Agenda item

CAIS DC/2016/00895 – ADEILADU ARCHFARCHNAD NEWYDD, MAES PARCIO A GWAITH TIRWEDDU CYSYLLTIEDIG. MARCHNAD WARTHEG Y FENNI, LION STREET, Y FENNI, NP7 5TR.

Cofnodion:

Gadawodd y Cynghorydd Sir D. Evans y cyfarfod cyn ystyried y cais ac ni ddychwelodd.

 

Ystyriwyd y cais a gohebiaeth hwyr a argymhellwyd ar gyfer cymeradwyaeth gyda'r 25 amod ac yn amodol ar y Cytundeb A106 diwygiedig yn cwmpasu'r gofynion blaenorol fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Amlinellodd Aelod lleol ward y Priordy, a fynychodd y cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd, y pwyntiau dilynol:

 

           Ar ôl cynnal arolygon yn y ward bu pwysau cymunedol sylweddol i'r cais gael ei benderfynu o blaid y datblygiad.

 

           Gofynnodd preswylydd lleol am i safle bws gael ei leoli yn agos at yr archfarchnad arfaethedig.

 

           Mae gan yr Aelod lleol gydymdeimlad gyda sylwadau gr?p seiclo y Fenni ac mae wedi nodi ei gefnogaeth. Ystyriwyd bod angen ffordd newydd o edrych ar ffyrdd seiclo yn nhref y Fenni.

 

           Tref Trosiant y Fenni - byddai'r Aelod lleol yn annog yr ymgeisydd i ddefnyddio cyflenwyr lleol lle bynnag sy'n bosibl.

 

           Mae Cymdeithas Ddinesig y Fenni wedi cyflwyno sylwadau.

 

           Yn gyffredinol, mae'r Aelod lleol o blaid y cynnig ond byddai'n annog yr ymgeisydd i gysylltu gyda chymdeithasau lleol i drin unrhyw faterion o gonsyrn sydd ar ôl.

 

Roedd y Cynghorydd C. Woodhouse, yn cynrychioli Cyngor Tref y Fenni, yn mynychu'r cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau dilynol:

 

           Aeth 12 mlynedd heibio ers agor tendrau ar gyfer datblygu safle'r Farchnad.

 

           Amcangyfrifir y cafodd £20m o arian y Fenni eu gwario y tu allan i'r dref yn ystod y cyfnod hwn o ddeuddeg mlynedd.

 

           Pleidleisiodd Cyngor y Dref yn ddiweddar o blaid y cais. Fodd bynnag, mae angen rhai newidiadau, sef:

 

-           Mae  angen i'r ffordd drwodd rhwng Stryd Llew a Stryd y Farchnad fod yn weladwy i annog pobl i siopa yn yr archfarchnad a hefyd o fewn y dref.

 

-           Gellid addurno waliau gwag y datblygiad arfaethedig gyda murlun yn rhoi sylw i ?yl Fwyd y Fenni, yr ?yl Seiclo a'r Rali Stêm, er enghraifft i ddangos ymdeimlad o berthyn i bobl y Fenni.

 

-           Gallai'r Fenni helpu i ran-gyllido hyn gyda'r ymgeisydd a phartneriaid.

 

-           Byddai defnyddio mwy o garreg yn gwneud y datblygiad yn fwy sionc a gwneud iddo edrych yn fwy gwledig.

 

-           Y Ddeddf Teithio Llesol - hoffai'r Gr?p Seiclo weld y llwybr cerdded ar ochr orllewinol y datblygiad yn dod yn ofod ar y cyd.

 

-           Mae gan Gyngor y Dref bryderon am groesi ar Heol y Parc ac yn ystyried bod angen gwneud hyn yn fwy diogel.

 

-           Mae angen cael asesiad traffig cyn-Morrison's ac wedi-Morrison's fel y gellir dynodi canlyniadau'r datblygiad arfaethedig.

 

Roedd Mr. P. Hannay, Cadeirydd Tref Trosiant y Fenni, yn cynrychioli gwahanol wrthwynebwyr i'r cais, yn mynychu'r cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau dilynol:

 

Hoffai'r gwrthwynebwyr weld yr amodau pendant dilynol yn cael eu cynnwys yn y cais:

 

           Dylai fod amod hollol bendant y byddir yn gwneud i'r cynllun gydymffurfio gydag arfer gorau Deddf Teithio Llesol 2013 sy'n rhwymo'n gyfreithiol. Nid yw'n cydymffurfio ar hyn o bryd fel y dengys sylwadau Gr?p Seiclo'r Fenni a Sustrans. Maent yn argymell gwelliannau i lwybrau ar draws y safle a chyffordd newydd yr A40. Dylid cymryd eu cyngor.

 

           Yng ngoleuni'r uchod, mae angen i'r ymgeisydd feddwl eto am led, geometreg ac wyneb y ddau lwybr newydd gogledd-de presennol i'r safle, i ddileu'r un grymog, ac i roi blaenoriaeth i lwybr 4 metr o led i gerddwyr yn cysylltu pen Stryd y Farchnad a chanol y Dref i Barc Bailey a Fairfield, ar hyd ymyl yr archfarchnad. Dylai hyn fod y prif lwybr ar gyfer pawb nad yw'n defnyddio car. Dylai hyn gael trefn weledol ar y safle, nid rhediad ceir y maes parcio ac yn ddelfrydol dylai fod yn goediog.

 

           Mae strategaeth wyneb caled yr holl safle a'i geirfa deunyddiau yn ddryslyd ac yn gwrthddweud. Dylai'r strategaeth ddilyn buddsoddiad dyluniad ansawdd uchel 'Iard y Bragdy' gyferbyn â'r safle a chael ei weithredu ar hyd Stryd Llew hefyd.

 

           Dylai ffin safle Stryd Llew fod yn hollol hygyrch i gerddwyr gyferbyn â mynedfa Iard y Bragdy i gynyddu nifer y rhai sy'n cerdded rhwng gweddill y dref a'r safle.

 

           Dylai'r Pwyllgor Cynllunio alw am ailosod y terfyn manwerthu heblaw bwyd o 20% a gafodd ei ddileu yn y Gwerthusiad - paragraff 5.1.5. Er bod polisi Cyngor Sir Fynwy yn dweud yn 4.1.10 y dylid ei gadw. 'Mae manwerthu am gystadleuaeth', meddai adroddiad y swyddog. Nid oes adroddiad effaith manwerthu wedi ei ddiweddaru ac eto mae'r swyddog yn dweud nad oes tystiolaeth i awgrymu fod canol y dref yn fregus. Ni roddir unrhyw ystyriaeth chwaith i fasnachwyr bwyd yn Neuadd y Farchnad. Dylid ailosod y terfyn o 20%.

 

           Mae angen ailfeddwl am ffurf a deunydd yr adeiladau. Dylai perfformiad ynni ymgorfforedig deunyddiau'r adeilad a diffyg cydrannau ynni adnewyddadwy, fel y disgwylid gan Lywodraeth Cymru, gaei ei ddisodli gan do goleddf ffrâm bren a chladin pren, trefol 'Neuadd y Farchnad'. Gallai tref farchnad Aberhonddu fod yn feincnod fel dyhead.

 

Tystiolaeth y gwrthwynebwyr i gefnogi hyn yw:

 

Mae Priffyrdd Llywodraeth Cymru a gymeradwyodd y cynllun ffordd cynharach a'r un blaenorol yn dweud ym mharagraff 4.1.2 "mae'r ymgeisydd yn edrych ar faterion yn ymwneud â'r Ddeddf Teithio Llesol." Nid yw edrych ar hyn yn ddigon. Gweithredwch ar y cyngor gorau os gwelwch yn dda.

 

Mae datganiad Dylunio Mynediad 29 Gorffennaf 2016 yn dweud "Bydd manylion deunyddiau caled ar wynebau llwybr troed yn debyg i rai datblygiad Iard y Bragdy". Mae'r newidiadau yn y datganiad Dylunio Mynediad diweddarach ar 11 Tachwedd yn dweud "tebyg i rai Stryd y Farchnad". Nid yw Stryd y Farchnad yn llwybr blaenoriaeth i gerddwyr mewn maes parcio. Mae Iard y Bragdy yn hynny. Dylid atgynhyrchu hynny.

 

Mae Polisi S1 Trafnidiaeth y Cynllun Datblygu Lleol yn cynnwys:

 

"Gostwng yr amser i deithio, yn arbennig mewn car"

"Hyrwyddo trafnidiaeth gyhoeddus, cerdded a seiclo"

"Lleihau effeithiau niweidiol parcio"

 

Dywed ymgynghorwyr trafnidiaeth yr ymgeisydd: "Mae'n dangos fod y rhan fwyaf o'r Fenni yn hygyrch o fewn pellter cerdded o ddim mwy na dau gilometr, gan felly roi cyfle gwych i staff a chwsmeriaid gerdded i'r stôr." Mae hefyd yn dweud pethau cadarnhaol a manwl am seiclo hefyd.

 

Fodd bynnag, yr hyn a gynigir mewn gwirionedd yw sied faestrefol allan-o'r-dref a wasanaethir gan faes parcio sy'n tanseilio'r polisi hwnnw yn llwyr. Ni chyflwynwyd cynllun manwl ar gyfer tirlunio caled gyda blaenoriaeth i gerddwyr, dim ond cynllun tirlunio meddal. Mae'r amod rhif 7 presennol yn ymwneud â'r mater yn 'llipa'. Mae'r lluniau a gyflwynwyd yn natganiad Dylunio a Mynediad mis Tachwedd yr ymgeisydd yn dangos tarmac a chroesiadau zebra mewn maes parcio.

 

Yn olaf, mae hwn yn gyfle unwaith mewn oes i wneud yr adeilad newydd mwyaf yn y Fenni am ganrif mae'n debyg i gyfateb urddas Neuadd y Farchnad a Neuadd y Dref, y Capel yn Stryd y Farchnad a'r adeiladau domestig a gwaith cain yn Stryd y Farchnad, Stryd Llew a Stryd Mynach o amgylch y safle. Mae gan y Pwyllgor Cynllunio gyfle i wneud y peth cywir. Gofynnwn i chi gadw at gyngor y cyrff hynny a gorfodi'r amodau hyn.

 

Amlinellodd Mr. C. Creighton, asiant yr Ymgeisydd, oedd yn mynychu'r cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd, y pwyntiau dilynol:

 

           Mae Morrison's eisiau bod yn rhan o ganol tref ehangach llwyddiannus iawn.

 

           Mae'r ymgeisydd wedi edrych sut y bydd y stôr newydd yn ffitio i'r Fenni yn nhermau maint, cysylltiadau, traffig a dyluniad.

 

           Yn nhermau maint, cynlluniwyd y stôr i fedru cystadlu gyda marchnadoedd mawr tu allan i'r dref sy'n mynd â masnach i ffwrdd o'r Fenni ond mae'n rhaid iddi hefyd fod o faint addas ar gyfer y safle, poblogaeth y dref a'i dalgylch.

 

           Mae'r hyn a gynigir ychydig yn llai na stôr Waitrose ond tua dwywaith maint stôr Tesco.

 

           Gall stôr fwyd mewn lleoliad canolog a chysylltiadau da gryfhau canol tref drwy roi cwsmeriaid newydd a chynyddu'r nifer sy'n ymweld â busnesau presennol.

 

           Yn nhermau cysylltiadau cafodd y llwybr gogledd/de drwy'r safle ei gadw gyda phlannu coed sylweddol.

 

           Bydd croesiad tair ffordd dros groesiad Heol y Parc.

 

           Edrychwyd ar ddarpariaeth ar gyfer beiciau a chynhaliwyd trafodaethau gyda Chynulliad Cymru gyda golwg ar ddarparu lonau seiclo diogel. Bydd manylion hyn ar gael yng Nghytundeb Adran 278 a lofnodir gyda Chynulliad Cymru.

 

           Mae'r ymgeisydd eisiau annog pobl sy'n dod i'r stôr i hefyd ymweld â siopau a gwasanaethau lleol yng nghanol y dref.

 

           Mae'r datblygiad yn darparu 233 o ofodau parcio newydd mewn lleoliad canolog.

 

           Mae dyluniad y datblygiad yn adeilad cyfoes glân a chrisb gyda sylweddol mwy na wydr na'r cais blaenorol, gan alluogi ymwelwyr i gysylltu'n weledol gyda'r Fenni.

 

           Mae gan y stôr fynedfa neilltuol yn defnyddio peth o'r cerrig a adferwyd o ddymchwel hen adeiladau'r farchnad wartheg.

 

           Mae'r cynllun a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Cynllunio yn bodloni pob polisi, yn rhoi cynllun ymarferol fydd yn rhoi stôr fwyd newydd ddeniadol ac a gynlluniwyd yn dda y gall Morrison's a'r Fenni fod yn falch ohoni.

 

Amlinellodd Aelod o'r Pwyllgor Cynllunio yn cynrychioli ward yn nhref y Fenni y pwyntiau dilynol yn erbyn y cais:

 

           Cymeradwyo sylwadau Cadeirydd Tref Trosiant y Fenni yng nghyswllt yr amodau a amlinellwyd.

 

           Mae'r stôr yn stôr allan o'r dref.

 

           Mae wedi cymryd 12.5 mlynedd i gyrraedd y cam hwn o'r cais.

 

           Mae llawer o bobl yn y Fenni yn gwrthwynebu'r datblygiad.

 

           Mae gan y Fenni yn awr dair archfarchnad yn y dref.

 

           Mae angen ychwanegu amod parthed y canran o anghenion heblaw bwyd a bwyd i sicrhau y cyfuniad cywir ac osgoi cael effaith niweidiol ar fusnesau yn y dref, os cymeradwyir y cais.

 

           Ni ellir cefnogi caffe o fewn y safle. Mae saith gwahanol sefydliad bwyta yn agos at y stôr arfaethedig.

 

           Mae angen gweld gwelliannau traffig i Heol y Parc gyda golwg ar i'r ffordd fedru ymdopi gyda chynnydd mewn traffig.

 

           Cytundeb Adran 106 - Roedd angen cynnal datblygiad iawn o Stryd Llew.

 

           Mae'r Gymdeithas Ddinesig a Thref Trosiant y Fenni wedi gwneud awgrymiadau gwerthfawr y dylid eu nodi.

 

Amlinellodd Aelodau eraill o'r Pwyllgor Cynllunio yn cynrychioli wardiau yn nhref y Fenni neu'n agos at y dref y pwyntiau dilynol o blaid y cais:

 

           Mae'r dref wedi tyfu mewn blynyddoedd diweddar ac mae preswylwyr wedi bod yn gofyn am archfarchnad fawr o fewn y dref am nifer o flynyddoedd.

 

           Mae pobl wedi bod yn cerdded i'r dref o'r gwahanol feysydd parcio yn y Fenni am flynyddoedd lawer. Ni fydd y datblygiad hwn, os caiff ei gymeradwyo, yn llesteirio'r broses honno.

 

           Bydd y datblygiad arfaethedig yn ased mawr i'r dref ac yn annog pobl leol i siopa yn y dref yn hytrach na mynd i fan arall.

 

           Mae Morrison's wedi dewis buddsoddi yn y Fenni sy'n gryn hwb i'r dref ac i Sir Fynwy.

 

Mewn ymateb i gwestiynau a godwyd, dywedodd Pennaeth Cynllunio, Tai a Llunio Lle:

 

           Mae'r Ddeddf Teithio Llesol yn cydymffurfio o ran y gyffordd. Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi cymeradwyaeth ar gyfer y gwelliannau i'r gefnffordd.

 

           Yng nghyswllt y ddolen Gogledd/De, mae swyddogion yn gweithio gyda'r ymgeisydd i ganfod os gall fod yn dri metr o led.

 

           Caiff perfformiad ynni ei drin drwy reoliadau busnes.

 

           Ni chafodd terfyn manwerthu bwyd o 20% ei argymell gan swyddogion gan fod y safle mewn lleoliad yng nghanol y dref ac felly ni fyddai'n edrych ar gyfyngu defnydd manwerthu o fewn canol y dref. Ni all yr Awdurdod edrych ar faterion cystadleuaeth o fewn canol tref.

 

           Eglurhad Adran 106 - byddai'r Awdurdod yn rheoli parcio yn yr archfarchnad drwy Gytundeb Adran 106 a byddai'n cydymffurfio gyda thelerau ac amodau meysydd parcio'r Cyngor.

 

Ar ôl ystyried adroddiad y cais a'r farn a fynegwyd, cynigiodd y Cynghorydd Sir P. Murphy ac eiliodd y Cynghorydd Sir M. Powell gymeradwyo cais DC.2016/00895 gyda'r 25 amod ac yn amodol ar y Cytundeb Adran 106 diwygiedig yn cwmpasu gofynion blaenorol, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Ar gael ei roi i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol:

 

O blaid cymeradwyo    -      10

Yn erbyn cymeradwyo -      1

Ymatal                        -      0

 

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cais DC/2016/00895 gyda'r 25 amod ac yn amodol ar Gytundeb Adran 106 diwygiedig yn cwmpasu'r gofynion blaenorol, fel yr amlinellir yn yr adroddiad.

 

Nodyn:

 

Ar ddiwedd y cyfarfod rhoddodd y Pennaeth Cynllunio, Tai a Llunio Lle yr wybodaeth ddilynol i'r Pwyllgor:

 

Fel y drafftiwyd, byddai'r amod oriau agor ar gyfer dyddiau Sul yn anghyfreithlon oherwydd cyfreithiau masnachu'r Sul. Dim ond am chwe awr rhwng 10.00am a 6.00pm y gallai'r stôr agor. Caiff yr amod i adlewyrchu'r band a ganiateir ei addasu'n unol â hynny, ond nid oes angen manylu am slot chwe awr gan fod deddfwriaeth arall yn cynnwys hynny. Yn yr un modd, nid oes angen cyfeirio at Ddydd Nadolig neu Sul y Pasg gan fod deddfwriaeth arall yn cynnwys hynny.

 

 

 

 

Dogfennau ategol: