Agenda item

CAIS DC/2012/00754 – DYMCHWELIAD ARFAETHEDIG Y FICERDY CYFREDOL AC ADEILADU FICERDY NEWYDD AC 11 TŶ NEWYDD GAN GYNNWYS PEDAIR UNED O DAI FFORDDIADWY – CYNLLUN DIWYGIEDIG YN CYNNWYS TREFNIADAU PARCIO DIWYGIEDIG, GWEDDLUNIAU DIWYGIEDIG, ASESIAD ECOLEGOL DIWYGIEDIG, ADRODDIAD PEIRIANNYDD STRWYTHUROL AC ADRODDIAD YMCHWILIAD TIR (HALOGIAD). 38 HILLCREST ROAD, WYESHAM, TREFYNWY, NP25 3LH.

Cofnodion:

Ystyriwyd y cais a'r ohebiaeth hwyr, a argymhellwyd ar gyfer cymeradwyaeth gyda'r 13 amod ac yn amodol ar Gytundeb Adran 106 i sicrhau pedair uned o dai fforddiadwy ar y safle.

 

Hysbyswyd y Pwyllgor Cynllunio fod y cais yn hen gynnig a ohiriwyd gan y Pwyllgor ar 5 Tachwedd 2013 i alluogi'r swyddogion i gydlynu gyda'r ymgeisydd parthed newidiadau i ddyluniad y tai, darpariaeth parcio i gydymffurfio gyda'r canllawiau a fabwysiadwyd gan y Cyngor, cael sylwadau Priffyrdd, derbyn adroddiad halogiad ac adroddiad ar sefydlogrwydd y tir.

 

Amlinellodd Aelod lleol Wyesham, oedd yn mynychu'r cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd, y pwyntiau dilynol:

 

  • Mae preswylwyr Wyesham wedi mynegi pryderon yng nghyswllt y cais.

 

  • Derbyniwyd deiseb gyda 278 llofnod yn ymwneud â'r cais.

 

  • Mae tri mater o gonsyrn ond y mwyaf yw halogiad ar y safle. Cynhaliwyd profion ac argymhellodd y swyddog amgylcheddol arbenigol samplo ychwanegol.

 

  • Mae'rprofion wedi dangos amrywiaeth o lygryddion ond y prif ganfyddiadau yw benzopyrene, asbestos a phridd wedi'i wneud.

 

  • Canllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer benzopyerene yw 5mg fesul cilogram. Mae'r canlyniadau'n awgrymu 6.06mg y cilogram.

 

  • Drosgyfnod o flynyddoedd mae tystiolaeth y bu tipio anghyfreithlon ar y safle. Roedd yn beth cyffredin i hyn ddigwydd yn ymwneud â thipio deunydd peryglus ar draws yr holl safle.

 

  • Defnyddiodd y Cyngor fel safle cadw wrth adeiladu'r adeiladau preffab newydd.

 

  • Byddai'rcynnig yn adeiladu dros ran fwyaf halogedig y safle. Rhoddir pilen dros y safle a rhoi pridd drosto. Bydd nodyn ar weithredoedd yr eiddo yn hysbysu perchnogion am y mater. Nid yw hyn o ddim sicrwydd i breswylwyr.

 

  • Bu ymsuddiant ar un ochr i'r safle. Mae rhai preswylwyr wedi profi symudiad yn eu gerddi a'u garejys.

 

  • Nidyw cynigion y peiriannydd yn rhoi sicrwydd i breswylwyr.

 

  • Mae pryderon am y ffordd newydd a mynediad i Heol Hillcrest.

 

  • Gofynnoddyr Aelod lleol i'r Pwyllgor ystyried gohirio'r cais nes y cynhaliwyd profion pellach.
  • Mae angen ymchwiliad pellach yn ogystal â strategaeth ar gyfer adferiad llawn.

 

Roedd y Cynghorydd S. Wilson, yn cynrychioli Cyngor Tref Trefynwy, yn mynychu'r cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau dilynol:

 

  • PleidleisioddPwyllgor Cynllunio Cyngor y Dref dros wrthod y cynnig nifer o flynyddoedd yn ôl a nodir y rhesymau yn yr adroddiad amlinellol.

 

  • FelCynghorydd Tref ar gyfer yr ardal, gofynnwyd i'r Cynghorydd Wilson siarad ar ran pobl leol gan fod rhai eisiau mynegi lefel neilltuol o gefnogaeth ar gyfer y datblygiad.

 

  • Roedd y ddeiseb yn rhoi teimlad cyffredinol fod pawb yn erbyn y cynllun ac ystyriai rhai preswylwyr nad felly yr oedd.

 

  • Mae'rpryderon gan y bobl sy'n gwrthwynebu'r datblygiad ac mae'r rhesymau pam fod pobl yn ei gefnogi yn cyfeirio at yr un mater o halogiad ar y safle.

 

  • Mae cefnogwyr a gwrthwynebwyr i'r datblygiad fel ei gilydd eisiau gweld yr amodau cywir yn cael ei gweithredu i'r datblygiad ar gyfer profion a mesurau gofalu digonol wrth ymyrryd ar y datblygiad ei hun.

 

  • Dywedcefnogwyr fod halogiad ar y safle, nad yw'n mynd i wella ac y'i defnyddir fel safle ar gyfer tipio anghyfreithlon. Byddai'n rhwydd i blant gael mynediad i'r safle peryglus. Felly, mae'r cefnogwyr yn ystyried bod y datblygiad tai yn ffordd bosibl o ddatrys y materion a nodwyd parthed y safle.

 

  • Yng nghyswllt mynediad i'r safle, mae'r Cyngor Tref yn ystyried y byddai'n rhaid i unrhyw gynllun rheoli adeiladu ei gwneud yn glir sut y bydd mynediad diogel i'r datblygiad.

 

Arôl ystyried adroddiad y cais a'r sylwadau a fynegwyd, nodwyd y pwyntiau dilynol:

 

  • Mae amodau llym ar y cais sy'n trin y materion a godwyd.

 

  • Mynegwydpryder am halogiad y safle. Fodd bynnag, dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Datblygu fod amod 10 yn cyfeirio at fod angen strategaeth ar gyfer adferiad llawn. Fodd bynnag, ar gyfer lefel yr asesiad sydd ei angen ar gyfer y cais cynllunio, mae swyddogion yn ymwybodol o'r risg ac y gellir ei drin yn amodol ar liniariad.

 

  • Gan fod angen mwy o liniariad parthed y safle, ystyriwyd y gellid gohirio'r cais nes y cynhaliwyd y profion gofynnol. Dywedodd y Pennaeth Cynllunio, Tai a Llunio Lle na fyddai gofyniad o'r fath yn rhesymol gan y disgwylid i'r ymgeisydd dreulio cryn lawer o arian heb unrhyw sicrwydd y bydd yn derbyn caniatâd ar gyfer datblygu preswyl. Byddai'r amodau o fewn y cais yn rheoli'r pryderon a godwyd yng nghyswllt halogiad.

 

Daeth yr Aelod Lleol i ben drwy ofyn i'r Pwyllgor Cynllunio ystyried gohirio'r cais i ganiatáu rhoi strategaeth adfer ar waith.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Sir R. Harris ac eiliodd y Cynghorydd Sir R. Chapman ein bod o blaid gohirio ystyriaeth cais DC/2012/00754 i ganiatáu profion pellach am halogiad.

 

Argael ei roi i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol:

 

O blaid gohirio         -         2

Ynerbyn gohirio      -         11

Ymatal                    -          0

 

Ni chariwyd y cynnig.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Sir. R. Murphy ac eiliodd y Cynghorydd Sir A. Webb bod cais DC/2012/00754 yn cael ei gymeradwyo gyda'r 13 amod ac yn amodol ar Gytundeb Adran 106 i sicrhau pedair uned o dai fforddiadwy ar y safle.

 

Argael ei roi i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol:

 

O blaid cymeradwyo       -         11

Ynerbyn cymeradwyo    -          0

Ymatal                           -          0

 

Cariwyd y cynnig

 

Penderfynwydcymeradwyo cais DC/2012/00754 gyda'r 13 amod ac yn amodol ar Gytundeb Adran 106 i sicrhau pedair uned o dai fforddiadwy ar y safle.

 

 

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: