Cofnodion:
Cyd-destun:
· Rhoigwybodaeth ar raolwg sefyllfa all-dro refeniw yr Awdurdod ar ddiwedd cyfnod 2 sy'n cynrychioli gwybodaeth ariannol mis 6 ar gyfer blwyddyn ariannol 2016/17.
· Asesuos yw'r gyllideb yn cael ei monitro'n effeithlon.
· Monitro i ba raddau y caiff cyllidebau eu gwario yn unol â'r gyllideb a'r fframwaith polisi a gytunwyd.
· Herio os yw amcan gorwariant neu danwariant yn rhesymol.
· Monitro cyflawni enillion effeithiolrwydd a ragwelir neu gynnid yng nghyswllt cynigion am arbedion.
Argymhellion a gynigiwyd i'r Cabinet:
· Bod y Cabinet yn nodi maint rhagolwg gorwariant refeniw ar gyfnod 2 o £839,000, gwelliant o £529,00 ar y sefyllfa a adroddwyd yn flaenorol yng nghyfnod 1.
· Bod y Cabinet yn disgwyl i Brif Swyddogion barhau i adolygu lefelau gorwariant a thanwariant ac ailddyrannu cyllidebau i ostwng faint o sefyllfaoedd gwneud iawn sydd angen eu hadrodd o fis 6 ymlaen.
· Bod y Cabinet yn gwerthfawrogi maint amcan defnydd cronfeydd wrth gefn ysgolion a disgwyliad y bydd pedair ysgol arall mewn sefyllfa ddiffyg erbyn diwedd 2016-17.
· Bod y Cabinet yn cymeradwyo defnydd gydag amodau o gronfeydd cadw i gyllido £318,000 o gostau tribiwnlys cyflogaeth os na all cyllideb y Cyngor amsugno effaith y gwariant anghyffredin hwn dros chwe mis gweddilliol y flwyddyn ariannol.
· Bod y Cabinet yn ystyried y monitro cyfalaf, gorwariant a thanwariant penodol, a bod y Cabinet yn cydnabod y risg sy'n gysylltiedig gyda gorfod dibynnu ar ddefnyddio derbyniadau cyfalaf yn y flwyddyn gwerthu a'r potensial i hyn gael pwysau sylweddol ar refeniw os caiff derbyniadau eu gohirio ac y gall fod angen benthyca dros dro.
Craffuaelodau:
· Pan mae ysgol yn cau, daw unrhyw gyllideb dros ben yn ôl i'r awdurdod lleol i gael ei ddefnyddio ar gyfer dibenion addysgol.
· Mae Ysgolion Cynradd Drenewydd Gellifarch a Thryleg yn cario symiau eithaf sylweddol ymlaen. Nodwyd y bu Ysgol Gynradd Drenewydd Gellifarch yn eithaf llwyddiannus yn cynhyrchu incwm, sicrhawyd arbedion a bu'r ysgol yn ddarbodus wrth ddyrannu adnoddau. Mae swyddogion wedi cwrdd â'r ysgol i drafod sefydlu cynllun buddsoddi ar gyfer y gwarged. Bu Ysgol Gynradd Tryleg yn llwyddiannus gyda'i grantiau hefyd. Mae'r ysgol, ynghyd ag Ysgol Gynradd Drenewydd Gellifarch, yn rhan o rwydwaith ysgolion arloesi lle maent yn derbyn cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i fedru datblygu'r cwricwlwm. Mae ysgolion Cil-y-coed a Gilwern hefyd yn rhan o'r rhwydwaith ysgolion arloesi'r fargen newydd, felly gallai fod peth amrywiad yng nghyllidebau'r ysgolion hyn hefyd.
· Mae 10 o ysgolion Sir Fynwy yn debyg o fod mewn cyllideb ddiffyg. Fodd bynnag, mae'r swyddogion wedi codi'r drafodaeth ar ysgolion yn dal cyllidebau gwarged mawr. Ym mis 9 gobeithir y gwelir gwelliant lle bydd ysgolion gobeithio yn derbyn mwy o grantiau. Mae'r awdurdod lleol wedi cael gwybodaeth well gan y Gwasanaeth Cyflawni Addysg (EAS) yng nghyswllt cyllid y mae'n ei ddosbarthu i ysgolion Sir Fynwy. Rhagwelir y bydd cynlluniau gwariant yr ysoglion yn newid drwy gydol y flwyddyn.
· Mae'nanodd rhagweld balansau ysgolion. Mae swyddogion yn gweithio gyda EAS a Llywodraeth Cymru i gael sicrwydd cyllid ynghynt fydd yn rhoi gwybodaeth well ar gyfer rhagolygon yr Awdurdod. Caiff ysgolion eu hannog i gael llai o gyllideb warged.
· Mae ysgolion yn gweithio'n dda ar lefel clwstwr. Mae'n bwysig cynyddu i'r eithaf y gwerth a aiff i ddisgyblion. Bydd newidiadau i'r Grant Amddifadedd Disgyblion y flwyddyn newydd yn golygu y bydd angen i glystyrau gydweithio'n agosach i gefnogi'r gwaith i'r cam uwchradd.
· Datblygwyd Cynllun Gwella Llys fydd maes o law yn trafod y materion am orwariant cyson ar gostau cyfreithiol a dyna bedwerydd piler y Rhaglen Gwella Gwasanaethau Plant.
Casgliad y Pwyllgor
Rhoddodd y Cadeirydd grynodeb fel sy'n dilyn:
· Ar ran y Pwyllgor Dethol, diolchodd y cadeirydd i swyddogion am gyflwyno'r adroddiad.
· Bydd y Pwyllgor Dethol yn derbyn diweddariad ar gyllidebau ysgolion mewn tri i bedwar mis.
|
Dogfennau ategol: