Agenda item

Adroddiad Monitro Refeniw a Chyllid Cyfnod 2 Datganiad Rhagolwg Alldro.

Cofnodion:

Cyd-destun:

 

Derbyn gwybodaeth ar ragolwg sefyllfa alldro refeniw'r Awdurdod ar ddiwedd cyfnod 2 sy'n cynrychioli gwybodaeth ariannol mis 6 am flwyddyn ariannol 2016/17.

 

Argymhellion a gynigir i'r Cabinet:

 

·         Bod y Cabinet yn nodi maint y gorwariant refeniw a ragwelir ar gyfnod 2 o £839,000, gwelliant o £529,000 ar y sefyllfa a adroddwyd yn flaenorol yng nghyfnod 1.

 

·         Bod y Cabinet yn disgwyl i brif swyddogion barhau i adolygu lefelau gorwariant a thanwariant ac ailddyrannu cyllidebau i ostwng maint sefyllfaoedd gwneud iawn sydd angen eu hadrodd o fis 6 ymlaen.

 

·         Bod y Cabinet yn gwerthfawrogi maint defnydd cronfeydd cadw ysgolion a ragwelir a'r tebygrwydd y bydd pedair ysgol arall mewn sefyllfa ddiffyg erbyn diwedd 2016-17.

 

·         Bod y Cabinet yn cymeradwyo defnydd gydag amodau o gronfeydd cadw i gyllido £318,000 o gostau tribiwnlys cyflogaeth os na all cyllideb y Cyngor amsugno effaith y gwariant anghyffredin hwn dros y 6 mis sydd ar ôl yn y flwyddyn ariannol.

 

·         Bod y Cabinet yn ystyried y monitro cyfalaf a gorwariant a thanwariant penodol, ac yn bwysig fod y Cabinet yn cydnabod y risg sy'n gysylltiedig gyda gorfod dibynnu ar ddefnyddio derbyniadau cyfalaf yn y flwyddyn gwerthiant a'r potensial i hyn gael pwysau sylweddol ar refeniw pe byddai derbyniadau'n cael eu hoedi a bod angen benthyca dros dro.

 

Craffuaelodau:

 

·         Mewnymateb i gwestiwn gan Aelod o'r Pwyllgor Dethol parthed y cynnydd posibl yn y nifer o ysgolion Sir Fynwy mewn diffyg cyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol (o chwe ysgol i ddeg ysgol), nodwyd fod yr amrywiad niweidiol yn fach mewn natur. Anogir ysgolion i gael llai o falans er mwyn rhoi llai o ddibyniaeth ar grynhoi balans sylweddol a gostwng newidiadau cyflym. Mae'n debygol y bydd y pedair ysgol a all fod mewn balans diffyg ar ddiwedd y flwyddyn ariannol â diffyg o lai na £10,000. Hefyd, mae tueddiad cyffredinol lle mae ysgolion sy'n derchrau'r flwyddyn gyda diffyg cyllideb yn gostwng a bod y sefyllfa'n gwella.

 

·         Yng nghyswllt Ysgol Cas-gwent, nodwyd y gwnaed gwelliannau yng nghyswllt y gyllideb ddiffyg gyda help Pennaeth Cynorthwyol Cyllid.

 

·         Mewnymateb i gwestiwn gan Aelod o'r Pwyllgor Dethol am y gyllideb Gwasanaethau Oedolion, nodwyd fod gan Sir Fynwy gynnydd yn y boblogaeth oedrannus a disgwyliadau am ddarpariaeth gofal. Mae hyn yn fater sydd angen ei ystyried. Mae Aelodau etholedig yn gorfod gwneud dewisiadau anodd flwyddyn ar ôl blwyddyn gyda phob cyllideb adrannol. Mae swyddogion ym mhob rhan o'r Awdurdod felly'n gorfod ailwampio cynlluniau gyda golwg ar orfod gwneud pethau'n wahanol.

 

·         Mewnymateb i gwestiwn gan Aelod o'r Pwyllgor Dethol am y Farchnad Wartheg yn Rhaglan, nodwyd fod peth gwaith yn dal ar ôl cyn y bydd yr Awdurdod yn dod yn gyfrifol amdani. Mae'n dal i fod ar y cam comisiynu.

 

 

Casgliad y Pwyllgor

 

·         Bod yr argymhellion a amlinellir yn yr adroddiad yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet.

 

·         Bod y Rheolwr Craffu yn gwahodd y Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu i gyfarfod y Pwyllgor Dethol Cymunedau Cryf pan drafodir y mater yn ymwneud â'r Farchnad Wartheg yn Rhaglan.

 

 

Dogfennau ategol: