Agenda item

Darpariaeth Chwarae Haf 2016.

Cofnodion:

Cyd-destun:

 

Derbyndiweddariad ar y model diwygiedig ar gyfer darpariaeth chwaraeon wedi'i staffio a weithredwyd ar gyfer cyfnod haf 2016.

 

MaterionAllweddol:

 

Tuag at ddiwedd 2015, roedd y Pwyllgor Dethol wedi derbyn adroddiad ar nifer o faterion cysylltiedig â chwarae yn cynnwys newidiadau arfaethedig i ddarpariaeth chwarae wedi'i staffio ar gyfer 2016 ac amserlen ar gyfer cynhyrchu'r Archwiliad a Chynllun Gweithredu Digonolrwydd Chwarae ar gyfer 2016/17.

 

Mewn blynyddoedd blaenorol mae'r Cyngor wedi darparu cynlluniau chwarae gwyliau haf yn y pedair canolfan hamdden ynghyd â darpariaeth "lloeren" yng Nghanolfan Gymunedol Bulwark, gyda'r ddarpariaeth olaf hon yn cael ei rhedeg ar ran Cyngor Tref Cas-gwent oedd hefyd yn talu amdano. Yn ymarferol, roedd y cynlluniau chwarae yn fath o ofal plant a gofrestrwyd gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) oedd yn cyflenwi darpariaeth chwarae wedi'i staffio am bedair wythnos yn ystod gwyliau'r haf ar gyfer plant rhwng 5 a 11 oed.

 

Y cynnig pan gafodd y mater hwn ei graffu ddiwethaf gan y Pwyllgor Dethol oedd symud i fodel o ddarpariaeth chwarae yn haf 2016 oedd yn cynnwys dwy brif elfen - gwersylloedd chwaraeon ym mhedair canolfan hamdden a sesiynau chwarae mynediad agored a gynhelid mewn nifer o safleoedd cymunedol ar draws y sir. Roedd darparu chwarae mynediad agored yn ddibynnol ar ganlyniad ymgynghoriadau gyda phartneriaid, yn fwyaf arbennig y cynghorau tref a chymuned oherwydd y ddibyniaeth ar eu cyllid i alluogi'r cynlluniau hyn i ddigwydd. Bu'r trafodaethau gyda'r cynghorau tref a chymuned yn llwyddiannus a chytunodd pob un ohonynt i gadw (ac mewn rhai achosion gynyddu) eu cyfraniadau ar y lefelau presennol.

 

Cafodd y gwersylloedd chwaraeon (Gemau Sir Fynwy) eu rhedeg gan Gwasanaethau Hamdden fel cynlluniau hunan-ariannu ar sail ddyddiol dros gyfnod o bump wythnos (25 Gorffennaf i 26 Awst 2016) rhwng 9.00am a 3.00pm. Nid oedd yn rhaid cofrestru'r rhain gyda AGGCC gan eu bod yn cael eu hystyried fel gweithgareddau chwaraeon yn hytrach na darpariaeth chwaraeon.

 

Cafodd y sesiynau chwarae mynediad agored eu trefnu a'u rheoli ar ran y Cyngor gan Wasanaeth Chwarae Torfaen (TPS). Cawsant eu cynnal dros gyfnod 19 diwrnod (1 i 25 Awst 2016).

 

Roedd presenoldeb yn y sesiynau mynediad agored yn rhad ac am ddim ac yn hollol gynhwysol ar gyfer plant gydag anableddau/anghenion cymorth ychwanegol. Oherwydd bod y sesiynau'n parhau am ychydig dan ddwy awr yr un, nid oedd angen i'r sesiynau hyn gofrestru gyda AGGCC chwaith.

 

Cafodd y cynlluniau chwarae mynediad agored eu staffio gan gyfuniad o staff cyflogedig yn bennaf a rhai gwirfoddolwyr ac yn union cyn dechrau'r cynlluniau cafodd yr holl staff wythnos lawn o hyfforddiant pan gyflwynwyd dros 40 gwahanol fodiwl i sicrhau fod gan y staff y sgiliau angenrheidiol i weithio gyda phlant a phobl ifanc.

 

Wrthgyflwyno'r cynlluniau mynediad agored, cydymffurfiodd TPS gyda'r holl bolisïau a gweithdrefnau diogelu yn unol â Chyngor Sir Fynwy a Bwrdd Diogelu De Ddwyrain Cymru, oedd yn un o'r darpariaethau yn y Cytundeb Lefel Gwasanaeth rhwng y ddau awdurdod.

 

Roedd gan yr holl safleoedd darpariaeth adeilad diogel yn gysylltiedig gydag ardaloedd awyr agored, fel bod yr holl blant bob amser mewn gosodiad diogel a chefnogol. Yn ystod y cyfnod arweiniol, bu cyfathrebu agos ac effeithlon gyda'r Tîm Plant gydag Anableddau yn Gwasanaethau Cymdeithasol. Dyrannwyd gweithwyr cefnogaeth un i un i blant anabl a rhai gydag anghenion cefnogaeth ychwanegol i sicrhau eu bod yn teimlo fod ganddynt gefnogaeth mewn amgylchedd cynhwysol. I nifer fach o blant gydag anghenion cefnogaeth dwys, roedd darpariaeth arbenigol yng Nghanolfan Byw Llesol Pont-y-p?l a dyrannwyd pum lle yn y ddarpariaeth hon i blant o Sir Fynwy.

 

Cyn mynychu eu sesiwn mynediad agored gyntaf, roedd yn rhaid i bob plentyn gofrestru a chymerwyd enwau a manylion cyswllt eu rhieni/gwarcheidwaid rhag ofn bod unrhyw un o'r plant eisiau gadael cyn diwedd unrhyw sesiynau a fynychent. Mynychodd mwyafrif helaeth y plant y rhan fwyaf o sesiynau yn eu dewis safle a mynychodd nifer o blant sesiynau yn y bore a'r prynhawn. Ni chafwyd unrhyw anawsterau arbennig ac ni chododd unrhyw faterion diogelu gydag unrhyw blentyn yn ystod y cyfnod y bu'r cynlluniau'n gweithredu.

 

Rhoddir ystyriaeth yn awr i'r darpariaethau ar gyfer cyfnod haf 2017. Fe wnaeth y Gemau Sir Fynwy, sy'n ariannu'u hunain, yn y canolfannau hamdden barhau dros gyfnod hanner tymor mis Hydref ac mae'n debygol y bydd darpariaethau tebyg dros bum wythnos dros gyfnod gwyliau haf y flwyddyn nesaf. Mae trafodaethau yn mynd rhagddynt gyda TPS parthed y darpariaethau mynediad agored ar gyfer 2017 a hefyd gyda'r gwahanol gynghorau tref a chymuned mewn ymdrech i sicrhau eu cefnogaeth ariannol barhaus.

 

CraffuAelodau:

 

·         Mae'rberthynas waith gyda chynghorau tref a chymuned wedi gwella eleni.

 

·         Gofynnodd yr Is-gadeirydd am gyflwyno'r adroddiad hwn i Gyngor Tref Cas-gwent gyda golwg ar ailagor trafodaeth ar y mater.

 

·         Tudalen 24 yr agenda - angen gwelliant ar frig y dudalen, sef 80% nid 8%.

 

·         Mewn ymateb  i gwestiwn gan Aelod o'r Pwyllgor Dethol parthed y 48 cynllun chwarae, nodwyd fod Sir Fynwy wedi cynnal 12 ohonynt a Thorfaen wedi cynnal 36 o'r cynlluniau. Gallai Torfaen gynnal mwy o gynlluniau gan fod ganddynt wasanaeth chwarae a gyllidir yn llawn gyda chyllideb a chymorth grant ychwanegol, yn ogystal â bod â rhaglen cynllun chwarae oedd wedi sefydlu mwy.

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod o'r Pwyllgor Dethol, nodwyd ei bod yn anodd cymharu eleni gyda'r llynedd gan fod yr Awdurdod yn rhedeg rhywbeth gwahanol iawn. Mae cyfanswm nifer y plant sy'n defnyddio'r canolfannau hamdden wedi gostwng o gymharu gyda nifer y plant sy'n defnyddio'r cynlluniau chwarae. Fodd bynnag, mae cyfanswm nifer y plant sy'n cymryd rhan wedi aros yr un fath.

 

·         Mae gan yr Awdurdod bellach gynnig chwarae mwy cyson, hollgynhwysol.

 

·         Mae’r cydlynu gyda Gwasanaethau Plant yn dda.

 

·         Ymrwymedig i fodel chwarae mynediad agored.

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod o'r Pwyllgor Dethol am ddarpariaeth chwarae sefydlog o fewn y Sir, nodwyd na fu erioed gyllideb wedi'i chlustnodi ar gyfer darpariaeth chwarae sefydlog. Mae timau chwarae yn archwilio offer ac weithiau mae angen iddynt symud offer. Mae swyddogion yn gorfod adolygu offer chwarae sefydlog ar draws Sir Fynwy.

 

·         Ystyriwyd y gallai cynghorau tref a chymuned gymryd mwy o gyfrifoldeb yng nghyswllt darparu offer chwarae sefydlog.

 

·         Nodwyd mai ychydig iawn o fuddsoddiad fu yn y cynlluniau chwarae haf a chanmolwyd swyddogion am sicrhau darpariaeth y gwasanaeth yma.

 

Casgliad y Pwyllgor

 

Rhoddodd y Cadeirydd grynodeb fel sy'n dilyn:

 

·         Anfonyr adroddiad at y cynghorau tref a chymuned gyda golwg ar ymchwilio cefnogaeth bosibl.

 

·         Disgwylircadarnhad gan Lywodraeth Cymru am y grant Teuluoedd yn Gyntaf.

 

·         Pwysleisiwyd na chododd unrhyw faterion diogelu yn ymwneud â'r Cynllun Chwarae Haf.

 

·         Rhoddwyd adborth ardderchog ac roedd Cynllun Chwarae Haf 2016 yn lasbrint am y ddwy flynedd nesaf.

 

·         Roedd y cynllun yn annog symudedd ac ymarfer ymysg pobl ifanc

 

 

 

Dogfennau ategol: