Agenda item

CAIS DC/2016/01033 – DYMCHWELIAD ARFAETHEDIG O ADEILAD AR GYFER ALINIAD CORIDOR YR M4 (CAIS AM GANIATÂD ADEILAD RHESTREDIG). TŶ’R COETIR, MAGWYR.

Cofnodion:

GadawoddAelod lleol Brynbuga y cyfarfod cyn ystyried y cais hwn ac ni wnaeth ddychwelyd.

 

Ystyriwydadroddiad y cais a gohebiaeth hwy yn argymhell fod Llywodraeth Cymru yn galw'r cais i mewn. Bydd hyn yn sicrhau  y cymerir y penderfyniad ar Ganiatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer dymchwel yn iawn ar yr un pryd â'r penderfyniad ar ffordd liniaru arfaethedig yr M4. Amlinellir amodau yn yr adroddiad pe byddai Llywodraeth Cymru o blaid cymeradwyo Caniatâd Adeilad Rhestredig.

 

RoeddAelod lleol ward y Felin yn mynychu'r cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau dilynol:

 

           Mae'n ddyletswydd ar yr Awdurdod Cynllunio i gynnal egwyddorion y Cynllun Datblygu Lleol a'r polisïau ynddo.

 

           Mae'n adeilad gwych. Mae llawer o bobl leol yn ystyried ei fod yn adeilad pwysig a gwerthfawr iawn gyda llawer o gysylltiadau hanesyddol.

 

           Mae'r cais yn afreolaidd iawn ac yn anghyflawn. Dywedodd y Swyddog Cynllunio na allai'r Awdurdod hwn benderfynu ar y cais oherwydd nad yw'r arolygon ystlumod wedi'u cwblhau. Fodd bynnag, bu tystiolaeth y bu ystlumod yn clwydo yno ond yn 2015 penderfynwyd nad oedd clwydfa ystlumod yn yr adeilad.

 

           Dywedodd y Swyddog Ecoleg fod y fethodoleg a ddefnyddiwyd yn yr adroddiad hwnnw yn annigonol.

 

           Dywed polisi cynllunio cenedlaethol fod yn rhaid bod cyfiawnhad llawn am geisiadau ar gyfer dymchwel adeilad rhestredig a rhaid eu craffu cyn gwneud unrhyw benderfyniad. Dylai dymchwel unrhyw adeilad rhestredig gael ei ystyried fel eithriadol a bod angen y cyfiawnhad cryfaf posibl. Wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio ar gyfer dymchwel llwyr neu sylweddol adeiladau rhestredig, dylai awdurdodau roi ystyriaeth i gyflwr yr adeilad. Mae'r adeilad hwn mewn cyflwr perffaith. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn ystyried y caiff yr adeilad ei golli, neu ar ei orau, ei ddefnyddio ar gyfer adfer deunyddiau.

 

           Ni ddylai awdurdodau lleol awdurdodi dymchwel adeilad rhestredig i baratoi ar gyfer datblygiad newydd os nad yw'n bendant y bydd y datblygiad hwnnw yn mynd rhagddo.

 

           Nid oes sicrwydd y caiff Llwybr Du yr M4 ei ddewis fel y llwybr ar gyfer ffordd liniaru M4 ar hyn o bryd. Cafodd yr ymchwiliad cyhoeddus ei ohirio ymhellach gan fod rhagolygon twf traffig amhriodol neu ddigonol i gyfiawnhau’r datblygiad ar hyn o bryd. Felly, nid yw'n ymddangos fod y ddau amod y mae'n rhaid eu bodloni yn cael eu hateb.

 

           Argymhellir bod Llywodraeth Cymru yn galw'r cais hwn i mewn. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn ystyried nad yw'r adeilad yn bwysig. Mae Swyddog Cadwraeth yr Awdurdod yn credu'n wahanol a dywedodd fod yr adeilad yn hynod iawn gyda John Noble yn bensaer.

 

           Yn olaf, mae gan y cais astudiaeth anghyflawn o ystlumod.

 

           Gofynnodd yr Aelod lleol i'r Pwyllgor ystyried un ai wrthod y cais neu ei ohirio nes bod y cais un ai'n ddigonol neu y gwneir penderfyniad ar y Llwybr Du.

 

Hysbysodd y Pennaeth Cynllunio, Tai a Llunio Lle y Pwyllgor mai'r rheswm dros argymhelliad y swyddog oedd yr angen i edrych am bwysigrwydd cenedlaethol pennaf ffordd liniaru'r M4. Mae'n glir os aiff y Llwybr Du yn ei flaen bod yr adeilad wedi'i leoli dan y llwybr hwnnw. Drwy ofyn i Lywodraeth Cymru alw'r cais i mewn gyda'r amodau a amlinellwyd, os yw Llywodraeth Cymru yn cytuno, aiff hynny gerbron yr un arolygydd a chaiff ei ystyried fel rhan o'r broses apêl a'r canlyniad terfynol fydd un ai - ie i Lwybr Du yr M4 ac ie i ddymchwel yr adeilad neu na i'r ddau.

 

Mewnymateb i gwestiwn gan Aelod, nodwyd y gellid argymhell i Lywodraeth Cymru pe cymeradwyid y Llwybr Du, bod yr adeilad yn cael ei ddatgymalu a'i ailadeiladu mewn lleoliad arall.

 

Hysbysodd y Swyddog Monitro'r Pwyllgor pe byddai'r cais yn mynd i Lywodraeth Cymru i'w benderfynu, y byddai angen i Lywodraeth Cymru gynnal gwahanol asesiadau ecolegol, yn cynnwys arolygon ystlumod, cyn gwneud penderfyniad ar y mater.

 

Mewnymateb i gwestiwn gan yr Aelod lleol, hysbysodd Pennaeth Cynllunio, Tai a Llunio Lle y Pwyllgor mai arolygydd cynllunio annibynnol fyddai'n gwneud penderfyniad os gelwir y cais i mewn.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Sir P. Murphy ac eiliodd y Cynghorydd Sir R.G. Harris bod y Pwyllgor Cynllunio o blaid cymeradwyo'r cais gyda'r amodau a amlinellir yn yr adroddiad ac yn amodol ar adleoli'r adeilad. Dylai'r arolwg ystlumod gael ei unioni cyn i'r Arolygydd Cynllunio wneud ei benderfyniad a'r holl wybodaeth hon i gael ei galw i mewn gan Lywodraeth Cymru, fel y caiff y penderfyniad ei wneud ar yr un pryd â'r pendrefyniad ar leoliad ffordd liniaru'r M4.

 

Argael ei roi i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol:

 

O blaid y cynnig             -        8

Ynerbyn y cynnig          -        1

Ymatal                           -        1

 

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynwyd bod y Pwyllgor Cynllunio o blaid cymeradwyo'r cais gyda'r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn amodol ar adleoli'r adeilad. Dylid unioni'r arolwg ystlumod cyn i'r Arolygydd Cynllunio wneud ei benderfyniad a'r holl wybodaeth i'w galw i mewn gan Lywodraeth Cymru fel y gwneir y penderfyniad ar yr un pryd â'r penderfyniad ar ffordd liniaru'r M4.

 

 

 

Dogfennau ategol: