Agenda item

CAIS DC/2016/00287 – ESTYNIAD I YSGUBOR BEAULIEU I DDARPARU MAN MEWNOL ADDAS I DDARPARU AR GYFER SAFON FODERN O LETY PRESWYL BYW. YSGUBOR BEAULIEU, 25 HEOL Y CYMIN, Y CYMIN, TREFYNWY, NP25 3SD.

Cofnodion:

 

Gadawodd y Cynghorydd Sir R.J. Higginson y cyfarfod cyn y penderfynwyd ar y cais ac ni wnaeth ddychwelyd.

 

Ystyriwydadroddiad y cais a gohebiaeth hwyr, a gyflwynwyd ar gyfer ei wrthod am y tri rheswm a amlinellir yn yr adroddiad.

 

AmlinelloddAelod lleol Wyesham, oedd yn mynychu'r cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd, y pwyntiau dilynol:

 

           Roedd yr ymgeisydd wedi rhoi crynodeb i'r Pwyllgor Cynllunio o hanes cynllunio'r deng mlynedd diwethaf yng nghyswllt y safle.

 

           Mae'r eiddo yn fach ac yn gyfyng iawn tu mewn gan arwain at amodau byw anodd.

 

           Ni fu'r polisïau cynllunio a weithredwyd ar gyfer y cais a'r safle yn gyson.

 

           Cafodd caniatâd ar gyfer trawsnewid yr ysgubor ei roi yn wreiddiol yn 2006. Nododd yn y polisi hwnnw fod yn rhaid iddo fedru rhoi gofod byw digonol.

 

           Nid oedd unrhyw ddatganiad yn y Cynllun Datblygu Unedol yn datgan yr ystyrid y byddai 250 metr ciwbig yn gyfaint mewnol derbyniol ar gyfer safonau byw modern. Fel y saif ar hyn o bryd, mae Ysgubor Beaulieu yn 187 metr ciwbig. Fodd bynnag, ni chydymffurfiwyd â'r polisi hwnnw pan roddwyd cymeradwyaeth.

 

           Rhoddwyd cyngor cyn-cynllunio nad yw'n ymddangos ei fod yn cyfateb gyda'r gwahanol bolisïau.

 

           Mae angen cymryd ymagwedd synnwyr cyffredin yng nghyswllt y cais fel y gall yr ymgeisydd gael cartref sy'n ddigon mawr i fyw ynddo.

 

           Nid oes unrhyw wrthwynebiadau gan y gymuned.

 

           Gofynnwyd i'r Pwyllgor Cynllunio ystyried cymeradwyo'r cais.

 

Roedd Mr. D. Edge, yn cefnogi'r cais, yn bresennol yn y cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd, ac amlinellodd y pwyntiau dilynol:

 

           Nid yw preswylwyr lleol yn gwrthwynebu'r cais.

 

           Mae rhai preswylwyr wedi cefnogi'r cais mewn ysgrifen.

 

           Mae Cyngor Tref Trefynwy yn cefnogi'r cais.

 

           Mae'r eiddo yn ddi-os yn fach ac mae ganddo amrywiaeth o broblemau.

 Un ardal fyw sydd gyda sinc a ffwrn tra bod hefyd gegin groes. Mae'r ardaloedd paratoi a storio mewn ystafell ar wahân. Mae mynediad i ystafell ymolchi rhwng dau hanner y gegin.

 

           Mae synnwyr cyffredin yn dweud nad yw hyn yn drefniant glanwaith.

 

           Nid yw'r eiddo yn amlwg i'r llygad. Mae gwrych gwledig traddodiadol o amgylch yr eiddo ac mae wedi ei sgrinio'n gymharol dda.

 

           Bydd yr estyniad i'r gorllewin ymaith o'r llwybr troed cyhoeddus.

 

           Mae'r cynnydd mewn maint o 86% yn fach mewn gwirionedd oherwydd maint presennol yr eiddo.

 

           Mae pobl leol yn gysurus gyda'r estyniad arfaethedig.

 

           Mae angen cymryd agwedd hyblyg, synnwyr cyffredin yng nghyswllt y cais hwn.

 

Dywedodd y Pennaeth Cynllunio, Tai a Llunio Lle nad oes unrhyw anghysondeb yn y polisïau cynllunio ac mae'r penderfyniadau a gymerwyd yn gyson. Nid yw'r cynnydd ym maint yr eiddo arfaethedig yn cyfiawnhau mynd yn erbyn polisi cynllunio a dylid gwneud penderfyniadau yn unol â'r Cynllun Datblygu Lleol.

 

Arôl ystyried adroddiad y cais a'r sylwadau a fynegwyd, derbyniodd rhai Aelodau fod y cais yn groes i bolisi cynllunio ond cytunent gyda'r sylwadau gan yr Aelod lleol a chefnogwr y cais bod y safonau byw presennol yn annerbyniol. Byddai cymeradwyo'r cais yn golygu y byddai'r annedd yn dal yn fach ond byddai'n rhoi gwell safonau byw i'r ymgeisydd.

 

Foddbynnag, mynegodd Aelodau eraill bryder y byddai cymeradwyo'r cais yn groes i bolisi cynllunio a chefnogent argymhelliad y swyddogion i wrthod y cais.

 

Daethyr Aelod lleol i ben drwy ddweud mai dull synnwyr cyffredin fyddai cymeradwyo'r cais gan y byddai'r cynnydd ym maint y datblygiad yn gynnil.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Sir A. Wintle ac eiliodd y Cynghorydd Sir R. Harris bod cais DC/2016/00287 yn cael ei wrthod am y tri rheswm a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Argael ei roi i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol:

 

O blaid gwrthod       -          4

Ynerbyn gwrthod    -          8

Ymatal                    -          0

 

Ni chariwyd y cynnig.

 

Penderfynwyd felly ein bod o blaid cymeradwyo cais DC/2016/00287 a'i fod yn cael ei ailgyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Cynllunio ar gyfer cymeradwyaeth gydag amodau priodol.

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: