Agenda item

To monitor the progress of the Aneurin Bevan University Health Board through consideration of a performance report on issues raised by the Adults Select Committee

Cofnodion:

Cyd-destun:

 

Fe groesawyd aelodau o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i'r cyfarfod a'u cyflwyno i'r Pwyllgor. 

 

Materion Allweddol:

 

Fe gyflwynodd cynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan adroddiad briffio fel rhan o'i ymrwymiad parhaus gyda Chyngor Sir Fynwy.  Roedd yr adroddiad yn cynnwys:

 

·         Datblygiadau allweddol ers Rhagfyr 2015 (cyfarfod diwethaf Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan gyda'r Awdurdod).

·         Amlinelliad o berfformiad cyfredol ar draws amrediad o wasanaethau, targedau Llywodraeth Cymru a chynlluniau gwelliant cyfredol.

 

·         Diweddariad ar ardaloedd eraill o weithgareddau'r Bwrdd Iechyd gan gynnwys ei ymrwymiad parhaus gyda chymunedau lleol a chyfres o ddatblygiadau i wasanaethau (gyda nifer ohonynt yn cael eu rhoi ar waith mewn partneriaeth)

 

 

 

Craffu gan Aelodau:

 

Fe groesawyd yr adroddiad clir gan Aelod.

 

·         Cyfradd Marwolaethau: Fe holwyd am y diffiniad o "gyfradd marwolaethau crai".  Fe esboniwyd bod y term yn cyfeirio at y nifer gwirioneddol o farwolaethau sy'n digwydd ymhlith poblogaeth ardal ddaearyddol benodol mewn blwyddyn benodol.  Fe ychwanegwyd bod gwasanaethau iechyd o ledled y DU yn paratoi cyfraddau marwolaethau wedi'u haddasu yn ôl risg i ystyried yr amodau amrywiol a gwneud addasiadau ar gyfer y risgiau cymharol.  Mae'r ffigur lawer is na gweddill Cymru a gellir ei gymharu â'r awdurdodau iechyd gorau yn Lloegr. Fe ychwanegwyd bod dysgu o bob marwolaeth sy'n digwydd yn y system yn flaenoriaeth.

 

·         Ail-ddilysiant gan Feddyg: Fe gofiwyd bod awgrymiad wedi bod i adolygu Meddygon yn gyfnodol ac fe holwyd a oedd hyn wedi digwydd.  Mewn ymateb i hyn, fe gynghorwyd bod hyn wedi bod yn newid sylweddol.  Fe sefydlwyd cylch ail-ddilysu 5 mlynedd gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol wedi'i gysylltu ag arfarniad blynyddol.  Mae hwn wedi bod yn ymarfer llwyddiannus iawn ac fe ddarparwyd sicrwydd bod pob meddyg wedi cwblhau ail-ddilysiant yn llwyddiannus, ynghyd â'r broses arfarnu.  Roedd y broses wedi darparu gwybodaeth ddefnyddiol ar gyfer dysgu a datblygu parhaus, a hefyd wedi darparu'r cyfle i ddwyn meddygon i gyfrif yn broffesiynol yn ôl yr angen.

 

·         Diabetes/Gordewdra: Fe holodd Aelod pam doedd dim sôn am ordewdra neu ddiabetes yn yr adroddiad, ac o oedd angen darparu mwy o addysg am ddiet mewn ysgolion er mwyn annog pobl ifanc i annog pobl ifanc i fod yn fwy iachus a lleihau cost meddyginiaeth yn y dyfodol. Fe esboniwyd, tra bod dim sôn amdanynt yn benodol yn yr adroddiad, bod yna gynllun ar wahân ar gyfer diabetes wedi'i gynnwys yn y Cynllun Rheoli Cyflyrau Cronig (sydd hefyd yn cynnwys cynlluniau ar wahân ar gyfer e.e. Clefyd y Galon, Clefyd Anadlol a Chanser (mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y wefan http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/866/home)).  Fe ychwanegwyd bod Tîm Rheoli Pwysau Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn arwain y blaen o ran rheoli pwysau yn y DU gan nodi mai'r cam nesaf yw i ddatblygu strategaeth gordewdra plant er mwyn gwella canlyniadau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.  Roedd cydnabyddiaeth bod diabetes a chyflyrau cronig eraill hefyd yn cael eu craffu gan y Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc a hefyd y Pwyllgor Dethol Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

Gan gyfeirio at gyfarfod ar y cyd yn ddiweddar rhwng y Pwyllgor Dethol Oedolion  a'r Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc, fe gofiodd Aelod y cyflwynwyd ystadegau'n nodio bod bron 50% o bobl ifanc dros bwysau neu'n ordew yn Sir Fynwy ac roedd anogaeth i strategaethau addysg cynnar yn unol â hyn. 

 

·         Canolfan Gofal Arbenigol a Critigol: Fe holwyd a ragwelwyd unrhyw broblemau gyda staffio'r ganolfan newydd heb dynnu adnoddau o gyfleusterau eraill yn yr ardal.  Fe ofynnwyd am fanylion o'r cyfnod pontio gan fydd rhannau o'r cyfleuster newydd ar agor cyn i'r cyfleuster agor yn gyfan gwbl.

 

Fe esboniwyd bod yr ysbyty newydd yn Llanfrechfa yn hanfodol oherwydd ei bod yn amhosib cynnal gwasanaethau yn Ysbyty Nevill Hall ac Ysbyty Brenhinol Gwent am gyfnod amhenodol.  Fe gadarnhawyd y byddai staff yn symud o'r ddau ysbyty i'r ysbyty newydd gyda'u gwasanaethau e.e. gofal critigol ac obstetreg dan arweiniad ymgynghorwr ac y bydd hyn yn helpu gyda phroblemau gyda'r gweithlu yn y dyfodol.  Fe ychwanegwyd mai rhan o'r cynlluniau pontio yw ystyried sut i gynnal gwasanaethau rhwng nawr ac agoriad yr ysbyty newydd. 

 

Fe ddarparwyd ymrwymiad i ddychwelyd i adrodd am gynlluniau pontio, ac unrhyw newidiadau hanfodol eraill ar gyfer y cyfnod interim er mwyn mynd i'r afael â'r gwasanaethau sydd dan bwysau sylweddol ar hyn o bryd.

 

Fe gynghorwyd y Pwyllgor bod recriwtio a chadw staff yn cael ei drafod e.e. mwy o bobl yn gwneud hyfforddiant nyrsio (cyfnod o 3 blynedd).  Bydd lleoedd hyfforddiant hefyd yn cael eu darparu ar gyfer arbenigeddau meddygol e.e. mwy o radiolegwyr

 

·         Sepsis: Fe soniodd aelod am adroddiad diweddar a nododd bod mwy o bobl yng Nghymru yn marw o sepsis nag unrhyw ffactor arall a holwyd a oedd unrhyw gyswllt gyda'r diffyg adnoddau diagnostig. Fe gynghorwyd bod y tueddiad yn gwella o ran canlyniadau.  Fe ychwanegwyd ei bod yn bwysig dylunio timau sy'n gweithio ar draws systemau i fynd i'r afael â materion fel sepsis.  Tra ei bod yn bwysig canfod symptomau'n gynnar, nid yw profion diagnostig yn cael llawer o effaith. Fe esboniwyd bod gwaith yn ffocysu ar sepsis wedi cael ei wneud am 18 mis a bod hyn wedi cynnwys ymweliad ag ysbyty arloesol yn UDA sy'n canolbwyntio ar ymagwedd tîm er mwyn goresgyn sepsis.  Yn sgil hyn, mae gwaith ar y cyd ar draws y GIG yng Nghymru ar y gweill sydd wedi sefydlu offeryn sbardun i dimau allu nodi marcwyr seicolegol a'r defnydd o un prawf hygyrch mewn labordy.  Mae hyn wedi bod yn llwyddiannus gyda'r offeryn sbardun yn cael ei defnyddio ar gyfer 100% o gleifion sy'n ymweld ag Adran Damweiniau ac Achosion Brys Ysbyty Nevill Hall ac 80% sy'n ymweld ag Adran Damweiniau ac Achosion Brys Ysbyty Brenhinol Gwent.  Hyd yn hyn mae effaith cadarnhaol, sylweddol wedi bod ar gyfraddau marwolaethau a nodwyd bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn arwain y blaen gyda'r ymgyrch. Roedd Aelodau wedi'u calonogi gan hyn a llongyfarchwyd tîm Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ar y cyflawniad hwn, a hefyd y gwaith gyda'r gwasanaeth Strôc. 

 

·         Pydredd Dannedd: Fe gododd Aelod amlygrwydd pydredd dannedd fel pryder ac mewn ymateb, fe gadarnhawyd bod yna gynllun iechyd y geg sy'n cynnwys yr holl agweddau o iechyd y geg gan gynnwys cyngor iechyd i'r cyhoedd, gwasanaethau deintyddol symudol a mynediad at ddeintyddiaeth y GIG.

 

·         Canolfannau Adnoddau Gofal Sylfaenol: Fe holwyd a oedd unrhyw gynlluniau i wella mynediad i ofal sylfaenol gan nodi'r esiampl o ganolfannau adnoddau sy'n cyd-leoli gwasanaethau ar un safle.  Fe gadarnhawyd bod dau ganolfan adnoddau yn y rhanbarth yn Rhymni a Blaenafon.  Fe esboniwyd bod yna gynlluniau am ganolfannau tebyg a bod y strategaeth gofal sylfaenol yn cael ei adolygu.  Fe esboniwyd, tra bod dim cynlluniau cyfredol am ganolfan yn ardal Trefynwy, bydd y strategaeth "Gofal yn Nes at y Cartref" yn tynnu sylw at ardaloedd eraill i ddatblygu gwasanaethau o'r fath.

 

·         Ymrwymiad â'r Gymuned: Fe fynegodd Aelod o'r Pwyllgor werthfawrogiad am gyflwyniad a dderbyniwyd gan Gr?p Gweithredu 50 Plws y Fenni yn ymwneud â gwasanaethau ar gyfer cleifion strôc.  Roedd gan y Gr?p nifer o gwestiynau ac fe'u hatebwyd yn dda gan y cyflwynydd, gan ddarparu sicrwydd.  Fe ychwanegwyd bod cyflwyniad arall ar ofal diwedd oes hefyd yn ardderchog.   Fe holwyd os oes digon yn cael ei wneud i hyrwyddo argaeledd cyflwyniadau o'r fath i grwpiau a chymunedau.

 

Mewn ymateb i hyn, fe gadarnhawyd bod y timau yn addas i ymrwymo gyda grwpiau, ond y byddant hefyd yn ymrwymo mewn mannau cyhoeddus (e.e. y tu allan i Neuadd y Sir) i gyrraedd pobl nad sy'n rhan o gr?p. Fe hysbyswyd Aelodau bod yna ddigwyddiadau wedi'u cynllunio mewn nifer o leoliadau.

 

Fe nododd Aelod, mewn cymunedau gwledig, yn aml does dim ardal gymunedol i gwrdd i dderbyn cyflwyniadau gan gynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, ac fe esboniodd bod ffermwyr yn ddrwg-enwog am beidio â cheisio cymorth.  Awgrymwyd bod y mart newydd yn lleoliad addas i roi llenyddiaeth.  Fe ymatebwyd gan ddweud y byddai rhywun yn edrych i mewn i hyn a bod dim cymuned yn rhy fach. 

 

·         Cwynion: Fe nodwyd bod sut mae sefydliad yn ymdrin â chwynion yn ddangosydd da o fodlonrwydd, a holwyd os oedd modd cynnwys crynodeb o wybodaeth ar gwynion yn yr adroddiad.  Fe gytunwyd y byddai gwybodaeth ar gwynion yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad nesaf.

 

·         Adran Damweiniau ac Achosion Brys Ysbyty Nevill Hall: Fe holodd Aelod am sicrwydd yn ymwneud â dyfodol Adran Damweiniau ac Achosion Brys Ysbyty Nevill Hall.  Mewn ymateb i hyn, fe nodwyd bod derbyniad bod angen lle gwell ar gyfer cyfleusterau Damweiniau ac Achosion Brys yn Ysbyty Nevill Hall a bod yr achos am ddatblygiad cyfalaf yn cael ei ystyried.  Mae ychydig waith wedi cael ei wneud i aildrefnu prif ffrydiau a mân ffrydiau o gleifion ac ail-ddylunio'r lle.  Mae hyn wedi arwain at fwy o effeithiolrwydd gan gynnwys bod cleifion yn cael eu gweld lawer cynt ac yn dychwelyd adref yn gyflymach.

 

Fe gadarnhawyd mai'r bwriad yw parhau i gynnal Adran Damweiniau ac Achosion Brys dan arweiniad ymgynghorwr yn Nevill Hall tan fod yr ysbyty newydd yn weithredol.  Ar ôl hynny, bydd gan yr ysbyty adran mân anafiadau dan arweiniad nyrs.

 

·         Strôc: Fe holwyd cwestiwn am y newyddion diweddar am system newydd lwyddiannus o drin strôc gan gynnwys cael gwared â'r strôc ei hun. Fe holwyd a oedd yr ymagwedd hon yn cael ei defnyddio yn Ysbyty Brenhinol Gwent.

 

O ran trin cleifion strôc, fe gadarnhawyd na fod y broses o dynnu'r clot ar gael yn ardal Gwent.  Fe esboniwyd, yng Nghymru, y cynigir y gwasanaeth yng Nghaerdydd.  Fe esboniwyd mai nid ymyrraeth newydd yw tynnu clot, a hefyd bod strôc weithiau yn cael ei achosi gan waedlif, nid gan clot bob tro.  Fe ychwanegwyd bod angen am hyfforddiant yn yr ardal hon hefyd.  Bydd y math hwn o weithdrefn yn dod yn fwy cyffredin mewn blynyddoedd i ddod ond fe ddarparwyd sicrwydd y gellir cymharu'r gwasanaeth sydd ar gael i gleifion strôc â'r gorau sydd ar gael yng ngweddill Cymru.

 

Ar ben hynny, fe gadarnhawyd y bydd y gwasanaeth strôc acíwt iawn wedi'i leoli yn y Ganolfan Gofal Critigol ac y bydd y gwasanaethau adfer mewn ysbytai lleol.  Ar hyn o bryd, mae'r gwasanaeth strôc acíwt iawn wedi'i leoli yn Ysbyty Brenhinol Gwent fel rhan o'r broses pontio.

 

·         Ysbytai Lleol: Fe holodd y Cadeirydd a oedd gweledigaeth ehangach ar gyfer Ysbyty Nevill Hall ac fe gadarnhawyd bod y Strategaeth Dyfodol Clinigol yn cynnig ei datblygu fel ysbyty cyffredinol lleol.  Mae barn glir o'r amrediad arfaethedig o wasanaethau a nifer y gwlâu a fydd ar gael.  Cadarnhawyd, ar hyn o bryd, bod dim cymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y cynlluniau ar gyfer Ysbyty Brenhinol Gwent nac Ysbyty Nevill Hall unwaith i'r Ganolfan Gofal Critigol agor. 

 

Awgrymwyd cwblhau'r cynlluniau a'u cyflwyno flwyddyn nesaf. Roedd yr ymgynghori eisoes wedi digwydd.

 

·         Parcio Ceir: Fe esboniodd y Cadeirydd bod yna ganfyddiad bod gan Nevill Hall wasanaeth parcio a theithio i siopwyr yn y dref sy'n gwaethygu'r anawsterau parcio i gleifion ac ymwelwyr go iawn. Mewn ymateb i hyn, fe nodwyd bod cais wedi cael ei wneud am fwy o fannau parcio ond heb gefnogaeth oherwydd rheolau gorlifdiroedd.  Mae ymgais pellach i ddatrys y broblem yn cynnwys prynu tir ychwanegol mewn cynllun sy'n dderbyniol i'r holl bleidiau.

 

·         Trafnidiaeth: Fe holodd Aelod gwestiwn am y Ganolfan Gofal Critigol newydd a holwyd sut byddai cleifion o Drefynwy, er enghraifft, yn teithio i'r cyfleuster newydd.  Fe gadarnhawyd y byddai cysylltiadau trafnidiaeth yn ardal prosiect allweddol, ac y byddai Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol. 

 

Fe longyfarchodd y Cynghorydd Sir V. Smith y fenter mewn partneriaeth â Specsavers yng Nghasnewydd.   Roedd canmoliaeth am lwyddiant y Ganolfan Gofal Critigol hefyd a holodd y Cynghorydd Smith a oedd yr isadeiledd yn ddigonol i wasanaethu anghenion y cyfleuster newydd gan ddarparu esiampl yr A4042 yn Llanelen sy'n dueddol o gau oherwydd llifogydd. 

 

Fe gytunodd y Cadeirydd bod cysylltiadau trafnidiaeth yn ystyriaeth bwysig.

 

Ar ben hynny, fe godwyd y broblem o signal ffôn symudol gwael mewn perthynas â derbyn negeseuon atgoffa ar ffurf negeseuon testun. 

 

·         Sganiwr PET: Fe holodd Aelod o'r Pwyllgor a oedd unrhyw gynlluniau i roi sganiwr PET yn Ysbyty Brenhinol Gwent neu yn y Ganolfan Gofal Critigol.  Fe gadarnhawyd bod dim cynlluniau am sganiwr PET yn naill leoliad. Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn parhau i ddefnyddio'r cyfleuster yng Nghaerdydd ond bydd hefyd yn monitro datblygiadau mewn technoleg newydd.

 

 

·         Gwasanaeth Allan o Oriau y Meddyg: Fe holodd y Cynghorydd Easson a oedd gwybodaeth ar gael am lwyddiant y cyfnod prawf diweddar ar newid y Gwasanaeth Allan o Oriau yn Nevill Hall yn y nos.  Mewn ymateb i hyn, fe esboniwyd y cynhaliwyd cyfnod prawf o chwe wythnos i leihau cyflenwi dros nos er mwyn sicrhau y gellir ymdopi â'r cyfnodau prysuraf ar y penwythnosau.  Mae'r canlyniadau'n cael eu cofnodi ar hyn o bryd a bydd y canlyniadau ar gael maes o law.  Fe gadarnhawyd mai nifer fechan o gleifion yn unig a oedd yn rhaid eu hailgyfeirio (dim ond 3 o ardal Trefynwy, ac mae cyswllt yn cael ei wneud â phob claf a gysylltodd â'r gwasanaeth yn ystod y cyfnod o chwe wythnos er mwyn gofyn am adborth ar eu profiad).  Fe ychwanegwyd, yn weithredol, mai'r canlyniad oedd ei bod wedi bod yn bosib ymdrin â Gwent gyfan yn fwy cyson ac yn well.  Yr adborth o'r Gwasanaeth Ambiwlans oedd bod llawer mwy o hyder yn y model yn hytrach na chau gwasanaethau oherwydd diffyg staff. Mae'r defnydd o uwch barameddygon wedi gwella'r gwasanaeth.  Fe nodwyd y bydd gwerthusiad o'r peilot yn hanfodol.

 

·         Cefnogaeth Strôc a Dementia: Fe ofynnodd y Cynghorydd Easson am yr ôl-ofal ar gyfer cleifion strôc gan gydnabod, tra bod yna wasanaethau cefnogaeth strôc gwerthfawr mewn rhai ardaloedd a hefyd ar gyfer cleifion dementia, gall fod yn anodd i bobl mewn ardaloedd gwledig gael mynediad atynt.  Fe holwyd a oedd unrhyw gyfle i wella argaeledd gwasanaethau ac adnoddau cefnogaeth o'r fath.

 

Fe ymatebwyd gan ddweud y gallai'r ôl-ofal ar gyfer cleifion dementia a strôc fod yn well.  Fe esboniwyd bod rhai meysydd o adolygiad sylweddol wedi bod e.e. gwasanaethau iechyd meddwl trydydd sector.  Mae gwaith ar y cyd rhwng y pum awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd wedi cynhyrchu diweddariad o asesiad i ddeall pa wasanaethau sydd eu hangen ar lefel gwerin gwlad, a'r blaenoriaethau sy'n deillio ohonynt.  Fe nodwyd bod cyfraniad rhwydweithiau gofal yn y gymdogaeth ac o'r trydydd sector yn elfen bwysig o ddarpariaeth y gwasanaeth.

 

·         Cyllideb: Fe nododd y Cynghorydd Easson bod gan ardal Gwent y costau cyffuriau presgripsiwn uchaf yng Nghymru, gan nodi bod yna ddiffyg posib o £12.8m ar hyn o bryd, ac fe ragwelir y bydd yn codi i £16m.  Fe holwyd a oedd costau cyffuriau yn rhan fawr o'r diffyg.

 

Mewn ymateb i hyn, fe nodwyd nad oedd y diffyg o reidrwydd oherwydd costau uchel presgripsiynau, ond oherwydd amrediad o resymau, materion yn ymwneud â'r gweithlu gan fwyaf e.e. costau o lenwi swyddi oherwydd absenoldeb ac ymddiswyddo, gan nodi bod rhaid talu premiwm yn aml.  Fe esboniwyd bod gwaith sylweddol ar y gweill i adolygu pryd mae meddyginiaethau yn cael eu rhagnodi ar draws gwasanaethau, cysondeb yr ymagwedd at ragnodi cyffuriau a gwirio effeithiolrwydd o ran costau.

 

Fe ofynnodd y Cynghorydd Easson gwestiwn pellach yn ymwneud â galw am gyffuriau a gwasanaethau ac a oedd yna elfen o wastraff y gellid ei leihau.   Roedd cydnabyddiaeth bod rhagnodi cyffuriau yn fater ariannol mawr ac ar draws y sir, bod 10% o drosiant yn cael ei wario ar gyffuriau.  Fe atgoffwyd aelodau o'r fenter "Gofal Iechyd Darbodus" sy'n annog rhagnodi'r isafsymiau sydd eu hangen a hefyd i leihau'r risg o sgil effeithiau.  Fe gadarnhawyd bod gan ardal Gwent un o'r ymagweddau fwyaf gofalus at ragnodi gwrthfiotigau a hefyd bod rhagnodi opioidau wedi cael ei newid i opsiwn rhatach gydag effeithiau tebyg.

 

Fe esboniwyd bod ymagwedd seiliedig ar werth wedi cael ei sefydlu sy'n cynnwys cael gwared â meddyginiaethau cost uchel o lwybrau mewn rhai ardaloedd ac ail-fuddsoddi'r arian yn y gymuned i ddarparu gwasanaethau mwy cynaliadwy gan ddarparu'r esiampl o wasanaethau adsefydlu cleifion yr ysgyfaint. 

 

Fe holodd Aelod, yng nghyd-destun cost y GIG a phresgripsiynau am ddim, a ddylid rhagnodi paracetamol neu rywbeth tebyg oherwydd eu bod ar gael yn rhad ac ar gael i unigolion eu prynu. 

 

Fe ymatebwyd gan ddweud, wrth ragnodi paracetamol ayyb, dylai clinigwyr fod yn synhwyrol ac yn gall ond roedd cytundeb y gallai hyn fod yn bwnc sgwrs genedlaethol.

 

·         Gwasanaethau Integredig: Fe groesawodd y Prif Swyddog, Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, cynlluniau Dyfodol Clinigol a'r ymagweddau ar y cyd at ofal sylfaenol a chymunedol o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a fydd yn adeiladu ar gryfderau'r timau integredig cyfredol.  Bydd y Strategaeth Gofal yn Nes at y Cartref yn cael ei gyflwyno maes o law i ddatblygu timau integredig ymhellach a datblygu hybiau ar gyfer gwasanaethau yn unol ag asesiadau anghenion y boblogaeth.  Fe gytunwyd bod hwn yn gyfnod o gyfle mawr a bod cynlluniau ar gyfer y dyfodol mewn partneriaeth yn uchelgeisiol.

 

Fe gadarnhawyd y byddai Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn gweithio gyda'r Cyngor ar y strategaeth gofalwyr ifanc.

 

Fe ddiolchodd y Cynghorydd Easson i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan am ei gefnogaeth gyda Dechrau'n Deg.

 

·         Ysbyty Cas-gwent: Fe esboniodd y Cynghorydd Sir A. Easson bod yna bryder yn ardal Cas-gwent a Chil-y-Coed yn ymwneud â pham na ellir defnyddio Ysbyty Cas-gwent bellach.  Fe nodwyd bod 10% o gleifion undydd ddim yn cadw apwyntiadau a holwyd a oedd unrhyw ddata ar y rhesymau dros beidio â mynychu.

 

Fe esboniwyd bod Ysbyty Cas-gwent yn llunio rhan o'r Strategaeth Cleifion Undydd; mae bwrdd trawsnewid yn cael ei sefydlu ar hyn o bryd i adolygu effeithiolrwydd a bydd yn cynnwys dadansoddiad o gleifion nad oedd wedi mynychu neu nad oedd yn gallu mynychu.  Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yw un o'r ysbytai cyntaf yng Nghymru i ddarparu system atgoffa gan ddefnyddio negeseuon testun, ac mae hefyd yn defnyddio rhai strategaethau eraill sydd wedi arwain at welliant.  Ar ben hynny, mae mwy o wasanaethau i gleifion undydd yn cael eu darparu yn Ysbyty Cas i leddfu pwysau mewn ysbytai eraill. 

 

Fe esboniwyd bod adborth wedi dynodi bod y rhesymau am beidio â mynychu apwyntiadau yn ymwneud gan fwyaf ag adegau pan nad yw'r clinig ar gael, neu drafnidiaeth ond oherwydd amseru.  I fynd i'r afael â hyn, mae pecynnau gwybodaeth yn cael eu hanfon at gleifion eto i esbonio diben yr apwyntiad a manylion eraill. 

 

Roedd y Cadeirydd wedi'i galonogi i glywed yr awgrymiad bod mwy o botensial i Ysbyty Cas-gwent ac fe gododd y mater o gau'r Uned Mân Anafiadau.  Ar y pryd, fe nodwyd bod angen gwybodaeth gyhoeddus glir.  Fe nodwyd bod mentrau yng ngogledd y sir gan fwyaf (e.e. Dewis yn Dda a'r rhwydweithiau gofal yn y gymdogaeth arfaethedig) a holwyd a oedd modd adfer Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Cas-gwent gan fod trigolion bellach yn teithio yn bennaf i Lydney ar gyfer gwasanaethau.

 

Fe gadarnhawyd na fydd yr Uned Mân Anafiadau yng Nghas-gwent yn cael ei ailagor ac fe ychwanegwyd bod y penderfyniad i wneud buddsoddiad cyfalaf yn Ysbyty Brenhinol Gwent yn seiliedig ar wasanaethau'n cael eu cyflwyno o Portacabin a bod cyswllt â'r gostyngiad yn nifer y cleifion a oedd yn mynychu.  Fe esboniwyd bod gwaith sylweddol cael ei wneud yn ardal Trefynwy ar gyfer y cynllun Dewis yn Dda.  Mae'r cynllun yn cynnig gwybodaeth a'r dewisiadau sydd ar gael ar gyfer gwasanaethau mân anafiadau.  Fe ychwanegwyd y gallai fod yn bosib gwneud yr un peth ar gyfer ardaloedd eraill Sir Fynwy.  Fe ddarparwyd esiampl y Gwasanaeth Cwympo ble gellir cefnogi cleifion adref yn hytrach na chael eu cymryd i'r ysbyty.  Roedd y Cadeirydd yn ddiolchgar am yr ateb a ddarparwyd ac fe gynghorodd y byddai Cyngor Tref Cas-gwent hefyd yn croesawu'r ymateb.  Fe awgrymwyd y gallai'r Cyngor Tref fod yn gyswllt hanfodol wrth ddarparu gwybodaeth.

 

Nid oedd Aelod yn ymwybodol ble roedd y wybodaeth am Drefynwy ar gael.  Fe esboniwyd bod y wybodaeth yn cael ei gylchredeg yn eang i gartrefi.  Fe gytunwyd y byddai'r wybodaeth yn cael ei hanfon i'r Aelodau ar e-bost.

Fe fynegodd Aelod ei anfodlonrwydd bod derbynyddion meddygfeydd yn gallu cael trafodaethau clinigol mewn ymgais i hidlo galwadau.  Fe gadarnhawyd na fod yr arfer hon yn cael ei hannog, ac y byddai'r sylwadau'n cael eu pasio ymlaen.

 

 

 

Text Box: Crynodeb y Cadeirydd: Fe fynegodd y Cadeirydd ei werthfawrogiad i'r Pwyllgor am onestrwydd a diffuantrwydd y cyflwynwyr wrth ateb cwestiynau ac am y cyfle i roi cynrychiolaeth deg o'r cyfraniad a wneir gan y Bwrdd Iechyd. Fe groesawyd fformat yr adroddiad ynghyd ag ychwanegu gwybodaeth yn ymwneud â chwynion yn y dyfodol. Fe fynegodd y Cadeirydd y byddai angen i'r pwyllgor newydd yn y cyngor nesaf adeiladu ar y berthynas a sefydlwyd a pharhau'r deialog gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, gan nodi y byddai ardaloedd eraill o waith yn cael eu craffu'n strategol gan y Pwyllgor Dethol Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Pwyllgorau Dethol eraill. Bu'r Cadeirydd gydnabod mai'r her fyddai sut i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ar draws ardal wledig Gwent tra'n cynnal yr angen am atebolrwydd lleol. Fe anogodd yr angen am ddeialog, eglurdeb ar rolau a chyfrifoldebau a threfniadau craffu cadarn. Ar gyfer y rhaglen waith at y dyfodol, bu'r Cadeirydd gadarnhau y byddai'r pynciau canlynol yn dychwelyd i'r Cyngor ac yn buddio o fewnbwn gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: • Gwasanaeth Strôc • Strategaeth Gofalwyr Ifanc