Agenda item

CAIS DC/2016/00921 – ADEILADU DAU DŶ UN LLAWR, MYNEDFA NEWYDD A MAN PARCIO. Y TIR GERLLAW FFERM Y FAENOR, ROGIET.

Cofnodion:

Ystyriwyd y cais a'r ohebiaeth hwyr, a argymhellwyd ar gyfer cymeradwyaeth gyda'r wyth amod a hefyd yn amodol ar Gytundeb Adran 106 ar gyfer cyfraniad ariannol i'w ddefnyddio tuag at ddarparu tai fforddiadwy yn yr ardal leol, fel yr amlinellir yn yr adroddiad.

 

Roedd Ms. R. Collett, a wrthwynebai'r cais, yn bresennol yn y cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau dilynol:

 

           Mae hwn yn grynodeb lefel uchel o wrthwynebiadau manwl iawn 11 o breswylwyr Sir Fynwy.

 

           Mae'r cais yn ymwneud ag amgylchedd eglwys restredig gradd II* a'r hawl tramwy cyhoeddus pwysig cysylltiedig rhwng gofod agored gwyrdd/meysydd chwarae ac eglwys rhestr gradd II*.

 

           Mae eglwys rhestr gradd II* yn ffurfio rhan o'r 8% uchaf o adeiladau rhestredig yn y wlad. Mae gan y safle arwyddocâd hanesyddol a diwylliannol ac fel amwynder pentref.

 

           Mae gan y rheswm am restru gysylltiad annatod at safle fferm y faenor a'r amgylchedd. Mae'r manylion fel sy'n dilyn:

 

-           Rhan o safle'n cynnwys y ffermdy, buarth ac adeiladau fferm Fferm Manor House ac eglwys a mynwent Santes Fair. Gwerth gr?p gydag eitemau rhestredig cyfagos yn Fferm Manor House.

 

           Yn gyffredinol mae cais cynllunio a chynigion lluosog yn cynnwys isrannu’r tai presennol yn safle Manor Farm yn golygu ardal drefol sylweddol fwy helaeth a dwys nag sy'n  addas ar gyfer y gosodiad lled-wledig yma.

 

           Mae bellach bum annedd ar y safle. Bydd y byngalos arfaethedig yn cynyddu hyn i saith annedd a bydd trosi'r ail ysgubor yn arwain at bosibilrwydd nifer fwy eto o anheddau. Mae hyn yn agosáu at 9/10 annedd ac yng nghynllun adnau gwreiddiol y Cynllun Datblygu Lleol gwrthododd y tîm cynllunio'r safle yma fel bod yn anaddas ar gyfer y nifer yma o dai.

 

           Yng nghyswllt Fframwaith Cenedlaethol Cynllunio Polisi, roedd gan y gwrthwynebwr bryderon dan benodau 7  a 12 am: dwysedd, tirlun a gwneud i leoedd edrych yn well ar gyfer pobl sy'n byw yn Rogiet a hawliau tramwy. Mae dwysedd y cynnig yn golygu y byddai angen darpariaeth parcio sylweddol. Er enghraifft, a thybio y bydd 10 annedd, amcangyfrifir y bydd angen darpariaeth ar gyfer 30 car. Mae'n anochel y bydd hyn yn dinistrio gofod gwyrdd ac yn amharu ar osodiad yr adeiladau rhestredig. Felly, mae gostwng dwysedd tai o'r cynnig presennol yn ymddangos yn addas.

 

           Bydd cerbydau dosbarthu / biniau gwastraff / leiniau golchi ac yn y blaen, sylfeini anheddiad dynol mewn cais mor ddwys, preifatrwydd isel yn amlwg iawn i ddefnyddwyr yr hawl tramwy cyhoeddus rhwng yr Eglwys a'r gofod gwyrdd agored/caeau chwarae a bydd yn amharu ar fwynhad preswylwyr o'r cyfleusterau pentref.

 

           Mae'r gwrthwynebwyr yn credu y bydd cam 2 y datblygiad yn gosod cynsail gwael iawn ar gyfer cam 3.

 

           Cafodd dull cynllunio a chadwraeth y safle ei gyfeirio at Reolwr Craffu y Cyngor Sir ac ysgrifennwyd yn uniongyrchol at Cadw.

 

           Argymhellion y preswylwyr yw bod y cais un ai'n cael ei wrthod neu ei ohirio nes y caiff materion proses ac ymgynghoriad pellach yn uniongyrchol gan breswylwyr gyda Cadw ei gwblhau.

 

Roeddyr ymgeisydd, Mr. N. Park, yn mynychu'r cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau dilynol:

 

           Teulu'r ymgeisydd yw perchen y safle ac maent yn dymuno ei wneud yn safle mwy addas nag ar hyn o bryd.

 

           Mae'r safle yn anaddas ar hyn o bryd.

 

           Mae'r adeiladau yn rhestredig a byddai'r ymgeisydd yn hoffi gofalu amdanynt drwy'r datblygiad yma.

 

           Bydd cymeradwyo'r cais yn sicrhau y bydd y safle yn fwy addas fel safle preswyl hir dymor.

 

Arôl ystyried adroddiad y cais a'r sylwadau a fynegwyd, ystyriai rhai Aelodau fod y byngalos arfaethedig, yn nhermau cyd-fynd gyda'r bythynnod gwyliau a gafodd eu trawsnewid ar y safle, ystyriwyd nad oedd sail ar gyfer gwrthod y cais.

 

Ystyriaiun Aelod fod y dyluniad yn feiddgar ac addas ar gyfer byw yn y 21ain ganrif.

 

Foddbynnag, ystyriai rhai Aelodau ei fod yn safle da iawn ac nad oedd unrhyw broblemau mewn codi dau fyngalo yn y lleoliad ond y gallai'r dyluniad fod yn well na'r hyn a gynigid.

 

Cynigiwyd felly i gymeradwyo cais DC/2016/00921 gyda'r wyth amod, a hefyd yn amodol ar Gytundeb Adran 106 am gyfraniad ariannol i'w ddefnyddio tuag at ddarpariaeth tai fforddiadwy yn yr ardal leol, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Argael ei roi i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol:

 

O blaid cymeradwyo       -          8

Ynerbyn cymeradwyo    -          2

Ymatal                           -          1

 

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynwydcymeradwyo cais DC/2016/00921 gyda'r wyth amod, a hefyd yn amodol ar Gytundeb Adran 106 am gyfraniad ariannol i'w ddefnyddio tuag at ddarparu tai fforddiadwy yn yr ardal leol, fel yr amlinellir yn yr adroddiad.

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: