Agenda item

Amcanion Gwella a Dangosyddion perfformiad - 2016/17 Chwarter Diweddariad 2.

Cofnodion:

Cyd-destun:

 

Derbyn data perfformiad chwarter 2 ar gyfer yr Amcanion Gwella sydd o fewn cylch gorchwyl Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc: 

 

·         AmcanGwella 1 - Gwella ar bob cyfnod allweddol o addysg.

 

·         Amcan Gwella 2 - Diogelu pobl, p'un ai’n hen neu ifanc, tra'n gostwng dibyniaeth pobl ar ofal cymdeithasol.

 

Derbyn y perfformiad diweddaraf ar ddangosyddion perfformiad cenedlaethol allweddol sydd dan gylch gorchwyl y pwyllgor.

 

MaterionAllweddol:

 

Caiff Amcanion Gwella eu gosod yn flynyddol gan y Cyngor i gyflawni blaenoriaethau, caiff y rhain eu gosod yng Nghynllun Gwella 2016/17. Er bod ffocws amcanion ar yr hirdymor, mae'r gweithgareddau penodol sy'n eu cefnogi â ffocws neilltuol ar y flwyddyn i ddod.

 

Mae gweithgaredd sy'n cyfrannu at gyflawni rhai amcanion yn gorgyffwrdd â chylchoedd gorchwyl Pwyllgorau Dethol a rhoddir adroddiad ar y rhain hefyd i bwyllgor(au) eraill perthnasol.

 

Adroddwyd y cynnydd ar y rhan fwyaf o gamau gweithredu a dangosyddion perfformiad sy'n ffurfio rhan o amcan Gwella 1 i Bwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc fel rhan o adroddiad Prif Swyddog y Gyfarwyddiaeth Plant a Phobl Ifanc. Oherwydd pwysigrwydd bod Aelodau'n craffu ar gynnydd penodol ar y camau gweithredu, dangosyddion perfformiad a thargedau a nodir yng Nghynllun Gwella 2016/17, cafodd diweddariad cynnydd llawn ar amcan gwella 1 hefyd ei orffen.

 

Caiff yr Amcanion Gwella eu gwerthuso ar ddiwedd y flwyddyn (2016/17) yn seiliedig ar fframwaith hunanwerthuso y Cyngor, a nodir yng Nghynllun Gwella 2016-17. Rhoddir adroddiad ar y perfformiad arnynt i'r Pwyllgor Dethol ac yng Ngham 2 y Cynllun Gwella a gyhoeddir ym mis Hydref bob blwyddyn.

 

Mae'n debyg mai hyn fydd cylch blynyddol olaf Cynllunio Gwella yn y ffurf yma. Mae'r Cyngor wrthi'n cynnal dau asesiad sylweddol o angen a llesiant o fewn y Sir fel canlyniad i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant. Bydd yr wybodaeth hon yn rhoi tystiolaeth sylfaen llawer dyfnach o lesiant yn y Sir a chaiff ei defnyddio i adolygu amcanion gwella presennol y Cyngor i baratoi ar gyfer cyhoeddi amcanion llesiant y Cyngor erbyn 31 Mawrth 2017.

 

Mae Atodiad C yr adroddiad yn nodi mwy o Ddangosyddion Perfformiad Allweddol o'r set o Ddangosyddion Perfformiad Cenedlaethol sydd o fewn cylch gorchwyl y Pwyllgor. Y prif ddiben yw amlygu'r perfformiad a gyflawnwyd hyd yma yn 2016/17. Mewn rhai achosion gall hyn arwain at ddyblygu'r dangosyddion a gafodd eisoes eu cynnwys mewn adrannau eraill o'r adroddiad. Lle mae dangosyddion yn cyfeirio at berfformiad gwasanaethau sydd dan gylch gorchwyl mwy na un pwyllgor, rhoddir adroddiad ar hyn hefyd i'r pwyllgor(au) arall perthnasol.

 

CraffuAelodau:

 

·         Argyfer cyfarfodydd yn y dyfodol, caiff gwybodaeth cohort ei gynnwys yn yr adroddiad.

 

·         Mae 80% o gam cyntaf uwchraddio seilwaith TGCh ysgolion wedi'i gwblhau.

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod o'r Pwyllgor Dethol am ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), nodwyd fod Estyn yn 2012 wedi dynodi rhai diffygion a heriau o fewn darpariaeth yr Awdurdod. Cynhaliwyd adolygiad cyflym o ADY yn syth wedyn. Roedd y gwaith hwn mewn tri cham a chafodd y ddau gam gyntaf eu cwblhau. Mae ein gwasanaethau yng nghyswllt darpariaeth ADY yn achos consyrn i'r holl randdeiliaid. Felly, comisiynwyd cefnogaeth ychwanegol i gynorthwyo gyda'r mater hwn ac ymwelwyd ag amrywiaeth o ysgolion a gosodiadau, rhai gyda chanolfannau anghenion arbennig ac ysgolion uwchradd. Bydd gan y ddwy ysgol newydd ganolfan adnoddau 55 uned. Cysylltwyd gyda phenaethiaid ysgolion yng nghyswllt yr adolygiad o ddarpariaeth ADY a buont yn gefnogol. Mae'n debygol y bydd mwy o ddirprwyad i ysgolion. Felly, mae gwaith yn mynd rhagddo ar draws holl ysgolion Sir Fynwy.

 

·         Gofynnodd y Cadeirydd am gyflwyno adroddiad ar yr adolygiad o ddarpariaeth ADY i gyfarfod o'r Pwyllgor Dethol yn y dyfodol.

 

·         Mae'r Awdurdod eisiau i'w holl ddisgyblion barhau mewn addysg prif ffrwd ond mae'n rhaid cydnabod y bydd plant weithiau'n wynebu heriau ac nad y gosodiad hwnnw fydd y gosodiad cywir iddyn nhw. Mae angen edrych ar y newid yn natur anghenion dysgu ychwanegol dros gyfnod. Mae ysgolion yn gweld anghenion mwy cymhleth, dwys yn gynharach ym mywydau plant. Felly mae angen dynodi'r ddarpariaeth orau ar gyfer disgyblion unigol. Mae'r Awdurdod yn edrych ar ymchwilio hyn i alluogi clystyrau ysgolion i gael y ddarpariaeth hynny fel hyd yn oed os na all plant aros yn eu hysgol gartref eu hunain, y gallant aros yn llawer nes at eu cartref eu hunain. Mae'n rhaid i'r Awdurdod sicrhau fod capasiti a'r gallu o fewn y gosodiadau ysgol i roi'r gefnogaeth honno.

 

·         Mewnymateb i gwestiwn gan Aelod o'r Pwyllgor Dethol parthed perfformiad y Gwasanaeth Rhannu Adnoddau yng nghyswllt y cytundeb lefel gwasanaeth newydd, dywedodd y Rheolwr Polisi a Pherfformiad y byddai'n ymchwilio'r mater ymhellach ac yn adrodd yn ôl.

 

·         Gwahoddircynrychiolydd o'r Gwasanaeth Rhannu Adnoddau i gyfarfod yn y dyfodol o'r Pwyllgor Dethol.

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod o'r Pwyllgor Dethol am yr angen am 'gae chwarae gwastad' parthed darpariaeth TGCh mewn ysgolion, nodwyd pan fo penaethiaid ysgolion cynradd yn cwrdd, bod mewnbwn gan y Gwasanaeth Rhannu Adnoddau yn rhoi gwybodaeth ar gynnydd ac unrhyw heriau posibl. Mae'n bwysig fod y capasiti yno o fewn ysgolion. Mae swyddogion yn gweithio i sicrhau fod holl ysgolion Sir Fynwy yn derbyn y ddarpariaeth TGCh ddiweddaraf.

 

·         Mae'rAwdurdod yn parhau i fod yn ymroddedig i adnewyddu ei phedair ysgol uwchradd.

 

·         Gwnaedgwaith sylweddol i gyfnerthu ysgolion cynradd. Mae'r cyflwr cynradd mewn trefn dda iawn.

 

·         Sefydlwyd y Gr?p Cyfeirio Allanol. Bu newid bach mewn ffocws i'r bwrdd gan y bydd, nid yn unig yn canolbwyntio ar addysg a'r broses adfer gyfredol, ond hefyd yn gweithio gyda'r Awdurdod am wasanaethau plant a gwasanaethau cymdeithasol.

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod o'r Pwyllgor Dethol am ailosod targedau 2016/17, nodwyd fod hyn oherwydd symud i gronfa ddata newydd mewn gofal cymdeithasol. Ar hyn o bryd nid oes digon o bwyntiau o ddata ar gael i osod y targed yma.

 

·         Yn Sir Fynwy, am o leiaf 15 mlynedd, cafodd pawb sy'n derbyn gofal cymdeithasol oedolion holiadur rheolaidd. Mae hon yn system a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru. Felly, mae Llywodraeth Cymru eisiau i'r 22 awdurdod yng Nghymru ofyn yr un cwestiynau yn yr un ffordd.

 

·         Argyfer cyfarfodydd y dyfodol o'r Pwyllgor Dethol, dylai data fod ar gael yn rhifyddol a hefyd fel canran.

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod o'r Pwyllgor Dethol parthed darpariaeth gofal cymdeithasol a ph'un a fedrai fod amrywiad daearyddol ar draws y sir, nodwyd fod gwaith yn mynd rhagddo o amgylch asesiad llesiant. Drwy gyflwyno dull seiliedig ar le, dynodwyd nad yw 'un maint yn ffitio pawb'. Felly gallai gofynion un gymuned fod yn wahanol i ofynion un arall. Ymgysylltir gyda phobl a derbynnir gwahanol sylwadau yng nghyswllt hyn.

 

 

Casgliad y Pwyllgor:

 

Rhoddodd y Cadeirydd y crynodeb dilynol:

 

·       Derbynadroddiad gan Gill Lawrence parthed y gwasanaeth ADY mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

·       Gwahoddcynrychiolydd o'r Gwasanaeth Rhannu Adnoddau i gyfarfod yn y dyfodol i roi diweddariad ar ein perthynas gyda'r Gwasanaeth Rhannu Adnoddau.

 

·       Diolchodd y Cadeirydd i'r Rheolwr Polisi a pherfformiad am gyflwyno'r adroddiad.

 

 

Dogfennau ategol: