Agenda item

Ailbrisio Trethi Busnes – diweddariad llafar.

Cofnodion:

Cyd-destun:

 

Derbynadroddiad llafar ar yr ailbrisiad trethi busnes.

 

MaterionAllweddol:

 

DadansoddiSefyllfa:

 

Yndilyn y drafft diweddar o'r ailbrisiad trethi busnes, dynododd dadansoddiad mewnol fod 65% o werthoedfd trethiannol Sir Fynwy wedi cynyddu, 11% wedi aros yr un fath a 24% wedi gostwng.

 

Dywedoddymgynghoriad diweddar gan Lywodraeth Cymru y bydd tua hanner yr holl drethdalwyr yn parhau i dalu dim yn dilyn yr ailbrisiad fel canlyniad i'r gefnogaeth gan Gynllun Cymorth Trethi Bach (SBRR). Fodd bynnag, mae dadansoddiad yn dangos mai dim ond 44.7% o drethdalwyr fydd yn derbyn SBBR llawn (i lawr o 51.5%) ac na fydd 31.9% o fusnesau Sir Fynwy yn derbyn dim cymorth dan SBRR (cynnydd o 17.3%). Lle nad yw busnes eisoes yn gymwys am SBBR, ni fydd yn gymwys am gymorth pontio dan gynigion presennol Llywodaeth Cymru.

 

Os aiff yr ailbrisiad yn ei flaen, mae'n debyg o gael effaith sylweddol ar fusnesau lleol Sir Fynwy, y sector manwerthu fydd yn profi cynnydd cyffredinol yn y sector o 11%, yr uchaf yn Ewrop. Ymddengys fod cyfleusterau lleol, yn cynnwys swyddfeydd post, tafarndai a neuaddau pentref hefyd yn neilltuol o fregus fel canlyniad i'r ailbrisiad. Mae'r tabl islaw'n rhoi dadansoddiad o'r newidiadau canran ar sail tref wrth dref:

 

Tref

% Cynnydd

Dim Newid

% Gostyngiad

Y Fenni

68

10

22

Cil-y-coed

41

22

37

Cas-gwent

64

12

24

Trefynwy

84

5

11

Brynbuga

89

5

6

 

Gweithreduhyd yma:

 

Ganfod 'Cefnogi menter, entrepreneuriaeth a chreu swyddi' yn un o flaenoriaethau allweddol y Cyngor, cymerwyd y camau gweithredu dilynol i godi ymwybyddiaeth o'r mater ac effaith bosibl hyn ar lif arian busnesau lleol Sir Fynwy:

 

           4 Tachwedd 2016: Cyfarfod rhwng y Prif Weithredwr a'r Dirprwy Arweinydd â David Davies AS i sôn am bryderon.

 

           30 Tachwedd 2016: Bydd y Prif Weithredwr a'r Dirprwy Arweinydd a Chadeirydd Siambr Trefynwy (yn cynrychioli holl Siambrau Sir Fynwy) yn cwrdd gyda'r Prisiwr Ardal i:

 

·         Gofyn am ohirio'r ailbrisiad fel y medrir archwilio'r fethodoleg. Mae angen deall pam fod Sir Fynwy'n profi cyfran mor uchel o'r cynnydd pan fo anghysondebau gyda siroedd eraill. Mae'n rhaid i'r system gael ei gweld fel un dryloyw a theg.

 

·         Deallos oes cyfle i'r Cyngor wneud apêl dechnegol ar ran busnesau'r Sir, er nad yw'r Awdurdod yn gwybod am fethodoleg  bresennol fydd yn ei alluogi i wneud hynny.

 

·         Fel arall, ceisio sicrwydd y dylai'r rhai sy'n apelio yn erbyn yr ailbrisiad yn cael gohirio'r cynnydd nes caiff yr apeliadau eu penderfynu. Gallai busnesau y gofynnir iddynt dalu'r cynnydd annisgwyl yma wynebu problemau llif arian difrifol. Os yw Llywodraeth Cymru'n gwrthod ailedrych ar y cynigion hyn, gallai Sir Fynwy golli rhai o fusnesau eiconig y Sir.

 

·           1 Rhagfyr 2016:  Y Cynghorydd Sir Greenland i gyflwyno cynnig i'r Cyngor yn annog Llywodraeth Cymru i ohirio'r drafft gynigion hyn i roi amser am adolygiad trwyadl o'r fethodoleg ac ystyried canlyniadau'r ailbrisiad. Hefyd galw ar Lywodraeth Cymru i beidio gorfodi unrhyw gynnydd nes bydd canlyniadau'r apeliadau yn hysbys a hefyd am drefniadau pontio sy'n dangos cydymdeimlad ar gyfer pob busnes gan nad yw Llywodraeth Cymru, er ei bod wedi cyhoeddi cynllun trosiannu ar gyfer busnesau bach y mae'r cynnydd yn effeithio arnynt, wedi gwneud yr un fath ar gyfer busnesau mwy a gaiff eu taro'n waeth.

 

·            5 Rhagfyr 2016: Mae Nick Ramsay AC yn cynnal cyfarfod cyhoeddus yn Neuadd Goffa Brynbuga am 7.30pm.

 

CraffuAelodau:

 

·         Cymeradwyodd y Pwyllgor Dethol yr wybodaeth a gafwyd yn y diweddariad llafar a chytunodd Aelodau godi eu pryderon yn y Cyngor Llawn.

 

·         Ystyriwydfod angen trin a datrys y mater mor gyflym ag sydd modd er mwyn cynnal hyfywedd busnesau yn Sir Fynwy.

 

·         Byddiryn e-bostio'r adroddiad a gyflwynir i'r Pwyllgor Dethol.

 

·         Dywedoddyr Aelod Cabinet fod y mater hwn yn un difrifol i lawer o fusnesau Sir Fynwy. Mae'n debygol y bydd y busnesau lleol llai yn debygol o ddioddef dan y cynigion hyn. Nodwyd y gallai Llywodraeth Cymru ohirio'r cynnydd a rhoi gwell cyfnod pontio. Codir y mater hwn gyda Llywodraeth Cymru.

 

·         Ystyriairhai Aelodau o'r Pwyllgor Dethol y gallem, fel Cyngor, gefnogi busnesau lleol drwy beidio codi ffi am fusnesau am fyrddau 'A' gyda golwg ar ddangos cefnogaeth. Ystyriwyd na fyddai oblygiad cost cyflwyno'r ffi hwn yn creu fawr iawn o fudd ariannol i'r Cyngor. Gallai fod yn well peidio'i gyflwyno, ac felly gefnogi busnesau lleol. Gofynnodd yr Is-gadeirydd i'r swyddogion edrych ar y mater ond nododd mai mater trethi busnes oedd y prif fater oedd angen ei drafod.

 

Casgliadau'rPwyllgor:

 

Ar ran y Pwyllgor Dethol, diolchodd yr Is-gadeirydd i'r swyddog am gyflwyno'r adroddiad llafar ac anogodd y Cabinet a swyddogion eraill i wneud yr hyn a allant i helpu busnesau i oresgyn y mater anodd iawn yma.