Agenda item

Diweddariad Y Prentis a Diweddariad CMC2.

Cofnodion:

Cyd-destun:

 

Derbyndiweddariad ar weithgareddau Y Prentis a'i fanteision i ranbarth ehangach De Ddwyrain Cymru. Ystyried diddymu CMC2.

 

MaterionAllweddol:

 

Sefydlwyd Y Prentis gan CMC2 a Cartrefi Melin fel cwmni di-elw cyfyngedig drwy warant ym mis Medi 2012. Mae Y Prentis yn darparu cynllun rhannu prentisiaeth ar draws y De Ddwyrain mewn partneriaeth gyda'r CITB. Ei weledigaeth yw 'rhoi cyfleoedd cyflogaeth cynaliadwy hirdymor i helpu pobl ifanc i gynyddu eu potensial i'r eithaf a sicrhau cyflogaeth ffrwythlon yn y dyfodol.'

 

Bu Y Prentis yn stori o lwyddiant i CMC2. Mae'n broffidiol, a chaiff ei gefnogi gan ardoll o'r sector adeiladu ac mae wedi galluogi mwy na 160 o bobl ifanc i gael prentisiaethau cynaliadwy ar gyflog byw. Ymhellach, mae'r potensial bellach yn bodoli ar gyfer parhau i ddatblygu ac ehangu'r cwmni, o gofio am y Ddêl Dinas a datblygiadau seilwaith sylweddol a chyfleoedd megis y Ganolfan Gofal Critigol yn Nhorfaen. Heblaw am y Prentis, mae CMC2 wedi creu manteision i gymunedau Sir Fynwy i fanteisio ar fand eang, MonmouthpediA, cynhwysiant digidol a thwristiaeth. Yn nhermau ei gyfraniad at y Cyngor, mae'r gwaith ar ddatblygu system gofal cymdeithasol newydd (FLO/PLANT) wedi arbed tua £150,000 yn flynyddol i'r Cyngor mewn ffioedd trwydded.

 

Gyda'r gwaith o ddatblygu'r meddalwedd wedi ei orffen a heblaw am weithrediad parhaus Y Prentis, mae CMC2 wedi gorffen masnachu ac mae wedi ymwneud â chwblhau prosiectau byw ers mis Gorffennaf 2015 pan gymeradwyodd y Cabinet gyllid wrth gefn ar gyfer ei golledion cronnus. Fodd bynnag, ni chafodd ei ddiddymu bryd hynny gan ei fod yn rhan o werthusiad opsiynau i ystyried strwythur cyflenwi addas ar gyfer y Model Darpariaeth Amgen a ystyrir ar gyfer Twristiaeth, Hamdden a Gwasanaethau Diwylliannol. Daeth y dadansoddiad i'r casgliad nad CMC2 yw'r cyfrwng cywir ar gyfer y Model Darpariaeth Amgen felly cynigir yn awr fod y cwmni'n cael ei ddiddymu'n ffurfiol.

 

Drwywneud hynny cynigir bod un cyfrif dyledus o £90,000 yn ymwneud â gwasanaethau datblygu meddalwedd ar gyfer Skutrade yn cael ei briodoli i'r Cyngor. Roedd y Cyngor wedi ymgysylltu ar wahân gyda Skutrade i benderfynu os gallai gefnogi cystadleurwydd busnesau Sir Fynwy. Ystyrir fod adfer cyfrif Skutrade yn fater ar wahân a rydym yn weithio gyda'r cwmni i setlo'r cyfrif.

 

Gan fod CMC2 wedi cofrestru fel cydberchennog Y Prentis gyda Cartrefi Melin, cynigir yn dilyn diddymu fod perchnogaeth y cwmni'n trosglwyddo i'r Cyngor, sy'n dod yn gydberchennog y cwmni dielw cyfyngedig drwy warant, sy'n llwyddiannus o'i ran ei hun. Mae'r cwmni yn awr yn dal gwargedion cronnus o £240,000 (y disgwylir y byddant yn cyrraedd £260,000 erbyn 31 Mawrth 2017). Mae'n rhaid hefyd ystyried potensial twf ychwanegol y dyfodol gyda chynlluniau buddsoddi seilwaith mawr yn y rhanbarth hefyd o gofio am gylch gorchwyl Y Prentis i weithio ar raddfa ranbarthol.

 

CraffuAelodau:

 

·         Dod â chynllun busnes Y Prentis i gyfarfod yn y dyfodol o'r Pwyllgor Dethol.

 

·         Mewnymateb i gwestiwn gan Aelod o'r Pwyllgor Dethol am berchnogaeth CMC2 o Y Prentis, nodwyd pan sefydlwyd CMC2, ei fod yn cael ei ystyried yn gyfle perffaith i CMC2 a Y Prentis i alinio, a gwnaed penderfyniad i wneud hynny. Fodd bynnag, mae angen symud Y Prentis oherwydd diddymu CMC2.

 

·         Roeddrhan o ffocws CMC2yn cynnwys ynni cynaliadwy ond nid dyna'r unig ffocws. Roedd erthyglau'r cwmnïau mewn sgiliau hyfforddi ac adnewyddu. Roedd yr hyblygrwydd gan CMC2 bob amser i weithredu mewn llawer o feysydd.

 

·         Mewnymateb i gwestiwn gan Aelod o'r Pwyllgor Dethol am ei lwyddiant, nodwyd y bu cynllun prentisiaeth brwdfrydig a datblygiadau  meddalwedd newydd. Ymddengys mai dyma'r amser i'w ddod ag ef yn ôl yn fewnol.

 

·         Mewnymateb i gwestiwn gan Aelod o'r Pwyllgor Dethol am eiddo deallusrol y system, nodwyd yng nghyswllt FLO/PLANT y bu pethau'n faith lle datblygwyd cysylltiadau cryf gyda thai meddalwedd a darparwyr eraill sydd wedi cymryd diddordeb brwd yn yr hyn a gynhyrchwyd. Fodd bynnag, mae newidiadau yn y farchnad wedi arwain at i rai o'r cwmïau gael eu cymryd drosodd sydd wedi golygu fod y llwyfan yn y broses o gael ei werthu ymlaen. Ceisir prisiad gan y Prisiwr Ardal. Yr Awdurdod yw perchennod y cyfeiriad IP a'r cod. Yng nghyswllt gwaith datblygu ar gyfer yr Awdurdod, lle ysgrifennwyd contractau roedd yr Awdurdod yn cadw'r cyfeiriad IP. Ar gyfer unrhyw waith datblygu meddalwedd gyda chwmniau preifat, roedd deiliad y cyfeiriad IP yn amrywio. Nid oes unrhyw eiddo deallusol gan CMC2 heblaw un prosiect datblygu meddalwedd. Yng nghyswllt pwy sy'n berchen yr eiddo deallusol yma, bydd angen canfod hyn drwy broses gyfreithiol. Felly ni chaiff y cwmni ei ddiddymu nes bod eglurhad ar y mater.

 

·         RoeddAelod o'r Pwyllgor Dethol wedi mynegi siom a holodd am ddiben CMC2. Nodwyd yr amlygir nifer o enghreifftiau yn yr adroddiad yn amlinellu'r gwaith da a wnaethpwyd. Fodd bynnag, cyrhaeddwyd y pwynt lle daeth angen i ddod â gweithgareddau i ben a diddymu'r cwmni.

 

·         Nododdyr Ysgrifennydd Cabinet mai diben CMC2oedd symud ymlaen gyda meysydd diddordeb ar gyfer y gymuned a dod â phobl i'r Cwmni Budd Cymunedol (CIC) oedd â sgiliau ac oedd yn medru symud ymlaen â'r materion yr hoffai'r Awdurdod euu gwneud ond nad oedd o fewn cylch gorchwyl cyffredinol y Cyngor gan felly ddatblygu manteision i'r gymuned na fyddid wedi eu cyflawni. Bu'r cwmni'n llwyddiannus yn ystod ei gyfnod gweithredu.

 

·         Mewnymateb i gwestiwn gan Aelod o'r Pwyllgor Dethol, nodwyd fod y Cabinet yn derbyn cynllun busnes CMC2yn flynyddol ac y bu craffu cyn-penderfyniad gan y Pwyllgor Dethol bob tro y'i cyflwynwyd i'r Cabinet.

 

Casgliad y Pwyllgor:

 

·         Mae Y Prentis yn haeddu craffu pellach a daw'r mater gerbron y Pwyllgor Dethol yng ngwanwyn 2017.

 

·         Derbynyr argymhellion a amlinellir yn yr adroddiad, sef:

 

-       Derbyndiweddariad llawn ar weithgareddau Y Prentis.

-       Cymeradwyodiddymu CMC2.

-       Cytuno i bridoli dyled i'r Cyngor ar gyfer dibenion adfer.

-       Felcanlyniad i'r symudiadau uchod, cytuno i drosglwyddo perchnogaeth Y Prentis yn ffurfiol o CMC2 i Gyngor Sir Fynwy.

 

 

 

Dogfennau ategol: