddata.
· Mae plant sy'n derbyn gofal bob amser yn flaenllaw mewn penderfyniadau. Y ddelfryd ym mhob achos yw bod ymyriad yn digwydd yn ddigon cynnar fel y dynodir achosion yn ddigon cynnar a chynhelir gwaith ataliol.
· Ystyriwyd y dylai'r data a gyflwynir i gyfarfodydd o'r Pwyllgor Dethol yn y dyfodol fod ar gael yn rhifyddol wrth ochr y gwerth canran.
· Ar ôl gweld y data'n ymwneud â'r canran o blant sy'n derbyn gofal sy'n profi symud ysgol heb fod yn pontio a'r canran o blant sy'n derbyn gofal gyda thri neu fwy o leoliadau, nodwyd mai un o'r heriau yn Sir Fynwy yw daearyddiaeth y sir a allai effeithio ar leoliad y plentyn felly, mae'r adroddiad yn dangos fod y niferoedd yn uwch nag yr hoffai'r Awdurdod ei weld oherwydd bod yr Awdurdod eisiau gweld sefydlogrwydd yn nhermau addysg y plant.
· Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod o'r Pwyllgor Dethol am yr holiadur, nodwyd y caiff canlyniadau'r holiadur eu hamlinellu yn yr adroddiad. Roedd hefyd opsiwn i ychwanegu geiriad rhydd yn ogystal ag ateb y cwestiynau gosod. Mae hyn yn rhoi ymdeimlad o'r hyn a ofynnwyd a manylion y cyfraddau ymateb. Bwriedir y defnyddir yr holiadur hwn flwyddyn ar flwyddyn fel dull o gymharu.
Casgliad y Pwyllgor:
Rhoddodd y Cadeirydd grynodeb fel sy'n dilyn:
· Nodwyd y meysydd consyrn.
· Nes y sefydlwyd data llinell sylfaen, ni fedrir gwneud cymariaethau pellach ar y cam hwn.
· Mae'rPwyllgor yn nodi y bu rhai newidiadau o fewn Gwasanaethau Plant a chyflawnwyd llawer hyd yma.
· Yngyffredinol, nodwyd fod y Pennaeth Gwasanaethau Plant wedi dweud ei bod yn fodlon yn gyffredinol gyda'r adroddiad.
|
Dogfennau ategol: