Cofnodion:
Cyd-destun
· Craffuar Ddrafft Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 2017-2020 Cyngor Sir Fynwy.
· Ymgynghorigyda'r Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc parthed yr adroddiad fel rhan o'r cyfnod ymgynghori wyth ysgol statudol gyda phob partner allweddol ac ymgyngoreion statudol.
MaterionAllweddol:
· GweledigaethLlywodraeth Cymru yw cael miliwn o siaradwyr Cymraeg ledled Cymru erbyn 2050 ac er mwyn cyflawni hyn bydd angen y camau dilynol:
- mwy o blant mewn addysg cyfrwng Cymraeg.
- gwellcynllunio yng nghyswllt sut mae pobl yn dysgu'r iaith.
- mwy o gyfleoedd hygyrch i bobl ddefnyddio'r iaith.
- seilwaithcryfach a chwyldro i wella darpariaeth ddigidol yn y Gymraeg.
- newidyn y ffordd y siaradwn amdani.
· Mae addysg yn un o'r sbardunau allweddol i wireddu'r weledigaeth hon drwy sicrhau fod plant yn cael y cyfle i ddatblygu eu sgiliau yn y Gymraeg yn ifanc i greu siaradwyr newydd y dyfodol.
· WESP yw'r ddogfen strategol allweddol ar gyfer awdurdodau lleol i gyhoeddi eu cynlluniau ar gyfer ehangu addysg cyfrwng Cymraeg dros y tair blynedd nesaf.
· Mae WESP yn parhau i fod â ffocws ar y pum deilliant yn Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg 2000 sef :
- mwy o blant saith oed yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng Gymraeg fel canran o gohort Blwyddyn 2.
- mwy o ddysgwyr yn parhau i wella eu sgiliau iaith pan fyddant yn symud o ysgol gynradd i ysgol uwchradd.
- mwy o ddysgwyr yn astudio am gymwysterau drwy gyfrwng y Gymraeg.
- mwy o ddysgwyr 16-19 oed yn astudio Cymraeg a phynciau drwy gyfrwng y Gymraeg.
- mwy o ddysgwyr gyda sgiliau gwell yn y Gymraeg.
· Yn ychwanegol, mae angen i awdurdodau lleol drin safonau cyrhaeddiad yn y Gymraeg a Chymraeg Ail Iaith, darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar gyfer dysgwyr gydag anghenion dysgu ychwanegol a chynllunio gweithle, a datblygiad proffesiynol parhaus.
· Mae'nrhaid cyflwyno cynllun WESP terfynol i Lywodraeth Cymru erbyn 20 Rhagfyr 2016, i'w weithredu o 1 Ebrill 2017.
CraffuAelodau:
· Mae WESP yn gynllun tair blynedd. Mae'n uchelgeisiol ond mae'n rhaid i'r Awdurdod geisio annog cynifer o rieni ag sydd modd i o leiaf ystyried y gwerthoedd y medrid eu cyflawni o addysg cyfrwng Cymraeg yn hytrach nag addysg Saesneg yn unig.
· Mewnymateb i gwestiwn gan Aelod o'r Pwyllgor Dethol am bryderon rhieni yng nghyswllt yr angen a'r gost o ddarparu addysg cyfrwng Cymraeg, nodwyd fod yn rhaid i ni fel Awdurdod dderbyn os nad ydym yn hyrwyddo manteision addysg cyfrwng Cymraeg, yna y byddai'n dybiaeth resymol na fyddai rhieni yn gwerthfawrogi addysg cyfrwng Cymraeg yn yr un ffordd â siroedd eraill yng Nghymru. Fodd bynnag, unwaith mae hynny'n digwydd, mae'r gwir alw am addysg cyfrwng Cymraeg yn cynyddu'n eithaf cyflym. Mae mwy o rieni yn dewis addysg cyfrwng Cymraeg oherwydd manteision bod yn ddwyieithog.
· Fel Awdurdod, mae'n rhaid i ni gydymffurfio gyda'r gofynion statudol sy'n bodoli yng nghyswllt darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg a dyma'r hyn yr ydym ni, fel Awdurdod, eisiau ei ddarparu.
· Argyfer cyfarfod o'r Pwyllgor Dethol yn y dyfodol, gallai fod yn ddefnyddiol derbyn adroddiad ar ddysgu ieithoedd yn gyffredinol, gan y gall fod angen ailfeddwl am ein blaenoriaethau yn nhermau ein gallu i gynnal ein hunain mewn byd yn dilyn Brexit.
· Adran 2 WESP yn trafod Cludiant - mynegodd Aelod o'r Pwyllgor Dethol bryder nad oedd yr adran hon o'r adroddiad yn ddigon cryf ac y dylai'r geiriad yn 2.2 fod yn gryfach parthed mynediad i gludiant ôl-16. Nodwyd nad yw'r polisi presennol yn darparu cludiant i ddysgwyr ôl 16. Fodd bynnag, fel rhan o'r ymgynghoriad, mae'n iawn ystyried os yw'r polisi yn briodol a bydd hyn yn ffurfio rhan o'r broses ymgynghori. Hefyd, mae'r cyrsiau y mae pobl ifanc angen cael mynediad iddynt drwy gyfrwng y Gymraeg yn bwysig.
· Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod o'r Pwyllgor Dethol, nodwyd fod y Polisi Cludiant Cartref i Ysgol yn fater cymhleth yn Sir Fynwy. Mae swyddogion yn edrych sut y bydd yn gweithio yn y dyfodol fel rhan o ddarn ehangach o waith am heriau cludiant cartref i ysgol.
· Mynegodd Aelod o'r Pwyllgor Dethol ei gonsyrn a chonsyrn nifer o breswylwyr y gallai'r Awdurdod fod yn rhoi gormod o gyllid i ddarparu addysg cyfrwng Cymraeg ac y gallai'r arian gael ei wario'n well mewn man arall yn y sector addysg. Nodwyd y gellid codi'r mater hwn fel rhan o'r broses ymgynghori.
· Bydd cost darparu'r WESP ar gael ar gam drafft terfynol o ddogfen.
· Manylioncyllid fesul disgybl ar gyfer 2016/17:
- CyfrwngCymraeg - £2252
- CyfrwngSaesneg - £2203
· Mewnymateb i gwestiwn gan Aelod o'r Pwyllgor Dethol, nodwyd fod peth capasiti yn Ysgol y Fenni ac Ysgol y Ffin. Roedd yr Awdurdod yn ansicr ar hyn o bryd parthed y cynnydd yn y galw posibl a allai ddigwydd nawr fod ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yng Nghasnewydd. Gan fod yr ysgol bellach wedi'i sefydlu a disgyblion o Sir Fynwy yn ei mynychu, gallai'r capasiti yn ein hysgolion cyfrwng Cymraeg newid. Cedwir golwg agos ar y galw.
Casgliad y Pwyllgor:
Rhoddodd y Cadeirydd grynodeb fel sy'n dilyn:
· Diolchoddi'r swyddogion am gyflwyno'r adroddiad.
· Bod y swyddogion yn rhoi ystyriaeth i'r pwyntiau a godwyd yng nghyswllt WESP cyn cyhoeddi'r drafft terfynol.
· Byddai'r Pwyllgor Dethol yn argymell adolygu'r polisi cludiant Cartref i Ysgol.
|
Dogfennau ategol: