Agenda item

Cynnig gan y Cynghorydd Sir R.J.W. Greenland

Mae’r ailbrisiad diweddar a gynigiwyd ar gyfer cyfraddau annomestig (NNDR – cyfraddau busnes) wedi arwain at gynnydd brawychus i fusnesau yn Sir Fynwy.

 

Mae 65% o fusnesau yn y Sir wedi gweld cynnydd yn eu cyfraddau drafft gyda nifer yn cynyddu mwy na 200%. Yn ymarferol, golyga hyn, os caiff y cynigion eu cadarnhau, bod rhai busnesau yn wynebu cynnydd o ddegau o filoedd o bunnoedd y flwyddyn nesaf. Ymddengys bod patrwm o siroedd gwledig yn wynebu cynnydd tra bod cyfraddau’r trefi a dinasoedd mwy yn gostwng. Gan fod y system yn seiliedig ar werthoedd rhentu tybiannol, ymddengys yn annhebygol bod y newid yng ngwerthoedd rhentu adeiladau busnes rhwng 2010 a 2015 yn adlewyrchu’r cynnydd yng ngwerthoedd trethiannol a gynigir ar gyfer rhai o fusnesau Sir Fynwy.

 

Os nad ydym am herio’r ailbrisiad hwn, gallai olygu bod rhai o’n prif fasnachwyr a busnesau lletygarwch yn benodol yn methu parhau i fasnachu.

 

Os yw busnesau yn cael eu gorfodi i dalu cynnydd mawr yn seiliedig ar yr ailbrisiad hwn, wrth iddynt ddisgwyl am ganlyniadau apeliadau, gallai problemau llif arian difrifol peryglu dyfodol rhai ohonynt. Ar y lleiaf, anogwn Lywodraeth Cymru i beidio â gorfodi’r cynnydd cyn derbyn canlyniadau apeliadau.

 

Mae hefyd yn bryder i’r Cyngor hwn, tra bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun ponti ar gyfer busnesau bychain wedi’u heffeithio gan y cynnydd, nid yw wedi gwneud yr un fath ar gyfer busnesau mwy, a fydd yn teimlo’r effaith yn fwy. Rydym yn galw am drefniadau pontio cydymdeimladol ar gyfer yr holl fusnesau.

 

Mae gan Lywodraeth Cymru y p?er i osod neu ohirio’r cynigion hyn. Gan ystyried y pryder a fynegwyd gan y Cyngor hwn a nifer o fusnesau yn Sir Fynwy, fe anogwn Lywodraeth Cymru i ohirio’r cynigion drafft hyn i ganiatáu amser i adolygu’r fethodoleg yn drylwyr ac ystyried canlyniadau’r ailbrisiad hwn.

 

Cofnodion:

Mae’r ailwerthusiad diweddar arfaethedig o gyfraddau annomestig (NNDR – cyfraddau busnes) wedi taflu i fyny rhai cynyddiadau syfrdanol ar gyfer busnesau yn Sir Fynwy. Mae 65% o’r busnesau yn y Sir wedi darganfod cynnydd yn eu cyfraddau drafft gyda nifer yn codi gan fwy na 200%. Yn ymarferol, golyga hyn os yw’r cynigion yn cael eu cadarnhau bod rhai busnesau’n wynebu cynnydd o ddegau o filoedd o bunnoedd y flwyddyn nesaf. Ymddengys bod patrwm o siroedd gwledig yn wynebu cynyddiadau tra bod cyfraddau trefi a dinasoedd mwy yn gostwng. Gan fod y system yn seiliedig ar werthoedd rhent tybiannol, ymddengys yn annhebygol bod y newid yng ngwerthoedd rhent lleoliadau busnes rhwng 2010 a 2015 yn adlewyrchu’r cynnydd yng ngwerthoedd trethiannol a gynigwyd ar gyfer rhai o fusnesau Sir Fynwy. Os na herir yr ailwerthusiad hwn, gallai olygu bod rhai o’r masnachwyr a busnesau lletygarwch mwyaf blaenllaw yn methu â pharhau i fasnachu.

 

Os yw busnesau’n cael eu gorfodi i dalu cynnydd mawr yn seiliedig ar yr ailwerthusiadau hyn wrth iddynt aros am ganlyniad apeliadau, gallai problemau arwyddocaol gyda llif arian beryglu dyfodol rhai busnesau. Ar y lleiaf, rydym yn annog Llywodraeth Cymru i beidio â chyflwyno’r cynnydd tan fod canlyniadau’r apeliadau’n hysbys.

 

Mae hefyd yn bryder i’r Cyngor hwn, tra bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun pontio ar gyfer busnesau bach a effeithir gan y cynnydd, nid yw wedi gwneud yr un peth ar gyfer a  busnesau mwy a fydd yn cael eu heffeithio’n waeth. Rydym yn galw am drefniadau pontio sympathetig ar gyfer pob busnes.

 

Mae gan Lywodraeth Cymru’r p?er i gyflwyno neu ohirio’r cynigion hyn. Gan ystyried y pryder a fynegwyd gan y Cyngor hwn a nifer o fusnesau yn Sir Fynwy, anogwn Lywodraeth Cymru i ohirio’r cynigion drafft hyn i ganiatáu amser am adolygiad trylwyr o’r fethodoleg ac i ystyried y canlyniadau a ddaw i’r amlwg o’r ailwerthusiad hwn.

 

Cyn cyflwyno’r cynnig, fe anerchodd y Cynghorydd Easson y Cyngor a gofyn am eglurder o ran dilysrwydd y cynnig ar y sail bod y Cynghorydd Easson ei hun wedi cyflwyno cynnig a oedd wedi cael ei wrthod i’w gynnwys yn y cyfarfod oherwydd ei bod yn cael ei ystyried fel un a oedd y tu allan i orchymyn sefydlog 12.3.  Fe gynghorodd y Swyddog Monitro ei fod wedi gwneud y penderfyniad oherwydd bod y cynnig a gyflwynwyd ddim yn cydymffurfio â 12.3, tra bod y cynnig a godwyd gan y Cynghorydd Greenland yn cyfeirio’n benodol at fusnes Sir Fynwy. Fe ychwanegodd y gallai addasu’r geiriad yn y cyfansoddiad, pe dymunai’r Cyngor iddo wneud hynny.

 

Yn ystod y drafodaeth, fe nodom y canlynol:

 

·         Cytunodd yr Aelodau bod neuaddau pentref yn rhan ganolog o’r gymuned ac y byddent hefyd yn cael eu heffeithio. Ar hyn o bryd mae neuaddau pentref yn derbyn gostyngiad ychwanegol o 80% ar gyfraddau busnes fel grant o’r Cyngor.

·         Roedd Arweinydd y Busnes yn cydnabod y pwysau ar fusnesau ac fe ychwanegodd bod dyletswydd arnom i gefnogi’r cynnig hwn ar ran busnesau Sir Fynwy. Fe ddiolchodd i’r Cynghorydd Greenland am y gwaith y tu ôl i gyflwyno’r cynnig, ar i’r Aelodau am eu cefnogaeth.

·         Fe bwysleisiodd y Cynghorydd G. Howard ei bod yn glir na fyddai unrhyw gyfraddau busnes yn cael eu talu ar gyfer siopau a gwestai gweigion, ond fynegodd siom yn Llywodraeth Cymru o ran yr effaith byddai’r ailwerthusiad yn ei gael ar fusnesau newydd sy’n ceisio cynyddu nifer y cwsmeriaid.

·         Nododd Arweinydd yr Wrthblaid bod yr asesiad wedi cael ei wneud gan y Swyddfa Brisio Annibynnol, a holwyd a oedd Gr?p y Ceidwadwyr yn dadlau annibyniaeth y Swyddfa Brisio. Datganodd y Cynghorydd Batrouni bod dim gwrthwynebiad i’r cynnig gan y Gr?p Llafur, ond teimlwyd mai cynnig gwleidyddol oedd y datganiad yn ymwneud â Llywodraeth Cymru.

·         Fe ddatganodd y Cynghorydd G. Down ei fod yn cefnogi’r cynnig. Fe ychwanegodd y byddai neuaddau pentref yn gweld cynnydd mewn cyfraddau busnes, ac fe wahoddodd y Cynghorydd Murphy i ystyried a oedd cymorth o 80% yn ddigon.  Ychydig o fusnesau yn unig fyddai’n gallu goroesi cynnydd o 200% mewn cyfraddau, ac fe gredwyd y byddai rhai busnesau’n cal o ganlyniad. Roedd y Cynghorydd Down yn credu bod angen i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU edrych ar y berthynas rhwng cyfraddau busnes annomestig a’r dreth gyngor er mwyn dod o hyd i fodd o ail-fantoli’r cyfraniadau ar gyfer gwasanaethau lleol. Roedd o’r farn mai Llywodraeth Cymru oedd ar fai, nid y Swyddfa Brisio.

·         Fe bwysleisiodd y Cynghorydd A. Watts bod nifer y busnesau bach sy’n talu dim cyfraddau busnes wedi cynyddu, ac y dylem fod yn glir ar y gwrthdaro yn y dystiolaeth ac yr hoffem weld rhagor o eglurder.

·         Fe ymatebodd y Cynghorydd Sir Greenland gan ddweud, wrth gyflwyno’r cynnig, ei fod ddim yn bwriadu bod yn wleidyddol ac roedd yn credu ei bod yn bwnc y gallai pawb gytuno ar. Cydnabuwyd bod y Swyddfa Brisio yn gorff annibynnol, yn rhan o Gyllid a Thollau ei Mawrhydi, yn cynnal prisiadau ar adeiladau busnesau yng Nghymru ar ran Llywodraeth Cymru. Mater i Lywodraeth Cymru yw’r penderfyniadau terfynol. 

Y diwrnod canlynol, roedd y Cynghorydd Greenland, ynghyd â’r Prif Weithredwr, y Pennaeth Menter ac Arloesi a David Cummings, cynrychiolydd o’r gymuned busnes, wedi cwrdd â Phrif Brisiwr Cymru i drafod materion a chael dealltwriaeth o’r fethodoleg a’r broses. Roedd y cyfarfod wedi bod yn gydgordiol ac fe ddarparwyd gwybodaeth i’w drafod ymhellach yn y dyfodol.

 

Eiliwyd y cynnig, ac wrth gael ei roi i bleidlais, fe gariwyd y cynnig.