Agenda item

I nodi'r Rhestr Camau Gweithredu o'r 15fed o Fedi 2016

Cofnodion:

Roeddem wedi derbyn y Rhestr Camau Gweithredu o’r 15fed o Fedi 2016.  Fel rhan o hyn, nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

           Ysgol Cas-gwent: Roedd y Prif Swyddog Adnoddau wedi darparu crynodeb o’r ymateb a rannwyd gydag Aelodau’r Pwyllgor o ran y pwynt a ofynnwyd gan aelod o’r cyhoedd a’r cwestiynau a ofynnwyd gan Gynghorydd  Easson.

 

Roedd yr ymateb a roddwyd yngl?n â’r pwynt cyntaf sydd yn ymwneud a lleihau’r nifer o swyddi dysgu llawn amser yn yr ysgol, wedi ei dderbyn fel ymateb boddhaol. 

 

 

O ran y penderfyniad i ymwrthod rhag defnyddio’r gwasanaethau Adnoddau Dynol sydd yn cael eu cynnig gan y Cyngor a dewis derbyn gwasanaethau gan Judicium Consulting Limited, gofynnodd un aelod pam fod dwy ysgol wedi dewis un cwmni. Tra cydnabuwyd fod Llywodraethwyr yn meddu ar yr hawl i wneud y fath benderfyniad, mynegwyd pryder fod hwn yn gam tuag at statws academi ac yn erydiad graddol o wasanaethau Adnoddau Dynol yr Awdurdod sydd yn gweithio yn dda iawn gydag ysgolion ac aelodau.  Awgrymwyd y dylid monitro’r sefyllfa.

 

O ran y trydydd pwynt, dywedodd yr Aelod ei fod yn fodlon fod camau wedi eu cymryd er mwyn cywiro’r sefyllfa ac mae cyngor priodol wedi ei ddarparu ar gyfer y dyfodol. 

 

Roedd Aelod wedi gofyn a oes unrhyw arbedion wedi eu gwneud yn yr Adran Gwasanaethau Pobl o feddwl fod dwy o ysgolion uwchradd yr Awdurdod nawr wedi ymwrthod rhag derbyn gwasanaethau. 

 

Wrth ymateb i gwestiynau, esboniwyd fod y gostyngiad mewn incwm yn cael ei reoli’n fewnol ac ychwanegwyd fod pwysau sylweddol ar y Tîm Gwasanaethau Pobl ar hyn o bryd ac nid oes unrhyw ystyriaeth yn cael ei roi i arbedion. Rhoddwyd gwybod i Aelodau fod yna adolygiad o Adnoddau Dynol Corfforaethol a’r gwasanaeth Adnoddau Dynol sy’n cael ei gynnig i ysgolion. Mae’r adolygiad olaf yn ganlyniad i benderfyniad Ysgol Uwchradd Cas-gwent ac Ysgol Uwchradd Trefynwy o ymwrthod rhag derbyn gwasanaethau gan yr Awdurdod. 

 

Atgoffwyd Aelodau mai dim ond dau Swyddog Adnoddau Dynol llawn amser sydd yno er mwyn cynnig cymorth i’r holl ysgolion uwchradd a chynradd sydd yn weddill. Esboniwyd mai pwrpas yr adolygiad yw gwyntyllu a yw’r gwasanaethau sydd yn cael eu cynnig yn addas, a yw’r gwasanaeth dal yn cael ei gynnig, a yw ysgolion am dderbyn y gwasanaeth ac a ddylid ystyried defnyddio darparwyr allanol. Bydd yr opsiynau yma yn cael eu hystyried mewn ymgynghoriad ag ysgolion cyn dod i’r  casgliad priodol.

 

           Costau dileu swyddi:  Cytunodd y Prif Swyddog Adnoddau i gyflwyno’r wybodaeth a ofynnwyd amdani yn y cyfarfod nesaf, gan ymddiheuro fod yr adroddiad wedi ei oedi yn sgil y pwysau ar y Tîm Cyflogres ac ychwanegodd y bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet fel cais am fuddsoddiad yn y Tîm.

 

           Cyfraddau annomestig: Darparwyd y dadansoddiad i’r pwyllgor ar yr 21ain o Fedi 2016. Gofynnwyd pa gwestiynau sydd yn cael eu gofyn y tu hwnt i’r awdurdod yngl?n â’r lefel o gyfraddau annomestig yn y Sir. Mewn ymateb i ymholiad am gynnydd mewn cyfraddau busnes, awgrymwyd y byddai’n briodol i’r Pennaeth Cynorthwyol Cyllid (Refeniw) i roi eglurhad - tu allan i’r cyfarfod hwn - yngl?n â’r broses o brisio  ar gyfer busnesau preifat .

           Rheolau Gweithdrefnau Contract Archwilio MewnolEithriadau: Nodwyd y byddai’r eitem hon yn cael ei hystyried yn y cyfarfod nesaf fel rhan o’r adolygiad sydd yn cael  ei gynnal bob chwe mis. 

 

           Siarter Archwilio Mewnol: Cadarnhawyd fod y newid a ofynnwyd amdano yn y cyfarfod diwethaf, sef datgan mai dwy flynedd yw’r cyfnod adolygu, wedi ei wneud.