Agenda item

Craffu Cyn-penderfyniad: Amgueddfeydd Sir Fynwy: Trosiant a Chynlluniau’r Dyfodol.

Cofnodion:

Cyd-destun:

 

·         Derbyncanfyddiadau Adolygiad Amion o Wasanaethau Diwylliannol.

 

·         Ystyried y Siart Trosiant ar gyfer Amgueddfeydd Sir Fynwy yn seiliedig ar weithredu argymhellion allweddol Adolygiad Amion.

 

·         Ystyriedp'un ai i dderbyn a chymeradwyo'r Blaenraglen Pum Mlynedd cysylltiedig sydd ei angen ar gyfer achrediad parhaus Amgueddfeydd Sir Fynwy yn amodol ar gyflwyno achosion busnes unigol i'w cymeradwyo fel sy'n briodol.

 

MaterionAllweddol:

 

CanfyddiadauAllweddol Adolygiad Amion o Wasanaethau Diwyllianol

 

Mae adroddiad Amion yn cydnabod nad yw'r sefyllfa fel y mae yn dderbyniol ac mae'n argymell strategaeth sy'n gostwng dyblygu mewn staffio, yn gostwng costau staff, yn gostwng gwariant ar adeiladau ac asedau ac yn realistig yn cynyddu incwm, ailddiffinio'r gwasanaeth a rhoi glasbrint cynaliadwy iddo ar gyfer y dyfodol. Mae'r adroddiad yn asesu darpariaeth amgueddfeydd y Sir gan ddod i'r casgliad:

 

·         Bod y Gwasanaeth yn gorymestyn ac yn rhy ddarniog i fod yn effeithlon.

 

·         Ychydig o rannu adnoddau ac arbenigedd sydd, gyda'r Gwasanaeth yn gweithredu fel tri chorff annibynnol.

 

·         Mae lefel uchel o ymrwymiad ac angerdd gan staff gyda thystiolaeth glir o arfer da iawn mewn rheoli casgliadau a'r gwasanaeth a gynigir i breswylwyr ac ymwelwyr.

 

·         Nidoes yr un o'r adeiladau yn ddelfrydol gyda diffygion mynediad a gofodau arddangos yn llesteirio ar y Fenni a Threfynwy.

 

·         Ni all y Cyngor gyflawni arbedion i'r gyllideb bresennol heb ostyngiadau sylweddol mewn lefelau staffio ac oriau agor ac nid yw gwasanaethau cynhyrchu incwm yn cael digon o adnoddau gyda therfyn ar faint o 'elw' y gellir ei sicrhau.

 

·         Mae'rCyngor yn ceisio gwneud llawer gormod heb adnoddau digonol. Nid yw'r cynnig yn un da i breswylwyr, ymwelwyr na staff Sir Fynwy. Felly mae angen i'r Cyngor wneud llai ond ei wneud yn llawer gwell a gwahanol.

 

ArgymhellionAllweddol

 

Defnyddiodd Amion egwyddorion llywio ar gyfer newid wrth wneud ei argymhellion allweddol:

·         Dylai lleoliad pob amgueddfa barhau i fod â modd o ddweud ei stori leol lle dylai'r straeon a chasgliadau mwyaf neilltuol ar gyfer pob lle gael eu dethol a'u cyflwyno.

 

·         Byddaistorfeydd a sgiliau canolog yn ei gwneud yn bosibl darparu'r cynnig yn well - mae canolfan gasgliadau angen mynediad i'r cyhoedd a chyfleusterau ymchwil.

 

·         Mae'rstrwythur staffio presennol yn anghytbwys ac mae angen strwythur canoledig clir.

 

·         Mae angen presenoldeb ar-lein cryf ar gyfer treftadaeth Sir Fynwy.

 

·         Mae angen llwybrau ar draws y sir i gysylltu straeon gyda'i gilydd a chyfathrebu'r cynnig treftadaeth tu allan i amgueddfeydd ac adeiladau.

 

Felly mae'r prif argymhellion fel sy'n dilyn:

 

·         Creucynnig amgueddfa canoledig gyda swyddogaeth arweinyddiaeth effeithlon.

 

·         Creucanolfan casgliadau/storfa ganolog.

 

·         Parhau i roi mynediad i dreftadaeth y sir.

 

·         Creucwmni masnachu gydag adnoddau cywir. Caiff hyn ei ystyried fel rhan o'r ADM a dyna pam nad yw'n ymddangos yn y cynllun amgueddfeydd.

 

CraffuAelodau:

 

·         Mae Sir Fynwy yn sir ar gyfer twristiaeth ac mae'n bwysig cadw hyn.

 

·         Mae Sir Fynwy yn adnabyddus am ei threftadaeth.

 

·         Mae'nsynhwyrol ad-drefnu Timau Amgueddfeydd Sir Fynwy er mwyn bod yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

 

·         Mae technoleg ddigidol yn hollbwysig wrth ddatblygu'r gwasanaeth amguddfeydd ac mae angen presenoldeb amgueddfeydd o fewn prif drefi Sir Fynwy ar gyfer twristiaid a phreswylwyr.

 

·         Byddai'nddefnyddiol derbyn mwy o fanylion ar ddyfodol amgueddfeydd Sir Fynwy drwy adroddiad i'r Pwyllgor Dethol yn y dyfodol.

 

·         Mynegwydconsyrn fod gwallau yn adroddiad Amion ac nad yw'n rhoi arwydd clir o ble dylai'r Gwasanaeth Amgueddfeydd fod yn mynd. Yng nghyswllt yr adeiladau, ystyriwyd fod adroddiad Amion yn aneglur.

 

·         Dylid ymdrechu i gynyddu nifer twristiaid yn Sir Fynwy yn hytrach na thorri costau i gyd-fynd gyda ffigurau presennol twristiaid.

 

·         Gellidcanoli Amgueddfa Trefynwy yn Neuadd y Farchnad gan mai'r Cyngor Sir sydd ei piau ac y bu'n wag am dair blynedd.

 

·         Mae cynnig Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn gynnig 10 mlynedd a wnaed yn 2008 ac a gaiff ei gwblhau yn 2018.

 

·         Yngnghyswllt Neuadd y Sir, nodwyd fod hyn yn ddryslyd ar hyn  o bryd yn nhermau ymwelwyr. Fodd bynnag, roedd angen mwy o wybodaeth am y lleoliad posibl hwn.

 

·         Mae'ndebyg y cyflwynir cynnig i Gronfa Loteri Treftadaeth ym mis Rhagfyr 2017 gyda golwg hefyd ar efallai fynediad i'r Gronfa Datblygu Gwledig ym Mawrth 2017.

 

·         Yngnghyswllt lleoliad Amgueddfa Trefynwy, mae nifer o safleoedd posibl yn cael eu hymchwilio yn Nhrefynwy gyda golwg ar ganfod y datrysiad gorau ar gyfer y dref.

 

·         Ystyriwydmai Neuadd y Farchnad fyddai'r lleoliad delfrydol ar gyfer cadw arteffactau amgueddfeydd gan fod y cyfleusterau cywir eisoes yn yr adeilad.

 

·         Mewn ymateb i gwestiynau Aelod o'r Pwyllgor Dethol, nodwyd y bydd yr Awdurdod yn cynnal Asesiad o'r Effaith Economaidd. Mae cyfleoedd i'r Awdurdod ystyried darparu cynnig bwyd ar ein safleoedd ond bydd angen sicrhau y gwneir hyn yn y ffordd gywir. Fel rhan o'n blaenraglen gwaith, bydd yn ymwneud â dynodi'r hyn y gellir ei gyflawni, h.y. yr hyn y gall y gwasanaeth ei gyflawni gyda'r cyllidebau sydd ar gael. Ni fydd y Gwasanaeth yn rhoi unrhyw fusnesau presennol allan o fusnes. Yng nghyswllt oriau agor y Canolfannau Croeso, mae'r Awdurdod wedi edrych yn flaenorol ar ffyrdd y gellid gweithio'r ddau wasanaeth gyda'i gilydd. Fodd bynnag, y broblem sy'n parhau yng Nghas-gwent yw bod angen edrych ar ffyrdd o ddefnyddio'r gofod yn Amgueddfa Cas-gwent i ddynodi'r ffordd fwyaf cynaliadwy o ddarparu gwasanaethau.

 

·         Mae twristiaeth yn rhan o'r Model Darpariaeth Amgen a byddir yn sicrhau cysondeb yn y dyfodol. Ni fydd ar wahân i'r gwasanaethau eraill y mae angen i'r Awdurdod eu darparu.

 

·         Bydd y Strategaeth Rheoli Cyrchfannau yn hollbwysig yn sut mae'r amgueddfeydd yn cynnig cysylltiadau yn y mater yma. Cynhelir gweithdy i Aelodau yn y dyfodol agos i edrych ar ffyrdd o fewnbynnu i'r strategaeth newydd. Deuir ag adroddiad ar Ganolfannau Croeso yn ôl i gyfarfod o’r Pwyllgor Dethol yn y dyfodol, yn ogystal ag adroddiad ar Strategaeth Digwyddiadau'r Cyngor. Felly, mae angen gwneud penderfyniadau ar y cyd yn hytrach nag ar wahân.

·         Mae cryn dipyn o ofodau agored o amgylch y gorthwr yn y Fenni a gellid defnyddio hyn i gynyddu ffrydiau incwm. Datblygwyd achos busnes gyda golwg ar osod strwythur awyr agored parhaol yn y safle gyda rhaglen dreialu digwyddiadau yn haf 2017.

 

·         Mewnymateb i gwestiynau gan Aelod o'r Pwyllgor Dethol, nodwyd bod y Gronfa Datblygu Cymunedau Gwledig yn gyllid cyfalaf ac y'i defnyddir lle'n bosibl. Yng nghyswllt galw, mae angen edrych ar wella cyfleoedd i gynyddu nifer ymwelwyr. Bydd hefyd angen trin arwyddion. Bydd creu'r strategaeth marchnata gywir yn gyrru'r galw.

 

Casgliad y Pwyllgor:

 

·         Ar ran y Pwyllgor Dethol bydd y Cadeirydd yn anfon llythyr at yr Aelod Cabinet yn amlinellu sylwadau'r Pwyllgor Dethol.

 

·         Mae'rPwyllgor Dethol yn cefnogi'r argymhellion mewn egwyddor ond mae angen manylion pellach mewn cyfarfod o'r Pwyllgor Dethol yn y dyfodol.

 

·         Mae'rPwyllgor Dethol yn cefnogi cadw cynnig amgueddfeydd cryf ac yn derbyn yr angen i fod yn gynaliadwy a'r angen i ad-drefnu'r gwasanaeth.

 

 

 

Dogfennau ategol: