Cofnodion:
Cyd-destun
Rhoi'r data diweddaraf i Aelodau'r Pwyllgor Data yn dangos gwybodaeth ar gyrhaeddiad addysgol y maent ei angen i ddal gwasanaethau i gyfrif. Mae hyn yn cynnwys:
· Perfformiaddisgyblion ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen, Cyfnodau Allweddol 2 a 3.
· Dadansoddiad, lle'n bosibl, o berfformiad ar draws pob cyfnod allweddol ar gyfer y grwpiau dilynol:
- Merched a Bechgyn.
- Disgyblionsy'n gymwys am brydau ysgol am ddim.
Maerionallweddol:
· Mae'radroddiad yn dod ynghyd â'r negeseuon pennawd o nifer o ddadansoddiadau mwy manwl.
· Mae'radroddiad yn cynnwys cyfoeth o wybodaeth yn galluogi Aelodau i ddrilio lawr o ddata awdurdod lleol i ffigurau ar gyfer grwpiau o ddysgwyr penodol.
· Mae'rrhan fwyaf o ddarparwyr data yn rhoi cymariaethau yn ôl i 2011/12, sef y flwyddyn academaidd yn union cyn yr arolwg llawn diwethaf gan Estyn. Bu gwelliant amlwg mewn dangosyddion pennawd dros y pum mlynedd ddiwethaf.
· Mae'radroddiad yn galluogi'r Pwyllgor Dethol i edrych tu hwnt i'r mesurau lefel uchel ar rai o'r manylion o dan hynny.
Cyfnod Sylfaen
· Gwelodd Sir Fynwy ostyngiad bach o 0.1 pwynt canran yn y Dangosydd Cyfnod Sylfaen gyda 91.7% o ddisgyblion yn cyflawni'r Dangosydd Cyfnod Sylfaen, o gymharu gyda 91.8% yn 2014/15 a 86.8% yn 2011/12.
· Er y gostyngiad mewn perfformiad, mae Sir Fynwy wedi symud i fyny un lle i fod yn 1af yn safle awdurdodau lleol Cymru ar gyfer y Dangosydd Cyfnod Sylfaen.
· Yn 2015 mae perfformiad wedi gostwng ar y lefel ddisgwyliedig (O5+), ac eithrio cynnydd mewn Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu yn Gymraeg ar O5+.
· Mae'rperfformiad ar y lefel ddisgwyliedig (O6+) wedi cynyddu ar draws pob dangosydd.
· Mae Sir Fynwy yn parhau i fod ymysg y tri awdurdod sy'n perfformio orau yng Nghymru ar gyfer pob maes dysgu ac eithrio Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu Cymraeg Iaith Gyntaf.
CyfnodAllweddol 2
· Mae perfformiad yn parhau i wella, gyda 94.1% o ddisgyblion yn cyflawni dangosydd pwnc craidd Cyfnod Allweddol 2 yn 2014/15, o gymharu â 86.3% yn 2011/12 a 92.5% yn 2015. Mae Sir Fynwy yn dal i fod y 1af yng Nghymru ar gyfer dangosydd pwnc craidd Cyfnod Allweddol 1.
· Mae perfformiad mewn Saesneg, Cymraeg, mathemateg a gwyddoniaeth yn parhau i wella ar lefel 4+ y cwricwlwm a ddisgwylid a lefel uwch 5+.
· Mae Sir Fynwy yn y safle 1af yng Nghymru ar gyfer pob dangosydd ac eithrio Cymraeg Iaith Gyntaf.
CyfnodAllweddol 3
· Mae perfformiad yn parhau i wella er ar gyfradd arafach nag ar draws Cymru yn gyffredinol. Yn 2015/16 cyflawnodd 91.9% o ddisgyblion Ddangosydd Pwnc Craidd Cyfnod Allweddol 3 o gymharu gyda 90.8% yn 2015 a 77.7% yn 2011/12.
· Mae Sir Fynwy bellach yn 3ydd yng Nghymru ar gyfer Dangosydd Pwnc Craidd Cyfnod Allweddol 3.
· Mae perfformiad ar draws Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth yn parhau i wella ar lefel 5+ ddisgwyliedig y cwricwlwm ac ar lefel uwch 6+.
· Mae Sir Fynwy bellach yr 2il yng Nghymru ar gyfer Saesneg ar Gyfnod Allweddol 3, 3ydd ar gyfer mathemateg a 4ydd ar gyfer gwyddoniaeth.
CraffuAelodau:
· Bydd data Cyfnod Allweddol 4 a 5 ar gael yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Dethol yn cynnwys data am oedolion agored i niwed.
· Mae'rbwlch perfformiad rhwng merched a bechgyn ar gyfnodau allweddol 2 a 3 yn cau. Fodd bynnag, mae'r bwlch wedi tyfu ar y cyfnod sylfaenol. Felly, roedd angen ymchwilio'r mater hwn er mwyn sicrhau fod ymgysylltu cyfartal yn cael ei roi i bob myfyriwr.
· Mae cyflawniadau Lefel Ddisgwyliedig (Deilliant 5+) Prydau Ysgol am Ddim 2016 yn is na 2014 a 2015. Hysbyswyd y Pwyllgor Dethol pan edrychid ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen, mae 111 o ddisgyblion sy'n ddisgyblion prydau ysgol am ddim o fewn y gr?p hwnnw. O'r 111 disgybl yma, dim ond 21 disgybl na chyflawnodd y Dangosydd Cyfnod Sylfaen a byddai'r gwahaniaeth mewn perfformiad wedi ei gydnabod o fewn y targedau lefel disgyblion. Felly, ni fyddid wedi rhagweld efallai na fyddai'r perfformiad mor uchel eleni o gofio am natur y garfan. Nodwyd y bydd manylion o'r fath ar gael mewn adroddiad mwy manwl a gyflwynir i gyfarfod o'r Pwyllgor Dethol yn y dyfodol.
· Bu perfformiad cyson a chryf a gwelliant mewn perfformiad ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2. Fodd bynnag, ni chafodd hynny o reidrwydd ei gynnal i Gyfnod Allweddol 3 ond bu gwelliannau. Mae clystyrau'n gweithio'n dda gyda'i gilydd ond mae angen sicrhau fod plant yn parhau â'u dysgu o'r diwrnod y maent yn dechrau yn yr ysgol uwchradd i pan adawant ar ddiwedd tymor yr haf. Mae llawer o'r clystyrau'n dechrau gweithio ym Mlwyddyn 6 ac yn parhau i Flwyddyn 7, gan fod hwn yn adeg pan gall perfformiad ostwng.
· Ers 2012, bu cynnydd sylweddol mewn gwelliant ar Gyfnod Allweddol 3 yn mynd i Gyfnod Allweddol 4 ac mae'n faes y mae'r Awdurdod yn dal i ganolbwyntio arno.
· Caiffarfer da ei rannu ymysg ysgolion.
· Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd yng nghyswllt y Cyfnod Sylfaen - yn ôl rhywedd parthed Deilliant 5+, nodwyd y rhoddir mwy o fanylion mewn adroddiad i'r Pwyllgor Dethol yn y dyfodol.
· Mewnymateb i gwestiwn gan Aelod o'r Pwyllgor Dethol, nodwyd fod pob ysgol uwchradd yn rhoi cefnogaeth briodol ar gyfer disgyblion pan fyddant yn pontio rhwng y cyfnodau allweddol.
· Chwartelaumeincnod ar gyfer Dangosydd Pwnc Craidd (Lefel Ddisgwyliedig L4+) - Mae'r newidiadau o chwartel 1 i chwartel 3 yn dangos sut mae ysgolion Sir Fynwy yn cymharu gydag ysgolion eraill tebyg.
Casgliad y Pwyllgor:
Rhoddodd y Cadeirydd grynodeb fel sy'n dilyn:
· Bu gwelliant cadarn mewn perfformiad ysgolion ers 2012. Dylid cydnabod holl staff ysgolion yr Awdurdod ar gyfer y gwelliant yma.
· Mae'rPwyllgor yn edrych ymlaen at dderbyn yr adroddiad nesaf mewn cyfarfod o'r Pwyllgor yn y dyfodol fydd yn rhoi mwy o eglurdeb a mwy o fanylion am y data a roddir. |
Dogfennau ategol: